English Cymraeg

On the Religious Studies GCSE exams, the c) questions ask for explanations.

Explanations need to include the word ‘because’ – it is difficult to explain something well without using this word at least several times.

Use the religion(s) or religious traditions you have learned about to add the explanations to the following statements. Don’t forget that in the Philosophy/Ethics c) questions, you will be asked to explain from two religions’ perspectives, but the examples below are just for you to practice the skill of explaining.

Remember, try and use ‘because’ whenever it is sensible to do so. Below is an example.

Also remember that using relevant sources and good religious language will also gain credit:

  1. Some religious traditions do not agree with same-sex relationships because sacred writings, such as the Bible, seem to say that they are wrong. For example, ‘You must not lie with a man as with a woman’. Other teachings in the Bible say that marriage should be between a man and a woman, ‘a man must be joined to his wife and the two shall become one’. Also, it is considered wrong because a same-sex couple can’t produce a baby naturally and this goes against the idea in Genesis that we should ‘go forth and multiply’. Catholics do not agree because one of Thomas Aquinas’ Precepts says that sex should always be open to the possibility of creating a baby.

Mae cwestiynau c) arholiadau TGAU Astudiaethau Crefyddol yn gofyn am esboniadau.

Mae angen i esboniadau gynnwys y gair 'oherwydd' – mae'n anodd esbonio rhywbeth yn dda heb ddefnyddio'r gair hwn sawl gwaith o leiaf.

Defnyddiwch y grefydd/crefyddau neu'r traddodiadau crefyddol rydych chi wedi dysgu amdanyn nhw i ychwanegu esboniadau at y gosodiadau canlynol. Peidiwch ag anghofio: yng nghwestiynau c) Athroniaeth/Moeseg, bydd gofyn i chi esbonio o safbwynt dwy grefydd, ond mae'r enghreifftiau isod wedi'u rhoi i chi ymarfer y sgìl o esbonio yn unig.

Cofiwch, ceisiwch ddefnyddio 'oherwydd' pryd bynnag y mae'n synhwyrol gwneud hynny. Mae enghraifft i'w gweld isod.

Cofiwch hefyd y bydd defnyddio ffynonellau perthnasol ac iaith grefyddol dda hefyd yn ennill marciau:

  1. Nid yw rhai traddodiadau crefyddol yn cytuno â pherthnasoedd un rhyw oherwydd mae ysgrifeniadau cysegredig, fel y Beibl, fel petaent yn dweud eu bod yn anghywir. Er enghraifft, 'Nid wyt i orwedd gyda dyn fel gyda gwraig'. Mae dysgeidiaethau eraill yn y Beibl yn dweud y dylai priodas fod rhwng dyn a menyw, 'rhaid i ddyn lynu wrth ei wraig, a byddant yn un cnawd’. Hefyd, mae'n cael ei ystyried yn anghywir oherwydd ni all cwpl o'r un rhyw greu babi yn naturiol ac mae hyn yn mynd yn erbyn y syniad yn Genesis 'byddwch ffrwythlon ac amlhewch'. Nid yw Catholigion yn cytuno oherwydd mae un o ofynion Thomas Aquinas yn dweud y dylai rhyw bob amser fod yn agored i'r posibilrwydd o greu babi.

The importance of ‘because’

Pwysigrwydd 'oherwydd'

QuestionCwestiwn Your ResponseEich Ymateb