English Cymraeg

Key Terms – Unit 3

Termau Allweddol - Uned 3

Terms Termau Meaning Ystyr
Environmental Amgylcheddol External environmental pressures such as severe weather and climate change can have negative impacts on tourism destinations and organisations in the UK, e.g. floods and gale force winds. However, a heavy snowfall is likely to have a positive economic impact on mountainous areas such as the Scottish Highlands and Snowdonia. Also, an increase in temperature due to global warming might also attract more tourists to the UK. Gall pwysau amgylcheddol allanol fel tywydd difrifol a newid hinsawdd effeithio'n negyddol ar gyrchfannau a sefydliadau twristiaeth yn y DU, e.e. llifogydd a gwyntoedd tymhestlog. Fodd bynnag, mae cwymp eira trwm yn debygol o gael effaith economaidd gadarnhaol ar ardaloedd mynyddig Ucheldiroedd yr Alban ac Eryri. Gallai cynnydd mewn tymheredd oherwydd cynhesu byd-eang hefyd ddenu mwy o dwristiaid i'r DU.
Economic Economaidd People will not go on holiday if they cannot afford it. A recession, be it global or national, is likely to result in fewer tourists visiting the UK’s tourism destinations as they will have less disposable income. Other examples of external economic pressures include:
  • fuel costs
  • the economic climate
  • currency fluctuations
  • interest rates
  • new markets (e.g. India and China) and competition from other destinations
  • taxes – tourist tax, VAT, income tax
  • possible tariffs as a result of Brexit.
Learners need to know that external economic pressures can have positive as well as negative impacts on the UK’s tourism industry.
Ni fydd pobl yn mynd ar wyliau os na allant ei fforddio. Mae dirwasgiad, boed yn fyd-eang neu yn y DU, yn debygol o arwain at lai o dwristiaid yn ymweld â chyrchfannau a sefydliadau twristiaeth yn y DU gan y bydd ganddynt lai o incwm gwario. Mae enghreifftiau o bwysau economaidd allanol yn cynnwys:
  • costau tanwydd
  • yr hinsawdd economaidd
  • anwadaliadau arian cyfred
  • cyfraddau llog
  • marchnadoedd newydd (e.e. India a Tsieina) a chystadleuaeth o gyrchfannau eraill
  • trethi – treth twristiaid, TAW, treth incwm
  • tollau posibl o ganlyniad i Brexit.
Dylai dysgwyr wybod y gall pwysau economaidd allanol gael effeithiau cadarnhaol yn ogystal â rhai negyddol ar y diwydiant twristiaeth yn y DU.
Political Gwleidyddol Government legislation and changes in government policy can impact on the UK’s tourism industry. For example, the number of international students applying to study in the UK has decreased in recent years due to the tightening of visa requirements. In addition, one aim of Brexit is for the UK to have stronger border controls and less immigration.
The UK plays an active role overseas trying to contain and combat terrorist groups. This can result in extremists apportioning blame to the UK and committing violent acts which are likely to have negative, albeit short-lived, impacts on the UK’s tourism industry.
Examples of political external pressure can include:
  • legislation relating to things such as health and safety and greater protection for people who book travel and accommodation online
  • economic policy
  • foreign policy
Gall deddfwriaeth gan y llywodraeth a newidiadau i bolisi llywodraeth effeithio ar y diwydiant twristiaeth yn y DU. Er enghraifft, mae nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy'n ymgeisio i astudio yn y DU wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd bod y gofynion fisa wedi mynd yn fwy llym. Yn ychwanegol, un o amcanion Brexit ar gyfer y DU yw cael rheolaeth gryfach dros ffiniau a llai o fewnfudo.
Mae'r DU yn chwarae rhan weithredol dramor yn ceisio atal a gwrthsefyll grwpiau terfysgol. Gall hyn arwain at eithafwyr yn beio'r DU ac yn cyflawni gweithredoedd treisgar sy'n debygol o gael effaith negyddol, tymor byr ar ddiwydiant twristiaeth y DU.
Gall enghreifftiau o bwysau gwleidyddol allanol gynnwys:
  • deddfwriaeth sy'n gysylltiedig â phethau fel iechyd a diogelwch a gwell diogelwch ar gyfer pobl sy'n archebu teithiau a llety ar-lein
  • polisi economaidd
  • polisi tramor
Responses Ymatebion Responses by the UK’s tourism industry might include:
  • legislation
  • economic policy
  • increased security
  • marketing campaigns
  • reduced prices / special offers
Gallai ymatebion y diwydiant twristiaeth yn y DU gynnwys:
  • deddfwriaeth
  • polisi economaidd
  • cynnydd mewn diogelwch
  • ymgyrchoedd marchnata
  • gostwng prisiau / cynigion arbennig
Summary Crynodeb Learners need to know:
  • the range of external pressures on the UK’s tourism industry
  • the likely positive and negative impacts of external pressures on the UK’s tourism industry
  • how the UK’s tourism industry is likely to respond to different external pressures.
Dylai dysgwyr wybod:
  • am yr amrywiaeth o bwysau allanol ar y diwydiant twristiaeth yn y DU
  • beth yw'r effeithiau negyddol a chadarnhaol tebygol yn ymgodi o bwysau allanol ar y diwydiant twristiaeth yn y DU
  • sut mae'r diwydiant twristiaeth yn y DU yn debygol o ymateb i wahanol bwysau allanol.
Higher expectations Disgwyliadau uwch Generally, people have travelled far more than previous generations and have higher expectations with regard to the quality of the products and services provided by tourism organisations. The UK’s accommodation providers have improved their range of products and services significantly in response to customer expectations, e.g. en-suite rooms, non-smoking rooms, spas, fitness suites, etc. Yn gyffredinol, mae pobl wedi teithio ymhellach o lawer na chenedlaethau blaenorol ac mae ganddynt ddisgwyliadau uwch o ran ansawdd y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau twristiaeth. Mae darparwyr llety'r DU wedi gwella’u hystod o gynhyrchion a gwasanaethau yn sylweddol i ymateb i ddisgwyliadau cwsmeriaid, e.e. ystafelloedd en-suite, ystafelloedd dim ysmygu, sbâu, ystafelloedd ffitrwydd corfforol, ac ati.
Wide range of needs Amrywiaeth eang o anghenion Although different types of tourists have different needs (see Unit 1 AC1.1 for different types of tourists) most simply want to be satisfied with the products and services provided by the tourism organisation(s) they are using. For example, tourists booking a religious holiday might require:
  • visits to religious sites
  • specially prepared food (e.g. halal, kosher)
  • opportunities for worship.
Er bod gan wahanol fathau o dwristiaid wahanol anghenion (gweler Uned 1 MPA1.1 am wahanol fathau o dwristiaid), y cyfan mae’r rhan fwyaf eisiau yw teimlo'n fodlon ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir gan y sefydliad(au) twristiaeth maent yn eu defnyddio. Er enghraifft, efallai bydd twristiaid sy'n archebu gwyliau crefyddol eisiau:
  • ymweliadau i safleoedd crefyddol
  • bwyd wedi'i baratoi'n arbennig (e.e. halal, kosher)
  • cyfleoedd i addoli.
Equality / disability Cydraddoldeb / anabledd The Equality Act of 2010 gives disabled people right of access to products, facilities and services and ensures that they are treated no less favourably than other customers. This means that the UK’s tourism organisations must take positive steps to remove the barriers that disabled people might face.

The Equality Act 2010 also protects people in the workplace from discrimination on the grounds of age, gender, pregnancy, religion and race to name a few.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi hawliau mynediad i bobl anabl at gynhyrchion, cyfleusterau a gwasanaethau ac mae'n sicrhau nad ydynt yn cael eu yn trin yn llai ffafriol na chwsmeriaid eraill. Mae hyn yn golygu bod rhaid i sefydliadau twristiaeth yn y DU gymryd camau cadarn i gael gwared â'r rhwystrau y gallai pobl anabl eu hwynebu.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 hefyd yn diogelu pobl yn y gweithle rhag gwahaniaethu ar sail oedran, rhywedd, beichiogrwydd, crefydd a hil, i enwi ond rhai.
Changes in lifestyle Newidiadau mewn ffordd o fyw The term lifestyle can denote the interests, opinions and behaviours of an individual, group or culture. Today’s tourists have more disposable income than previous generations and are therefore able to travel further and more frequently. This allows tourists to pursue personal interests such as sport or wildlife.

Generally, people are more aware of a healthy lifestyle which has led to an increase in active and adventure holidays. People also have more knowledge and understanding of the environmental impacts of tourism, which can influence their choice of destination and organisation. Other lifestyle changes include age, use of technology and family structure.

The UK’s tourism industry needs to be aware of changing lifestyle in order to meet customer needs and expectations. For example, tour operators have had to adapt to younger children joining their grandparents on holidays, meaning they have had to include more activities for the younger children.
Gall y term ffordd o fyw ddynodi diddordebau, barn ac ymddygiadau unigolyn, grŵp, neu ddiwylliant. Mae gan dwristiaid heddiw fwy o incwm gwario na chenedlaethau blaenorol ac felly maent yn gallu teithio mwy ac ymhellach i ffwrdd. Mae hyn yn caniatáu i dwristiaid ddilyn eu diddordebau personol fel chwaraeon neu fywyd gwyllt.

Yn gyffredinol, mae pobl yn fwy ymwybodol o ffordd iach o fyw sydd wedi arwain at gynnydd mewn gwyliau antur. Mae gan bobl hefyd fwy o wybodaeth a dealltwriaeth o effeithiau amgylcheddol twristiaeth a gall hyn ddylanwadu ar eu dewis o gyrchfan a sefydliad. Gall newidiadau eraill i ffordd o fyw gynnwys oedran, defnydd o dechnoleg a strwythur teulu.

Mae'n rhaid i'r diwydiant twristiaeth yn y DU fod yn ymwybodol o'r newidiadau i ffyrdd o fyw er mwyn cwrdd ag anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid. Er enghraifft, mae trefnwyr teithiau wedi gorfod addasu i’r ffaith fod plant iau’n ymuno â'u teidiau a'u neiniau ar wyliau. Mae hyn yn golygu eu bod wedi gorfod cynnwys mwy o weithgareddau ar gyfer plant iau.
Working patterns Patrymau gweithio Working patterns in the UK have changed considerably over the last 50 years. Flexible working patterns have become more common as there are now more people working part-time and in casual employment. Many people also have a 4-6 weeks’ holiday entitlement. These changes in working patterns enable employees to take more time off to go on day trips, short breaks and/or take two or more holidays per year.

This means that UK tourism organisations, such as accommodation providers, need to provide the required products and services to meet the needs of peoples’ changing work patterns, e.g. short break offers, theatre breaks, all-inclusive holidays.
Mae patrymau gweithio yn y DU wedi newid yn sylweddol dros y 50 mlynedd diwethaf. Mae patrymau gweithio hyblyg wedi dod yn fwy cyffredin gan fod mwy o bobl bellach yn gweithio'n rhan-amser neu mewn cyflogaeth dros-dro. Mae gan lawer o bobl hefyd hawl i 4-6 wythnos o wyliau. Mae'r newidiadau hyn i batrymau gweithio yn galluogi gweithwyr i gymryd mwy o amser rhydd i fynd ar deithiau diwrnod, gwyliau byrion a/neu gymryd dau gyfnod neu fwy o wyliau'r flwyddyn.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i sefydliadau twristiaeth yn y DU fel darparwyr llety ddarparu'r cynhyrchion a'r gwasanaethau sy'n ofynnol i gwrdd ag anghenion patrymau gwaith newidiol pobl, e.e. cynigion gwyliau byrion, gwyliau theatr, gwyliau hollgynhwysol.
Technological developments Datblygiadau technolegol This is the development of anything technological that can be used within the UK’s tourism industry. Since the creation of the internet, ICT has developed dramatically – booking online, researching destinations and review websites. Tablets and smartphones are commonly used to find the best deals and are easy to use.

Since the 1960s, technology has developed hugely with new products such as check in systems at airports that are easier for customers to use, making their overall experience easier. Some of the most notable recent technological developments include:

  • the internet
  • call centres – used by tour operators and travel companies
  • digital and cable TV – outlets for selling travel products and service
  • self-check in – saves costs for travel companies and increases convenience for travellers by allowing them to check in their luggage themselves, choose their seat and print boarding passes.
Technological development has also shaped the travel sector of the UK’s tourism industry. Transport for tourism is constantly changing to meet customer demands for safer, faster, cleaner, more comfortable and affordable travel. UK examples of developments in transport technology include:
Air Travel – regional airports, Airbus A380 and Boeing 787 Dreamliner. Some UK airports, such as Manchester and Heathrow, are to be regenerated and/or expanded.
Rail Travel – Eurostar and High Speed 2 (HS2).
Road Travel – cleaner public transport (bus, tube, trams, taxis), motorways, bridges, traffic free zones, congestion charges.
Water Travel – narrow boats, cruise ships, taxis, ferries.
Mae hyn yn golygu datblygu unrhyw beth sy'n dechnolegol ac sydd wedi cael ei ddefnyddio neu y gall gael ei ddefnyddio yn y diwydiant twristiaeth yn y DU. Ers i'r rhyngrwyd gael ei dyfeisio, mae TGCh wedi datblygu'n ddramatig – archebu ar-lein, ymchwilio i gyrchfannau a gwefannau adolygiadau. Mae tabledi a ffonau clyfar yn cael eu defnyddio’n gyffredin i ddod o hyd i'r bargeinion gorau ac maent yn hawdd eu defnyddio.

Ers yr 1960au, mae technoleg wedi datblygu'n aruthrol gyda chynhyrchion newydd fel systemau cofrestru mewn meysydd awyr, sy'n haws i gwsmeriaid eu defnyddio, gan hwyluso'u profiad cyfan. Mae rhai o'r datblygiadau technolegol diweddar mwyaf nodedig yn cynnwys:

  • y rhyngrwyd
  • canolfannau galw – a ddefnyddir gan drefnwyr teithiau a chwmnïau teithio
  • teledu digidol a chebl – allfeydd ar gyfer gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau teithio
  • hunan-gofrestru – arbed costau ar gyfer cwmnïau teithio a gwella cyfleustra i deithwyr drwy eu caniatáu i gofrestru'u bagiau eu hunain, dewis eu sedd ac argraffu eu tocynnau.
Mae datblygiad technolegol hefyd wedi siapio'r sector teithio yn y diwydiant twristiaeth yn y DU. Mae cludiant ar gyfer trafnidiaeth yn newid yn barhaus i gwrdd â galwadau cwsmeriaid am deithio mwy diogel, cyflymach, glanach, mwy cysurus a fforddiadwy.Mae enghreifftiau o'r datblygiadau mewn technoleg cludiant yn y DU yn cynnwys:

Teithiau Awyr – meysydd awyr rhanbarthol, Airbus A380 a Boeing 787 Dreamliner. Mae cynlluniau ar y gweill i adfywio a/neu ehangu meysydd awyr yn y DU, fel Manceinion a Heathrow.
Teithio ar Drên – Eurostar a High Speed 2 (HS2).
Teithio ar Ffyrdd – cludiant cyhoeddus glanach (bws, rheilffordd danddaearol, tram, tacsi), traffyrdd, pontydd, parthau heb draffig, taliadau tagfeydd.
Teithio ar Ddŵr – badau cul, llongau mordeithio, tacsis, fferïau.
Ethical considerations Ystyriaethau moesegol Ethical tourism simply means tourism which benefits people and the environment in different destinations. All tourism has the potential to be more sustainable and could have the following characteristics: economic prosperity, social equality and environmental and cultural protection. People are now more aware of the negative impacts of tourism and climate change.
As a result of tourists’ greater awareness of ethical tourism, the UK’s tourism organisations have had to respond by implementing sustainable tourism practices. Examples include:
  • Green Tourism Scheme
  • Peak District Environmental Quality mark
Yn syml, mae twristiaeth foesegol  yn golygu twristiaeth  sydd o fudd i'r bobl a'r amgylchedd mewn gwahanol gyrchfannau. Mae gan bob math o dwristiaeth y potensial i fod yn fwy cynaliadwy a gallai ddangos y nodweddion canlynol: ffyniant economaidd, cydraddoldeb cymdeithasol a gwarchodaeth amgylcheddol a diwylliannol. Mae pobl heddiw yn fwy ymwybodol o effeithiau negyddol twristiaeth a newid hinsawdd.
O ganlyniad i'r cynnydd yn ymwybyddiaeth twristiaid o dwristiaeth foesegol bu'n rhaid i sefydliadau twristiaeth yn y DU ymateb drwy sefydlu arferion twristiaeth cynaliadwy. Dyma rai enghreifftiau:
  • Cynllun Twristiaeth Gwyrdd
  • Marc Safon Amgylcheddol Ardal y Peak
Environmental awareness Ymwybyddiaeth amgylcheddol Tourists are increasingly choosing holidays and other tourism activities which have a reduced negative impact on tourism destinations. For example, UK tourists may opt to holiday in the UK as there would be less travel which would mean a reduced carbon footprint. Other tourists might choose leisure activities within a tourism destination which are less likely to damage the environment, e.g. walking, kayaking and birdwatching.

Tourists’ increasing environmental knowledge and understanding has led to tourism organisations offering activities which have little or no negative impact on the local environment. This is reflected in the increase in tour operators offering environmentally friendly holidays.
Yn gynyddol aml, mae twristiaid yn dewis gwyliau a gweithgareddau twristiaeth eraill sy'n cael llai o effaith negyddol ar gyrchfannau twristiaeth. Er enghraifft, gallai twristiaid o'r DU ddewis treulio’u gwyliau yn y DU gan fyddai llai o deithio a byddai hyn yn lleihau'r ôl-troed carbon. Gallai twristiaid eraill ddewis gweithgareddau hamdden mewn cyrchfan twristiaeth sy'n llai tebygol o niweidio'r amgylchedd, e.e. cerdded, caiacio a gwylio adar.

O ganlyniad i'r cynnydd yng ngwybodaeth a dealltwriaeth amgylcheddol twristiaid, mae'r sefydliadau twristiaeth wedi dechrau cynnig gweithgareddau sydd ag ychydig neu ddim effaith negyddol ar yr amgylchedd lleol. Adlewyrchir hyn yn y ffaith bod mwy o drefnwyr teithiau'n cynnig gwyliau ecogyfeillgar.
New activities Gweithgareddau newydd Tourism destinations and organisations are always looking for new activities which might attract more tourists or a new market. The introduction of Zip World in North Wales has met the needs and expectations of tourists who are seeking adventure and more exciting activities. The Brecon Beacons National Park now offers stargazing nights for those interested in astronomy. Mae cyrchfannau a sefydliadau twristiaeth yn chwilio'n barhaus am weithgareddau newydd a allai ddenu mwy o dwristiaid neu farchnad newydd. Mae cyflwyno Zip World yng Ngogledd Cymru wedi cwrdd ag anghenion a disgwyliadau'r twristiaid hynny sy'n chwilio am antur a gweithgareddau mwy cyffrous. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog bellach yn cynnig nosweithiau syllu ar y sêr ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn seryddiaeth.
Airlines / airports Cwmnïau awyrennau / meysydd awyr Technological developments have shaped the travel sector of the world’s tourism industry. Transport for tourism is constantly changing to meet customer demands for safer, faster, cleaner, more comfortable and affordable travel. Examples of developments in transport technology include:

Air Travel – many of the world’s major airports are being refurbished and/or expanded to cater for more passengers and their changing needs and expectations. Examples include Dubai’s Al Maktoum International Airport, Amsterdam’s Schiphol Airport, Mexico City International Airport and Manchester Airport’s £1 billion expansion. New planes have been introduced in response to rising demand, e.g. Airbus A380 and Boeing 787 Dreamliner.
Mae datblygiadau technolegol wedi siapio'r sector teithio yn niwydiant twristiaeth y byd. Mae cludiant ar gyfer trafnidiaeth yn newid yn barhaus i gwrdd â galwadau cwsmeriaid am deithio mwy diogel, cyflymach, glanach, mwy cysurus a fforddiadwy.Mae enghreifftiau o'r datblygiadau mewn technoleg cludiant yn cynnwys:

Teithiau Awyr – mae llawer o brif feysydd awyr y byd yn cael eu hadnewyddu a/neu eu hehangu i ddarparu ar gyfer mwy o deithwyr a'u hanghenion a’u disgwyliadau newidiol. Ymysg yr enghreifftiau mae Maes Awyr Rhyngwladol Al Maktoum yn Dubai, Maes Awyr Schiphol yn Amsterdam, Maes Awyr Rhyngwladol Ciudad de México a'r ehangiad £1 biliwn ym Maes Awyr Manceinion. Mae awyrennau newydd yn cael eu cyflwyno mewn ymateb i'r cynnydd mewn galw, e.e. Airbus A380 a Boeing 787 Dreamliner.
Roads Ffyrdd New road projects continue throughout the world as road travel is such a popular choice for many tourists, and many destinations can only be accessed by road. In the UK the M8, M73 and M74 improvements in Scotland is the largest UK road construction project in recent years. India is improving its road networks throughout the country, and the Interoceanic Highway between Peru and Brazil has provided tourists with an alternative way of travelling through this area of South America.

Bridges – the Oresund Bridge, which is a combined railway and motorway bridge across the Oresund strait between Sweden and Denmark, has made it easier for people to travel between the two countries. Other examples include the Hong Kong – Zhuhai-Macau Bridge, the Port Mann Bridge in Vancouver and the Millau Viaduct in France.
Mae projectau ffyrdd newydd yn mynd rhagddynt drwy'r holl fyd gan fod teithio ar y ffyrdd yn ddewis mor boblogaidd gan lawer o dwristiaid ac mae rhai cyrchfannau y gellir eu cyrchu ar ffyrdd yn unig. Y project adeiladu ffyrdd mwyaf yn y DU yn y blynyddoedd diwethaf yw'r gwelliannau i'r M8, M73 a'r M74 yn yr Alban. Mae India yn gwella ei rhwydweithiau ffyrdd ledled y wlad ac mae'r Briffordd Ryng-gefnforol rhwng Periw a Brasil wedi rhoi ffordd wahanol o deithio i dwristiaid yn y rhan hon o Dde America.

Pontydd – mae Pont Oresund, sydd yn bont rheilffordd a thraffordd gyfunol ar draws culfor Oresund rhwng Sweden a Denmarc, wedi hwyluso teithio i bobl rhwng y ddwy wlad. Ymysg yr enghreifftiau eraill mae Pont Hong Kong – Zhuhai-Macau, Pont Port Mann yn Vancouver a Thraphont Millau yn Ffrainc.
Rail / Metro / Trams Trên / Metro / Tramiau Rail projects throughout the world are providing alternative routes for the ever-increasing number of tourists. Some tourism destinations see rail, metro and tram as possible solutions to congested roads and high CO2 pollution levels. Examples of such developments include the Melbourne Metro Tunnel, Kenya’s Standard Gauge Railway, Eurostar, the Channel Tunnel, Crossrail UK, Berlin’s U-Bahn, China’s CRH and Switzerland’s Gotthard Base Tunnel which is 35 miles long and is the longest and deepest train tunnel in the world and will offer quick and easy access through the Alps. Mae projectau rheilffordd ledled y byd yn cynnig llwybrau gwahanol ar gyfer y nifer fythol gynyddol o dwristiaid. Mae rhai cyrchfannau twristiaeth yn ystyried y trên, metro a'r tram i fod yn atebion posibl i ffyrdd gorlawn a'r lefelau uchel o lygredd CO2. Ymysg yr enghreifftiau o ddatblygiadau o'r fath mae Twnnel Metro Melbourne, Lled Rheilffordd Safonol Kenya, Eurostar, Twnnel y Sianel, Crossrail UK, U-Bahn Berlin, CRH Tsieina a'r Gotthard Base Tunnel 35 milltir o hyd yn y Swistir, sef y twnnel hiraf a dyfnaf yn y byd, a fydd yn cynnig ffordd hawdd a chyflym drwy'r Alpau.
Water Dŵr The increasing popularity of cruise holidays has led to cruise ships getting bigger and bigger. Royal Caribbean’s Harmony of the Seas cruise ships can accommodate nearly 5,500 passengers along with 2,100 crew members. Modern cruise ships provide a wide range of facilities for their passengers. Facilities can include libraries, water slides, mini golf, gaming arcades, cinemas, fitness suites, bars and restaurants. River cruises within Europe have also increased in popularity.

Construction projects like the modernisation of the Panama Canal will allow some cruise ships to pass through the wider locks.
There is also a range of ferries, water buses and water taxis which enable tourists to travel to and within destinations. Sydney harbour offers more than 25 ferries to different destinations such as Manly and Watson Bay. In countries such as the UK and France, there is a range of water transport along the rivers and canals.
Mae poblogrwydd cynyddol gwyliau mordaith yn golygu bod llongau mordeithio yn cynyddu mewn maint. Mae lle yn llongau mordeithio Harmony of the Seas Royal Caribbean i bron 5,500 o deithiwr ynghyd â 2,100 aelod criw. Mae llongau mordeithio modern yn darparu amrywiaeth eang o gyfleusterau ar gyfer eu teithwyr. Gall cyfleusterau gynnwys llyfrgelloedd, llithrennau dŵr, mini golff, arcedau hapchwarae, sinemâu, ystafelloedd ffitrwydd corfforol, bariau a bwytai. Mae poblogrwydd mordeithiau ar afonydd yn Ewrop hefyd wedi cynyddu.

Bydd projectau adeiladu fel moderneiddio Camlas Panama yn caniatáu i rai llongau mordeithio fynd drwy lociau mwy llydan.
Mae yna hefyd amrywiaeth o fferïau, bysiau dŵr a thacsis dŵr sy'n galluogi twristiaid i deithio i gyrchfannau ac o'u mewn. Mae harbwr Sydney yn cynnig mwy na 25 o fferïau i wahanol gyrchfannau fel Manly a Watson Bay. Mewn gwledydd fel y DU a Ffrainc, mae yna amrywiaeth o gludiant dŵr ar hyd yr afonydd a'r camlesi.
Impacts Effeithiau The Manchester and Heathrow airport expansions and other transport development projects can provide good case studies. Gall yr ehangiadau i feysydd awyr Manceinion a Heathrow a phrojectau datblygu trafnidiaeth eraill ddarparu astudiaethau achos da.
Economic Economaidd Developments in transport technology are likely to result in more tourists being able to visit the UK and its tourism destinations and organisations. The positive economic impacts will include:
  • job creation
  • an increase in foreign currency earnings
  • an increase in income, profit and turnover for local businesses and the UK as a whole
  • an increase in government revenue through various taxes.
Negative economic impacts could include the short- and long-term costs of transport development and construction.
Mae datblygiadau technoleg cludiant yn debygol o ganiatáu i fwy o dwristiaid ymweld â'r DU a'i chyrchfannau a'i sefydliadau twristiaeth. Bydd yr effeithiau economaidd cadarnhaol yn cynnwys:
  • creu swyddi
  • cynnydd mewn enillion arian tramor
  • cynnydd mewn incwm, elw a throsiant ar gyfer busnesau lleol a'r DU yn ei chyfanrwydd
  • cynnydd mewn refeniw i'r llywodraeth trwy amrywiol drethi.
Gallai'r effeithiau economaidd negyddol gynnwys y costau tymor byr a hir wrth adeiladu a datblygu cludiant.
Environmental Amgylcheddol Although the following environmental impacts are generic, they can still be applied to different transport development projects.

Positive environmental impacts might include:
  • the regeneration of an area
  • the refurbishment/modernisation of an existing facility such as a rail station, motorway or airport.
Negative environmental impacts might include:
  • the loss of habitat and SSSI sites
  • damage to flora and fauna
  • an increase in pollution levels – water, land and air.
Er bod yr effeithiau amgylcheddol yn rhai generig, gellir eu cymhwyso o hyd at wahanol brojectau datblygu cludiant.

Gallai'r effeithiau amgylcheddol cadarnhaol gynnwys:
  • adfywio ardal
  • adnewyddu/moderneiddio cyfleuster presennol fel gorsaf drenau, traffordd neu faes awyr.
Gallai'r effeithiau amgylcheddol negyddol gynnwys:
  • colli cynefin a safleoedd SoDdGA
  • difrod i fflora a ffawna
  • cynnydd mewn lefelau llygredd – dŵr, tir ac aer.
Social Cymdeithasol Major projects can have positive and negative social impacts.

Negative social impacts might include:
  • the destruction of peoples’ homes – displacement
  • an increase in traffic congestion/parking problems.
Positive social impacts might include:
  • compensation schemes for householders
  • the protection of historical buildings, with archaeologists being permitted to access construction areas which might reveal artefacts of interest and importance
  • improved infrastructure for communities, such as new roads, shops, schools and health centres.
Gall projectau mawr arwain at effeithiau cymdeithasol cadarnhaol a negyddol.

Gallai'r effeithiau cymdeithasol negyddol gynnwys:
  • dinistrio cartrefi pobl – dadleoli
  • cynnydd mewn tagfeydd trafnidiaeth/problemau parcio.
Gallai'r effeithiau cymdeithasol cadarnhaol gynnwys:
  • cynlluniau digolledu ar gyfer deiliaid tai
  • diogelu adeiladau hanesyddol, gydag archaeolegwyr yn cael caniatâd i fynd i ardaloedd adeiladu a allai ddatgelu arteffactau o ddiddordeb a phwysigrwydd
  • gwell seilwaith ar gyfer cymunedau fel ffyrdd, siopau, ysgolion a chanolfannau iechyd newydd.
Global Distribution Systems (GDS) Systemau Dosbarthu Byd-eang (GDS) A global distribution system (GDS) is a network operated by a company that enables automated transactions between travel service providers (mainly airlines, hotels and car rental companies) and travel agencies. These businesses can access scheduling and inventory of hotels, airlines, car rentals, and railway and bus reservations in real time. Major GDS networks include Amadeus, Sabre and Travelport.

Independent travel agents, online agents, and travel agencies now use increasingly sophisticated GDS systems to search for the best available travel and accommodation rates for their clients. Agents will make airline and hotel reservations (in real time) for clients, and they will complete their research and bookings within minutes.

Promotional messaging to agents through GDS alerts agents to special rates, fares, and travel packages – an effective marketing tool for passing savings on to agents, and from agents to their customers.

GDS systems also support high traffic portal travel sites like Booking.com, Travelocity or Trip Advisor.
Mae  system ddosbarthu fyd-eang (GDS) yn rhwydwaith a weithredir gan gwmni sy'n galluogi trafodion wedi'u hawtomeiddio rhwng darparwyr gwasanaethau teithio (cwmnïau hedfan, gwestai a chwmnïau rhentu ceir yn bennaf) ac asiantaethau teithio. Gall y busnesau hyn gyrchu amserlenni a rhestri eiddo gwestai, cwmnïau hedfan, llogi ceir, a bwciadau trenau a bysiau mewn amser real. Mae’r rhwydweithiau GDS blaenllaw yn cynnwys Amadeus, Sabre a Travelport.

Bellach mae asiantaethau teithio, asiantiaid ar-lein, a threfnwyr teithiau annibynnol yn defnyddio systemau GDS sy'n gynyddol soffistigedig i chwilio am y cyfraddau teithio a llety sydd ar gael ar gyfer eu cleientiaid. Bydd asiantiaid yn gwneud archebion cwmnïau hedfan a gwestai (mewn amser real) ar ran eu cleientiaid a byddant yn cwblhau eu hymchwil a'u bwciadau mewn munud neu ddwy.

Negeseuon hyrwyddol i asiantiaid trwy gyfryngau rhybuddio GDS am gyfraddau arbennig, prisiau, a phecynnau teithio – teclyn marchnata effeithiol ar gyfer trosglwyddo arbedion i asiantiaid, ac oddi wrth asiantiaid i'w cwsmeriaid.

Mae systemau GDS hefyd yn cynnal safleoedd teithio pyrth traffig uchel fel  Booking.com, Travelocity neu Trip Advisor.
Databases Cronfeydd data Databases used by the tourism industry may vary from simple customer databases used by small hotels and guest houses to huge databases used by the likes of Thomson Holidays (TUI). Useful databases also include the wide range of statistics produced by organisations such as VisitBritain and the Office for National Statistics.

Customer databases and tourism statistics help tourism organisations such as hotels and tour operators market their products, target customers (database marketing) and plan for the future. The more tourism organisations know about their customers, the more precise and effective their marketing becomes.

Some tourism experts believe information is the lifeblood of tourism!
Gall y cronfeydd data a ddefnyddir gan y diwydiant twristiaeth amrywio o gronfeydd data cwsmeriaid syml a ddefnyddir gan wahanol fathau o westai bach i gronfeydd data anferth a ddefnyddir gan gwmnïau fel Thomson Holidays (TUI). Mae cronfeydd data defnyddiol hefyd yn cynnwys yr amrywiaeth eang o ystadegau a gynhyrchir gan sefydliadau fel VisitBritain a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae cronfeydd data cwsmeriaid ac ystadegau twristiaeth yn helpu sefydliadau twristiaeth fel gwestai a threfnwyr teithiau i farchnata'u cynhyrchion, i dargedu cwsmeriaid (marchnata cronfeydd data) a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Mwyaf oll mae sefydliadau twristiaeth yn gwybod am eu cwsmeriaid, mwyaf cywir ac effeithiol mae eu marchnata.

Mae rhai arbenigwyr twristiaeth yn credu mai gwybodaeth yw enaid twristiaeth!
Online bookings and payments Archebion a thaliadau ar-lein There are many different online booking systems, such as Rezgo and Trekksoft, which offer secure and quick payment systems. Modern and efficient online booking systems are compatible with tablets, PCs and mobile phones.

Nearly 60% of travellers book their travel online. If tourism organisations do not offer customers the ability to book holidays or activities in real-time, they will miss out on valuable bookings.

Some online booking systems also help tourism organisations with direct marketing and promotions.
Mae llawer o wahanol systemau archebu ar-lein fel Rezgo a Trekksoft sy'n cynnig systemau taliadau diogel a chyflym. Mae systemau archebu ar-lein modern ac effeithlon yn gydnaws â thabledi, cyfrifiaduron a ffonau symudol.

Mae bron 60% o deithwyr yn archebu eu teithiau ar-lein. Os na all sefydliadau twristiaeth gynnig y cyfle i'w cwsmeriaid archebu gwyliau neu weithgareddau mewn amser real, byddant yn colli archebion gwerthfawr.

Mae rhai systemau archebu ar-lein hefyd yn helpu sefydliadau twristiaeth gyda marchnata uniongyrchol a digwyddiadau hyrwyddo.
Websites Gwefannau Websites provide a wealth of information and images for customers who are interested in making a booking or visiting a destination and its attractions. In recent years, some websites have become more sophisticated as they target specific tourist types and try to build on their online relationship with these customers. For example, some websites are using local people to help sell their destination with local stories and experiences. Websites that have had good reviews include:Informative and interesting websites can help to attract more visitors and customers to tourism destinations and organisations. Mae gwefannau'n darparu cyfoeth o wybodaeth a delweddau i gwsmeriaid sydd â diddordeb mewn archebu neu ymweld â chyrchfan a'i atyniadau. Yn y blynyddoedd diweddar, mae rhai gwefannau wedi dod yn fwy soffistigedig gan eu bod yn targedu mathau penodol o dwristiaid ac yn ceisio datblygu perthynas ar-lein â'r cwsmeriaid hyn. Er enghraifft, mae rhai gwefannau'n defnyddio pobl leol i'w helpu i werthu eu cyrchfan gyda storïau a phrofiadau lleol. Mae'r gwefannau sydd ag adolygiadau da yn cynnwys:Gall gwefannau addysgiadol sy'n llawn gwybodaeth helpu i ddenu mwy o dwristiaid a chwsmeriaid at gyrchfannau twristiaeth ac at sefydliadau twristiaeth.
Feedback Adborth The global tourism industry is very competitive. Tourism organisations may have wonderful websites selling amazing products at a price that customers want, but so do their competitors. Reviews collected by businesses such as Feefo can help to generate more potential customers to tourism organisations. This can help to increase customer/visitor numbers and increase sales and profits. Reviews and ratings from customers will also influence other customers and help tourism organisations improve their products and services and plan for the future. Perhaps the best-known review website is Tripadvisor. Mae'r diwydiant twristiaeth byd-eang yn gystadleuol iawn. Mae'n ddigon posibl y bydd gan sefydliadau twristiaeth wefan wych sy'n gwerthu cynhyrchion anhygoel am bris sy'n ddeniadol i'r cwsmer, ond bydd eu cystadleuwyr yn cynnig yr un peth yn union. Gall adolygiadau a gesglir gan fusnesau fel Feefo helpu i gynhyrchu mwy o ddarpar gwsmeriaid ar gyfer sefydliadau twristiaeth. Gall hyn helpu i gynyddu niferodd y cwsmeriaid/twristiaid a chynyddu gwerthiant ac elw. Bydd adolygiadau a graddau gan gwsmeriaid hefyd yn dylanwadu ar gwsmeriaid eraill ac yn helpu sefydliadau twristiaeth i wella'u cynhyrchion a'u gwasanaethau ac i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Yn ôl pob tebyg y wefan adolygu fwyaf enwog yw TripAdvisor.
Ticketless travel Teithio heb docynnau Some airlines offer ticketless travel which means a booking has been made online and the passenger is only required to present a passport and booking reference number. However, many airlines still require a printed boarding pass. Ticketless travel can be seen as more efficient as less paper is involved for transport organisations. Mae rhai cwmnïau hedfan yn cynnig teithio heb docynnau sy'n golygu bod archeb wedi ei wneud ar-lein a'r cyfan sydd rhaid i'r teithiwr ei wneud yw cyflwyno pasbort a rhif cyfeirnod yr archeb. Fodd bynnag, mae llawer o gwmnïau hedfan yn dal i ofyn am docyn wedi'i argraffu. Gellir ystyried bod teithio heb docynnau yn fwy effeithlon gan fod llai o bapur ynghlwm i'r sefydliadau cludiant.
Apps Apiau Apps are playing an increasingly important role in the tourism industry. The days of guidebooks, maps, and other printed material have largely been replaced by apps. Tasks such as making bookings and gathering information have become automated, saving time and money for customers and the tourism industry. The relationship between travel and technology is getting closer, and tourism businesses need to adapt to this new technological shift and make sure they are able to reach their customers in the mobile environment and become an active part of their digital lives. These apps are most commonly used for searching for a hotels and restaurants and making bookings, maps, flight deals and check-ins prior to a flight. Mae apiau yn chwarae rhan sy'n gynyddol bwysig yn y diwydiant twristiaeth. Mae dydd y llyfrau teithio, mapiau a deunydd argraffedig arall wedi cael ei ddisodli i raddau helaeth gan apiau. Bellach mae tasgau fel archebu a chasglu gwybodaeth wedi cael eu hawtomeiddio, gan arbed amser ac arian i gwsmeriaid ac i'r diwydiant twristiaeth. Mae'r berthynas rhwng teithio a thechnoleg yn agosáu ac mae'n rhaid i fusnesau twristiaeth addasu i'r newid technolegol hwn a sicrhau eu bod yn gallu cyrraedd eu cwsmeriaid yn yr amgylchedd symudol a dod yn rhan weithredol o'u bywydau digidol. Defnyddir yr apiau hyn gan bennaf i chwilio am westai a bwytai ac i wneud archebion, gweld mapiau, bargeinion hedfan ac i gofrestru cyn hedfan.
Social media Cyfryngau cymdeithasol Social media has made a huge impact on the tourism industry. Customers use social networking sites to carry out research, make informed decisions about their destination choice and transport options and share their personal experiences of a particular hotel, restaurant or airline. TripAdvisor is one of the major players with over 50 million monthly visitors.

This style of user-generated content is seen by the online community as more credible and authentic, and for many hotels, restaurants and visitor attractions, if they are not highly rated, they are losing out to their competitors. Facebook has nearly 2 billion active users posting updates and sharing images.

Areas in which social media has influenced the tourism industry include:
  • travel research
  • social sharing
  • improved customer service.
Mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi cael effaith anferth ar y diwydiant twristiaeth. Mae cwsmeriaid yn defnyddio rhwydweithio cymdeithasol i gynnal ymchwil, i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dewis o gyrchfan a'u dewisiadau cludiant, ac i rannu eu profiadau personol o westy, bwyty neu gwmni hedfan penodol. Mae TripAdvisor yn un o'r prif gwmnïau gyda dros 50 miliwn o dwristiaid yn fisol.

Mae'r gymuned ar-lein yn ystyried bod y math hwn o gynnwys, a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, yn fwy credadwy a dilys, ac ar gyfer llawer o westai, bwytai ac atyniadau i dwristiaid, os nad ydynt yn cael graddau uchel, maent yn colli allan mewn perthynas â'u cystadleuwyr. Mae gan Facebook bron 2 biliwn o ddefnyddwyr gweithredol sy'n postio diweddariadau ac yn rhannu delweddau.

Mae meysydd lle mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi dylanwadu ar y diwydiant twristiaeth yn cynnwys:
  • ymchwil teithio
  • rhannu cymdeithasol
  • gwell gwasanaeth cwsmeriaid.
Apple watches and similar Apple Watch a dyfeisiau tebyg The current Apple Watches are wrist computers, but they do have limitations as they don’t have a keyboard and you can’t browse the internet – the screen is too small. However, owners of an Apple Watch can make payments, check emails, get directions and use Apple Watch Apps. Mae'r Apple Watches cyfredol yn gyfrifiaduron arddwrn ond mae iddynt eu cyfyngiadau gan nad oes ganddynt fysellfwrdd ac ni allwch bori'r rhyngrwyd – mae'r sgrin yn rhy fach. Fodd bynnag, gall perchenogion Apple Watch wneud taliadau, gwirio e-byst, cael cyfarwyddiadau teithio a defnyddio Apiau Apple Watch.
Introduction – Objectives, roles and tourism organisations Cyflwyniad – Amcanion, rolau a sefydliadau twristiaeth Before studying the strategies used to manage important heritage sites and sensitive tourism destinations (ACs 31. And 3.2) it is worth exploring the key tourism organisations and their objectives.

Governments and their departments (e.g. DCMS, Treasury, Transport), and National Tourism Organisations (e.g. VisitScotland). The VisitBritain website explains the structure of tourism in Britain. Objectives are likely to relate to the following:
  • environment
  • marketing
  • economy
  • research and funding (grants)
  • politics – enhanced image, identity and reputation.
Local authorities, regional organisations and Destination Management Organisations (DMOs – e.g. Visit Somerset) and Destination Management Companies. Objectives are likely to include:
  • control of planning and land use regulations
  • local infrastructure development
  • localised marketing – e.g. events
  • visitor management.
International agencies, such as UNESCO and UNWTO, and NGOs. Objectives are likely to include:
  • research and funding of tourism projects
  • staff expertise/guidance for tourism projects
  • tourism education for local communities
  • promoting awareness of environmental, economic, political and social issues/impacts.
Commercial organisations (private sector) such as tour operators, travel agents, accommodation providers and transport organisations – local, national and international. Objectives are likely to include:
  • the selection and marketing of destinations
  • the designing and selling of holiday packages
  • promoting tourism businesses
  • maximising profits.
The ultimate aim of managing tourism destinations is to minimise the negative impacts of tourism activities and maximise the positive impacts.
Cyn astudio'r strategaethau a ddefnyddir i reoli safleoedd treftadaeth pwysig a chyrchfannau twristiaeth diwylliannol sensitif (MPA 3.1. a 3.2) mae'n werth archwilio'r sefydliadau twristiaeth allweddol a'u hamcanion.

Llywodraethau a'u hadrannau (e.e. Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon [DCMS], y Trysorlys, Cludiant), Sefydliadau Twristiaeth Cenedlaethol (e.e. VisitScotland). Mae gwefan VisitBritain yn esbonio strwythur twristiaeth ym Mhrydain. Mae amcanion yn debygol o ymwneud â'r canlynol:
  • yr amgylchedd
  • marchnata
  • economi
  • ymchwil a chyllid (grantiau)
  • gwleidyddiaeth – gwell delwedd, hunaniaeth ac enw da.
Awdurdodau lleol, sefydliadau rhanbarthol a Sefydliadau Rheoli Cyrchfannau (SMOs – e.e. Visit Somerset) a Chwmnïau Rheoli Cyrchfannau. Mae'r amcanion yn debygol o gynnwys:
  • rheoli cynllunio a rheoliadau defnydd tir
  • datblygu seilwaith lleol
  • marchnata lleoledig, e.e. digwyddiadau
  • rheoli ymwelwyr.
Asiantaethau rhyngwladol fel UNESCO ac UNWTO a NGOs. Mae'r amcanion yn debygol o gynnwys:
  • ymchwil a chyllid ar gyfer projectau twristiaeth
  • arbenigedd staff/canllawiau ar gyfer projectau twristiaeth
  • addysg twristiaeth ar gyfer cymunedau lleol
  • hybu ymwybyddiaeth o faterion/effeithiau amgylcheddol, economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol.
Sefydliadau masnachol (sector preifat) fel trefnwyr teithiau, asiantaethau teithio, darparwyr llety a sefydliadau cludiant – lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'r amcanion yn debygol o gynnwys:
  • dewis a marchnata cyrchfannau
  • dylunio a gwerthu pecynnau gwyliau
  • hybu busnesau twristiaeth
  • uchafu elw.
Y nod delfrydol o ran rheoli cyrchfannau twristiaeth yw lleihau effeithiau negyddol gweithgareddau twristiaeth ac uchafu'r effeithiau cadarnhaol.
Education Addysg There are number of ways that education can be used to help manage heritage and cultural attractions. Examples include:
  • signs within attractions
  • websites and apps
  • tourist information centres
  • leaflets
  • www.responsibletravel.com – the travel guides are an excellent education resource
  • tv programmes
  • tour operator brochures, websites
  • guides/wardens
  • pressure groups such as Tourism Concern.
Mae yna nifer o ffyrdd y gellir defnyddio addysg i helpu i reoli atyniadau treftadaeth a diwylliannol. Dyma rai enghreifftiau:
  • arwyddion o fewn atyniadau
  • gwefannau ac apiau
  • canolfannau croeso
  • taflenni
  • www.responsibletravel.com – mae'r canllawiau teithio yn adnodd addysg rhagorol
  • rhaglenni teledu
  • llyfrynnau, gwefannau trefnwyr teithiau
  • tywyswyr/wardeniaid
  • carfannau pwyso fel Tourism Concern.
Signage Arwyddion Signs can be effective in educating and guiding tourists. Signs used for walks and trails can be informative and can keep tourists on paths, which helps to protect flora and fauna. Signs such as ‘do not feed the animals’ are simple but effective. Signs are often seen in National Trust and National Park areas. Gall arwyddion fod yn effeithiol wrth addysgu a thywys twristiaid. Gall arwyddion a ddefnyddir ar gyfer teithiau cerdded a llwybrau fod yn addysgiadol ynghyd â chadw twristiaid ar y llwybrau, sy'n helpu i ddiogelu fflora a ffawna. Mae arwyddion fel ‘peidiwch â bwydo'r anifeiliaid’ yn syml ond yn effeithiol. Gwelir arwyddion yn aml yn ardaloedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Pharciau Cenedlaethol.
Visitor management Rheoli ymwelwyr There is a range of visitor management techniques which are available to those who operate attractions. Examples include:
  • limiting visitor numbers
  • restricting visit time
  • restricting opening times
  • increasing opening times
  • zoning – restricting or increasing space available to be explored
  • code of conduct/behaviour
  • introducing or increasing entry/admission fees
  • restriction by visitor type through pricing policies
  • signage
  • informing tourists – leaflets, signs, displays, audio guides
  • designation - choosing a place for a special purpose or giving it a special status, e.g. National Parks, UNESCO sites, AONBs and SSSIs.
Another technique is interpretation – this is when tour guides, visitor centres, websites, etc. turn factual information into something more meaningful for tourists. This enables tourists to gain an insight and understanding of the reasons for conservation and protection of heritage and cultural attractions. Interpretation elaborates on facts by putting them into context and weaves them into a short story which is more exciting and informative for tourists.

Conservation can include the protecting of animals and plant life and their habitats. It can also relate to the restoration of cultural heritage which focuses on protection and care of tangible cultural heritage, including artworks, architecture, archaeology, and museum collections.

The big challenge for the management of attractions is to preserve areas and buildings with minimal human impact, in particular by leisure activities. At the same time, zones must be found to satisfy recreational and educational needs.
Mae amrywiaeth o dechnegau rheoli ymwelwyr ar gael i'r rhai hynny sy'n gweithredu atyniadau. Dyma rai enghreifftiau:
  • cyfyngu ar niferoedd ymwelwyr
  • cyfyngu ar yr amser ymweld
  • cyfyngu ar amseroedd agor
  • cynyddu oriau agor
  • creu parthau – cyfyngu ar, neu gynyddu lleoedd gwag sydd ar gael i'w harchwilio
  • cod ymddygiad
  • cyflwyno neu gynyddu ffioedd mynediad
  • cyfyngu yn ôl mathau o ymwelwyr trwy bolisïau prisio
  • arwyddion
  • hysbysu twristiaid – taflenni, arwyddion, arddangosfeydd, tywyswyr clywedol
  • dynodiad – dewis lle at bwrpas arbennig neu roi statws arbennig iddo, e.e. Parciau Cenedlaethol, safleoedd UNESCO, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

    Techneg arall yw dehongliad – dyma ble mae arweinwyr teithiau tywys, canolfannau ymwelwyr, gwefannau ac ati yn troi gwybodaeth ffeithiol yn rhywbeth sy'n fwy ystyrlon i dwristiaid. Mae hyn yn galluogi twristiaid i feithrin dealltwriaeth o'r rhesymau dros gadwraeth a gwarchodaeth atyniadau treftadaeth a diwylliannol. Mae dehongli'n ymhelaethu ar ffeithiau drwy eu gosod yn eu cyd-destun a'u rhoi mewn stori fer sy'n fwy cyffrous ac addysgiadol i dwristiaid.

    Gall cadwraeth gynnwys gwarchod anifeiliaid a phlanhigion a'u cynefinoedd. Gall hefyd ddwyn perthynas â  chadwraeth ac adfer treftadaeth ddiwylliannol sy'n canolbwyntio ar warchod a gofalu am dreftadaeth ddiwylliannol weladwy, yn cynnwys gwaith celf, pensaernïaeth, archaeoleg a chasgliadau amgueddfa.

    Yr her fawr o ran rheoli atyniadau yw diogelu ardaloedd ac adeiladau heb fawr o effaith ddynol, yn enwedig gan weithgareddau hamdden. Ar yr un pryd, rhaid canfod bod parthau'n bodloni anghenion adloniadol ac addysgol.
Introduction Cyflwyniad See AC 3.1 for the tourism organisations involved and their different objectives. Gweler MPA3.1 am y sefydliadau twristiaeth sydd ynghlwm a'u hamcanion gwahanol.
Designation Dynodiad This is the choosing of a place for a special purpose or giving it a special status. Examples include: National Parks, UNESCO sites, AONBs and SSSIs. The actual choosing of a place to be a National Park or UNESCO site gives that place a special status and recognition. Such places need to be managed in order to conserve them for future generations.

Example: Each National Park is administered by its own authority, but that authority does not own all of the land within the Park. They are independent bodies funded by central government to:
  • conserve and enhance the natural beauty, wildlife and cultural heritage
  • promote opportunities for the understanding and enjoyment of the special qualities of national parks by the public.
In carrying out these aims, National Park Authorities are also required to seek to foster the economic and social well-being of local communities within the national park. National Park Authorities and their staff manage such sensitive tourism destinations by using a range of methods:
  • conserving habitats such as woodlands, forests and wetlands
  • reintroduction projects, e.g. barn owl, eagles and beavers
  • working with landowners, communities and agencies
  • protecting historical buildings and sites, e.g. Hadrian’s Wall
  • monitoring the effects of climate change (MICCI project)
  • promoting public access and understanding of the countryside
  • employing people with expertise in archaeology, planning, education, wildlife, sustainability and Geographical Information Systems (GIS).
Mae hyn yn golygu dewis lle at ddiben arbennig neu roi statws arbennig iddo. Dyma rai enghreifftiau: Parciau Cenedlaethol, safleoedd UNESCO, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae'r weithred o ddewis lle i fod yn Barc Cenedlaethol neu safle UNESCO yn rhoi statws a chydnabyddiaeth arbennig i'r lle hwnnw. Mae'n rhaid i'r fath leoedd gael eu rheoli er mwyn eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Enghraifft: Mae pob Parc Cenedlaethol yn cael ei weinyddu gan ei awdurdod ei hun, ond nid yw'r awdurdod hwnnw'n berchen ar yr holl dir yn y Parc. Maent yn gyrff annibynnol a ariennir gan lywodraeth ganolog i:
  • warchod a gwella'r harddwch naturiol, bywyd gwyllt a'r dreftadaeth ddiwylliannol
  • hybu cyfleoedd ar gyfer deall a mwynhau nodweddion arbennig parciau cenedlaethol gan y cyhoedd.
Wrth gyflawni'r nodau hyn, mae'n rhaid i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol hefyd geisio meithrin lles economaidd a chymdeithasol y cymunedau lleol sydd yn y parc cenedlaethol. Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a'u staff yn rheoli cyrchfannau twristiaeth mor sensitif drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau:
  • gwarchod cynefinoedd fel coetiroedd, fforestydd a gwlyptiroedd
  • ailgyflwyno projectau, e.e. tylluanod gwynion, eryrod, afancod
  • gweithio gyda thirfeddianwyr, cymunedau ac asiantaethau
  • diogelu adeiladau a safleoedd hanesyddol, e.e. Mur Hadrian
  • monitro effeithiau newid hinsawdd (prosiect MICCI)
  • hybu mynediad i'r cyhoedd a'r ddealltwriaeth o gefn gwlad
  • cyflogi pobl sydd ag arbenigedd mewn archaeoleg, cynllunio, addysg, bywyd gwyllt, cynaliadwyedd a Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GIS).
Carrying capacity Cynhwysedd cludo “Tourism Carrying Capacity” is defined by the World Tourism Organisation as “The maximum number of people that may visit a tourist destination at the same time, without causing destruction of the physical, economic, socio-cultural environment and an unacceptable decrease in the quality of visitors' satisfaction”.

This is a contentious topic for the tourism industry as more destinations and attractions are talking about placing limits on the number of tourists that visit each year. While some critics argue that putting a cap on the number of tourists will hurt local economies, others argue that we are quickly destroying natural environments and overcrowding urban destinations. The age-old question remains then: What is this balance?

In reality it has proven difficult to monitor visitor numbers to places such as national parks. Also, different tourist types have different impacts on a destination visited – coach parties and school groups are likely to have different impacts when compared with culture vultures or birdwatchers.
Examples of attractions/destinations which have limited the number of visitors include Machu Picchu (Peru), Cinque Terre (Italy) and the Galapagos Islands (Ecuador). The island of Santorini (Greece) has limited the number of cruise ship passengers visiting per day.
Diffinnir “Capasiti Cludo Twristiaeth” gan Sefydliad Twristiaeth Y Byd fel “Uchafswm y bobl a all ymweld â chyrchfan i dwristiaid  ar yr un pryd, heb achosi dinistr i'r amgylchedd ffisegol, economaidd, cymdeithasol ddiwylliannol, a gostyngiad annerbyniol yn ansawdd boddhad ymwelwyr”.

Mae hwn yn bwnc dadleuol ar gyfer y diwydiant twristiaeth gan fod mwy o gyrchfannau ac atyniadau yn trafod gosod cyfyngiadau ar nifer y twristiaid sy'n ymweld bob blwyddyn. Tra bod rhai beirniaid yn dadlau y bydd rhoi cyfyngiad ar nifer y twristiaid yn niweidio economïau lleol, mae eraill yn dadlau ein bod wrthi'n gyflym yn dinistrio amgylcheddau naturiol ac yn gorlenwi cyrchfannau trefol. Mae'r hen gwestiwn yn berthnasol o hyd: Beth yw'r cydbwysedd hwn?

Yn ymarferol mae wedi bod yn anodd monitro niferoedd ymwelwyr i leoedd fel parciau cenedlaethol. Hefyd mae gan wahanol fathau o dwristiaid wahanol effeithiau ar y cyrchfannau y maent yn ymweld â nhw – mae grwpiau bws a grwpiau ysgol yn debygol o gael effeithiau gwahanol o gymharu â thwristiaid diwylliannol neu wylwyr adar.

Mae enghreifftiau o atyniadau/cyrchfannau sydd wedi cyfyngu ar nifer yr ymwelwyr yn cynnwys Machu Picchu (Periw), Cinque Terre (yr Eidal) ac Ynysoedd Galapagos (Ecuador). Mae ynys Santorini (Gwlad Groeg) wedi cyfyngu ar nifer y teithwyr llongau mordeithio sy'n ymweld bob dydd.
Zoning Creu parthau A zoning system can ensure that tourism activities take place at a sustainable level that maximises benefits and limits negative impacts. In addition, zones can be used to separate different incompatible uses and to minimise user conflicts – tourist activities versus traditional local activities.

Zoning means that the given area is divided into clearly designated zones listing the types of tourism activities and infrastructure that would be acceptable and should be developed.
Gall system creu parthau sicrhau bod gweithgareddau twristiaeth yn digwydd ar lefel gynaliadwy sy'n uchafu’r buddiannau ac yn cyfyngu ar yr effeithiau negyddol. Yn ychwanegol, gellir defnyddio parthau i wahanu gwahanol ffyrdd anghydnaws o'u defnyddio ac i leihau gwrthdaro rhwng defnyddwyr – gweithgareddau i dwristiaid yn erbyn gweithgareddau lleol traddodiadol.

Mae creu parthau'n golygu bod yr ardal benodol yn cael ei rhannu'n barthau a ddynodir yn glir ac sy'n rhestru'r mathau o weithgareddau ac isadeiledd twristiaeth a fyddai'n dderbyniol ac a ddylai gael eu datblygu.
Restricting access Cyfyngu ar fynediad Signatories to the Antarctic Treaty, including the UK, agreed to impose restrictions on the size of cruise ships that land passengers and the number of people they can bring ashore at any one time. The agreement makes current voluntary limits mandatory under international law.

Limiting tourist access to the continent has become a matter of urgency because of a surge in visits and recent cruise ship accidents. The International Association of Antarctica Tour Operators has said that visits have risen from 6,700 tourists in 1992-93 to 45,213 in 2008-09.

In the UK, sensitive tourism destinations such as National Parks, AONBs, SSSIs and AoSPs have a primary purpose of conserving the natural landscape (plant and wildlife). In some cases, this may mean prohibiting or restricting access to the site.

Many heritage sites already restrict access or are considering this option. Examples include Venice and Machu Picchu.
Mae llofnodyddion Cytundeb yr Antarctig, sy'n cynnwys y DU, wedi cytuno i osod cyfyngiadau ar faint y llongau mordeithio sy'n glanio teithwyr ac ar nifer y bobl y gallant ddod â nhw i'r lan ar unrhyw amser penodol. Mae'r cytundeb yn gwneud y cyfyngiadau gwirfoddol presennol yn orfodol dan gyfraith ryngwladol.

Mae cyfyngu ar fynediad twristiaid i'r cyfandir wedi dod yn fater brys oherwydd ymchwydd mewn ymweliadau a’r damweiniau diweddar yn ymwneud â llongau mordeithio. Mae Cymdeithas Ryngwladol Trefnwyr Teithiau Antarctica wedi dweud bod ymweliadau wedi codi o 6,700 o dwristiaid yn 1992-93 i 45,213 yn 2008-09.

Yn y DU, prif bwrpas cyrchfannau twristiaeth sensitif fel Parciau Cenedlaethol, AHNE, SoDdGA ac AGA yw gwarchod y dirwedd naturiol (planhigion a bywyd gwyllt). Mewn rhai achosion, mae hyn yn golygu gwahardd neu gyfyngu ar fynediad i'r safle.

Mae llawer o safleoedd treftadaeth yn cyfyngu ar fynediad yn barod neu'n ystyried yr opsiwn hwn. Mae enghreifftiau'n cynnwys Fenis a Machu Picchu.
Sustainability indicators Dangosyddion cynaliadwyedd There are a number of indicators which are applicable to different sensitive tourism destinations. However, they can broadly be categorised as:
  • Environmental – preservation of nature, water quality, waste management, pollution
  • Social/cultural – visitor numbers, overcrowding, seasonality, quality of life, prices, traffic congestion, westernisation, authenticity, crime, local community views
  • Economic – job creation, seasonality, wage levels, leakage, local business profits/involvement, GDP, investment.
Mae yna nifer o ddangosyddion sy'n berthnasol i wahanol gyrchfannau twristiaeth sensitif. Fodd bynnag, gellir eu categoreiddio'n fras fel:
  • Amgylcheddol – cadwraeth natur, ansawdd dŵr, rheoli gwastraff, llygredd
  • Cymdeithasol/diwylliannol – niferoedd ymwelwyr, gorlenwi, natur dymhorol, ansawdd bywyd, prisiau, tagfeydd trafnidiaeth, gorllewineiddio, dilysrwydd, trosedd, barn y gymuned leol
  • Economaidd – creu swyddi, natur dymhorol, lefelau cyflog, elw coll, elw/cyfranogiad busnesau lleol, CMC (GDP), buddsoddiad.
Education Addysg There are number of ways that education can be used to help manage sensitive tourism destinations. Examples include:
  • signs within attractions
  • websites and apps
  • tourist information centres
  • leaflets
  • www.responsibletravel.com – the travel guides are an excellent education resource
  • tv programmes
  • tour operator brochures, websites
  • guides/wardens
  • pressure groups such as Tourism Concern.
(See also AC 3.1.)
Mae yna nifer o ffyrdd y gellir defnyddio addysg i helpu i reoli cyrchfannau twristiaeth sensitif. Dyma rai enghreifftiau:
  • arwyddion o fewn atyniadau
  • gwefannau ac apiau
  • canolfannau croeso
  • taflenni
  • www.responsibletravel.com – mae'r canllawiau teithio yn adnodd addysg rhagorol
  • rhaglenni teledu
  • llyfrynnau, gwefannau trefnwyr teithiau
  • tywyswyr/wardeniaid
  • carfannau pwyso fel Tourism Concern.
(Gweler hefyd MPA 3.1.)
Climate change Newid hinsawdd What is climate change?

Global warming doesn’t mean we’ll all just have warmer weather in future.
As the planet heats, climate patterns change. It’ll mean more extreme and unpredictable weather across the world – many places will be hotter, some wetter, others drier.

We know the planet has warmed by an average of nearly 1°C in the past century. That might not sound much, but on a global scale it’s a huge increase and it’s creating big problems for people and wildlife.

What causes climate change?

With regard to tourism the main causes are:
  • carbon dioxide from the burning of fossil fuels
  • deforestation.
Beth yw newid hinsawdd?

Nid yw cynhesu byd-eang yn golygu y bydd pob un ohonom yn cael tywydd cynhesach yn y dyfodol.
Wrth i'r blaned gynhesu, mae patrymau hinsawdd yn newid. Bydd yn golygu tywydd mwy eithafol ac anrhagweladwy ar draws y byd – bydd llawer o leoedd yn gynhesach, rhai yn wlypach, ac eraill yn sychach.

Rydym yn gwybod bod y blaned wedi cynhesu o bron 1°C ar gyfartaledd yn ystod y ganrif ddiwethaf. Efallai nad yw hyn yn swnio'n gynnydd mawr, ond ar y raddfa fyd-eang mae'n gynnydd aruthrol ac mae'n creu problemau mawr i bobl a bywyd gwyllt.

Beth sy'n achosi newid hinsawdd?

O ran twristiaeth y prif achosion yw:
  • carbon deuocsid o losgi tanwyddau ffosil
  • datgoedwigo.
Transport Trafnidiaeth Carbon dioxide (CO²) is not a pollutant but a greenhouse gas which contributes to global warming effects and is associated with climate change. Governments and transport/tourism organisations have responded mainly through:
  • stricter engine exhaust emission tests
  • cleaner fuel
  • congestion charges – London
  • electric/hybrid cars, buses – hire car companies
  • fuel efficient aircraft – A380
  • proposed banning of diesel cars in cities – Paris, Madrid, Mexico City and Athens
  • better and ‘cleaner’ public transport – trams, buses, trains
  • promotion/encouragement to fly no more than once a year, use trains, cycling/walking holidays.
Nid yw carbon deuocsid (CO²) yn llygrydd ond mae'n nwy tŷ gwydr sy'n cyfrannu at effeithiau cynhesu byd-eang ac mae'n gysylltiedig â newid hinsawdd. Mae llywodraethau a sefydliadau trafnidiaeth/twristiaeth wedi ymateb yn bennaf drwy:
  • brofion llymach ar allyriadau pibellau gwacáu peiriannau
  • tanwydd glanach
  • taliadau tagfeydd – Llundain
  • ceir trydan/hybrid, bysiau – cwmnïau llogi ceir
  • awyrennau sy'n defnyddio tanwydd yn effeithlon – A380
  • cynnig i wahardd ceir diesel mewn dinasoedd – Paris, Madrid, Dinas Mecsico ac Athen
  • cludiant cyhoeddus gwell a ‘glanach’ – tramiau, bysiau, trenau
  • hyrwyddo/annog pobl i beidio â hedfan mwy nag unwaith y flwyddyn, defnyddio trenau, gwyliau beicio/cerdded
Accommodation Llety Green Hotelier is an International Tourism Partnership which works with the world's leading hotel groups to drive the responsible business agenda. The Green Tourism Scheme has similar aims. Best practice includes:
  • decreasing electricity consumption
  • decreasing water consumption
  • decreasing paper consumption
  • increasing recycling
  • decreasing energy waste (e.g. air conditioning)
  • using environmentally friendly products (e.g. for cleaning)
  • having an environmental policy – also a requirement for hotel partners/suppliers
  • promotion of an environmental day or week
  • suggestion boxes for staff and guests
  • award of certificates/ISOs.
Mae Green Hotelier yn Bartneriaeth Twristiaeth Ryngwladol sy'n gweithio gyda grwpiau gwestai blaenllaw'r byd i sbarduno agenda busnes cyfrifol. Mae gan y Cynllun Twristiaeth Gwyrdd nodau tebyg. Mae'r arfer gorau yn cynnwys:
  • lleihau'r defnydd o drydan
  • lleihau'r defnydd o ddŵr
  • lleihau faint o bapur sy'n cael ei ddefnyddio
  • cynyddu ailgylchu
  • lleihau gwastraff egni (e.e. aerdymheru)
  • defnyddio cynhyrchion ecogyfeillgar (e.e. ar gyfer glanhau)
  • mabwysiadu polisi amgylcheddol – hefyd yn ofyniad i bartneriaid/cyflenwyr gwestai
  • hybu diwrnod neu wythnos amgylcheddol
  • blychau awgrymiadau i staff a gwesteion
  • dyfarnu tystysgrifau/ISOs.
Tour operators Trefnwyr teithiau The role of tour operators includes:
  • connecting tourists to destinations
  • promoting destinations
  • developing itineraries
  • opening new areas for tourism.
An increasing number of tour operators have used their influence to:
  • educate and encourage tourists to make responsible choices
  • promote sustainable tourism destinations and activities
  • develop ‘environmentally friendly’ itineraries
  • support local communities in tourism destinations.
Examples of tour operators influencing tourism and tourists include TUI (Thomsons), Intrepid Travel and Responsibletravel.com
Useful resource: http://sustainabletourism.net
Mae rôl trefnwyr teithiau'n cynnwys:
  • cysylltu twristiaid â chyrchfannau
  • hybu cyrchfannau
  • datblygu amserlenni teithio
  • agor ardaloedd newydd ar gyfer twristiaeth.
Mae nifer cynyddol o drefnwyr teithiau wedi defnyddio'u dylanwad i:
  • addysgu ac annog twristiaid i wneud dewisiadau cyfrifol
  • hybu cyrchfannau twristiaeth a gweithgareddau cynaliadwy
  • datblygu amserlenni teithio ‘ecogyfeillgar’
  • cefnogi cymunedau lleol mewn cyrchfannau twristiaeth.
Mae enghreifftiau o weithredwyr teithiau sy'n dylanwadu ar dwristiaeth a thwristiaid yn cynnwys TUI (Thomsons), Intrepid Travel a Responsibletravel.com
Adnoddau defnyddiol: http://sustainabletourism.net
Destinations Cyrchfannau Many tourism destinations throughout the world are making efforts to combat climate change.
Barcelona is aiming to become a “self-sufficient city with zero emissions”.
The authorities hope to achieve this by:
  • implementing the Energy, Climate Change and Air Quality Plan 2011-2020
  • raising the awareness of climate change
  • electrifying vehicles
  • smart street lighting
  • reducing energy usage
  • increasing the use of solar and renewable energies
  • introducing HVAC systems
  • promoting Barcelona as a “Green City” tourism destination.
Many other destinations – urban, coastal and rural – are trying to combat climate change and its impacts by using a variety of methods.
Mae llawer o gyrchfannau twristiaeth ledled y byd yn ymdrechu i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Mae Barcelona yn anelu ar ddod yn “ddinas hunangynhaliol gyda sero allyriadau”.
Mae'r awdurdodau'n gobeithio cyflawni hyn drwy:
  • weithredu Cynllun Egni, Newid Hinsawdd ac Ansawdd Aer 2011-2020
  • codi'r ymwybyddiaeth o newid hinsawdd
  • trydaneiddio cerbydau
  • goleuadau stryd smart
  • lleihau'r defnydd o egni
  • cynyddu’r defnydd o egni solar ac adnewyddadwy
  • cyflwyno systemau HVAC
  • hyrwyddo Barcelona fel cyrchfan twristiaeth “Dinas Werdd”.
Mae llawer o gyrchfannau eraill – trefol, arfordirol a gwledig – yn ceisio mynd i'r afael â newid hinsawdd a'i effeithiau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau.
Emergence of new markets Ymddangosiad marchnadoedd newydd There are many interesting issues occurring in the global travel industry today, and one of the most notable is the growing impact of affluent travellers from “emerging” market countries on travel spending and investment.

The increasing number of tourists from emerging markets has led to an increase in tourism organisations reviewing marketing and investment strategies. Many major tour operators in the west are targeting tourists from the emerging markets, especially as they spend more per head than average. Major accommodation providers are investing in Asia, and there has been a growth in the building of major airports within this area. India and China are the two of largest emerging markets.

Other aspects of emerging markets include:
  • the growth of Online Travel Agents (OTAs) in India focusing on niche holidays
  • the increase in domestic, outbound and inbound tourism within Poland the Baltic states
  • the increase in domestic, outbound and inbound tourism within the Middle East (Airports such as Abu Dhabi and Dubai are major hubs for international travel, and Qatar hosting of the Football World Cup in 2022 will lead to further interest and investment in the area.)
  • the construction of new airports in Asia
Resource: http://www.travelinvest.co.uk/focus.html
Mae llawer o faterion diddorol yn digwydd yn y diwydiant teithio heddiw, ac un o'r mwyaf nodedig yw effaith cynyddol teithwyr cyfoethog o wledydd marchnadoedd “datblygol” ar wariant a buddsoddiad mewn teithio.

Mae'r cynnydd yn nifer y twristiaid o farchnadoedd datblygol wedi peri i nifer gynyddol o sefydliadau twristiaeth adolygu eu strategaethau marchnata a buddsoddi. Mae llawer o drefnwyr teithiau pwysig yn y gorllewin yn targedu twristiaid o farchnadoedd datblygol, yn enwedig am eu bod yn gwario mwy y pen na'r cyfartaledd. Mae darparwyr llety blaenllaw yn buddsoddi yn Asia, a gwelwyd twf yn nifer y meysydd awyr pwysig sy'n cael eu hadeiladu yn yr ardal hon. India a Tsieina yw'r ddwy farchnad ddatblygol fwyaf.

Mae agweddau eraill ar farchnadoedd datblygol yn cynnwys:
  • twf Trefnwyr Teithiau Ar-lein (OTAs) yn India sy'n canolbwyntio ar wyliau arbenigol
  • y cynnydd mewn twristiaeth ddomestig, tuag allan a thuag i mewn yng Ngwlad Pwyl a gwladwriaethau'r Baltig
  • y cynnydd mewn twristiaeth ddomestig, tuag allan ac i mewn yn y Dwyrain Canol (Mae meysydd awyr megis Abu Dhabi a Dubai yn ganolfannau mawr ar gyfer teithiau rhyngwladol, a bydd Qatar yn cynnal Cwpan y Byd pêl-droed yn 2022 yn arwain at fwy o ddiddordeb a buddsoddi yn yr ardal.)
  • adeiladu meysydd awyr newydd yn Asia
Adnodd: http://www.travelinvest.co.uk/focus.html
Terrorism Terfysgaeth Overall, figures suggest that the tourism industry in countries enduring long-term strife, such as Egypt, suffers more than those affected by individual terror attacks (Tunisia, Morocco, UK, France, and Barcelona).
Example: There was strong growth in the number of UK nationals going to Morocco, rising from 308,000 in 2010 to 500,000 in 2016. This included a 51,000 increase in 2012, the year after the Marrakesh bombing, which killed 15 people.

Tourism destinations which have suffered from terrorism have responded with strong marketing campaigns and reduced prices. Governments have increased security measures in order to protect tourists, especially in countries where tourism is a major contributor to the GDP, e.g. Tunisia – 16%.

Many tourists weigh up the risk against the appeal of the destination. The Wall Street Journal has reported that the chance of Westerner being killed in a terrorist attack was one in three million.
Yn gyffredinol, mae'r ffigurau'n awgrymu bod y diwydiant twristiaeth mewn gwledydd a nodweddir gan gynnen hirdymor, fel Yr Aifft, yn dioddef yn fwy na'r rhai yr effeithir arnynt gan ymosodiadau terfysgol (Tiwnisia, Moroco, Y DU, Ffrainc a Barcelona).
Enghraifft: Gwelwyd twf cryf yn nifer y dinasyddion o'r DU a aeth i Moroco, gan godi o 308,000 yn 2010 i 500,000 yn 2016. Roedd hyn yn cynnwys cynnydd o 51,000 yn 2012, y flwyddyn ar ôl y bomio yn Marrakesh a laddodd 15 o bobl.

Mae cyrchfannau twristiaeth sydd wedi dioddef oherwydd terfysgaeth wedi ymateb gydag ymgyrchoedd marchnata cryf a phrisiau gostyngol. Mae llywodraethau wedi cynyddu mesurau diogelwch er mwyn diogelu twristiaid, yn enwedig mewn gwledydd lle mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r CMC, e.e. Tunisia – 16%.

Mae llawer o dwristiaid yn pwyso a mesur y risg yn erbyn apêl y cyrchfan. Mae The Wall Street Journal wedi adrodd mai'r siawns bod Gorllewinwr yn cael ei ladd mewn ymosodiad terfysgol yw un mewn tair miliwn.
Epidemics / Pandemics Epidemigau / Pandemigau Changes in the human behaviour and lifestyle over the last century have resulted in an increase in epidemics and pandemics all around the world. The spread of infectious diseases among the population is commonly known as epidemics or pandemics. Examples include Ebola, SARS, Zika virus, avian flu and Covid-19. The diseases can have an immediate impact on tourism organisations and destinations as a result of travel restrictions, media reporting and government measures. The negative economic impacts tend to be largely short-term. Mae newidiadau mewn ymddygiad dynol a ffordd o fyw dros y ganrif ddiwethaf wedi arwain at gynnydd mewn epidemigau a phandemigau ledled y byd. Yr enwau cyffredin am ymlediad clefydau heintus ymhlith y boblogaeth yw epidemigau neu bandemigau. Ymysg yr enghraifftiau mae Ebola, SARS, firws Zika, ffliw adar a Covid-19. Gall y clefydau gael effaith disyfyd ar sefydliadau a chyrchfannau twristiaeth o ganlyniad i gyfyngiadau ar deithio, adroddiadau yn y cyfryngau a mesurau llywodraeth. Mae'r effeithiau economaidd negyddol yn dueddol o fod yn rhai tymor byr i raddau helaeth.
Impacts on LEDCs Effeithiau ar Wledydd Llai Economaidd Ddatblygedig (LEDCs) Positive economic:
  • increase in incomes/wealth
  • increase in foreign exchange
  • multiplier effect
  • creation of jobs
  • increased investment and development.
Negative economic:
  • leakage
  • low skilled jobs
  • low pay
  • dependency on tourism
  • seasonality – income, jobs
  • increase in living costs
  • decline in traditional skills/jobs.
Positive socio-cultural:
  • preserving of traditional skills and customs
  • increase and improvement in facilities
  • improved cultural understanding – tourists and locals
  • clearer national/regional identity
  • increase in travel and social mobility
  • empowerment of local communities – decision-making.
Negative socio-cultural:
  • conflict between tourists and local people
  • changes to family structure
  • loss of identity – cultural, language, westernisation
  • staged authenticity
  • damage to cultural and heritage site
  • displacement
  • social problems – prostitution (sex tourism), crime, begging.
Positive environmental:
  • improvement in facilities
  • regeneration
  • conservation/preservation
  • protection
  • new regulations – health and safety, hygiene, construction.
Negative environmental:
  • pollution – air, water, land (visual)
  • pressure on local resources – water, energy, land
  • traffic congestion
  • erosion of natural resources – pathways, landscape
  • destruction of natural habitats.
Economaidd cadarnhaol:
  • cynnydd mewn incwm/cyfoeth
  • cynnydd mewn cyfnewid tramor
  • effaith luosydd
  • creu swyddi
  • cynnydd mewn buddsoddiad a datblygiad.
Economaidd negyddol:
  • elw coll
  • swyddi sgiliau isel
  • cyflog isel
  • dibyniaeth ar dwristiaeth
  • natur dymhorol – incwm, swyddi
  • cynnydd mewn costau byw
  • dirywiad mewn sgiliau/swyddi traddodiadol.
Cymdeithasol-ddiwylliannol cadarnhaol:
  • diogelu sgiliau ac arferion traddodiadol
  • cynnydd a gwelliant mewn cyfleusterau
  • gwell dealltwriaeth ddiwylliannol – twristiaid a phobl leol
  • hunaniaeth genedlaethol/ranbarthol gliriach
  • cynnydd mewn teithio a symudedd cymdeithasol
  • grymuso cymunedau lleol – gwneud penderfyniadau.
Cymdeithasol-ddiwylliannol negyddol:
  • gwrthdaro rhwng twristiaid a phobl leol
  • newidiadau yn strwythur y teulu
  • colli hunaniaeth – diwylliannol, iaith, gorllewineiddio
  • dilysrwydd a ragdrefnwyd
  • difrod i safleoedd diwylliannol a threftadaeth
  • dadleoli
  • problemau cymdeithasol – puteindra (twristiaeth rhyw), trosedd, cardota.
Amgylcheddol cadarnhaol:
  • gwelliant i gyfleusterau
  • adfywio
  • cadwraeth/gwarchodaeth
  • amddiffyniad
  • rheoliadau newydd – iechyd a diogelwch, hylendid, adeiladu.
Amgylcheddol negyddol:
  • llygredd – aer, dŵr, tir (gweledol)
  • pwysau ar adnoddau lleol – dŵr, egni, tir
  • tagfeydd traffig
  • erydiad adnoddau naturiol – llwybrau cerdded, tirwedd
  • dinistrio cynefinoedd naturiol.
Globalisation Globaleiddio Globalisation can be defined as a process of economic, social, cultural, and political activities that crosses national boundaries. Globalisation can also be described as the movement of goods, ideas, values, and people around the world.

Transport developments and ICT have been the main catalysts with regard to globalisation and tourism. The rapid expansion of airports within Asia and increased access to smartphones (and similar technology) in Africa are just two examples. The latter has facilitated easy access and spread of information across the continent. This means that people's minds are being opened up to appreciate and embrace new ideas, cultures and values that unite and diversify the world.
Gellir diffinio globaleiddio fel proses o weithgareddau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol sy'n croesi ffiniau gwladol. Gellir hefyd ddisgrifio globaleiddio fel symud nwyddau, syniadau, gwerthoedd, a phobl o gwmpas y byd.

Mae datblygiadau cludiant a TGCh wedi bod yn brif gatalyddion mewn perthynas â globaleiddio a thwristiaeth. Mae ehangiad cyflym meysydd awyr yn Asia a'r cynnydd mewn mynediad at ffonau clyfar (a thechnoleg debyg) yn Affrica yn ddwy enghraifft yn unig. Mae'r diwethaf wedi hwyluso mynediad hawdd ac ymlediad gwybodaeth ar draws y cyfandir. Mae hyn yn golygu bod bywydau pobl yn cael eu hagor i fyny fel y gallant werthfawrogi a chroesawu syniadau, diwylliannau a gwerthoedd newydd sy'n uno ac yn gwneud y byd yn lle mwy amrywiol.
Movement, availability and cost of labour Symudiad, argaeledd a chost llafur At present, EU citizens are initially permitted to live in any member state. However, after three months they must prove that they are working (employed or self-employed), a registered student or have "sufficient resources" (savings or a pension) to support themselves and not be "a burden on the benefits system". Far from being unconditional, the right to free movement is highly qualified.

However, the UK has never enforced these conditions as the Home Office judged that the cost of recording entry and exit dates was too high. Since most EU migrants are employed (and contribute significantly more in taxes than they do in benefits), there was no economic incentive to do so. As employees from the EU make up nearly 25% of the UK tourism industry’s workforce, the UK’s tourism industry is concerned about any Brexit deal starting in 2020. The loss of skilled and experienced workers could lead to a shortage of workers and a decline in the quality of customer service which could have a negative impact on turnover/profits.
Ar hyn o bryd mae dinasyddion yr UE yn cael caniatâd cychwynnol i fyw mewn unrhyw aelod-wladwriaeth. Fodd bynnag, ar ôl tri mis mae'n rhaid iddynt brofi eu bod yn gweithio (yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig), yn fyfyriwr cofrestredig neu eu bod yn meddu ar "adnoddau digonol" (cynilion neu bensiwn) i'w cynnal eu hun a pheidio â bod yn "faich ar y system fudd-daliadau". Felly ymhell o fod yn ddiamod, mae'r hawl i symudiad rhydd yn dra amodol.

Fodd bynnag, dydy'r DU erioed wedi gorfodi'r amodau hyn gan i'r Swyddfa Gartref farnu bod cost cofnodi dyddiadau mynediadau ac ymadawiadau yn rhy uchel. Gan fod y rhan fwyaf o ymfudwyr o'r UE mewn gwaith (ac yn cyfrannu'n sylweddol fwy mewn trethi nag y maent yn derbyn mewn budd-daliadau), nid oedd cymhelliant economaidd i wneud hynny. Gan fod bron 25% o weithlu'r diwydiant twristiaeth yn y DU yn weithwyr o'r UE, mae'r diwydiant twristiaeth yn y DU yn pryderu am unrhyw becyn Brexit a fydd yn dechrau yn 2020. Gallai colli gweithwyr medrus a phrofiadol arwain at brinder gweithwyr a dirywiad yn ansawdd gwasanaeth i gwsmeriaid a allai, yn ei dro, gael effaith negyddol ar drosiant /elw.
Regulations Rheoliadau Regulation in the UK is important for the sustainable development and management of tourism and the protection and conservation of natural and cultural resources. It involves the public and private sectors as well as local communities involved in tourism development activities – all stakeholders.

Regulation ensures the rights of tourists and the rights and obligations of participating businesses, inbound/outbound tour operators and all other concerned players in the tourism field.

Regulation includes government legislation, agreements with other countries and private sector self-regulation systems. Examples include:
  • health and safety – transport, leisure activities, hygiene
  • security – airports, events
  • protection and conservation of natural and built environments
  • protection of tourists from unscrupulous tourism business practices
  • border controls – immigration and customs
  • multilateral and bilateral agreements with other countries e.g. EU air transport agreements, hotel grading, UNESCO, WTO
  • self-regulation such as qualifications in customer service, destination management and codes of ethics which tourism organisations are required to adhere.
N.B. Learners are not required to study actual regulations/laws.
Mae rheoleiddio yn y DU yn bwysig ar gyfer rheoli twristiaeth a'i datblygu'n gynaliadwy, a gwarchodaeth a chadwraeth adnoddau naturiol a diwylliannol. Mae'n cynnwys y sectorau preifat a chyhoeddus ynghyd â'r cymunedau lleol sydd ynghlwm wrth weithgareddau datblygu twristiaeth – mae pob un yn rhanddeiliaid.

Mae rheoleiddio'n sicrhau hawliau twristiaid ac yn sicrhau hawliau a rhwymedigaethau busnesau cyfrannog, trefnwyr teithiau tuag i mewn/allan a'r holl chwaraewyr eraill sydd ynghlwm yn y maes twristiaeth.

Mae rheoleiddio'n cynnwys deddfwriaeth y llywodraeth, cytundebau â gwledydd eraill a systemau hunanreoleiddio sector preifat. Dyma rai enghreifftiau:
  • iechyd a diogelwch – cludiant, gweithgareddau hamdden, hylendid
  • diogelwch – meysydd awyr, digwyddiadau
  • gwarchodaeth a chadwraeth yr amgylcheddau naturiol ac adeiledig
  • gwarchod twristiaid rhag arferion busnes twristiaeth diegwyddor
  • rheoli ffiniau – mewnfudo a thollau
  • cytundebau dwyochrol ac amlochrog â gwledydd eraill, e.e. cytundebau cludiant awyr yr UE, graddio gwestai, UNESCO, Sefydliad Masnach y Byd
  • hunan-reoleiddio megis cymwysterau mewn gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli cyrchfan a chodau moeseg y mae'n rhaid i sefydliadau twristiaeth gadw atyn nhw.
D.S. Nid oes rhaid i ddysgwyr astudio rheoliadau/deddfau gwirioneddol.
Security Diogelwch More than any economic activity, the success or failure of a tourism destination depends on being able to provide a safe and secure environment for visitors. As a result of recent terrorist attacks, increased security has been introduced. Examples include:
  • an increase in security checks, e.g. prior to boarding
  • heightened surveillance in places such as railway stations and airport terminals
  • more police
  • additional security staff in bars, restaurants, hotels, museums
  • bag checks at events
  • requesting the general public to be more vigilant
  • loudspeaker announcements in airports, shopping centres.
Yn fwy nag ar unrhyw weithgarwch economaidd, mae llwyddiant neu fethiant cyrchfan twristiaeth yn dibynnu ar eu gallu i ddarparu amgylchedd diogel a sicr i dwristiaid. O ganlyniad i ymosodiadau terfysgol diweddar, mae mwy o fesurau diogelwch wedi cael eu cyflwyno. Dyma rai enghreifftiau:
  • cynnydd mewn gwiriadau diogelwch, e.e. cyn mynd ar awyren
  • gwyliadwriaeth lymach mewn lleoedd fel gorsafoedd trenau a therfynfeydd meysydd awyr
  • mwy o heddlu
  • staff diogelwch ychwanegol mewn bariau, bwytai, gwestai
  • chwilio bagiau mewn digwyddiadau
  • gofyn i'r cyhoedd fod yn fwy gwyliadwrus
  • cyhoeddiadau dros uwch seinydd mewn meysydd awyr, canolfannau siopa.
Infrastructure planning Cynllunio isadeileddau The number of tourists visiting the UK is likely to increase. The UK’s tourism industry needs to have an effective infrastructure plan which is fit for purpose for future tourism development. This plan might include:
  • new airports
  • new airport terminals
  • regenerated rail and bus stations
  • more public transport, particularly environmentally friendly modes
  • improved transport methods – High Speed 2, roads/motorways.
Mae nifer y twristiaid sy'n ymweld â'r DU yn debygol o gynyddu. Mae'n rhaid i'r diwydiant twristiaeth yn y DU feddu ar gynllun seilwaith effeithiol sy'n addas i'r pwrpas ar gyfer datblygiad twristiaeth yn y dyfodol. Gallai'r cynllun hwn gynnwys:
  • meysydd awyr newydd
  • terfynfeydd maes awyr newydd
  • gorsafoedd trenau a bysiau wedi'u hadfywio
  • mwy o gludiant cyhoeddus, yn enwedig cludiant sy'n ecogyfeillgar
  • dulliau cludiant gwell – Cyflymder Uchel 2, ffyrdd/traffyrdd.
Exchange rates Cyfraddau cyfnewid The choice of exchange rate regime is one of the most important that a country’s government can make as part of monetary policy. The UK is part of a free-floating currency where the external value of a currency depends wholly on market forces of supply and demand. However, if economic problems arise then a managed floating currency operated by the central bank may choose to intervene in the foreign exchange markets to affect the value of a currency. The UK government might also:
  • sell its reserves of dollars and purchase Pound sterling to increase its value
  • borrow foreign currency to purchase Pound sterling to increase its value
  • increase interest rates which make the Pound sterling more attractive to investors and savers
  • reduce inflation which will increase the competitiveness of UK products and services and increase the demand for Pound sterling.
The private sector can also play its part through marketing campaigns and reducing the cost of holidays in order to attract more overseas tourists.
Mae'r dewis o gyfundrefn cyfraddau cyfnewid yn un o'r penderfyniadau pwysicaf a wneir gan lywodraeth gwlad fel rhan o'i pholisi ariannol. Mae'r DU yn rhan o arian cyfred arnawf ble mae gwerth allanol arian cyfred yn dibynnu'n llwyr ar rymoedd y farchnad cyflenwad a galw. Fodd bynnag, os oes problemau economaidd yn ymgodi, yna gallai arian cyfred arnawf a reolir a weithredir gan y banc canolog ddewis ymyrryd yn y marchnadoedd arian cyfred i effeithio ar werth arian cyfred. Gallai llywodraeth y DU hefyd:
  • werthu ei chronfa wrth gefn o ddoleri a phrynu’r Bunt i gynyddu ei gwerth
  • benthyca arian cyfred tramor i brynu’r Bunt i gynyddu ei gwerth
  • cynyddu cyfraddau llog sy'n gwneud y Bunt yn fwy deniadol i fuddsoddwyr a chynilwyr
  • lleihau chwyddiant a fydd yn cynyddu cystadleurwydd cynhyrchion a gwasanaethau'r DU a chynyddu'r galw am y Bunt.
Gall y sector preifat hefyd chwarae ei ran drwy ymgyrchoedd marchnata a gostwng prisiau gwyliau er mwyn denu mwy o dwristiaid tramor.
The environment Yr Amgylchedd Possible issues:
  • climate change
  • pollution
  • traffic congestion
  • pressure on local resources – land erosion, land availability, loss of woodland, water
  • destruction of natural habitats – flora and fauna
Also see previous ACs.
Materion posibl:
  • newid hinsawdd
  • llygredd
  • tagfeydd traffig
  • pwysau ar adnoddau lleol – erydiad tir, argaeledd tir, colli coetir, dŵr
  • dinistrio cynefinoedd naturiol – fflora a ffawna
Gweler hefyd yr MPAau blaenorol.