English Cymraeg

Key Terms – Unit 4

Termau Allweddol - Uned 4

Terms Termau Meaning Ystyr
Tourism events Digwyddiadau twristiaeth Fundamentally, a tourism event involves a number of people coming together with a common purpose, travelling outside their home area, either for a day or staying away from home in order to attend the event. Although there may be some overlap, types of event include:
  • cultural events, e.g. royal events and ceremonies
  • private events, e.g. weddings and other family celebrations
  • sporting events, e.g. international championships
  • art/entertainment, e.g. music and literary festivals
  • political events, e.g. conferences and rallies
  • fundraising, e.g. walks and runs
  • business, e.g. conferences and exhibitions.
Yn y bôn, mae digwyddiad twristiaeth yn golygu bod nifer o bobl yn dod ynghyd at bwrpas cyffredin, gan deithio y tu allan i'w hardal waith arferol, naill ai am ddiwrnod neu gan aros oddi cartref er mwyn mynd i'r digwyddiad. Er y gall fod rhywfaint o orgyffwrdd, mae'r mathau o ddigwyddiad yn cynnwys:
  • digwyddiadau diwylliannol, e.e. digwyddiadau a seremonïau brenhinol
  • digwyddiadau preifat, e.e. priodasau a dathliadau teuluol eraill
  • digwyddiadau chwaraeon, e.e. pencampwriaethau rhyngwladol
  • celf/adloniant, e.e. gwyliau cerddoriaeth a llenyddol
  • digwyddiadau gwleidyddol, e.e. cynadleddau a ralïau
  • codi arian, e.e. teithiau cerdded a rhedeg
  • busnes, e.e. cynadleddau ac arddangosfeydd.
Purpose Pwrpas Events can have a range of purposes or objectives. For tourism destinations, events can be held to:
  • help create a positive image of the destination
  • extend the tourist season
  • spread the tourist demand more evenly
  • attract different types/groups of tourists.
Events can have a commercial or non-commercial objective, a purely social objective or a competitive objective.
Also, it is often the case that ‘events are held within events’, e.g. individual performances within the Edinburgh Festival. Many events provide commercial opportunities ranging from the sale of merchandise to concessions selling food and beverage.
Gall fod gan ddigwyddiadau amrywiaeth o ddibenion neu amcanion. Ar gyfer cyrchfannau twristiaeth, gellir cynnal digwyddiadau i wneud y canlynol:
  • helpu i greu delwedd gadarnhaol o'r cyrchfan
  • ymestyn y tymor ymwelwyr
  • gwasgaru'r galw am dwristiaid yn fwy cyfartal
  • denu gwahanol fathau/grwpiau o dwristiaid.
Gall fod gan ddigwyddiadau amcan masnachol neu anfasnachol, amcan cwbl gymdeithasol neu amcan cystadleuol.
Hefyd, yn aml gellir cynnal ‘digwyddiadau o fewn digwyddiadau’, e.e. perfformiadau unigol yng Ngŵyl Caeredin. Mae llawer o ddigwyddiadau'n cynnig cyfleoedd masnachol sy'n amrywio o werthu nwyddau i stondinau'n gwerthu bwyd a diod.
Resources Adnoddau The largest events require millions of pounds of capital investment and years of planning. Generally, events require:
  • financial resources – sufficient capital to cover costs
  • human resources – specialist skills and sufficient labour
  • physical resources – adequate space and venue appropriate for the event’s requirements
  • marketing publicity – to promote the event.
Ar gyfer y digwyddiadau mwyaf, mae angen buddsoddi miliynau o bunnau o gyfalaf a blynyddoedd o waith cynllunio. Ar y cyfan, mae angen y canlynol ar ddigwyddiadau:
  • adnoddau ariannol – digon o gyfalaf i dalu'r costau
  • adnoddau dynol – sgiliau arbenigol a digon o lafur
  • adnoddau ffisegol – digon o le a lleoliad sy'n benodol ar gyfer gofynion y digwyddiad
  • cyhoeddusrwydd marchnata – i hyrwyddo'r digwyddiad.
Finance/budget Cyllid/cyllideb The majority of events will require a budget which needs to be spent in order to set up the event. This can cover a vast range of items from a wedding cake to the fees provided to performers. The more common elements which feature in the budget for an event would include:
  • venue and equipment hire
  • costs of food and beverage
  • fees to performers
  • marketing
  • human resources and labour.
Ar gyfer y rhan fwyaf o ddigwyddiadau, bydd angen cyllideb a gaiff ei gwario er mwyn trefnu'r digwyddiad. Gall y gyllideb gynnwys amrywiaeth eang o eitemau, o gacen briodas i'r ffioedd a delir i berfformwyr. Ymhlith yr elfennau mwyaf cyffredin a fyddai'n cael eu cynnwys yn y gyllideb ar gyfer digwyddiad mae:
  • llogi lleoliad a chyfarpar
  • costau bwyd a diod
  • ffioedd perfformwyr
  • marchnata
  • adnoddau dynol a llafur.
Legal aspects Agweddau cyfreithiol Again, there is wide range of legal requirements which will vary according to the nature of the event. There will be a range of contracts relating to venue hire and payments to performers, together with health and safety and licencing arrangements. Unwaith eto, ceir ystod eang o ofynion cyfreithiol a fydd yn amrywio yn dibynnu ar natur y digwyddiad. Bydd amrywiaeth o gontractau mewn perthynas â llogi lleoliad a thaliadau i berfformwyr, ynghyd â threfniadau iechyd a diogelwch a thrwyddedu.
Risk assessment Asesiad Risg Health and safety legislation will require a range of risk assessments to be carried out before an event can take place. For a wedding breakfast in a hotel, this is a fairly straightforward procedure. For an open-air festival attracting 30,000 fans, it is a far more complicated business. Bydd deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn ei gwneud yn ofynnol bod ystod o asesiadau risg yn cael eu cynnal cyn y gall digwyddiad gael ei gynnal. Ar gyfer brecwast briodas mewn gwesty, mae'r weithdrefn hon yn weddol syml. Ar gyfer gŵyl awyr agored sy'n denu 30,000 o bobl, mae'n broses fwy cymhleth o lawer.
Timescales Graddfeydd amser Generally, the larger the event, the longer the timescale for preparation for the event. Perhaps a distinction could be made between regular and ‘one-off’ events. For example, large sports clubs will have a schedule of fixtures and go through a similar procedure for each match. Annual festivals, such as arts and literary festivals will develop a procedure over time, making refinements and adjustments where necessary. Ar y cyfan, po fwyaf yw'r digwyddiad, yr hiraf yw'r raddfa amser o ran paratoi ar ei gyfer. Efallai y gellid gwahaniaethu rhwng digwyddiadau rheolaidd a digwyddiadau ‘untro’. Er enghraifft, bydd gan glybiau chwaraeon mawr amserlen o gemau a bydd yn dilyn gweithdrefn debyg ar gyfer pob un. Bydd gwyliau blynyddol, fel gwyliau celfyddydol a llenyddol, yn datblygu gweithdrefn dros amser, gan ei mireinio a'i haddasu lle y bo angen.
Target market Marchnad darged There are not many events that appeal to every single person. Therefore, organisations planning commercial events need to be aware of what the target market will be for the event and confident that the event will be a commercial success. Nid oes llawer o ddigwyddiadau sy'n apelio at bawb. Felly, mae angen i sefydliadau sy'n cynllunio digwyddiadau masnachol wybod beth fydd y farchnad darged ar gyfer y digwyddiad ac i fod yn hyderus y bydd y digwyddiad yn llwyddiant masnachol.
Marketing Marchnata Marketing will involve the promotion of the events through appropriate media but also sales and distribution of tickets. Tickets for some events sell out very quickly (e.g. Glastonbury) whereas others need a more sophisticated and expensive marketing campaign to ensure that a sufficient number of tickets are sold. Bydd y gwaith marchnata yn cynnwys hyrwyddo'r digwyddiadau drwy'r cyfryngau priodol a gwerthu a dosbarthu tocynnau hefyd. Mae'r tocynnau ar gyfer rhai digwyddiadau yn cael eu gwerthu'n gyflym iawn (e.e. Glastonbury) ond mae angen ymgyrch farchnata soffistigedig a drud ar gyfer rhai eraill er mwyn sicrhau bod digon o docynnau'n cael eu gwerthu.
Foreseen/unforeseen events Digwyddiadau disgwyliedig/annisgwyl Event organisers should be able to plan for and anticipate things such as traffic congestion and access, the possibility of weather hazards and other eventualities. However, some things, such as a major terrorist attack or an outbreak of a disease, can be described as being unforeseen. Dylai trefnwyr digwyddiadau allu cynllunio a rhagweld pethau fel tagfeydd traffig a mynediad, y posibilrwydd o beryglon tywydd a digwyddiadau eraill, a chynllunio ar eu cyfer. Fodd bynnag, gellir dweud bod rhai pethau, fel ymosodiad terfysgol mawr neu achos o glefyd, yn annisgwyl.
Feedback Adborth Feedback can be obtained by external customers who paid to attend the event, and also from those who didn’t. External customer feedback could take the form of:
  • focus groups
  • questionnaire survey during or after the event
  • online surveys during or after the event
  • interviews
  • reviews of the event.
Additionally, feedback can be obtained from internal customers using the methods identified above.
Gellir cael adborth gan gwsmeriaid allanol a dalodd i fynd i'r digwyddiad, a hefyd gan bobl na wnaethant hynny. Gallai adborth gan gwsmeriaid allanol fod ar ffurf:
  • grwpiau ffocws
  • holiadur yn ystod neu ar ôl y digwyddiad
  • arolygon ar-lein yn ystod neu ar ôl y digwyddiad
  • cyfweliadau
  • adolygiadau o'r digwyddiad.
Hefyd, gellir cael adborth gan gwsmeriaid mewnol gan ddefnyddio'r dulliau a nodir uchod.
Observation Arsylwi Observation can be informal or formal. It is possible to evaluate how the event is progressing by observing activities such as the length of queues, the state of the facilities, etc. Additionally, a mystery checklist can be used to obtain more formalised feedback. Gall arsylwi fod yn anffurfiol neu'n ffurfiol. Mae modd gwerthuso sut mae'r digwyddiad yn dod yn ei flaen drwy arsylwi ar weithgareddau fel hyd y ciwiau, cyflwr y cyfleusterau ac ati. Yn ogystal, gellir defnyddio rhestr wirio ddirgel i gael adborth mwy ffurfiol.
Qualitative analysis Dadansoddi ansoddol Qualitative feedback can be obtained through discussions and interviews with internal and external customers of the event. This approach provides customers with the opportunity to express their views of the event at some length and may provide the event organisers with valuable information for future events. Gellir cael adborth ansoddol drwy drafodaethau a chyfweliadau â chwsmeriaid mewnol ac allanol y digwyddiad. Mae'r dull hwn yn rhoi cyfle i gwsmeriaid fynegi eu barn ar y digwyddiad yn fanwl a gall roi gwybodaeth werthfawr i drefnwyr y digwyddiad ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.
Quantitative analysis Dadansoddi meintiol Quantitative analysis will involve analysis and interpretation of data collected via questionnaires and surveys, mainly from external customers. This approach can be used to develop a more systematic evaluation of the event. Bydd dadansoddi meintiol yn golygu dadansoddi a dehongli data a gesglir drwy holiaduron ac arolygon, a hynny'n bennaf gan gwsmeriaid allanol. Gellir defnyddio'r dull hwn i ddatblygu gwerthusiad mwy systematig o'r digwyddiad.
National Cenedlaethol UK domestic tourism has seen a number of significant changes since the end of the Second World War. Shortly after the end of hostilities, UK tourists were offered the opportunity to travel outside the UK on package holidays. This impacted negatively on traditional coastal destinations in particular. Some of these have struggled to cater for more than their traditional markets and have faced considerable challenges. More recently, the domestic tourism product has diversified, and today an ever-increasing range of tourism opportunities is available to domestic tourists.

For inbound tourists, the UK is an iconic destination with a rich heritage and culture. This attracts tourists from continental Europe who can arrive by car or train as well as tourists from long haul destinations who arrive by plane. The UK is appealing to tourists from traditional markets such as the USA, Canada and Australia as well as those from new markets such as China and India. Many of these travel in groups on escorted tours rather than in family units.

There are many tour operators offering tours of UK destinations by coach, rail and sea. Coach tours are the most popular. Companies working at the national scale, such as Shearing’s and David Urquhart, offer a range of itineraries to popular destinations within the UK. Some of these offer tours to the continent, such as battlefield tours and Christmas market visits.

Most UK tours last between 4 and 10 days. Larger national tour operators offer pick-ups from accessible locations such as motorway services. Generally, coach tours offered to domestic tourists are based on popular destinations which appeal mainly to an older customer profile.

However, there is a vast range of alternative tours of the UK by rail, sea or a combination of all three, which appeal to many types of UK tourist other than the traditional coach tour market.
Mae nifer o newidiadau sylweddol wedi digwydd ym maes twristiaeth ddomestig yn y DU ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Yn fuan wedi hynny, cafodd twristiaid yn y DU gyfle i deithio y tu allan i'r DU ar wyliau pecyn. Cafodd hyn effaith negyddol ar gyrchfannau arfordirol traddodiadol yn arbennig. Mae rhai o'r rhain wedi ei chael hi'n anodd darparu ar gyfer mwy na'u marchnadoedd traddodiadol ac maent wedi wynebu heriau sylweddol. Yn fwy diweddar, mae'r cynnyrch twristiaeth domestig wedi arallgyfeirio ac, erbyn heddiw, mae amrywiaeth gynyddol o gyfleoedd twristiaeth ar gael i dwristiaid domestig.

Ar gyfer twristiaid tuag i mewn, mae'r DU yn gyrchfan eiconig sydd â threftadaeth a diwylliant cyfoethog. Mae hyn yn denu twristiaid o gyfandir Ewrop sy'n gallu cyrraedd mewn car neu ar drên, yn ogystal â thwristiaid o gyrchfannau pellter hir sy'n cyrraedd mewn awyren. Mae'r DU yn apelio at dwristiaid o farchnadoedd traddodiadol fel UDA, Canada ac Awstralia yn ogystal â rhai o farchnadoedd newydd fel Tsieina ac India. Mae llawer o'r rhain yn teithio mewn grwpiau ar deithiau tywys yn hytrach na mewn teuluoedd.

Ceir llawer o drefnwyr teithiau sy'n cynnig teithiau o gwmpas cyrchfannau'r DU ar fws, ar drên ac ar y môr. Teithiau bws yw'r rhai mwyaf poblogaidd. Mae cwmnïau sy'n gweithio ar raddfa genedlaethol, fel Shearing's a David Urquhart, yn cynnig amrywiaeth o amserlenni teithio i gyrchfannau poblogaidd yn y DU. Mae rhai o'r rhain yn cynnig teithiau i'r cyfandir, fel teithiau meysydd brwydrau ac ymweliadau â marchnadoedd Nadolig.

Mae'r rhan fwyaf o'r teithiau yn y DU yn para rhwng 4 a 10 diwrnod. Gall trefnwyr teithiau cenedlaethol mwy gasglu teithwyr o leoliadau hygyrch fel gwasanaethau traffordd. Ar y cyfan, mae'r teithiau bws a gynigir i dwristiaid domestig yn seiliedig ar gyrchfannau poblogaidd sy'n apelio at broffil cwsmer hŷn yn bennaf.

Fodd bynnag, ceir amrywiaeth eang o deithiau amgen o gwmpas y DU ar drên, ar y môr neu gyfuniad o bob un o'r tri, sy'n apelio at sawl math o dwristiaid yn y DU ar wahân i farchnad draddodiadol teithiau bws.
Local Lleol There is also a significant number of operators offering a range of UK tours which are based in a specific region or locality. These would have a smaller fleet of coaches than national operators but are still able to offer a good range of UK tours. An example would be Bakers Dolphin, which is based in the West Country. Hefyd, mae nifer sylweddol o drefnwyr teithiau yn cynnig amrywiaeth o deithiau yn y DU sydd wedi'u lleoli mewn rhanbarth neu ardal benodol. Byddai gan y rhain fflyd lai o fysiau na chwmnïau cenedlaethol, ond maent yn dal i allu cynnig amrywiaeth dda o deithiau yn y DU. Un enghraifft fyddai Bakers Dolphin, sydd wedi'i leoli yn Ne-orllewin Lloegr.
Inbound/Domestic Tuag i mewn/Domestig The focus of the unit is on UK domestic and inbound tourism, rather than outbound tourism. Learners need to appreciate that each year, many thousands of tourists from the USA, Canada, China and other countries book tours of the UK as inbound tourists through travel agents and/or tour operators based in their own countries.

These agencies/operators may offer tours to a range of destinations, not only the UK. They will agree a contract with a UK-based organisation to provide transport and guiding services. Two examples of this type of operator are Titan and Globus.

UKINBOUND is the organisation which represents inbound tour operators to the UK and provides a range of information.
Mae'r uned yn canolbwyntio ar dwristiaeth ddomestig a thwristiaeth tuag i mewn yn y DU, yn hytrach na thwristiaeth tuag allan. Mae angen i ddysgwyr werthfawrogi bod miloedd o dwristiaid o UDA, Canada, China a gwledydd eraill yn trefnu teithiau o gwmpas y DU fel twristiaid tuag i mewn bob blwyddyn, a hynny drwy asiantaethau teithio a/neu drefnwyr teithiau yn eu gwledydd eu hunain.

Gall yr asiantaethau/trefnwyr teithiau hyn gynnig teithiau i amrywiaeth o gyrchfannau, nid dim ond yn y DU. Byddant yn cytuno ar gontract gyda sefydliad yn y DU ar gyfer darparu cludiant a gwasanaethau tywys. Dwy enghraifft o'r math hwn o drefnwyr teithiau yw Titan a Globus.

UKINBOUND yw'r sefydliad sy'n cynrychioli trefnwyr teithiau tuag i mewn i'r DU ac mae'n darparu amrywiaeth o wybodaeth.
Customer types Mathau o gwsmeriaid Learners should have some understanding of 20th century developments in UK domestic tourism, such as:
  • the introduction of pre-war holiday camps and the impact of the Holiday with Pay Act
  • the rise of package holidays, the increasing accessibility of long-haul destinations and their negative effects on traditional UK seaside destinations
  • the diversification of domestic tourism and more recent developments such as city tourism, adventure tourism, special interest tourism, second holidays and short breaks, rural tourism and sports and event tourism.
A range of customer types participating in UK domestic tourism can be identified, including:
  • a more mature market for coach tours to traditional seaside and cultural destinations
  • less affluent families/couples taking holidays to traditional resorts and caravan parks
  • special interest and adventure tourism to countryside and mountainous areas
  • second home owners
  • city break tourism
  • sports tourism
  • event and festival tourism
  • theme park tourism.
Dylai fod gan ddysgwyr rywfaint o ddealltwriaeth o ddatblygiadau'r 20fed ganrif ym maes twristiaeth ddomestig yn y DU, fel:
  • cyflwyno gwersylloedd gwyliau cyn y rhyfel ac effaith y Ddeddf Gwyliau â Thâl
  • twf gwyliau pecyn, hygyrchedd cynyddol cyrchfannau pellter hir a'u heffeithiau negyddol ar gyrchfannau glan môr traddodiadol yn y DU
  • arallgyfeirio twristiaeth ddomestig a datblygiadau mwy diweddar fel twristiaeth dinas, twristiaeth antur, twristiaeth diddordeb arbennig, ail wyliau a gwyliau byr, twristiaeth wledig a thwristiaeth chwaraeon a digwyddiadau.
Gellir nodi amrywiaeth o fathau o gwsmeriaid sy'n cymryd rhan mewn twristiaeth ddomestig yn y DU, gan gynnwys:
  • marchnad fwy aeddfed ar gyfer teithiau bws i gyrchfannau glan môr a diwylliannol traddodiadol
  • teuluoedd/cyplau llai cyfoethog yn mynd ar wyliau i ganolfannau gwyliau traddodiadol a pharciau carafannau
  • twristiaeth diddordeb arbennig ac antur i ardaloedd cefn gwlad ac ardaloedd mynyddig
  • perchenogion ail gartrefi
  • twristiaeth gwyliau dinas
  • twristiaeth chwaraeon
  • twristiaeth digwyddiadau a gwyliau
  • twristiaeth parciau thema.
Transport Trafnidiaeth In terms of domestic tourism, there have been a number of significant developments which include:
  • ever-increasing car ownership which has made much of the UK accessible by car to the majority of the population
  • significant developments in transport infrastructure, in particular motorway development, which has contributed to the accessibility of many destinations
  • ongoing increased use of railways to access city destinations
  • the availability of low-cost domestic air travel provided by budget airlines
  • the continued availability of coach travel as a low-cost alternative.
O ran twristiaeth ddomestig, mae nifer o ddatblygiadau sylweddol wedi bod, gan gynnwys:
  • nifer y bobl sy'n berchen ar geir yn cynyddu'n barhaus, gan olygu bod y rhan fwyaf o'r DU yn hygyrch mewn car i'r rhan fwyaf o'r boblogaeth
  • datblygiadau sylweddol o ran seilwaith trafnidiaeth, yn enwedig datblygu traffyrdd, sydd wedi cyfrannu at hygyrchedd llawer o gyrchfannau
  • defnydd cynyddol o reilffyrdd i gyrraedd cyrchfannau dinas
  • argaeledd hedfan domestig cost isel a ddarperir gan gwmnïau hedfan rhad
  • argaeledd parhaus teithio ar fws fel dewis amgen cost isel.
Destinations Cyrchfannau UK tourism destinations can be classified simply as:
  • city destinations
  • coastal destinations
  • countryside destinations.
City destinations have grown in popularity with both domestic and inbound tourists. London has the status of one of the most important global cities, with a range of iconic attractions. Other major cities in the UK, such as Manchester, Cardiff, Liverpool and Glasgow, have seen considerable redevelopment in recent decades with new facilities such as shopping centres, stadiums other attractions added.

Coastal destinations, in some cases, have been affected by the decline of the traditional seaside holiday because many of those who would have chosen seaside destinations in the past have had more opportunities to travel abroad on package holidays. However, some have been able to develop their facilities and diversify their product in order to attract new customer types and/or to extend the tourist season.

Countryside destinations have benefited from the growth in adventure and special interest tourism as well as the increasing awareness of the special characteristics of many of the countryside areas of the UK, some of which have been given protected status. Countryside destinations offer a range of accommodation options such as farm stays and camping as well as new options like glamping.

A recent development for many UK destinations has been to adopt a more professional and business-like approach in relation to the development of their tourism product. In many destinations, Destination Management Organisations (DMOs) have replaced traditional tourist boards to develop and implement tourism development strategies.
Yn syml, gellir dosbarthu cyrchfannau twristiaeth yn y DU fel a ganlyn:
  • cyrchfannau dinas
  • cyrchfannau arfordirol
  • cyrchfannau cefn gwlad.
Mae cyrchfannau dinas wedi dod yn fwy poblogaidd ymhlith twristiaid domestig a thwristiaid tuag i mewn. Mae Llundain wedi ennill statws fel un o'r dinasoedd byd-eang pwysicaf gydag amrywiaeth o atyniadau eiconig. Mae dinasoedd mawr eraill yn y DU, fel Manceinion, Caerdydd, Lerpwl a Glasgow, wedi cael eu hailddatblygu'n sylweddol dros y degawdau diwethaf, gyda chyfleusterau newydd fel canolfannau siopa, stadia ac atyniadau eraill yn cael eu hychwanegu.

Mewn rhai achosion, mae dirywiad y gwyliau glan môr traddodiadol wedi effeithio ar gyrchfannau arfordirol am fod llawer o'r bobl hynny a fyddai wedi dewis cyrchfannau glan môr yn y gorffennol wedi cael mwy o gyfleoedd i deithio dramor ar wyliau pecyn. Fodd bynnag, mae rhai wedi gallu datblygu eu cyfleusterau ac amrywio eu cynnyrch er mwyn denu mathau newydd o gwsmeriaid a/neu ymestyn y tymor ymwelwyr.

Mae cyrchfannau cefn gwlad wedi elwa ar dwf twristiaeth antur a diddordeb arbennig yn ogystal â'r ymwybyddiaeth gynyddol o nodweddion arbennig llawer o ardaloedd cefn gwlad y DU, y mae rhai ohonynt wedi cael statws gwarchodedig. Mae cyrchfannau cefn gwlad yn cynnig amrywiaeth o opsiynau llety fel aros ar fferm a gwersylla, yn ogystal ag opsiynau newydd fel glampio.

Un datblygiad diweddar i lawer o gyrchfannau yn y DU yw datblygu eu cynnyrch twristiaeth mewn ffordd fwy proffesiynol. Mewn llawer o gyrchfannau, mae Sefydliadau Rheoli Cyrchfannau (DMOs) wedi disodli byrddau croeso traddodiadol i ddatblygu strategaethau datblygu twristiaeth a'u rhoi ar waith.
Guiding Tywys Tour guiding is an important but often overlooked component of the tourism industry. Guides have detailed, specialist knowledge of the destinations in which they offer tours, often in two or more languages. Guides can offer half-day or full-day tours or may be assigned to a coach tour lasting several days.

Registered guides have to pass professional qualifications to obtain a Blue Badge, and many are members of the British Guild of Tourist Guides.
Mae teithiau tywys yn elfen bwysig o'r diwydiant twristiaeth sy'n aml yn cael ei hanghofio. Mae gan dywyswyr wybodaeth arbenigol fanwl am y cyrchfannau lle maent yn cynnig teithiau, a hynny'n aml mewn dwy iaith neu fwy. Gall tywyswyr gynnig teithiau hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn, neu gallant fynd ar deithiau bws sy'n para sawl diwrnod.

Rhaid i dywyswyr cofrestredig ennill cymwysterau proffesiynol er mwyn cael Bathodyn Glas ac mae llawer ohonynt yn aelodau o'r British Guild of Tourist Guides.
Partnerships Partneriaethau Recent years have seen a significant growth in tourism organisations working in partnership with other organisations. Destination Management Organisations (DMOs) and Destinations Marketing Partnerships (DMPs) are taking on an ever-increasing role in the marketing of tourism destinations. Often, these partnerships are comprised of both public and private sector organisations.

These organisations provide a more professional and strategic approach than traditional tourist boards. Some of the advantages identified include:
  • providing credibility by developing projects in partnership with high profile organisations
  • providing expertise that may not be available in-house
  • cutting marketing and other costs for individual attractions
  • helping with grant writing and revenue generation.
Further information on partnerships is available on the VisitBritain website.
Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd sylweddol mewn cydweithio rhwng sefydliadau twristiaeth a sefydliadau eraill. Mae Sefydliadau Rheoli Cyrchfannau (DMOs) a Phartneriaethau Marchnata Cyrchfannau (DMPs) yn ymgymryd â rôl gynyddol wrth farchnata cyrchfannau twristiaeth. Yn aml, mae'r partneriaethau hyn yn cynnwys sefydliadau o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Mae'r sefydliadau hyn yn gweithio'n fwy proffesiynol a strategol na byrddau croeso traddodiadol. Ymhlith y manteision a nodwyd mae:
  • sicrhau hygrededd drwy ddatblygu prosiectau mewn partneriaeth â sefydliadau uchel eu proffil
  • cyfrannu arbenigedd nad yw ar gael yn fewnol o bosibl
  • torri costau marchnata a chostau eraill ar gyfer atyniadau unigol
  • helpu i ysgrifennu ceisiadau am grantiau a chynhyrchu refeniw.
Mae gwybodaeth bellach ar bartneriaethau ar gael ar wefan VisitBritain.
Trends Tueddiadau The value of the VisitBritain and its related insights and research data cannot be underestimated. Centres are strongly advised to ensure that they are familiar with the range of data which can be obtained via this site. Welsh centres should access tourism data through the Welsh Assembly Government site rather than through Visit Wales, which has a more commercial approach.

It is important that learners can analyse data which demonstrates trends in tourist activity, which can take a range of forms such as:
  • changes to visitor numbers/patterns to different regions or cities
  • trends in arrival to the UK and travel by different forms of transport
  • trends relating to spending patterns
  • trends relating to length of stay or purpose of visit.
Trends can be observed over the course of a year or over a longer period of time.
Ni ellir tanbrisio gwerth gwefan VisitBritain a'i gwybodaeth a data ymchwil cysylltiedig. Cynghorir canolfannau'n gryf i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r amrywiaeth o ddata sydd ar gael o'r wefan hon. Dylai canolfannau yng Nghymru gael data twristiaeth o wefan LLYWODRAETH CYMRU yn hytrach na gwefan Croeso Cymru, sy'n fwy masnachol.

Mae'n bwysig y gall dysgwyr ddadansoddi data sy'n dangos tueddiadau mewn gweithgarwch twristiaeth, sy'n gallu bod ar sawl ffurf fel:
  • newidiadau i niferoedd/patrymau ymwelwyr â gwahanol ranbarthau neu ddinasoedd
  • tueddiadau o ran cyrraedd y DU a theithio gan ddefnyddio gwahanol fathau o gludiant
  • tueddiadau mewn perthynas â phatrymau gwario
  • tueddiadau mewn perthynas â hyd yr arhosiad neu ddiben yr ymweliad.
Gellir arsylwi tueddiadau dros gyfnod o flwyddyn neu dros gyfnod o amser hirach.
Customer demographics Demograffeg cwsmeriaid Tourism organisations and destinations need to be aware of changing customer demographics in order to develop and market appropriate products.

One of the most significant changes in recent years is the increasing number of older people who are participating in tourism activities. This would include domestic tourism, where escorted coach tours are popular, as well as inbound tourism, which follows a similar pattern.

Changing economic circumstances may also impact on tourism activities for other demographic groups as changing interest rates, inflation and other economic factors influence tourism decisions.
Mae angen i sefydliadau a chyrchfannau twristiaeth fod yn ymwybodol o newidiadau mewn demograffeg cwsmeriaid er mwyn datblygu a marchnata cynhyrchion priodol.

Un o'r newidiadau mwyaf arwyddocaol dros y blynyddoedd diwethaf yw'r nifer gynyddol o bobl hŷn sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau twristiaeth. Byddai hyn yn cynnwys twristiaeth ddomestig, lle mae teithiau tywys ar fws yn boblogaidd, yn ogystal â thwristiaeth tuag i mewn, sy'n dilyn patrwm tebyg.

Hefyd, gall newidiadau mewn amgylchiadau economaidd effeithio ar weithgareddau twristiaeth ar gyfer grwpiau demograffig eraill wrth i newidiadau mewn cyfraddau llog, chwyddiant a ffactorau economaidd eraill ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch twristiaeth.
Customer origins Tarddiad cwsmeriaid A section of the VisitBritain website contains detailed information relating to tourism patterns from a number of countries identified as important to the UK’s tourism industry. Traditionally, major inbound markets would include the major English-speaking nations such as the USA, Canada and Australia – reasons for visiting might include visiting family and friends or touring the UK. Other major inbound markets include France, Germany and other European countries from which inbound tourists could arrive by air, sea or rail. Additionally, emerging markets such as India and China are becoming increasingly important to the UK’s tourism industry.

Traditional patterns of domestic tourism, with people living in industrial conurbations, still exist to a certain extent. However, more recently, these patterns have become far more complex. Statistics available on the VisitBritain website will provide detailed information regarding current patterns.

There are examples where successful marketing campaigns and strategic partnerships have resulted in a significant increase in visitors from certain countries visiting particular regions, e.g. Japanese tourists visiting North Wales.
Mae adran o wefan VisitBritain yn cynnwys gwybodaeth fanwl ynghylch patrymau twristiaeth o nifer o wledydd y nodwyd eu bod yn bwysig i ddiwydiant twristiaeth y DU. Yn draddodiadol, byddai marchnadoedd tuag i mewn mawr yn cynnwys pobl o'r gwledydd mawr Saesneg eu hiaith fel UDA, Canada ac Awstralia a allai fod yn ymweld â theulu a ffrindiau neu'n teithio o gwmpas y DU. Ymhlith y marchnadoedd tuag i mewn mawr eraill mae Ffrainc, yr Almaen a gwledydd Ewropeaidd eraill y gallai twristiaid gyrraedd y DU ohonynt mewn awyren, ar y môr neu ar drên. Hefyd, mae marchnadoedd sy'n datblygu, fel India a Tsieina, yn dod yn gynyddol bwysig i ddiwydiant twristiaeth y DU.

Mae patrymau traddodiadol twristiaeth ddomestig, lle mae pobl yn byw mewn cytrefi diwydiannol, yn dal i fodoli i raddau. Fodd bynnag, yn fwy diweddar, mae'r patrymau hyn wedi mynd yn fwy cymhleth o lawer. Bydd ystadegau sydd ar gael ar wefan VisitBritain yn cynnwys gwybodaeth fanwl am y patrymau cyfredol.

Ceir enghreifftiau lle mae ymgyrchoedd marchnata a phartneriaethau strategol llwyddiannus wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn ymwelwyr o wledydd penodol yn ymweld â rhanbarthau penodol, e.e. Twristiaid o Japan yn ymweld â Gogledd Cymru.
Regional patterns Patrymau rhanbarthol To a large extent, the more popular regions for inbound and domestic tourism remain fairly constant year on year. London remains the most popular city for inbound tourists due to its status as a global city, its iconic attractions, its culture and its proximity to major airports.

A significant number of long-haul flights into the UK land at either Gatwick, Heathrow or other south-east airports, which means that the London area has an advantage in attracting long-haul inbound tourists.

The introduction of new routes (China to Manchester, for example) will impact on regional patterns.

For short-haul inbound visitors, the development of the budget airlines has made various regions of the UK more accessible. Airports such as Bristol, Cardiff, Newcastle and Liverpool have become gateways to those cities and surrounding regions.

There are complex patterns of regional trips made by domestic tourists. The increased popularity of short breaks and city breaks means that many domestic tourists will visit several regions of the UK each year. At the same time, as indicated above, holidays to traditional seaside destinations from major conurbations continue to take place.

The VisitBritain website will contain all the relevant statistics, produced by their own research and the International Passenger Survey.
I raddau helaeth, mae'r rhanbarthau mwy poblogaidd o ran twristiaeth tuag i mewn a domestig yn aros yn eithaf cyson o flwyddyn i flwyddyn. Llundain yw'r ddinas fwyaf poblogaidd ymhlith twristiaid tuag i mewn o hyd oherwydd ei statws fel dinas fyd-eang, ei hatyniadau eiconig, ei diwylliant a pha mor agos ydyw at feysydd awyr mawr.

Mae nifer sylweddol o hediadau pellter hir i mewn i'r DU yn glanio yn Gatwick, Heathrow neu feysydd awyr eraill yn Ne-ddwyrain Lloegr, sy'n golygu bod gan ardal Llundain fantais o ran denu twristiaid pellter hir tuag i mewn i'r wlad.

Bydd cyflwyno llwybrau newydd, er enghraifft o Tsieina i Fanceinion, yn effeithio ar batrymau rhanbarthol.

Ar gyfer ymwelwyr pellter byr tuag i mewn, mae datblygiad cwmnïau hedfan rhad wedi gwneud amryw ranbarthau yn y DU yn fwy hygyrch. Mae meysydd awyr fel Bryste, Caerdydd, Newcastle a Lerpwl wedi dod yn byrth i'r dinasoedd hynny a'r rhanbarthau cyfagos.

Ceir patrwm cymhleth o deithiau rhanbarthol a wneir gan dwristiaid domestig. Mae poblogrwydd cynyddol gwyliau byr a gwyliau dinas yn golygu y bydd llawer o dwristiaid domestig yn ymweld â sawl rhanbarth yn y DU bob blwyddyn. Ar yr un pryd, fel y nodwyd uchod, mae pobl yn parhau i fynd ar wyliau i gyrchfannau glan môr traddodiadol o gytrefi mawr.

Bydd gwefan VisitBritain yn cynnwys yr holl ystadegau perthnasol, wedi'u llunio'n seiliedig ar ei hymchwil ei hun a'r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol.
Economic value Gwerth economaidd Again, the VisitBritain website will give access to all the most recent data.

One of the most important issues relating to the economic value of tourism is the challenge involved in calculating the total value. Tourist activity is broken down into a number of categories, and a definitive total economic value is impossible to calculate precisely. Also, different countries use different categories and methodology, making international comparison of the economic value of tourism difficult.

International comparisons and other data relating to the economic value of tourism is produced by the World Travel and Tourism Council.

Despite the issues identified above, learners should have some appreciation of:
  • the total contribution of tourism the UK’s economy
  • regional contributions
  • contributions by sector (e.g. accommodation, transport)
  • the value of inbound and domestic tourism
  • numbers of people employed directly or indirectly in tourism.
Unwaith eto, bydd y data diweddaraf ar gael o wefan VisitBritain.

Un o'r materion pwysicaf mewn perthynas â gwerth economaidd twristiaeth yw'r her sy'n gysylltiedig â chyfrifo cyfanswm y gwerth. Caiff gweithgarwch twristiaid ei rannu'n nifer o gategorïau, ac mae'n amhosibl cyfrifo cyfanswm gwerth economaidd terfynol yn fanwl gywir. Hefyd, mae gwledydd gwahanol yn defnyddio categorïau a methodolegau gwahanol, gan wneud cymhariaeth ryngwladol o werth economaidd twristiaeth yn anodd.

Caiff cymariaethau rhyngwladol a data eraill mewn perthynas â gwerth economaidd twristiaeth eu llunio gan Gyngor Teithio a Thwristiaeth y Byd.

Er gwaethaf y problemau a nodwyd uchod, dylai dysgwyr werthfawrogi'r canlynol i ryw raddau:
  • cyfanswm cyfraniad twristiaeth at economi'r DU
  • cyfraniadau rhanbarthol
  • cyfraniadau fesul sector (e.e. llety, cludiant)
  • gwerth twristiaeth tuag i mewn a domestig
  • nifer y bobl a gyflogir yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol ym maes twristiaeth.
Destinations Cyrchfannau Organised tours include visits to a wide range of destinations within the UK. In fact, one thing which appeals to both inbound and domestic tourists is the wide variety of landscapes found within the British Isles, together with a rich and diverse history and culture.

Given that the majority of tours are by coach, a distinction can be drawn between tours which focus on one destination, with one hotel used for a number of days, and tours which use a variety of accommodation options over the course of several days or weeks. For example, a tour to Torquay for a few nights would include visits to Dartmoor and attractions in the area, with accommodation in Torquay. Whereas, a tour of the Scottish Highlands might involve guests staying in a different hotel in a different town each night.

Coach tours, to the three major types of destination within the UK, namely coast, countryside and city, are offered by a range of operators to a range of customer types.
Mae teithiau wedi'u trefnu yn cynnwys ymweliadau ag amrywiaeth eang o gyrchfannau yn y DU. A dweud y gwir, un peth sy'n apelio at dwristiaid tuag i mewn a thwristiaid domestig yw'r amrywiaeth eang o dirweddau sydd i'w cael ar Ynysoedd Prydain, ynghyd â hanes a diwylliant cyfoethog ac amrywiol.

O ystyried bod mwyafrif y teithiau ar fysiau moethus, gellir gwahaniaethu rhwng teithiau sy’n canolbwyntio ar un cyrchfan, gydag un gwesty'n cael ei ddefnyddio am nifer o ddyddiau, a theithiau sy'n defnyddio amrywiaeth o opsiynau llety dros gyfnod o sawl diwrnod neu wythnos. Er enghraifft, byddai taith i Torquay am ychydig o nosweithiau yn cynnwys ymweliadau â Dartmoor ac atyniadau yn yr ardal, gyda'r llety yn Torquay. Ar y llaw arall, gallai taith o gwmpas Ucheldiroedd yr Alban olygu y bydd gwesteion yn aros mewn gwesty gwahanol mewn tref wahanol bob nos.

Caiff teithiau bws, i'r tri phrif fath o gyrchfan yn y DU, sef cyrchfannau arfordirol, cefn gwlad a dinas, eu cynnig gan amrywiaeth o drefnwyr teithiau i amrywiaeth o fathau o gwsmeriaid.
Market segmentation/demographics Segmentu’r farchnad/demograffeg The traditional coach tour offered by UK-based operators to domestic tourists has been an established product for a number of years and attracts a more mature market. Such tours are offered to popular destinations and may be geared towards events such as the Blackpool Illuminations or ‘Turkey and Tinsel’.

However, in addition to what is regarded as the traditional coach tour, there is a wide range of tours offered by a range of operators to different demographic groups with different interests. Coach is not the only form of travel, with rail tours and cruises becoming increasingly popular in recent years.

UK Railtours provides a wide range of tours by rail, including, for example, steam railway tours and luxury experiences.

The UK tour market can be divided into a number of segments according to what the customer wants to experience and the cost of the tour.

Therefore, it is possible to sub-divide UK tours into categories including:
  • type of travel
  • cost
  • interest
  • age group
as well as by other factors.
Mae'r daith fws draddodiadol a gynigir gan drefnwyr teithiau yn y DU i dwristiaid domestig wedi bod yn gynnyrch sefydledig ers nifer o flynyddoedd ac mae'n denu marchnad fwy aeddfed. Cynigir teithiau o'r fath i gyrchfannau poblogaidd a gallant fod yn addas ar gyfer digwyddiadau fel Goleuadau Blackpool neu ‘Twrci a Thinsel’.

Fodd bynnag, yn ogystal â'r hyn sy'n cael ei ystyried yn daith fws draddodiadol, caiff amrywiaeth eang o deithiau ei chynnig gan amrywiaeth o drefnwyr teithiau i wahanol grwpiau demograffig sydd â gwahanol ddiddordebau. Nid bws yw'r unig ddull o deithio, gyda theithiau trên a mordeithiau'n dod yn gynyddol boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae UK Railtours yn cynnig amrywiaeth eang o deithiau ar drenau, gan gynnwys, er enghraifft, teithiau trên stêm a phrofiadau moethus.

Gellir rhannu marchnad deithiau'r DU yn nifer o segmentau yn dibynnu ar y profiad y mae'r cwsmer am ei gael a chost y daith.

Felly, mae modd isrannu teithiau'r DU yn gategorïau gan gynnwys:
  • y math o gludiant
  • cost
  • diddordeb
  • grŵp oedran
yn ogystal â ffactorau eraill.
Attractions Atyniadau The majority of attractions in the UK, both natural and built, are likely to feature in tour itineraries. Generally, natural attractions, which in many cases will be free, will be visited as a stop on the route of a tour.

Usually, tour operators will choose attractions with facilities such as a café, toilets and a gift shop, which will meet the needs of customers.

Larger, fee-paying, built attractions are more likely to attract day or half-day visits by tour parties, with the tour operator often negotiating a discount for pre-booked tour groups.
Mae'r rhan fwyaf o atyniadau yn y DU, boed yn naturiol neu'n adeiledig, yn debygol o gael eu cynnwys ar amserlenni teithio. Yn gyffredinol, bydd taith yn ymweld ag atyniadau naturiol, a fydd am ddim mewn llawer o achosion.

Fel arfer, bydd trefnwyr teithiau yn dewis atyniadau sydd â chyfleusterau fel caffi, toiledau a siop roddion, a fydd yn diwallu anghenion cwsmeriaid.

Mae atyniadau adeiledig, mwy, lle y codir tâl, yn fwy tebygol o ddenu ymweliadau diwrnod neu hanner diwrnod gan grwpiau teithio, lle y bydd y trefnydd teithiau yn aml yn llwyddo i gael gostyngiad pris ar gyfer grwpiau sy'n trefnu ymlaen llaw.
Accommodation Llety Tour groups of forty or more customers have certain requirements for their accommodation. These include:
  • a sufficient number of rooms to accommodate the party, without taking over the entire hotel
  • a restaurant which can cater for the group
  • parking for the coach and accommodation for the driver
  • access to major attractions at the destination being visited.
These requirements tend to mean that most tour groups use larger three- or four-star hotels with restaurant facilities. Of course, as indicated elsewhere, different groups will have accommodation requirements.

Tour operators will negotiate a special rate with accommodation providers, depending on the number of tours the operator is likely to bring into the hotel. In some cases, tour groups opt for less well-appointed hotels, and these hotels often rely heavily on their business from tour groups as opposed to individual tourists and families.
Mae gan grwpiau teithio sy'n cynnwys 40 neu fwy o gwsmeriaid ofynion penodol o ran eu llety. Yn eu plith, mae:
  • digon o ystafelloedd ar gyfer y grŵp, heb iddynt lenwi'r gwesty cyfan
  • bwyty lle y gall y grŵp cyfan fwyta
  • lle parcio i'r bws a llety i'r gyrrwr
  • mynediad i atyniadau poblogaidd yn y cyrchfan dan sylw.
Mae'r gofynion hyn yn tueddu i olygu bod y rhan fwyaf o grwpiau teithio yn defnyddio gwestai tair neu bedair seren sydd â chyfleusterau bwyty. Wrth gwrs, fel y nodwyd mewn man arall, bydd gan grwpiau gwahanol ofynion gwahanol o ran llety.

Bydd trefnwyr teithiau yn trafod â darparwyr llety er mwyn cytuno ar gyfradd arbennig, yn dibynnu ar nifer y teithiau y mae'r trefnydd teithiau yn debygol o ddod â nhw i'r gwesty. Mewn rhai achosion, bydd grwpiau teithio yn dewis gwestai llai moethus sy'n aml yn dibynnu'n drwm ar fusnes gan grwpiau teithio yn hytrach na thwristiaid unigol a theuluoedd.
Budget/luxury Rhad/moethus Tours of the UK offered by operators providing luxury chauffeur-driven cars, for two or three people are available at £2,500 per person for 7 nights! This will exclude flights for inbound tourists.

At the same time, budget and backpacker tours, aimed firmly at a youth market are also available.

It is important to appreciate that, as with the outbound package holiday market, a vast range of UK tours of varying length and cost are offered to a wide range of customers.
Mae teithiau o gwmpas y DU a gynigir gan drefnwyr teithiau sy'n darparu ceir moethus a gyrrwr, i ddau neu dri o bobl, ar gael am £2,500 y pen am 7 noson! Ni fydd hyn yn cynnwys hedfan i mewn i'r wlad yn y lle cyntaf.

Ar yr un pryd, mae teithiau rhad a theithiau i heicwyr, sydd wedi'u bwriadu ar gyfer y farchnad pobl ifanc yn benodol, hefyd ar gael.

Mae'n bwysig gwerthfawrogi, fel yn achos y farchnad gwyliau pecyn y tu allan i'r DU, fod amrywiaeth eang o deithiau yn y DU, sy'n amrywio o ran hyd a chost, yn cael ei chynnig i amrywiaeth eang o gwsmeriaid.
Cruise Mordaith Companies offering cruising tours around the British Isles tend to be specialist operators and are lost on the internet amongst mainstream cruise organisations. Cruises of the British Isles tend to be offered mainly to inbound tourists, particularly from North America. Itineraries may feature coastal areas of the Republic of Ireland as well as those of mainland Britain.

British Isles tours are also offered by the larger cruise brands. These will appeal to customers familiar with cruising but wishing to explore areas of the UK without flying to their port of departure.
Mae cwmnïau sy'n cynnig mordeithiau o gwmpas Ynysoedd Prydain yn tueddu i fod yn drefnwyr teithiau arbenigol sydd ar goll ar y rhyngrwyd ymhlith sefydliadau mordeithio prif ffrwd. Mae mordeithiau o gwmpas Ynysoedd Prydain yn tueddu i gael eu cynnig i dwristiaid tuag i mewn yn bennaf, yn enwedig rhai o Ogledd America. Gall yr amserlenni teithio gynnwys ardaloedd arfordirol Gweriniaeth Iwerddon yn ogystal â'r rhai ar dir mawr Prydain.

Caiff teithiau o gwmpas Ynysoedd Prydain eu cynnig gan y cwmnïau mordeithio mwy hefyd. Bydd y rhain yn apelio at gwsmeriaid sy'n gyfarwydd â mordeithio ond sydd am weld ardaloedd yn y DU heb hedfan i'r porthladd yn y lle cyntaf.
Accessibility Hygyrchedd All tour operators must comply with all current provisions of the Equalities Act and must therefore be able to cater for customers with a range of special and additional needs. The same requirements would apply to the accommodation used and the attractions visited. Rhaid i bob trefnydd teithiau gydymffurfio â holl ddarpariaethau cyfredol y Ddeddf Cydraddoldeb ac felly rhaid iddynt allu darparu ar gyfer cwsmeriaid ag amrywiaeth o anghenion arbennig ac ychwanegol. Byddai'r un gofynion yn berthnasol i'r llety a ddefnyddir a'r atyniadau yr ymwelir â nhw.
Customer types Mathau o gwsmeriaid From the discussion above it is possible to identify groups of tourists for which tours of the UK cater. These include:
  • Older couples – may be either domestic tourists who enjoy the traditional UK coach tours, or inbound tourists who value the security of an escorted tour
  • Specialist groups – may book a tour together, such as steam train experience or a visit to specific destinations or attractions
  • Younger backpackers – predominantly inbound tourists who are looking for an inexpensive way of exploring the UK
  • Luxury travellers – prepared to pay for private tours with luxury accommodation.
O'r drafodaeth uchod, mae modd nodi grwpiau o dwristiaid y mae teithiau o gwmpas y DU yn darparu ar eu cyfer. Yn eu plith, mae:
  • Cyplau hŷn – gall y rhain fod yn dwristiaid domestig sy'n mwynhau teithiau bws traddodiadol yn y DU, neu'n dwristiaid tuag i mewn sy'n gwerthfawrogi diogelwch taith dywys
  • Grwpiau arbenigol – a all drefnu taith gyda'i gilydd, fel profiad trên stêm neu ymweliad â chyrchfannau neu atyniadau penodol
  • Heicwyr iau – twristiaid tuag i mewn yn bennaf ac sy'n chwilio am ffordd rhad o archwilio'r DU
  • Teithwyr moethusrwydd – yn barod i dalu am deithiau preifat a llety moethus.
Financial Ariannol Tour operators offering tours of the UK are, in the majority of cases, commercial organisations which aim to make a profit. As such, these organisations need to consider the costs involved in setting up and marketing different tours. As well as covering their own costs, the tour operator is obliged to make payments to:
  • the company providing the coach and driver (or other means of transport)
  • the accommodation provider(s)
  • the tour guides
  • the attractions which may be visited as part of the itinerary.
In commercial organisations, there will be contractual agreements between the parties involved. There will also be a contractual arrangement between the tour operator and the customer to cover circumstances in which the tour has to be cancelled or the itinerary rearranged. It may be the case that the tour operator has calculated a break-even point which will indicate the minimum number of passengers required for any particular tour to become profitable.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae trefnwyr teithiau sy'n cynnig teithiau yn y DU yn sefydliadau masnachol sy'n ceisio gwneud elw. Fel y cyfryw, mae angen i'r sefydliadau hyn ystyried y costau sy'n gysylltiedig â sefydlu a marchnata teithiau gwahanol. Yn ogystal â thalu ei gostau ei hun, rhaid i'r trefnydd teithiau wneud taliadau i'r canlynol:
  • y cwmni sy'n darparu'r bws a'r gyrrwr (neu fathau eraill o gludiant)
  • y darparwr/darparwyr llety
  • y tywyswyr
  • yr atyniadau y gellir ymweld â nhw fel rhan o'r amserlen teithio.
Mewn sefydliadau masnachol, bydd contractau rhwng y partïon dan sylw. Hefyd, bydd contract rhwng y trefnydd teithiau a'r cwsmer ar gyfer delio ag amgylchiadau pan fydd yn rhaid canslo'r daith neu aildrefnu'r amserlen teithio. Mae'n bosibl y bydd y trefnydd teithiau wedi cyfrifo pwynt adennill costau a fydd yn nodi lleiafswm nifer y teithwyr sydd eu hangen ar gyfer unrhyw daith er mwyn iddi fod yn broffidiol.
Customer experience Profiad y Cwsmer It is common practice for a precis of the itinerary to form part of the marketing of many tours. This will give potential customers a clear indication of the experiences they are likely to enjoy during the tour. Furthermore, a brief description of the type of accommodation to be used will usually be provided.

It may be the case that the customer experience does not live up to what was indicated in the marketing of the tour, or alternatively the experience may exceed expectations.

As in other areas of the tourism industry, it will be necessary for operators to evaluate the success of the tour and collect feedback from customers before deciding whether or not to offer the tour in the future or to amend the itinerary.
Mae'n arfer cyffredin i grynodeb o'r amserlen teithio fod yn rhan o ymgyrch farchnata llawer o deithiau. Bydd hyn yn dangos yn glir i ddarpar gwsmeriaid pa brofiadau y maent yn debygol o'u mwynhau yn ystod y daith. At hynny, bydd disgrifiad byr o'r math o lety i'w ddefnyddio yn cael ei ddarparu fel arfer.

Efallai na fydd profiad y cwsmer cystal â'r hyn a ddangoswyd wrth farchnata'r daith neu, fel arall, efallai y bydd y profiad yn well na'r disgwyl.

Fel mewn rhannau eraill o'r diwydiant twristiaeth, bydd angen i drefnwyr teithiau werthuso llwyddiant y daith a chasglu adborth gan gwsmeriaid cyn penderfynu p'un a ddylid cynnig y daith yn y dyfodol neu ddiwygio'r amserlen.
Educational Adnoddau Educational tours and study tours organised by schools, colleges and universities form an element of UK domestic tourism activity. Additionally, there are a significant number of educational tours made by inbound student groups from both short- and long-haul destinations. The majority of these tours will have specific educational objectives linked to a subject being studied by the group.

Many tours offered to adults may include an educational or cultural objective. Groups may have a specific interest in history or culture which is catered for in the tour. Tours may also take place which incorporate visits to cultural or arts festivals.
Mae teithiau addysgol a theithiau astudio a drefnir gan ysgolion, colegau a phrifysgolion yn un elfen o weithgarwch twristiaeth ddomestig y DU. Hefyd, bydd grwpiau o fyfyrwyr sy'n ymweld â'r DU o gyrchfannau pellter byr a hir yn mynd ar nifer sylweddol o deithiau addysgol. Bydd gan y rhan fwyaf o'r teithiau hyn amcanion addysgol penodol sy'n gysylltiedig â phwnc y mae'r grŵp yn ei astudio.

Gall llawer o deithiau a gynigir i oedolion gynnwys amcan addysgol neu ddiwylliannol. Gall fod gan grwpiau ddiddordeb penodol mewn hanes neu ddiwylliant sydd wedi'i gynnwys yn y daith. Hefyd, gall teithiau ymgorffori ymweliadau â gwyliau diwylliannol neu gelfyddydol.
Planning Cynllunio Tour itineraries are planned with a number of factors in mind. These include:
  • the nature of the anticipated client group
  • the ‘theme’ of the tour
  • the route
  • the attractions to be visited
  • accommodation requirements
  • legal aspects, such as driver’s hours
  • logistical factors, such as times of ferries if these are required, opening times of attractions etc.
Successful itineraries create the correct balance between travel time and time spent visiting attractions and sights of interest. Allowances must be made for each time a tour group checks in to new accommodation. This can take an hour or more in some cases.

Learners consider what constitutes a ‘normal’ touring day. This suggested timetable is for guidance only. There will be occasions when early starts or late arrivals will be necessary.
Caiff amserlenni teithio eu cynllunio â nifer o ffactorau mewn golwg. Yn eu plith, mae:
  • natur y grŵp cleientiaid disgwyliedig
  • ‘thema'r’ daith
  • llwybr y daith
  • yr atyniadau yr ymwelir â nhw
  • gofynion o ran llety
  • agweddau cyfreithiol, fel oriau'r gyrrwr
  • ffactorau logistaidd fel amseroedd fferïau os yw hynny'n berthnasol, amseroedd agor atyniadau ac ati.
Mae amserlenni teithio llwyddiannus yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng amser teithio a'r amser a dreulir yn ymweld ag atyniadau a golygfeydd diddorol. Rhaid caniatáu amser ar gyfer pob tro y bydd grŵp yn cyrraedd llety newydd. Gall y broses fewngofnodi gymryd awr neu fwy mewn rhai achosion.

Bydd dysgwyr yn ystyried beth yw diwrnod ‘arferol’ ar daith. Canllaw a awgrymir yn unig yw'r amserlen hon. Bydd rhai achosion pan fydd angen dechrau'n gynnar neu gyrraedd yn hwyr.
Costings Costau All elements of a proposed tour need to be costed with an element of contingency funding calculated. This is vitally important for commercial organisations, which must aim to make an overall profit during the course of a year, even if some of their tours are not profitable. Some tours will be more profitable than others, depending on a number of factors.

Learners will need to undertake research to obtain some idea of the costs of each of the components of the tour which they are proposing. In general terms these will consist of:
  • transport costs
  • accommodation costs
  • attractions costs.
The costs of customers travelling to join the tour should not be included.
Mae angen pennu costau pob elfen o daith arfaethedig, gan gyfrifo elfen o gyllid wrth gefn hefyd. Mae hyn yn hollbwysig i sefydliadau masnachol gan mai eu nod nhw yw gwneud elw cyffredinol dros gyfnod o flwyddyn, hyd yn oed os nad yw rhai o'u teithiau yn broffidiol. Bydd rhai teithiau yn fwy proffidiol na rhai eraill, yn dibynnu ar nifer o ffactorau.

Bydd angen i ddysgwyr wneud gwaith ymchwil er mwyn cael rhyw fath o syniad o'r costau ar gyfer pob un o elfennau'r daith y maent yn ei chynnig. Yn gyffredinol, bydd y rhain yn cynnwys:
  • costau trafnidiaeth
  • costau llety
  • costau atyniadau.
Ni ddylid cynnwys y costau yr aiff y cwsmeriaid iddynt wrth deithio i ymuno â'r daith.
Purpose Pwrpas For commercial operators, the primary purpose of any tour offered would be to make a profit. Furthermore, the purpose or objective of the tour should be one of the primary considerations in the planning process.

Often, the purpose of a tour is indicated in its title, such as ‘Highlights of the Highlands’ or ‘The Castles of Wales’. Both of these titles provide a clear indication of the nature and purpose of the tour.

In justifying the purpose of their proposed tour, learners should ensure that the title of the tour matches the proposed itinerary and covers an appropriate geographical area.
I drefnwyr teithiau, prif bwrpas unrhyw daith a gynigir fyddai gwneud elw. At hynny, dylai diben neu amcan y daith fod yn un o brif ystyriaethau'r broses gynllunio.

Yn aml, caiff diben taith ei nodi yn ei theitl, fel ‘Uchafbwyntiau'r Ucheldiroedd’ neu ‘Cestyll Cymru’. Mae'r ddau deitl hyn yn dangos yn glir beth yw natur a diben y daith dan sylw.

Wrth gyfiawnhau diben eu taith arfaethedig, dylai dysgwyr sicrhau bod teitl y daith yn cyfateb i'r amserlen teithio arfaethedig ac yn cwmpasu ardal ddaearyddol briodol.
Timescales Graddfeydd amser For commercial operations, tour itineraries are often planned a year or more in advance. Primarily, this is to ensure that proposed tours are featured in marketing publications and materials. Usually, contractual arrangements have been made before or when customers begin to make bookings for the tour.

The tour operator will need to closely monitor the amount of interest in each tour being promoted and decide whether additional marketing is required. The operator may need to consider cancelling the tour or offering customers alternatives if bookings are slow. Alternatively, a specific tour may sell out and customers might need to be offered alternatives.

At some point before the start of a tour, the operator will need to collect customer details and any additional needs requirements and pass these on to accommodation providers, attractions and coach operators if a coach is being contracted.
At ddibenion masnachol, caiff amserlenni teithio yn aml eu trefnu flwyddyn neu fwy ymlaen llaw. Y rheswm pennaf dros hyn yw er mwyn sicrhau bod teithiau arfaethedig yn cael eu cynnwys mewn cyhoeddiadau a deunyddiau marchnata. Fel arfer, bydd trefniadau o ran contract wedi cael eu gwneud cyn i gwsmeriaid ddechrau archebu lle ar y daith, neu ar yr un pryd.

Bydd angen i'r trefnydd teithiau fonitro'n agos faint o ddiddordeb sydd ym mhob taith sy'n cael ei hyrwyddo, a phenderfynu p'un a oes angen gwaith marchnata ychwanegol. Gall fod angen i'r trefnydd teithiau ystyried canslo'r daith neu gynnig dewisiadau amgen i'r cwsmeriaid os bydd y lleoedd yn araf yn cael eu gwerthu. Fel arall, gall pob lle ar daith benodol gael ei werthu a gallai fod angen cynnig dewisiadau amgen i'r cwsmeriaid.

Ar ryw adeg cyn i daith ddechrau, bydd angen i'r trefnydd gasglu manylion y cwsmeriaid a gwybodaeth am unrhyw ofynion neu anghenion ychwanegol, a rhannu'r rhain â'r darparwyr llety, yr atyniadau a'r cwmnïau bysiau os bydd bysiau'n cael eu defnyddio.
Geographic area Ardal ddaearyddol As indicated above, the choice of the geographic area is one of the most important considerations when devising a tour itinerary. Not many people want to spend several hours each day travelling on motorways! Therefore, distances from the starting point and pick-up points to the region on which the tour is focused need to be given careful consideration.

A longer journey on day 1, to reach the region in which the tour is focused, is to be expected. Thereafter, customers will expect to spend no longer than necessary on a coach, especially travelling on motorways. However, if the method of transport is rail or cruise liner, different considerations come into play.

Learners should study a range of tour itineraries offered by different operators to obtain a better understanding of the area and distances covered by the tours.
Fel y nodir uchod, yr ardal ddaearyddol a ddewisir yw un o'r ystyriaethau pwysicaf wrth lunio amserlen teithio. Nid oes llawer o bobl am dreulio sawl awr bob dydd yn teithio ar draffyrdd! Felly, bydd angen ystyried yn ofalus y pellteroedd o'r man cychwyn a'r mannau casglu i'r rhanbarth y mae'r daith yn canolbwyntio arno.

Disgwylir taith hwy ar y diwrnod cyntaf, er mwyn cyrraedd y rhanbarth y mae'r daith yn canolbwyntio arni. Felly, ni fydd y cwsmeriaid yn disgwyl treulio mwy o amser nag sy'n rhaid ar fws, yn enwedig yn teithio ar draffordd. Fodd bynnag, os mai trên neu long yw'r dull teithio, bydd ystyriaethau gwahanol yn berthnasol.

Dylai dysgwyr astudio amrywiaeth o amserlenni teithio a gynigir gan wahanol drefnwyr teithiau er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r ardal a'r pellteroedd a gwmpesir gan y teithiau.
Transport Trafnidiaeth The majority of UK tours are undertaken by coach. However, the coach can vary in size from 8 passengers to a double-decker carrying up to 70 people. The ‘standard’ coach tour would involve customers staying with the same coach for the duration of the tour.

Other forms of transport may be used within the tour itinerary. For example, a tour of London might include a river cruise on the Thames, or a tour of the Lake District might include a cruise on Lake Windermere. Alternatively, a heritage railway journey might be offered as an activity within a tour. Ferries might be used to visit Scottish islands or the Isle of Wight.

By no means are all tours of the UK by coach. It is possible to undertake a tour of the UK by cruise ship, stopping at major ports. Railway tours are also popular, either by travelling by scheduled rail routes or by heritage and scenic railways.
Caiff y rhan fwyaf o deithiau yn y DU eu gwneud ar fws. Fodd bynnag, gall y bws amrywio o ran maint o 8 teithiwr i fws deulawr sy'n cludo hyd at 70 o bobl. Ar daith fws ‘safonol’, byddai'r cwsmeriaid yn aros gyda'r un bws drwy gydol y daith.

Gellir defnyddio mathau eraill o gludiant yn yr amserlen teithio. Er enghraifft, gallai taith o gwmpas Llundain gynnwys taith ar hyd afon Tafwys neu gallai taith o gwmpas Ardal y Llynnoedd gynnwys taith ar Lyn Windermere. Fel arall, gallai taith ar reilffordd dreftadaeth gael ei chynnig fel gweithgaredd o fewn taith. Gellid defnyddio fferïau i ymweld ag Ucheldiroedd yr Alban neu Ynys Wyth.

Nid yw pob taith yn y DU yn daith ar fws o bell ffordd. Mae'n bosibl mynd ar daith o gwmpas y DU ar long, gan aros mewn porthladdoedd mawr. Mae teithiau rheilffordd hefyd yn boblogaidd, naill ai drwy deithio ar hyd llwybrau rheilffordd wedi'u trefnu neu ar reilffyrdd treftadaeth a golygfaol.
Legal Cyfreithiol All companies offering UK tours are required to obtain the necessary insurance cover and comply with current legislation. The Shearings website will provide links to the company’s trading charter, terms and conditions, etc.

The majority of companies offering UK tours do not offer flights as part of their package, so the insurance and compensation situation is different from outbound operators offering package holidays. Most of the companies offering UK tour itineraries will not have an ATOL licence, for example.

It is common practice for a tour operator to contract a coach company to hire a coach and driver for tours as an alternative to providing their own coaches. A clear contractual arrangement will need to be in place if this is the case. The same situation would apply to accommodation providers and attractions visited as part of the itinerary.
Mae'n ofynnol i bob cwmni sy'n cynnig teithiau yn y DU sicrhau'r yswiriant angenrheidiol a chydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol. Bydd gwefan SHEARINGS yn cynnwys dolenni i siarter masnachu'r cwmni, telerau ac amodau ac ati.

Nid yw'r rhan fwyaf o gwmnïau sy'n cynnig teithiau yn y DU yn cynnig hediadau fel rhan o'u pecyn, felly mae'r sefyllfa o ran yswiriant ac iawndal yn wahanol i drefnwyr teithiau tuag i mewn sy'n cynnig gwyliau pecyn. Nid fydd gan y rhan fwyaf o'r cwmnïau sy'n cynnig amserlenni teithio yn y DU drwydded ATOL, er enghraifft.

Mae'n arfer cyffredin i drefnydd teithiau ddyfarnu contract i gwmni bysiau ar gyfer llogi bws a gyrrwr ar gyfer teithiau yn hytrach na darparu eu bysiau eu hunain. Bydd angen rhoi trefniant cytundebol clir ar waith os bydd hyn yn digwydd. Byddai'r un sefyllfa'n berthnasol i ddarparwyr llety ac atyniadau yr ymwelir â nhw fel rhan o'r amserlen teithio.
Budget Cyllideb For any tour operated by a commercial organisation, the two main areas of expense are the costs of transport and accommodation. Added to this are the costs of marketing and administering the tour. If the tour is to be profitable, then the total income received from paying customers must exceed the costs.

Longer tours and luxury tours will have a larger initial budget than shorter, less-expensive tours.
Ar gyfer unrhyw daith a drefnir gan sefydliad masnachol, y ddau brif fath o wariant yw costau trafnidiaeth a llety. Mae costau marchnata a gweinyddu'r daith yn ychwanegol at hyn. Er mwyn i'r daith fod yn broffidiol, yna rhaid i gyfanswm yr incwm a geir gan y cwsmeriaid sy'n talu fod yn fwy na'r costau.

Bydd gan deithiau hwy a theithiau moethus gyllideb gychwynnol fwy na theithiau byrrach a rhatach.
Administration Gweinyddu As with any other type of holiday, an exciting tour with an interesting itinerary can be let down by poor administration. Elements of the administration of tours include:
  • processing payments made by customers
  • dealing with payments made to suppliers
  • handling seating and accommodation requirements
  • arranging for customers’ special requirements to be met
  • booking accommodation, attractions and activities.
Fel gydag unrhyw fath arall o wyliau, gall gweinyddu gwael ddifetha taith gyffrous sydd ag amserlen ddiddorol. Ymhlith yr elfennau sy'n gysylltiedig â gweinyddu teithiau mae:
  • prosesu taliadau a wneir gan y cwsmeriaid
  • ymdrin â thaliadau a wneir i gyflenwyr
  • mynd i'r afael â gofynion eistedd a llety
  • gwneud trefniadau i fodloni gofynion arbennig cwsmeriaid
  • trefnu llety, atyniadau a gweithgareddau.
Appropriate attractions and activities Atyniadau a gweithgareddau priodol In many destinations there are ‘must see’ attractions. Customers booking tours will often expect to see these iconic attractions on the itinerary. Because of this, it is often the case that popular attractions are inundated with tour coaches. It is becoming increasingly necessary for tour coaches to book a time slot when visiting popular attractions. In the same way, major cities are increasingly placing restrictions on the number of coaches which can enter central areas at any given time.

Apart from major attractions, tours will include visits to other attractions and activities which are appropriate for the client group. For example, when visiting a scenic area, older customers are more likely to take a brief stroll then spend time in the tearoom or souvenir shop. This is sometimes referred to as ‘a view and a loo’.

To make tours more appealing, operators may include some more ‘quirky’ options for activities. Half-day cycle rides, night-time graveyard tours and whisky tasting are just three examples of activities which may well add to the interest of tour itineraries.
Mewn llawer o gyrchfannau, mae atyniadau ‘y mae'n rhaid eu gweld’. Yn aml, bydd cwsmeriaid sy'n trefnu lleoedd ar deithiau yn disgwyl gweld yr atyniadau eiconig hyn ar yr amserlen teithio. Oherwydd hyn, bydd atyniadau poblogaidd yn aml yn orlawn o fysiau teithio. Mae'n mynd yn gynyddol angenrheidiol i fysiau teithio drefnu slot amser wrth ymweld ag atyniadau poblogaidd. Yn yr un modd, mae dinasoedd mawr yn gosod mwy a mwy o gyfyngiadau ar nifer y bysiau a all fynd i mewn i'r ardaloedd canolog ar unrhyw adeg.

Ar wahân i atyniadau poblogaidd, bydd teithiau'n cynnwys ymweliadau ag atyniadau eraill a gweithgareddau sy'n briodol i'r grŵp cleientiaid. Er enghraifft, wrth ymweld â golygfan, mae cwsmeriaid hŷn yn fwy tebygol o fynd am dro bach na threulio amser yn yr ystafell de neu siop cofroddion. Weithiau, y term Saesneg a ddefnyddir am hyn yw ‘a view and a loo’.

Er mwyn gwneud teithiau'n fwy deniadol, gall trefnwyr teithiau gynnwys rhai opsiynau mwy ‘anarferol’ ar gyfer gweithgareddau. Mae teithiau beic hanner diwrnod, teithiau mynwent gyda'r nos a blasu wisgi yn dair enghraifft yn unig o weithgareddau a all wneud amserlenni teithio yn fwy diddorol.
Accommodation Llety As discussed above, the choice of accommodation for a tour will depend primarily on the market segment the tour is aimed at. Customers booking luxury tours will expect luxury accommodation and those booking budget tours will expect budget accommodation. Some tours offer accommodation upgrades for a higher quality room.

The most common accommodation arrangement is a dinner, bed and breakfast arrangement. Tour itineraries will stipulate how many meals are included in the price and what additional meals customers have to budget for. Obviously, where accommodation is in more isolated locations, an evening meal will be expected to be provided. However, in city locations customers may prefer to go out for a meal to experience the nightlife of the city in which they are staying.
Fel y trafodir uchod, bydd y llety a ddewisir ar gyfer taith yn dibynnu'n bennaf ar y segment o'r farchnad y mae'r daith yn ei dargedu. Bydd pobl ar deithiau moethus yn disgwyl llety moethus a bydd pobl ar deithiau rhad yn disgwyl llety rhad. Bydd rhai teithiau'n cynnig uwchraddio'r llety er mwyn cael ystafell o safon well.

Y trefniant mwyaf cyffredin o ran llety yw pryd nos, gwely a brecwast. Bydd amserlenni teithio yn nodi sawl pryd bwyd sydd wedi'u cynnwys yn y pris a pha brydau ychwanegol y bydd angen i'r cwsmeriaid gyllidebu ar eu cyfer. Yn amlwg, lle bo'r llety mewn lleoliadau mwy anghysbell, bydd disgwyl i bryd nos gael ei ddarparu. Fodd bynnag, mewn dinasoedd, mae'n bosibl y bydd yn well gan gwsmeriaid fynd allan i fwyta er mwyn cael profiad o fywyd nos y ddinas y maent yn aros ynddi.
Guiding Tywys Guiding is often an overlooked component of tours. Professional guides who have detailed knowledge of the destinations being visited can add a great deal to the experience of the customer by providing interesting information at an appropriate level. Many guides speak two or more languages and can therefore meet the needs of inbound tourists.

In some cases, extended tours of the UK may employ the same guide for the duration of the tour. Alternatively, guides can be hired to give half-day or full-day tours of specific destinations.
Mae'r elfen dywys ar deithiau yn cael ei hanghofio'n aml. Gall tywyswyr proffesiynol sydd â gwybodaeth fanwl am y cyrchfannau yr ymwelir â nhw ychwanegu cryn dipyn at brofiad y cwsmer drwy rannu gwybodaeth ddiddorol ar lefel briodol. Bydd llawer o dywyswyr yn siarad dwy iaith neu fwy ac felly gallant ddiwallu anghenion twristiaid tuag i mewn.

Mewn rhai achosion, gall teithiau estynedig yn y DU gyflogi'r un tywysydd ar gyfer y daith gyfan. Fel arall, gellir llogi tywyswyr i gynnal teithiau hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn o gwmpas cyrchfannau penodol.
Structure of information Strwythur y wybodaeth The presentation should have a logical structure both in terms of the key elements involved in the management of the tour (namely planning, costing, etc.) and the itinerary of the tour, with sufficient information to give a flavour of the agenda for each day of the tour. Dylai'r cyflwyniad fod â strwythur rhesymegol o ran yr elfennau allweddol sy'n rhan o reoli'r daith (cynllunio, costau, ac ati) ac amserlen y daith, gan gynnwys digon o wybodaeth i roi blas o'r agenda ar gyfer pob diwrnod.
Use of appropriate images Defnyddio delweddau priodol The most appropriate images would be those of major attractions to be visited on the tour together with examples of activities to be undertaken. Y delweddau mwyaf priodol fyddai delweddau o atyniadau poblogaidd y bydd y daith yn ymweld â nhw, ynghyd ag enghreifftiau o weithgareddau i'w mwynhau.
Use of persuasive language Defnyddio iaith berswadiol It would be useful to study the language used to promote tours offered by commercial organisations. There should be sufficient factual information to illustrate the content of the itinerary, together with persuasive language to entice potential customers. Byddai'n ddefnyddiol astudio'r iaith a ddefnyddir i hyrwyddo teithiau a gynigir gan sefydliadau masnachol. Dylai fod digon o wybodaeth ffeithiol i egluro cynnwys yr amserlen teithio, ynghyd ag iaith ddarbwyllol i ddenu darpar gwsmeriaid.
Consideration of the target audience Ystyried y farchnad darged The target audience should be considered as the target market of the tour. The language used to promote a tour aimed at high-spending American tourist would be different from that aimed at a youth market and backpackers. Dylid ystyried y gynulleidfa darged fel marchnad darged y daith. Byddai'r iaith a ddefnyddir i hyrwyddo taith sydd wedi'i hanelu at dwristiaid o America sy'n gwario llawer o arian yn wahanol i'r hyn a ddefnyddir ar gyfer taith sydd wedi'i hanelu at farchnad pobl ifanc a heicwyr.
Purpose Pwrpas Apart from commercial considerations, the purpose of the itinerary should be to provide an interesting, informative and enjoyable experience for the client group.

Learners should demonstrate that they have a clear understanding of the purpose of the itinerary relating to the client group, the geographic area, the attractions visited, activities undertaken, any guiding provided and the chosen accommodation.
Ar wahân i ystyriaethau masnachol, bwriad yr amserlen teithio yw rhoi profiad diddorol, addysgol a dymunol i'r grŵp cleientiaid.

Dylai dysgwyr ddangos bod ganddynt ddealltwriaeth glir o bwrpas yr amserlen teithio sy'n gysylltiedig â'r grŵp cleientiaid, yr ardal ddaearyddol, yr atyniadau yr ymwelwyd â nhw a'r gweithgareddau y cymerwyd rhan ynddynt, unrhyw dywysu a roddwyd a'r llety a ddewiswyd.
Timescales Graddfeydd amser Learners should indicate that they understand the implications of significant timescales that operate before the actual tour takes place. Some reference to booking accommodation etc. and the marketing lead time should be made. Dylai dysgwyr ddangos eu bod yn deall goblygiadau amserlenni pwysig sy'n gweithredu cyn i'r daith ei hun ddechrau. Dylid cyfeirio rhywfaint at archebu llety ac ati, a'r amser a dreulir ar farchnata.
Geographic area Ardal ddaearyddol Learners should develop a tour around a geographic area which can be defined in terms of the title and purpose of the tour. For example, a ‘Highlights of the Welsh Borders’ tour should not include visits to Manchester or Sheffield. Dylai dysgwyr ddatblygu taith o amgylch ardal ddaearyddol y gellir ei diffinio o ran y teitl a diben y daith. Er enghraifft, ni ddylai taith 'Uchafbwyntiau Gororau Cymru' gynnwys ymweliadau i Fanceinion na Sheffield.
Transport Trafnidiaeth Transport for the tour could be by coach, cruise ship, train or possibly other forms of transport. More than one form or transport could be considered. Activities could involve boat trips or ferry crossings; internal flights could also be justified in some cases. Varied transport options could make the tour more enjoyable and interesting. Dylid gwneud trefniadau trafnidiaeth ar gyfer y daith gan ddefnyddio bws, llong mordaith, trên neu fathau eraill o drafnidiaeth o bosibl. Gellid ystyried mwy nag un math o drafnidiaeth. Gall gweithgareddau gynnwys tripiau ar gychod neu deithio fferi; gellid cyfiawnhau teithiau hedfan mewnol hefyd mewn rhai achosion. Gallai opsiynau trafnidiaeth amrywiol wneud y daith yn fwy pleserus a diddorol.
Legal Cyfreithiol Learners should show some awareness of the legal aspects involved in running a tour. This might include contractual arrangements and regulations relating to driver’s hours, etc. Dylai dysgwyr ddangos ymwybyddiaeth o'r agweddau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â threfnu taith. Gallai hyn gynnwys trefniadau cytundebol a rheoliadau sy'n ymwneud ag oriau gyrwyr ac ati.
Budget Cyllideb Some awareness of the major costs involved in setting up the tour should be demonstrated. Indicative costs of coach transport, accommodation costs and other items of expenditure should be referred to. Suggested prices charged to customers should also be explained and justified. Dylid dangos rhywfaint o ymwybyddiaeth o'r prif gostau sy'n gysylltiedig â threfnu'r daith. Dylid cyfeirio at gostau dangosol trafnidiaeth ar fws, costau llety ac eitemau gwariant eraill. Dylid esbonio a chyfiawnhau'r prisiau arfaethedig a godir ar gwsmeriaid hefyd.
Administration Gweinyddu Learners should demonstrate an awareness of the major areas of administration of the tour and justify why these are important. Dylai dysgwyr ddangos ymwybyddiaeth o brif feysydd gweinyddu'r daith a chyfiawnhau pam mae'r rhain yn bwysig.
Appropriate attractions and activities Atyniadau a gweithgareddau priodol Attractions visited and activities undertaken should match the anticipated needs and interests of the target client group for the tour. Each major attraction visited and activity undertaken on the tour should be justified. Dylai'r atyniadau yr ymwelir â nhw a'r gweithgareddau a wneir gyd-fynd ag anghenion a diddordebau a ragwelir y grŵp cleientiaid targed ar gyfer y daith. Dylid cyfiawnhau pob atyniad mawr yr ymwelir ag ef yn rhan o'r daith.
Accommodation Llety The learner should be able to justify the accommodation chosen for each night of the tour in terms of cost, board arrangements, location and suitability for the client group. Dylai'r dysgwr allu cyfiawnhau'r llety a ddewiswyd ar gyfer pob noson o'r daith o ran cost, trefniadau llety, lleoliad ac addasrwydd ar gyfer y grŵp cleientiaid.
Guiding Tywys Reference should be made to the guiding requirements for the tour with the number of specialist guides or other guides justified. Dylid cyfeirio at y gofynion tywys ar gyfer y daith gyda nifer y tywyswyr arbenigol neu dywyswyr eraill yn cael eu cyfiawnhau.