English Cymraeg

Key Terms – Unit 2

Termau Allweddol - Uned 2

Terms Termau Meaning Ystyr
Purpose of visit Pwrpas yr Ymweliad Learners should be aware of the range of factors which motivate people to travel. The importance of holiday tourism should be considered in relation to the importance of other motivating factors. In some cases, such as business tourism, tourists do not have a choice as to where they travel to and when they travel. The purpose of the visit may also impact on the length of the visit; for example, sports tourism may involve travel to a match and returning the same day, or it might involve an extended visit to a country hosting a major sports tournament such as the Olympic Games. Dylai dysgwyr fod yn ymwybodol o'r amrywiaeth o ffactorau sy'n cymell pobl i deithio. Dylid ystyried pwysigrwydd twristiaeth gwyliau mewn perthynas â phwysigrwydd ffactorau ysgogol eraill. Mewn rhai achosion, fel twristiaeth busnes, nid oes gan dwristiaid ddewis o ran i ble maent yn teithio a phryd maent yn teithio. Gall pwrpas yr ymweliad hefyd effeithio ar hyd yr ymweliad; er enghraifft, gall twristiaeth chwaraeon gynnwys teithio ar gyfer gêm a dychwelyd yr un diwrnod, neu y gallai gynnwys ymweliad estynedig â gwlad sy'n cynnal cystadleuaeth chwaraeon fawr megis y Gemau Olympaidd.
Image and reputation Delwedd ac enw da The image and reputation of a destination is an important factor for tourists when choosing to visit a destination they have not been to before. Tourists may be influenced by friends and family, media reports, travel brochures and other sources which provide information about the image and reputation of a destination. Learners should be aware that significant events can drastically affect the image and reputation of a destination in a very short period of time; for example, terrorist attacks in Paris, Brussels and Tunisia had a negative impact of the image of these destinations. Conversely, hosting a major sporting or cultural event may well result in enhancing the image and reputation of a destination. Mae delwedd ac enw da cyrchfan yn ffactor bwysig i dwristiaid wrth iddynt ddewis ymweld â chyrchfan nad ydynt wedi bod ynddo o'r blaen. Gall ffrindiau a theulu, adroddiadau yn y cyfryngau, llyfrynnau teithio a ffynonellau eraill sy'n darparu gwybodaeth ynglŷn â delwedd ac enw da cyrchfan ddylanwadu ar dwristiaid. Dylai dysgwyr fod yn ymwybodol y gall digwyddiadau arwyddocaol effeithio'n aruthrol ar ddelwedd ac enw da cyrchfan mewn cyfnod byr iawn o amser; er enghraifft, cafodd yr ymosodiadau terfysgol ym Mharis, Brwsel a Tunisia effaith negyddol ar ddelwedd y cyrchfannau hyn. I'r gwrthwyneb, gallai croesawu digwyddiad chwaraeon neu ddiwylliannol pwysig arwain i wella delwedd ac enw da cyrchfan.
Time Amser People have different amounts of time in which they can partake in tourism activities. Some people, such as backpackers, may decide to travel for several weeks or months to long-haul destinations like Australia. Working age people will have a certain number of days of holiday during the year and may choose a holiday lasting a week or a fortnight. Other people might choose a long weekend or short break to a city destination as it is more convenient to them if they have work or other commitments. Mae'r amser sydd gan bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau twristiaeth yn amrywio. Gall rhai pobl, fel heicwyr, benderfynu teithio am nifer o wythnosau neu fisoedd i gyrchfannau pellter hir fel Awstralia. Bydd gan bobl o oedran gweithio nifer benodol o ddiwrnodau o wyliau yn ystod y flwyddyn ac efallai y byddan nhw'n dewis gwyliau o wythnos neu bythefnos. Gallai pobl eraill ddewis penwythnos hir neu wyliau byrion i gyrchfan dinas gan fod hyn yn fwy cyfleus iddynt os oes rhaid iddynt weithio neu os oes ganddynt ymrwymiadau eraill.
Cost Cost Learners should be aware that some tourists have far more money to spend on travel than others and this will affect their motivation. Generally, people will want to get good value for money and will choose destinations to suit their budgets. Learners should have some understanding of the costs of flights to long-haul destinations, the price of different hotel rooms, and a typical package holiday to a short-haul destination, for example. Dylai dysgwyr fod yn ymwybodol o'r ffaith fod gan rai twristiaid lawer mwy o arian i'w wario ar deithio nag eraill ac y bydd hyn yn effeithio ar eu cymhelliant. Yn gyffredinol, mae pobl eisiau gwerth da am arian a byddant yn dewis cyrchfannau sy'n cydweddu â'u cyllidebau. Dylai dysgwyr feddu ar rywfaint o ddealltwriaeth o gostau hediadau i gyrchfannau pellter hir, pris gwahanol ystafelloedd mewn gwestai, a phecyn gwyliau nodweddiadol i gyrchfan pellter byr, er enghraifft.
Facilities/attractions Cyfleusterau/atyniadau Key attractions can be a significant motivating factor which influences tourists to choose a particular destination, e.g. Disneyworld and Sea World in Florida. City destinations such as Paris will have a number of ‘must see’ attractions like the Eiffel Tower and the Louvre museum. Natural attractions such as mountains, rivers and coastal areas with good beaches might also motivate tourists to visit. Tourist facilities such as hotels and other accommodation, transport infrastructure and tourist information services might also influence tourists’ decisions. Gall atyniadau allweddol fod yn ffactor gymhellol arwyddocaol sy'n dylanwadu ar dwristiaid i ddewis cyrchfan penodol, e.e. Disneyworld a Sea World yn Florida. Bydd gan gyrchfannau dinas fel Paris nifer o atyniadau ‘sy'n rhaid eu gweld’ fel y Tŵr Eiffel ac amgueddfa'r Louvre. Gall atyniadau naturiol fel mynyddoedd, afonydd ac ardaloedd arfordirol gyda thraethau da hefyd gymell twristiaid i ymweld. Gall cyfleusterau i dwristiaid fel gwestai a llety arall, seilwaith trafnidiaeth a gwasanaethau gwybodaeth i dwristiaid hefyd ddylanwadu ar benderfyniadau twristiaid.
Security/safety Sicrwydd/diogelwch Learners should be aware of the range of security and safety issues associated with travel. No destination is completely safe, but many tourists will assess the safety and security of a destination before they choose to travel. This may be a significant factor in their motivation to travel to one destination as opposed to another. Safety and security issues might also motivate tourists to choose what they do while they are visiting destinations, e.g. not visiting certain areas of a city, or not travelling alone or late at night. Dylai dysgwyr fod yn ymwybodol o'r amrywiaeth o faterion sicrwydd a diogelwch sy'n gysylltiedig â theithio. Nid yw unrhyw gyrchfan yn gwbl ddiogel ond bydd llawer o dwristiaid yn asesu diogelwch a sicrwydd cyrchfan cyn dewis teithio iddo. Gall hon fod yn ffactor arwyddocaol o ran eu cymhelliant i deithio i un cyrchfan yn hytrach nag un arall. Gall materion diogelwch hefyd gymell twristiaid i ddewis yr hyn maen nhw am ei wneud tra y byddan nhw'n ymweld â chyrchfannau, e.e. peidio ag ymweld ag ardaloedd penodol mewn dinas, neu beidio â theithio ar eu pen eu hunain neu'n hwyr yn y nos.
Climate Hinsawdd This can be a significant motivational factor for many tourists. People booking package holidays to Mediterranean resorts in summer will be motivated by the reliability of hot, dry weather. Winter sports enthusiasts will be motivated to choose resorts with a good snowfall record. Learners should be aware that for many destinations, their ‘high season’ corresponds with the time of year when the climate is appropriate for the activities which tourists enjoy at the destination. Gall hinsawdd fod yn ffactor gymhellol arwyddocaol i lawer o dwristiaid. Bydd pobl sy'n archebu gwyliau pecyn i gyrchfannau gwyliau yn ardal Môr y Canoldir yn yr haf yn cael eu cymell gan y tebygolrwydd uchel o dywydd poeth, sych. Bydd selogion chwaraeon gaeaf yn cael eu cymell i ddewis cyrchfannau gwyliau sydd â hanes da o ran cwymp eira. Dylai dysgwyr fod yn ymwybodol o'r ffaith fod y ‘tymor brig’ i lawer o gyrchfannau yn cyfateb i'r adeg o'r flwyddyn pan fod yr hinsawdd yn addas ar gyfer y gweithgareddau y mae'r twristiaid yn eu mwynhau yn y cyrchfan.
Events Digwyddiadau Tourists may well be motivated to visit a destination because of an event which is taking place. This could be a festival or sporting event which might attract leisure tourists. Conventions and conferences would motivate business tourists. Conversely, events might motivate some tourists to choose an alternative destination since, when an event is taking place, a destination is often busy, and accommodation is both expensive and difficult to find. Mae'n bosib y bydd twristiaid yn cael eu cymell i ymweld â chyrchfan oherwydd digwyddiad sy'n cael ei gynnal. Gallai hwn fod yn ŵyl neu ddigwyddiad chwaraeon a allai ddenu twristiaid hamdden. Byddai confensiynau a chynadleddau yn cymell twristiaid busnes. I'r gwrthwyneb, gallai digwyddiadau gymell rhai twristiaid i ddewis cyrchfan gwahanol oherwydd, pan fod digwyddiad yn cael ei gynnal, yn aml mae cyrchfan yn brysur ac mae llety'n ddrud ac yn anodd dod o hyd i iddo.
Backpackers Heicwyr Backpackers are generally younger tourists travelling on a low budget often for an extended period of time. In recent years, certain destinations such as Australia, New Zealand and South East Asia have become popular. Learners should appreciate the motivations of backpackers to travel alone or with friends and to experience new destinations. Yn gyffredinol mae heicwyr yn dwristiaid iau sy'n teithio ar gyllideb isel ac yn aml am gyfnod estynedig o amser. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae rhai cyrchfannau penodol fel Awstralia, Seland Newydd a De-ddwyrain Asia wedi dod yn boblogaidd. Dylai dysgwyr werthfawrogi beth sy'n cymell heicwyr i deithio ar eu pen eu hun neu gyda ffrindiau ac i gael profiad o gyrchfannau newydd.
Independent Annibynnol These tourists have made their own travel arrangements rather than buying a package holiday through an agent or tour operator. Some people enjoy the freedom to choose flight times and accommodation which meets their specific needs rather than to opt for a package which has more limited choice. Learners should be aware that independent tourists are not necessarily travelling alone. Mae'r twristiaid hyn wedi gwneud eu trefniadau teithio eu hun yn hytrach na phrynu pecyn gwyliau trwy asiant neu drefnwr teithiau. Mae rhai pobl yn mwynhau'r rhyddid i ddewis amserau hedfan a llety sy'n cwrdd â’u hanghenion penodol yn hytrach na dewis pecyn sydd â dewis mwy cyfyngedig. Dylai dysgwyr fod yn ymwybodol o'r ffaith nad yw twristiaid annibynnol o reidrwydd yn teithio ar eu pen eu hun.
Touring Teithio o gwmpas Some tourists enjoy touring around a destination rather than staying in the same location. Usually tourists choose a car for this but touring by train is also an option. Regions of the UK are popular touring destinations as are regions of France and the USA. These tourists can choose hotel accommodation; camping and caravans are also options. Mae rhai twristiaid yn mwynhau teithio o gwmpas cyrchfan yn hytrach nag aros mewn un lleoliad. Fel arfer mae twristiaid yn dewis car i wneud hyn ond mae teithio mewn trên hefyd yn opsiwn. Mae rhai rhanbarthau yn y DU yn gyrchfannau poblogaidd ar gyfer teithio o gwmpas, fel y mae hefyd rhanbarthau yn Ffrainc a’r Unol Daleithiau. Gall y twristiaid hyn ddewis llety mewn gwesty; mae gwersylla a charafanau hefyd yn opsiynau posibl.
All-inclusive Hollgynhwysol Learners should be aware of what constitutes an all-inclusive holiday and what differentiates it from a package holiday. Generally, an all-inclusive holiday includes all food and drinks (but drinks may be restricted to local wines and beers, for example). Other options, such as ‘premium all-inclusive’ which includes all drinks, can also be offered. Dylai dysgwyr fod yn ymwybodol o'r hyn sy'n ffurfio gwyliau hollgynhwysol a beth sy'n eu gwneud yn wahanol i becyn gwyliau. Yn gyffredinol, mae gwyliau hollgynhwysol yn cynnwys yr holl fwyd a diod (ond gallai diodydd gael eu cyfyngu i win a chwrw lleol, er enghraifft). Gellir hefyd cynnig opsiynau eraill, fel ‘hollgynhwysol premiwm’ sy'n cynnwys yr holl ddiodydd.
Package Pecyn The common components of a package holiday are the flight, accommodation and transfers. Learners should appreciate that package holidays can now offer more choice than they used to with accommodation options such as B&B or half-board being available. Learners should be aware of the advantages and disadvantages of package holidays. Yr elfennau cyffredin a geir mewn pecyn gwyliau yw'r hediad, llety a'r trosglwyddiadau. Dylai dysgwyr werthfawrogi'r ffaith y gall gwyliau pecyn heddiw gynnig mwy o ddewis nag o'r blaen gydag opsiynau llety fel gwely a brecwast neu hanner prydau (half-board) ar gael. Dylai dysgwyr fod yn ymwybodol o fanteision ac anfanteision gwyliau pecyn.
Special interest Diddordeb arbennig There is a very wide range of special interest holidays, and learners should be aware of what constitutes a special interest holiday. Essentially, on a special interest holiday the tourists spend most of their time engaged in the same activity, e.g. golfing, bird watching, sailing, painting. Mae amrywiaeth eang o wyliau diddordeb arbennig ar gael, a dylai dysgwyr fod yn ymwybodol o beth sy'n ffurfio gwyliau diddordeb arbennig. Yn y bôn, yn ystod gwyliau diddordeb arbennig mae'r twristiaid yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn ymwneud â'r un gweithgaredd, e.e. chwarae golff, gwylio adar, hwylio, peintio.
Sports Chwaraeon Sports tourism involves both spectating and taking part in sporting activities. Learners should be aware of the range of holidays which are available for tourists to watch major sporting events. Some of these, such as following an international cricket tour, can last several weeks. Sports clubs often organise a tour for teams to play opposition teams in another region. Sports fans travelling to away games and returning the same day are also included as sports tourists. Mae twristiaeth chwaraeon yn ymwneud â gwylio a chymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon. Dylai dysgwyr fod yn ymwybodol o'r amrywiaeth o wyliau sydd ar gael i dwristiaid ar gyfer gwylio digwyddiadau chwaraeon pwysig. Gall rhai o'r rhain, fel dilyn taith griced ryngwladol, bara nifer o wythnosau. Mae clybiau chwaraeon yn aml yn trefnu taith ble mae timau yn chwarae yn erbyn timau mewn rhanbarth arall. Mae cefnogwyr chwaraeon sy'n teithio i gemau oddi cartref ac yn dychwelyd yr un diwrnod hefyd yn cael eu cynnwys fel twristiaid chwaraeon.
Cruise Mordaith Cruise holidays have become extremely popular over the last 20 years or so and the range of cruise holidays has increased significantly, which are offered to an ever-increasing range of destinations. River cruises and ocean cruises are options. Also, passengers can fly to a departure port in another country or join a cruise at a UK port. Learners should be aware of the major cruise holiday destinations for UK tourists. Mae gwyliau mordaith wedi dod yn boblogaidd iawn dros yr 20 mlynedd diwethaf ac mae'r amrywiaeth o wyliau mordaith wedi cynyddu’n sylweddol ac yn cael eu cynnig i amrywiaeth fythol gynyddol o gyrchfannau. Mae opsiynau o fordeithiau ar afonydd ac ar y môr. Hefyd, gall teithwyr hedfan i borthladd ymadael mewn gwlad arall neu ymuno â mordaith mewn porthladd yn y DU. Dylai dysgwyr fod yn ymwybodol o'r prif gyrchfannau gwyliau mordaith ar gyfer y DU.
Adventure tourism Twristiaeth antur As the name suggests, tourists spend most of their time partaking in adventure activities, which can be land or water based. Common activities include walking, climbing, horse-riding and white-water rafting. In recent years, the number of companies specialising in adventure tourism activities has increased significantly. Fel mae'r enw'n awgrymu, mae twristiaid yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn gwneud gweithgareddau antur, a all fod ar y tir neu ar y dŵr. Mae gweithgareddau cyffredin yn cynnwys cerdded, dringo, marchogaeth ceffylau a rafftio dŵr gwyn. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y cwmnïau sy'n arbenigo mewn gweithgareddau twristiaeth antur wedi cynyddu'n sylweddol.
Image and reputation Delwedd ac enw da Major long-haul destinations develop an image and reputation over a long period of time. Cities such as New York, Sydney and Hong Kong rely on a positive image and reputation to attract millions of tourists each year. Mae cyrchfannau mawr pellter hir yn datblygu delwedd ac enw da dros gyfnod hir o amser. Mae dinasoedd fel New York, Sydney a Hong Kong yn dibynnu ar enw da a delwedd gadarnhaol i ddenu miliynau o dwristiaid bob blwyddyn.
Landscape features Nodweddion tirwedd Iconic landscape features in long-haul destinations, such as mountains, coastlines and river features, have a great appeal for many tourists. Learners should be aware of some of the major landscape features which have worldwide appeal, such as the Rocky Mountains or the coast of Australia. Mae nodweddion tirwedd eiconig mewn cyrchfannau pellter hir, fel nodweddion mynyddoedd, arfordir ac afonydd, yn apelio'n fawr at lawer o dwristiaid. Dylai dysgwyr fod yn ymwybodol o rai o'r prif nodweddion tirwedd sydd ag apêl fyd-eang, fel Mynyddoedd y Rockies neu arfordir Awstralia.
Attractions Atyniadau All long-haul destinations will have a range of attractions which appeal to different types of tourist. Some of these will be major attractions with a worldwide reputation whilst others will be smaller and will appeal to a specific type of tourist. Attractions may be purpose-built, such as theme parks or buildings like cathedrals which have become attractions over time. Attractions may also be natural. Bydd gan yr holl gyrchfannau pellter hir amrywiaeth o atyniadau sy'n apelio at wahanol fathau o dwristiaid. Bydd rhai o'r rhain yn atyniadau mawr gydag enw da byd-eang tra y bydd eraill yn llai ac yn apelio at fath penodol o dwristiaid. Gall atyniadau fod yn bwrpasol fel parciau thema, neu’n adeiladau fel eglwysi cadeiriol sydd wedi dod yn atyniadau gydag amser. Gall atyniadau hefyd fod yn naturiol.
Events Digwyddiadau Major events have become an increasingly important factor in the appeal of long-haul destinations. Hosting sporting events such as the Olympic Games or a rugby or football World Cup now enables destinations to receive worldwide exposure. Other destinations have developed cultural events which attract visitors, often outside of traditionally busy periods. Mae digwyddiadau mawr wedi dod yn ffactor sy'n gynyddol bwysig o ran apêl cyrchfannau pellter hir. Bellach mae cynnal digwyddiadau chwaraeon fel y Gemau Olympaidd neu Gwpan y Byd rygbi neu bêl-droed yn galluogi cyrchfannau i gael presenoldeb cyhoeddus yn fyd-eang. Mae cyrchfannau eraill wedi datblygu digwyddiadau diwylliannol sy'n denu ymwelwyr, yn aml y tu allan i gyfnodau sy'n draddodiadol brysur.
Culture Diwylliant The opportunity to experience the different culture of many long-haul destinations appeals to many tourists. Different foods, customs, lifestyles and religious practices can appeal to many tourists. Mae'r cyfle i gael profiad o ddiwylliant gwahanol mewn llawer o gyrchfannau pellter hir yn apelio at lawer o dwristiaid. Gall gwahanol fwydydd, arferion, ffyrdd o fyw a defodau crefyddol apelio at lawer o dwristiaid.
Buses Bysiau Buses provided primarily for the inhabitants of long-haul destinations can provide tourists with a cheap and convenient way of exploring long-haul city destinations. Tourists need to be confident in their ability to understand timetables and routes and be sure that they are safe and secure using local buses. Gall bysiau a ddarperir yn bennaf ar gyfer y trigolion mewn cyrchfannau pellter hir ddarparu ffordd rad a chyfleus i dwristiaid ddod i adnabod cyrchfannau dinas pellter hir. Mae'n rhaid i dwristiaid deimlo'n hyderus o ran eu gallu i ddeall amserlenni a llwybrau ac yn siŵr eu bod yn ddiogel ac yn sicr wrth ddefnyddio bysiau lleol.
Subway/suburban railway Rheilffordd danddaearol/faestrefol Most major cities have developed underground railway systems to facilitate the movement of workers around the city. As with buses, tourists need to be sure of their safety and security when using underground systems, especially at peak times and late at night, taking notice of advice and guidance provided. Mae'r rhan fwyaf o'r dinasoedd mawrion wedi datblygu systemau rheilffyrdd tanddaearol i hwyluso symudiad gweithwyr o gwmpas y ddinas. Yn yr un modd â gyda bysiau, mae'n rhaid i dwristiaid deimlo'n siŵr o ran eu diogelwch a'u sicrwydd wrth ddefnyddio systemau rheilffyrdd tanddaearol, yn enwedig ar amserau brig ac yn hwyr yn y nos, gan roi sylw i'r cyngor a'r arweiniad a gynigir.
Tourist bus Bws twristaidd These offer a very convenient, but often expensive way of travelling around major cities. Most offer a ‘hop-on, hop-off’ facility, enabling tourists to visit a number of major attractions and then catching the next bus to arrive. Usually, tourist buses provide a guide or audio commentary in different languages to provide tourists with information about the destination. Mae'r rhain yn cynnig ffordd gyfleus iawn, ond sy'n aml yn ddrud, o deithio o gwmpas dinasoedd pwysig. Mae'r rhan fwyaf yn cynnig cyfleuster ‘mynd a dod’ (neu hop-on, hop-off) sy'n galluogi twristiaid i ymweld â nifer o atyniadau pwysig ac yna dal y bws nesaf sy'n cyrraedd. Fel arfer, mae bysiau twristiaid yn darparu tywysydd neu sylwebaeth glywedol mewn ieithoedd gwahanol sy'n rhoi gwybodaeth i dwristiaid am y cyrchfan.
Taxis Tacsis Taxis are often one of the most expensive ways of travelling around a city, especially for single travellers or couples. However, taxis are extremely convenient and provide transport from one point to another without the tourist having to wait for public transport. Yn aml mae tacsis yn un o'r ffyrdd drutaf o deithio o gwmpas dinas, yn enwedig i deithwyr unigol neu gyplau. Fodd bynnag, mae tacsis yn gyfleus iawn ac maent yn darparu cludiant o un pwynt i'r llall heb fod rhaid i'r twrist aros am gludiant cyhoeddus.
Car hire/private car Llogi car/car preifat Not all long-haul destinations are cities and some, such as areas of the USA or Canada, can be explored successfully by car. Drivers need to be confident and aware of the rules of the road, such as speed limits, but cars do provide far more flexibility than many other methods of transport. Nid yw pob cyrchfan pellter hir yn ddinasoedd ac yn achos rhai, fel ardaloedd yn yr Unol Daleithiau neu Ganada, gellir crwydro'r rhain yn llwyddiannus mewn car. Mae'n rhaid i yrwyr deimlo'n hyderus ynghylch rheolau'r ffordd fel cyfyngiadau cyflymder, ond mae ceir yn rhoi llawer mwy o hyblygrwydd na dulliau eraill o gludiant.
Miscellaneous tourist transport Cludiant twristiaeth amrywiol These include examples such as the trams of San Francisco and the cable car to the Big Buddha in Hong Kong. Rickshaws, tuk-tuks and similar vehicles can be found in many cities, as can water-based transport. Mae’r rhain yn cynnwys enghreifftiau fel y tramiau yn San Francisco a'r car cebl at y Bwdha Mawr yn Hong Kong. Mae ricsios, tuk-tuks, a cherbydau tebyg i'w gweld mewn llawer o ddinasoedd, ynghyd â chludiant ar y dŵr.
Cycle Beicio Many cities provide cycle ways which provide an alternative way to explore a city. Mae llawer o ddinasoedd yn darparu llwybrau beicio fel ffordd wahanol o grwydro dinas.
Air Aer The growth in the availability of air travel to short-haul destinations over the last 20 years has been phenomenal. Low-cost carriers, notably EasyJet and Ryanair, using online reservation systems and other technological developments, have provided opportunities for travel to a wide range of short-haul destinations from most UK airports. Mae'r twf yn argaeledd teithiau awyr i gyrchfannau pellter byr dros yr 20 mlynedd diwethaf wedi bod yn anhygoel. Mae cludwyr cost isel, Easyjet a Ryanair yn benodol, sy'n defnyddio systemau archebu ar-lein a datblygiadau technolegol eraill wedi darparu cyfleoedd ar gyfer teithio i amrywiaeth eang o gyrchfannau pellter byr o'r rhan fwyaf o feysydd awyr y DU.
Sea/Ferry Môr/Fferi In some cases, ferries have found it difficult to compete with the competition from the increased availability of air travel. However, tourists travelling to Europe by car still find cross-channel ferries the most convenient form of travel and there is a choice of routes available. Mewn rhai achosion, mae fferïau wedi cael anhawster i gystadlu â'r gystadleuaeth sydd wedi ymgodi oherwydd y cynnydd mewn argaeledd teithiau awyr. Fodd bynnag, mae twristiaid sy'n teithio i Ewrop mewn car yn dal i sylweddoli mai fferïau ar draws y Sianel yw'r ffordd fwyaf cyfleus o deithio ac mae dewis o lwybrau ar gael.
Cruise Mordaith As indicated above, there has been a significant increase in cruise holidays in recent years, including cruises to popular short-haul destinations in Europe. Passengers can embark at cruise terminals in the UK or fly to an embarkation point in Europe. Mediterranean, fjord and Baltic cruises are the most popular. Fel y nodir uchod, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y gwyliau mordaith yn y blynyddoedd diwethaf, yn cynnwys mordeithiau i gyrchfannau pellter byr poblogaidd yn Ewrop. Gall teithwyr fynd ar long mewn terfynfeydd mordeithiau yn y DU neu hedfan i bwynt byrddio yn Ewrop. Mordeithiau fjord, Baltig ac ym Môr y Canoldir yw'r mwyaf poblogaidd.
Road Ffyrdd Taking a car on a cross-channel ferry and driving to destinations in France, Spain and other European countries is still a popular option. The motorway system has been developed consistently over the last 50 years and many major destinations can be reached in a day’s drive. The advantages of road travel are that more luggage can be taken and the tourist has more flexibility. Mae mynd â char ar fferi dros y sianel a gyrru i gyrchfannau yn Ffrainc, Sbaen a chyrchfannau Ewropeaidd eraill yn dal i fod yn opsiwn poblogaidd. Mae'r system draffyrdd wedi cael ei datblygu'n gyson dros y 50 mlynedd diwethaf a gellir gyrru i lawer o gyrchfannau pwysig mewn diwrnod. Manteision teithio ar y ffordd yw y gellir mynd â mwy o fagiau ac mae gan y twrist fwy o hyblygrwydd.
Fly/drive Hedfan/gyrru A popular alternative to driving to short-haul destinations is the fly/drive option, where the tourist flies to a destination and collects a hire car for all or part of their stay. Again, this provides the tourist with additional flexibility and choice and allows them to explore a destination at their own pace. Dewis poblogaidd arall yn lle gyrru i gyrchfannau pellter byr yw'r opsiwn hedfan/gyrru ble mae'r twrist yn hedfan i gyrchfan ac yn casglu car llogi ar gyfer eu harhosiad cyfan neu ran ohono. Unwaith eto, mae hyn yn rhoi hyblygrwydd a dewis ychwanegol i'r twrist ac yn caniatáu iddynt grwydro cyrchfan ar gyflymder o'u dewis.
New developments Datblygiadau newydd There are many examples where new or improved infrastructure has increased the accessibility of short-haul destinations. New or expanded airports, motorway links or docking facilities for cruise ships are common examples. An airline deciding to open a new route or increase the number of flights to a short-haul destination will increase its accessibility. Mae llawer o enghreifftiau ble mae isadeiledd newydd neu well wedi gwella hygyrchedd cyrchfannau pellter byr. Mae meysydd awyr newydd neu sydd wedi'u hehangu, cysylltiadau traffordd neu gyfleusterau docio ar gyfer llongau mordeithio yn enghreifftiau cyffredin. Bydd penderfyniad gan gwmni hedfan i agor llwybr newydd neu gynyddu nifer yr hediadau i gyrchfan pellter byr yn cynyddu ei hygyrchedd.
Changing costs Costau newidiol Economic conditions will affect exchange rates, and this will affect the value of currencies, making short-haul destinations more or less expensive depending how exchange rates have changed. For example, The Swiss Franc has increased in value against Sterling and the Euro in recent years, making Switzerland a more expensive destination and Brexit may well have an impact on currency values. Bydd amodau economaidd yn effeithio ar gyfraddau cyfnewid, a bydd hyn yn effeithio ar werth arian cyfred gan wneud cyrchfannau pellter byr yn fwy neu'n llai drud yn dibynnu ar sut mae'r cyfraddau cyfnewid wedi newid. Er enghraifft, mae gwerth Ffranc y Swistir wedi cynyddu yn erbyn y Bunt a'r Ewro yn y blynyddoedd diwethaf, gan wneud Y Swistir yn gyrchfan mwy drud ac mae'n debygol y bydd Brexit yn cael effaith ar werthoedd arian cyfred.
Tour operators Trefnwyr teithiau Exchange rates will also affect the cost of holidays provided by tour operators. If the costs of hotels and other facilities/services increase at the destination, the tour operator must pass these on to their clients, making holidays more expensive. In some cases, the tour operator will decide that this may lead to a decrease in bookings and not feature the destination in its brochures. There may be other reasons, such as a lack of suitable accommodation or security issues which may also result in a destination being dropped by a tour operator. Conversely, new attractions, a good reputation or a new event may make a tour operator decide to increase its capacity at a destination, possibly by adding more flights, thus increasing the accessibility. Bydd cyfraddau cyfnewid arian hefyd yn effeithio ar gost y gwyliau a ddarperir gan drefnwyr teithiau. Os yw costau gwestai a chyfleusterau/gwasanaethau eraill yn cynyddu yn y cyrchfan, mae'n rhaid i'r trefnwr teithiau drosglwyddo'r costau hyn i'w cleientiaid, gan wneud gwyliau'n ddrutach. Mewn rhai achosion, bydd y trefnwr teithiau'n penderfynu y gall hyn arwain at ostyngiad mewn archebion ac ni fydd yn cynnwys y cyrchfan yn ei lyfrynnau. Gallai fod rhesymau eraill, fel diffyg llety addas neu faterion diogelwch a all hefyd olygu bod trefnwr teithiau yn peidio â chynnig cyrchfan. I'r gwrthwyneb, gall atyniadau newydd, enw da neu ddigwyddiad newydd beri i drefnwr teithiau benderfynu cynyddu ei gapasiti mewn cyrchfan, o bosib drwy ychwanegu mwy o hediadau, ac felly'n ei wneud yn fwy hygyrch.
Transport operators Gweithredwyr cludiant Low-cost carriers in particular look carefully at each of the routes offered, and if a route is not profitable then it’ll be closed, impacting on the accessibility of the destination concerned. Similarly, the opening of a new route or offering more flights will increase accessibility. Other transport operators, such as coach tour operators, will continually assess which of their products is profitable and increase or decrease capacity accordingly. Mae cludwyr cost isel yn benodol yn edrych yn ofalus ar bob un o'r llwybrau a gynigir, ac os nad yw llwybr yn broffidiol bydd y llwybr yn cau, gan effeithio ar hygyrchedd y cyrchfan dan sylw. Yn yr un modd, bydd agor llwybr newydd neu gynnig mwy o hediadau yn cynyddu hygyrchedd. Bydd gweithredwyr cludiant eraill, fel trefnwyr teithiau bws yn asesu'n barhaus pa rai o'u cynhyrchion sy'n broffidiol ac yn cynyddu neu leihau capasiti yn unol â hynny.
Temperature max/min Tymheredd uchaf/isaf Different tourist activities tend to take place within a range of temperatures. It may be too hot for some activities (e.g. playing sports) and too cold for others (e.g. sunbathing). Furthermore, tourists are increasingly aware of the potential health effects of too much hot sunshine. Mae gwahanol weithgareddau i dwristiaid yn dueddol o ddigwydd o fewn amrediad o dymereddau. Gallai fod yn rhy boeth ar gyfer rhai gweithgareddau (e.e. gwneud chwaraeon) ac yn rhy oer ar gyfer eraill (e.e. torheulo). Ar ben hynny, mae twristiaid yn gynyddol ymwybodol o effeithiau posibl gormod o haul ar iechyd.
Average & range of temperature Tymheredd cyfartalog ac amrediad tymheredd It is important for tourists to be aware of what the temperature may be before they book a trip to a particular destination. Thus, the average and range of temperatures can be significant in the tourist’s decision-making and can impact on the motivation to travel to a destination. In some destinations, average temperatures change very little from year to year, but in others average temperatures can vary a great deal. Mae'n bwysig bod twristiaid yn ymwybodol o beth fydd y tymheredd cyn iddynt archebu taith i gyrchfan penodol. Felly, gall tymheredd cyfartalog ac amrediad tymheredd fod yn arwyddocaol pan fod twrist yn gwneud penderfyniadau a gall hyn effeithio ar y cymhelliant i deithio i gyrchfan. Mewn rhai cyrchfannau, ychydig iawn o newid a welir mewn tymereddau cyfartalog o flwyddyn i flwyddyn, ond mewn rhai eraill gall y tymheredd cyfartalog amrywio’n sylweddol.
Precipitation totals and seasonal changes Cyfansymiau dyodiad a newidiadau tymhorol Generally, tourist activities are far more enjoyable when it is not raining or snowing. Wet conditions restrict many tourist activities from sunbathing to mountain walking. The total amount of precipitation and the seasonal pattern is an important factor in the appeal of many destinations. For example, the Mediterranean climate is renowned for hot dry summers with very little rainfall, making the region a popular summer holiday and beach destination. The pattern of snowfall in winter sports destinations is an important consideration for winter sports enthusiasts. Yn gyffredinol, mae gweithgareddau i dwristiaid yn llawer mwy pleserus pan nad yw'n bwrw glaw neu eira. Mae tywydd gwlyb yn cyfyngu ar lawer o weithgareddau i dwristiaid, o dorheulo i gerdded mynyddoedd. Mae cyfanswm y dyodiad a'r patrwm tymhorol yn ffactor bwysig yn apêl llawer o gyrchfannau. Er enghraifft, mae hinsawdd Môr y Canoldir yn enwog am hafau sych, poeth gydag ychydig iawn o law, sy'n gwneud y rhanbarth yn gyrchfan poblogaidd ar gyfer gwyliau haf a thraeth. Mae'r patrwm cwymp eira mewn cyrchfannau chwaraeon gaeaf yn ystyriaeth bwysig i selogion chwaraeon gaeaf.
Humidity Lleithder Humidity refers to the amount of water in the atmosphere. Humid, ‘sticky’ conditions are less pleasant for tourists and make people uncomfortable, making many tourist activities less pleasant. Increasingly, tourists opt to stay in hotels with air conditioning which controls the temperature and humidity. Higher temperatures can be tolerated by tourists if the air is less humid. Mae lleithder yn cyfeirio at faint o ddŵr sydd yn yr atmosffer. Mae tywydd llaith, ‘chwyslyd’ yn llai dymunol i dwristiaid ac yn gwneud i bobl deimlo'n anghyffyrddus, ac yn gwneud llawer o weithgareddau i dwristiaid yn llai dymunol. Yn gynyddol aml, mae twristiaid yn dewis aros mewn gwestai gydag aerdymheru sy'n rheoli'r tymheredd a'r lleithder. Gall twristiaid oddef tymereddau uwch os yw'r aer yn llai llaith.
High/low seasons Tymhorau uchel/isel All of the climatic variables listed above contribute to a pattern of climate throughout the year which influences the popularity of tourism destinations. Many destinations are most popular when they experience their best climate. At these times, destinations can expect more visitors, so accommodation prices and other tourism services become more expensive. It is often the case that the best weather coincides with major holiday periods, leading to congestion in some destinations. Mae'r holl newidynnau hinsawdd a restrir uchod yn cyfrannu at batrwm hinsawdd trwy gydol y flwyddyn gan ddylanwadu ar boblogrwydd cyrchfannau twristiaeth. Mae llawer o gyrchfannau yn fwyaf poblogaidd pan fod eu hinsawdd ar ei gorau. Ar yr adegau hyn, gall cyrchfannau ddisgwyl cael mwy o dwristiaid, felly mae prisiau llety a gwasanaethau twristiaeth eraill yn mynd yn ddrutach. Mae'n wir yn aml fod y tywydd gorau yn cyd-daro â'r prif gyfnodau gwyliau, gan arwain at dagfeydd mewn rhai cyrchfannau.
Aims and objectives Nodau ac amcanion The plan needs to have a clear aim, appropriate to the nature of the chosen destination together with a set of objectives which are to be met at key stages of the plan. Mae'n rhaid bod gan y cynllun nod clir, sy'n briodol i natur y cyrchfan dewisol ynghyd â set o amcanion y mae’n rhaid eu cyflawni ar gamau allweddol yn y cynllun.
Present and potential customers Cwsmeriaid presennol ac arfaethedig Tourism destinations need to convince present visitors to return as well as attracting new customers in the future. The plan needs to consider both present and potential markets. Mae'n rhaid i gyrchfannau twristiaeth ddarbwyllo ymwelwyr presennol i ddychwelyd ynghyd â denu cwsmeriaid newydd yn y dyfodol. Mae'n rhaid i'r cynllun ystyried marchnadoedd presennol ac arfaethedig.
Resources Adnoddau The nature and range of resources which would be available to the marketing department of a major destination should be researched and considered. Dylai natur ac amrywiaeth yr adnoddau a fyddai ar gael i'r adran farchnata mewn cyrchfan pwysig gael eu hymchwilio a'u hystyried.
Timescales Graddfeydd amser Some marketing campaigns run for several years, building on a successful strategy which changes the image and reputation of a destination. Other campaigns have a more limited time scale. Mae rhai ymgyrchoedd marchnata'n rhedeg am nifer o flynyddoedd, gan adeiladu ar strategaeth lwyddiannus sy'n gwella delwedd ac enw da'r cyrchfan. Mae gan ymgyrchoedd eraill raddfa amser fwy cyfyngedig.
Impacts Effeithiau Every marketing campaign aims to make a positive impact. Increasingly, the impact of the campaign will be measured against targets. Mae pob ymgyrch farchnata yn ceisio cael effaith gadarnhaol. Yn gynyddol aml, bydd effaith yr ymgyrch yn cael ei fesur yn erbyn targedau.
Structure Strwythur Thousands of marketing materials are produced by tourism organisations each year. Each is attempting to persuade tourists to visit the destination and give clear information. Mae miloedd o ddeunyddiau marchnata'n cael eu cynhyrchu gan sefydliadau twristiaeth bob blwyddyn. Mae pob un yn ceisio perswadio twristiaid i ymweld â'r cyrchfan ac maent yn rhoi gwybodaeth glir iddynt.
Use of persuasive language Defnyddio iaith berswadiol The language used must ‘sell’ the destination and persuade the tourist to visit. Mae'n rhaid i'r iaith a ddefnyddir ‘werthu'r’ cyrchfan a pherswadio'r twrist i ymweld.
Maps and images Mapiau a delweddau As with persuasive language, any images used in marketing materials must give a positive image and be persuasive. Maps need to be accurate – their main purpose is to ensure that the visitor gets to the destination. Maps can also provide information about a destination. Yn yr un modd â gydag iaith berswadiol, mae'n rhaid i unrhyw ddelweddau a ddefnyddir mewn deunyddiau marchnata gyfleu delwedd gadarnhaol a gallu darbwyllo. Mae angen i fapiau fod yn fanwl gywir – eu prif bwrpas yw sicrhau bod yr ymwelydd yn cyrraedd y cyrchfan. Gall mapiau hefyd ddarparu gwybodaeth ynglŷn â chyrchfan.
Leaflets, brochures and websites Taflenni, llyfrynnau, gwefannau Increasingly, destinations will use a combination of printed and online materials in their marketing strategy, with a consistent message being given across all mediums. Yn gynyddol aml, bydd cyrchfannau'n defnyddio cyfuniad o ddeunyddiau argraffedig ac ar-lein yn eu strategaeth farchnata, gan gyflwyno neges gyson ar draws pob un o'r cyfryngau.
Consideration of the target market Ystyriaeth o'r farchnad darged Many destinations will produce a range of printed materials aimed at different target markets, which would focus on different attractions and facilities. A destination’s website is likely to include different pages for different target markets. Bydd llawer o gyrchfannau'n cynhyrchu amrywiaeth o ddeunyddiau argraffedig a anelir at wahanol farchnadoedd targed, a fyddai'n canolbwyntio ar wahanol atyniadau a chyfleusterau. Mae gwefan cyrchfan yn debygol o gynnwys tudalennau gwahanol ar gyfer marchnadoedd targed gwahanol.
Appropriate strategy Strategaeth briodol The style and approach of the marketing materials should be appropriate for the type of destination and reflect its image and reputation. Dylai arddull ac ymagwedd y deunyddiau marchnata fod yn briodol ar gyfer y math o gyrchfan ac adlewyrchu ei ddelwedd a'i enw da.
Appeal Apêl Essentially, the marketing materials should reflect and highlight the appeal of the destination. Yn hanfodol, dylai'r deunyddiau marchnata adlewyrchu ac amlygu apêl y cyrchfan.
Attractions Atyniadau The principal attractions, both natural and built, are usually highlighted in marketing materials produced by tourism destinations. Fel arfer, mae'r prif atyniadau, rhai naturiol ac adeiledig, yn cael sylw amlwg mewn deunyddiau marchnata a gynhyrchir gan gyrchfannau twristiaeth.
Facilities Cyfleusterau It is common for marketing materials to have some form of link to the accommodation within the destination. Information on transport systems and tours is also common. Mae'n gyffredin i ddeunyddiau marchnata gael rhyw fath o gyswllt â'r llety yn y cyrchfan. Mae gwybodaeth am systemau cludiant a theithiau hefyd yn gyffredin.
Events Digwyddiadau Events, especially major events, are often marketed separately, but it is not uncommon for destinations to promote the significant events which occur during the year. Caiff digwyddiadau, yn enwedig digwyddiadau pwysig, eu marchnata ar wahân, ond nid yw'n anghyffredin i gyrchfannau hybu digwyddiadau arwyddocaol sy'n cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn.
Presentation of a case for action Cyflwyno'r achos dros weithredu As indicated elsewhere, it is unusual for tourism destinations to ‘sit back on their laurels’ and assume that tourists will continue to visit. Therefore, destinations will consider the case for developing new markets or ensuring that visitor numbers from established markets are maintained. Fel y nodir mewn mannau eraill, mae'n anarferol gweld cyrchfannau twristiaeth ‘yn gorffwys ar eu rhwyfau’ ac yn cymryd yn ganiataol y bydd twristiaid yn parhau i ymweld â'r cyrchfan. Felly, bydd cyrchfannau'n ystyried y dadleuon o blaid datblygu marchnadoedd newydd neu sicrhau bod niferoedd y twristiaid o farchnadoedd sefydledig yn cael eu cynnal.
Statistical information Gwybodaeth ystadegol Major destinations now use sophisticated methods to collect visitor information. This information will include trends in visitor numbers and feedback on potential future developments. Bellach, mae cyrchfannau pwysig yn defnyddio dulliau soffistigedig i gasglu gwybodaeth am dwristiaid. Bydd y wybodaeth hon yn cynnwys tueddiadau yn niferoedd y twristiaid ac adborth ar ddatblygiadau arfaethedig yn y dyfodol.
Evidence to support use of materials and approach taken Tystiolaeth i gefnogi'r defnydd o ddeunyddiau a'r ymagwedd a gymerir Tourism organisations will need to present their case for action and approach to local councils and business organisations within the destination. Bydd rhaid i sefydliadau twristiaeth gyflwyno'u hachos dros weithredu a chysylltu â chynghorau lleol a sefydliadau busnes yn y cyrchfan.
Use of persuasive language Defnyddio iaith berswadiol Presentations for future strategy and marketing campaigns by tourism organisations will need to persuade councils and business organisations that the approach is correct. Bydd rhaid i gyflwyniadau gan sefydliadau twristiaeth ar eu strategaeth a'u hymgyrchoedd marchnata yn y dyfodol berswadio cynghorau a sefydliadau busnes bod yr ymagwedd yn gywir.