Terms Termau | Meaning Ystyr |
---|---|
Inbound Tuag i mewn | An inbound tourist involves people travelling to a different country to where they live for a holiday or for business, e.g. a tourist travelling from Spain to the UK for a holiday. Mae twristiaeth i mewn yn ymwneud â phobl yn teithio i wlad sy'n wahanol i ble maen nhw'n byw ar gyfer gwyliau, busnes neu bwrpas twristiaeth arall, e.e. twrist sy'n teithio o Sbaen i'r DU ar gyfer gwyliau. |
Outbound Tuag allan | An outbound tourist involves people leaving the country in which they live to take a holiday, e.g. a businessperson from Bristol travelling to Berlin for a conference. Mae twristiaeth tuag allan yn ymwneud â phobl yn gadael y wlad lle maen nhw'n byw i gymryd gwyliau, e.e. person busnes o Fryste yn teithio i Berlin ar gyfer cynhadledd. |
Domestic Domestig | A domestic tourist involves people from one country travelling only within that country. A domestic holiday is a holiday spent in the same country and is sometimes referred to as ‘staycation’, e.g. a family from Cardiff taking a holiday in Pembrokeshire. Mae twristiaid domestig yn ymwneud â phobl o un wlad yn teithio o fewn y wlad honno yn unig. Mae gwyliau domestig yn wyliau a dreulir yn yr un wlad ac weithiau cyfeirir at hyn fel gwyliau gartref neu ‘staycation’. e.e. teulu o Gaerdydd yn mynd ar wyliau i Sir Benfro. |
Business Busnes | A tourist travelling for business purposes is known as a business tourist. Business tourism is part of the business world. Many of the UK’s cities feature conference centres that cater to the needs of business tourists. An example of a business tourist is one who makes trips to different places to attend meetings or trade fairs to display and promote his/her own products and services. Gelwir twrist sy'n teithio at ddibenion busnes yn dwrist busnes. Mae twristiaeth busnes yn rhan o fyd busnes. Mae canolfannau cynadleddau yn llawer o ddinasoedd y DU, sy'n darparu ar gyfer anghenion twristiaid busnes. Enghraifft o dwrist busnes yw rhywun sy'n mynd ar deithiau i wahanol leoedd i fynychu cyfarfodydd neu ffeiriau masnach er mwyn arddangos a hybu eu cynhyrchion a'u gwasanaethau eu hun. |
Visiting friends and relatives (VFR) Ymweld â ffrindiau a pherthnasau (VFR) | A VFR tourist travels for the purpose of visiting friends and/or relatives. This could involve staying with friends or relatives or in local accommodation. VFR could be for a specific purpose such as attending a wedding, funeral or anniversary. Mae twrist VFR yn teithio at ddibenion ymweld â ffrindiau a/neu berthnasau. Gallai hyn gynnwys aros gyda ffrindiau neu berthnasau neu mewn llety lleol. Gallai VFR fod at ddiben penodol fel mynd i briodas, angladd neu ben-blwydd. |
Leisure Hamdden | Leisure tourists travel with the primary motivation of taking a holiday from everyday life. Leisure travel is often characterised by staying in hotels or resorts, relaxing on beaches or in a room, or going on guided tours and experiencing local tourist attractions. Mae twristiaid hamdden yn teithio gyda'r prif bwrpas o gymryd gwyliau oddi wrth eu bywyd bob dydd. Yn aml, nodweddir teithio hamdden gan aros mewn gwestai neu gyrchfannau gwyliau, ymlacio ar draethau neu mewn ystafell, neu fynd ar deithiau tywys ac ymweld ag atyniadau twristiaeth lleol. |
Special interest Diddordeb arbennig | Special interest tourists have a particular passion such as bird watching, golfing, fishing, classic cars events, food and wine or attending music festivals. Essentially, on a special interest holiday the tourist is likely to spend most of their time engaged in the same activity. Mae twristiaid diddordeb arbennig yn frwd dros rywbeth penodol fel gwylio adar, chwarae golff, pysgota, digwyddiadau ceir clasurol, bwyd a gwin neu fynychu gŵyl gerddoriaeth. Yn hanfodol, yn ystod gwyliau diddordeb arbennig, mae'r twrist yn debygol o dreulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn gwneud yr un gweithgaredd. |
Education Addysg | Education tourists travel to a particular place in another town, city or country for further study in order to improve their education. There are also people, who travel to attend workshops in order to upgrade skills, e.g. a group of students travelling to New York as part their Level 3 Tourism course. Mae twristiaid addysg yn teithio i le penodol mewn tref, dinas neu wlad i astudio ymhellach er mwyn gwella'u haddysg. Mae yna bobl hefyd sy'n teithio i fynychu gweithdai er mwyn uwchraddio'u sgiliau, e.e. grŵp o fyfyrwyr yn teithio i Efrog Newydd fel rhan o'u cwrs Twristiaeth Lefel 3. |
Sports Chwaraeon | Sports tourism involves both spectating and playing activities. Learners should be aware of the range of holidays which are available for tourists to watch major sporting events. Some of these, such as following an international cricket tour, can last several weeks. Sports clubs often organise tours for teams to play oppositions in another region. Sports fans travelling to away games and returning the same day are also included as sports tourists. Mae twristiaeth chwaraeon yn ymwneud â gwylio a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Dylai dysgwyr fod yn ymwybodol o'r amrywiaeth o wyliau sydd ar gael i dwristiaid ar gyfer gwylio digwyddiadau chwaraeon pwysig. Gall rhai o'r rhain, fel dilyn taith griced ryngwladol, bara nifer o wythnosau. Mae clybiau chwaraeon yn aml yn trefnu teithiau er mwyn i dimau chwarae yn erbyn timau mewn rhanbarth arall. Mae cefnogwyr chwaraeon sy'n teithio i gemau oddi cartref ac yn dychwelyd yr un diwrnod hefyd yn cael eu cynnwys fel twristiaid chwaraeon. |
Adventure Antur | Adventure tourists seek adventurous activities that may be dangerous, such as rock climbing, river rafting, skydiving and bungee jumping. In recent years, the number of companies specialising in adventure tourism activities has increased significantly. In 2016, Visit Wales’ main promotional thrust was Adventure Tourism. Mae twristiaid antur yn chwilio am weithgareddau anturus a allai fod yn beryglus, fel dringo creigiau, rafftio ar afonydd, awyrblymio (skydiving) a gwneud neidiau bynji. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y cwmnïau sy'n arbenigo mewn gweithgareddau twristiaeth antur wedi cynyddu'n sylweddol. Yn 2016, Twristiaeth Antur oedd prif bwyslais hyrwyddo Croeso Cymru. |
Health / Medical Iechyd / Meddygol | This type of tourist seeks special medical treatment, which often involves travelling outside their home country. They may need to travel because their own country doesn’t provide the expertise needed, or the treatment required is too expensive in their own country. Many health or medical tourists also make trips simply to stay for few days in a healthier climate or in spa resorts. Examples of health/medical tourism include tourists flying to South Africa to undergo plastic surgery, travelling to Hungary for dental treatment or visiting the Royal Turkish Baths and Spa in Harrogate, Yorkshire. Mae'r math hwn o dwristiaid yn chwilio am driniaeth feddygol arbennig, sydd yn aml yn golygu teithio i rywle y tu allan i'w gwlad eu hunain. Efallai y bydd angen iddynt deithio oherwydd nad yw eu gwlad eu hun yn darparu'r arbenigedd sydd ei angen neu mae'r driniaeth sydd ei hangen arnynt yn rhy ddrud yn eu gwlad eu hun. Mae llawer o dwristiaid iechyd neu feddygol hefyd yn mynd ar deithiau er mwyn aros am ychydig ddiwrnodau yn unig mewn hinsawdd iachach neu mewn cyrchfannau gwyliau sba. Mae enghreifftiau o dwristiaeth iechyd/feddygol yn cynnwys twrist yn hedfan i Dde Affrica i gael llawfeddygaeth blastig, teithio i Hwngari am driniaeth ddeintyddol neu ymweld â'r Sba a'r Baddon Twrcaidd Brenhinol yn Harrogate, Swydd Efrog. |
Dark Tywyll | Dark tourism is the act of travel and visitation to sites, attractions and exhibitions which have real or recreated death, suffering or the seemingly macabre as a main theme, e.g. cemetery tourism visits in London. Twristiaeth dywyll yw'r weithred o deithio ac ymweld â safleoedd, atyniadau ac arddangosfeydd sydd â marwolaeth go iawn neu wedi'i hail-greu, dioddefaint neu'r hyn sy'n ymddangos yn erchyll fel ei phrif thema, e.e. ymweliadau twristiaid â mynwentydd yn Llundain. |
Cultural / religious Diwylliannol / crefyddol | These types of tourists travel to experience religious or cultural destinations such as Westminster Abbey, St. Paul’s Cathedral and Stonehenge and other UNESCO heritage sites. Cultural events such as the Notting Hill Carnival and the Reading Festival also attract many tourists. Mae'r mathau hyn o dwristiaid yn teithio i brofi cyrchfannau crefyddol neu ddiwylliannol fel Abaty Westminster, Eglwys Gadeiriol Sant Paul, Côr y Cewri a safleoedd treftadaeth UNESCO eraill. Mae digwyddiadau diwylliannol eraill fel Carnifal Notting Hill a Gŵyl Reading hefyd yn denu llawer o dwristiaid. |
Ecotourist Ecodwristiaid | This includes tourists involved in responsible travel to natural areas that conserves the environment and improves the well-being of local people. Ecotourists might also choose accommodation providers that promote sustainable tourism, e.g. buying from local producers, energy and water saving devices. Mae hyn yn cynnwys twristiaid sy’n teithio’n gyfrifol i ardaloedd naturiol mewn ffordd sy’n gwarchod yr amgylchedd ac yn gwella lles pobl leol. Gall eco-dwristiaid hefyd ddewis darparwyr llety sy'n hybu twristiaeth gynaliadwy, e.e. prynu gan gynhyrchwyr lleol, dyfeisiau arbed egni a dŵr. |
Backpacker /youth Heicwyr / pobl ifanc |
Descriptions of modern backpackers vary. Typically, backpacking tourists are understood as those travellers who demonstrate a preference for budget accommodation with a flexible travel itinerary and take longer rather than shorter holidays. However, backpacking has evolved over time, and not all fit into this description as they might prefer more upmarket accommodation. Another description of backpackers might state that they travel as self-organised tourists on a prolonged, multiple destination journey with a flexible itinerary that could include temporary or seasonal jobs. Mae'r disgrifiadau o heicwyr modern yn amrywio. Yn nodweddiadol, deallir mai twristiaid heicio yw'r teithwyr sy'n well ganddyn nhw lety rhad gydag amserlen teithio hyblyg ac sy'n cymryd gwyliau hirach yn hytrach na rhai byrrach. Fodd bynnag, mae heicio wedi datblygu dros amser ac nid yw pob math yn cyfateb i'r disgrifiad hwn gan y gall rhai ddewis llety mwy moethus. Disgrifiad arall o heicwyr yw twristiaid sy'n gwneud eu trefniadau eu hun ar deithiau hir i gyrchfannau niferus gydag amserlen teithio hyblyg a allai gynnwys swyddi dros dro neu dymhorol. |
Natural attractions Atyniadau naturiol | Learners should know examples of major natural attractions such as mountains, rivers, forests, lakes and caves and explain why they appeal to different types of tourists. Dylai dysgwyr wybod enghreifftiau o atyniadau naturiol pwysig fel mynyddoedd, afonydd, coedwigoedd, llynnoedd ac ogofeydd, a gallu egluro pam maent yn apelio at wahanol fathau o dwristiaid. |
Built attractions Atyniadau adeiledig | Learners should know examples of major built attractions such as castles, cathedrals, abbeys, stately homes and palaces and explain why they appeal to different types of tourists. Dylai dysgwyr wybod enghreifftiau o atyniadau adeiledig pwysig fel cestyll, eglwysi cadeiriol, abatai, plastai a phalasau, a gallu egluro pam maent yn apelio at wahanol fathau o dwristiaid. |
Purpose-built attractions Atyniadau pwrpasol | Learners should know examples of major purpose-built attractions such as gardens, museums, theme parks and zoos and explain why they appeal to different types of tourists. Dylai dysgwyr wybod am enghreifftiau o atyniadau pwrpasol fel gerddi, amgueddfeydd, parciau thema a sŵau, a gallu egluro pam maent yn apelio at wahanol fathau o dwristiaid. |
Transport methods and facilities Dulliau cludiant a chyfleusterau |
Learners should know examples of key transport methods and business names used by different tourists such as trains, planes, ferries, cruises, coaches, the tube, trams, sightseeing buses and car hire. Learners should also be able to explain/discuss the advantages and disadvantages of the different methods of transport, and factors which might influence tourists’ choice of transport method, e.g. cost, availability, comfort, frequency, access, journey time and environmental impacts. The names of major transport facilities such as airports, ferry ports, train stations, bus stations, bridges and motorways should be learnt by learners. Dylai dysgwyr wybod enghreifftiau o ddulliau cludiant allweddol a'r enwau busnes a ddefnyddir gan wahanol dwristiaid, fel trenau, awyrennau, fferïau, mordeithiau, bysiau, trenau tanddaearol, tramiau, bys ymweld a llogi ceir. Dylai dysgwyr hefyd allu esbonio/trafod manteision ac anfanteision y gwahanol ddulliau cludiant, a’r ffactorau a allai ddylanwadu ar ddewis twristiaid o ddulliau cludiant, e.e. cost, argaeledd, cysur, amlder, mynediad, amser teithio a'r effeithiau amgylcheddol. Dylai dysgwyr ddysgu enwau'r cyfleusterau cludiant pwysig fel meysydd awyr, porthladdoedd fferïau, gorsafoedd trenau, gorsafoedd bysiau, pontydd a thraffyrdd. |
Business facilities Cyfleusterau busnes | Business tourism is an important sector of the UK’s tourism industry. Modern facilities help to attract business tourists. Business facilities include large conference/trade fair centres, airport facilities (meeting rooms, business lounge and exclusive refreshment areas) and hotel facilities which include meeting/conference rooms, private refreshment rooms, and entertainment and ICT technologies. Mae twristiaeth fusnes yn sector pwysig yn niwydiant twristiaeth y DU. Mae cyfleusterau modern yn helpu i ddenu twristiaid busnes. Mae cyfleusterau busnes yn cynnwys canolfannau cynadleddau/ffeiriau masnach mawr, cyfleusterau maes awyr (ystafelloedd cyfarfod, lolfa fusnes a mannau lluniaeth detholedig) a chyfleusterau gwesty sy'n cynnwys ystafelloedd cyfarfod/cynadledda, ystafelloedd lluniaeth preifat, a thechnolegau adloniant a TGCh. |
Reputation and status Enw da a statws | A destination’s reputation is an important factor in tourists’ decision-making. Factors that can affect an area’s reputation can include safety, security, terrorism, welcoming ethos, human rights, marketing/branding image and facilities (e.g. business, ICT, transport, accommodation). Some destinations are popular for their architecture, nightlife, wildlife, retail outlets, football teams, etc. Mae enw da cyrchfan yn ffactor bwysig wrth i dwristiaid wneud penderfyniadau. Ymysg y ffactorau a all effeithio ar enw da ardal mae diogelwch, terfysgaeth, ethos croesawgar, hawliau dynol, delwedd farchnata/brandio a chyfleusterau (e.e. busnes, TGCh, cludiant, llety). Mae rhai cyrchfannau'n boblogaidd am eu pensaernïaeth, bywyd nos, bywyd gwyllt, allfeydd adwerthu, timau pêl-droed, ac ati. |
Weather and climate Tywydd a Hinsawdd |
Weather and climate are important factors in tourists’ decision-making and also influence the successful operation of tourism businesses. Climate is the long-term average in a location whereas weather occurs at a specific time and destination. So, while tourists might expect certain climatic conditions when they travel to a place, they will experience the actual weather, which might deviate quite substantially from the average conditions. Learners should be able to interpret climate charts in order to determine peak times, low seasons and the best times to visit for different types of tourists. Learners should also know that extreme weather conditions can have short- and long-term impacts on tourism destinations. Mae tywydd a hinsawdd yn ffactorau pwysig wrth i dwristiaid wneud penderfyniadau ac maent hefyd yn dylanwadu ar weithrediad llwyddiannus busnesau twristiaeth. Yr hinsawdd yw'r cyfartaledd tymor hir mewn lleoliad tra bod tywydd yn digwydd ar amser ac mewn cyrchfan penodol. Felly, er y gallai twristiaid ddisgwyl hinsawdd benodol pan fyddant yn teithio i le, byddant yn profi'r tywydd gwirioneddol, sy'n gallu amrywio'n eithaf sylweddol ar y cyfartaledd. Dylai dysgwyr allu dehongli siartiau hinsawdd i bennu amserau brig, tymhorau isel a'r amserau gorau i ymweld gan wahanol fathau o dwristiaid. Dylai dysgwyr hefyd wybod bod tywydd eithafol yn gallu cael effeithiau tymor byr a hir ar gyrchfannau twristiaeth. |
Accommodation providers Darparwyr llety |
There is a wide range of accommodation providers (including timeshare, Airbnb and glamping pods) which provide products and services to types of tourist with different needs and expectations. Within the range of accommodation providers, learners should know that some are serviced and other unserviced and that there are advantages and disadvantages of each type for tourists. Grading schemes are used to provide tourists with information about the quality of accommodation, e.g. VisitBritain’s National Quality Assessment Scheme. Review sites are also used by tourists to assess the quality of accommodation providers. Learners should be able to describe the range of accommodation in a named UK tourism destination and explain why it is important for destinations to provide a range of accommodation for different types of tourists. Mae amrywiaeth eang o ddarparwyr llety (yn cynnwys cyfnodrannu [timeshare], Airbnb a phodiau glampio) sy'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau i fathau o dwristiaid sydd ag anghenion a disgwyliadau gwahanol. O fewn yr amrywiaeth o ddarparwyr llety dylai dysgwyr wybod bod rhai'n darparu gwasanaeth, a rhai ddim yn darparu gwasanaeth, a bod i’r ddau fath fanteision ac anfanteision i dwristiaid. Mae cynlluniau graddio'n cael eu defnyddio i roi gwybodaeth i dwristiaid am ansawdd llety, e.e. Cynllun Asesu Ansawdd Cenedlaethol VisitBritain. Mae twristiaid hefyd yn defnyddio safleoedd adolygu i asesu ansawdd darparwyr llety. Dylai dysgwyr allu disgrifio'r amrywiaeth o lety mewn cyrchfan twristiaeth a enwir yn y DU ac esbonio pam mae'n bwysig bod cyrchfannau'n darparu amrywiaeth o lety ar gyfer gwahanol fathau o dwristiaid. |
Attractions Atyniadau | Learners should be able to differentiate between natural, built and purpose-built attractions and give examples of each. They should also appreciate that some attractions are free while others charge an admission fee. Dylai dysgwyr allu gwahaniaethu rhwng atyniadau naturiol, adeiledig a phwrpasol a rhoi enghreifftiau o bob un. Dylent hefyd werthfawrogi'r ffaith fod rhai atyniadau'n rhad ac am ddim tra bod eraill yn codi tâl mynediad. |
Tour operators Trefnwyr teithiau |
Tour operators arrange the transport, accommodation and leisure activities which make up the holiday packages. These packages are usually sold by travel agents. Learners should understand the term ‘vertical integration’, which means that the various products or services involved in a single holiday are all owned by the same parent company. A tour operator acquires a travel agency that makes arrangements for flights, hotels and cruises all owned by the tour operator, e.g. Thomas Cook. Learners should be able to give examples of major tour operators and know that there are mass market and specialist tour operators. Mae trefnwyr teithiau'n trefnu'r cludiant, llety a’r gweithgareddau hamdden sy'n ffurfio pecynnau gwyliau. Fel arfer mae pecynnau'n cael eu gwerthu gan asiantaethau teithio. Dylai dysgwyr ddeall y term ‘integreiddio fertigol’, sy'n golygu bod yr amrywiol gynhyrchion neu wasanaethau sy'n rhan o wyliau unigol, bob un yn perthyn i'r un rhiant-gwmni. Mae trefnwr teithiau yn caffael asiantaeth deithio sy'n gwneud trefniadau ar gyfer hediadau, gwestai a mordeithiau a phob un yn perthyn i'r trefnwr teithiau, e.e. Thomas Cook. Dylai dysgwyr allu rhoi enghreifftiau o'r prif drefnwyr teithiau a gwybod bod trefnwyr teithiau marchnad dorfol ac arbenigol yn bodoli. |
Travel agents Asiantaethau teithio |
The role of travel agents is to act as agents selling tourism products and services such as holidays, flights, car hire, rail travel, insurance and currency exchange. Learners should be able to give examples of major travel agents and know that there are different types of travel agents such as high street (retail) travel agents, online travel agents and specialist travel agents (business or specific destinations). Rôl asiantaethau teithio yw gweithredu fel asiant sy'n gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau twristiaeth fel gwyliau, teithiau hedfan, llogi ceir, teithio mewn trên, yswiriant a chyfnewid arian cyfred. Dylai dysgwyr allu rhoi enghreifftiau o'r prif asiantaethau teithio a gwybod bod yna wahanol fathau o asiantaethau teithio fel asiantaethau teithio stryd fawr (adwerthu), asiantaethau teithio ar-lein ac asiantaethau teithio arbenigol (busnes neu gyrchfannau penodol). |
Transport Trafnidiaeth | All tourism involves some form of transport from home to the destination, and often more than one method of transport is necessary. An effective transport network is essential for the UK’s tourism industry if tourists are to travel to and from tourism destinations easily, quickly and safely. Learners should know the names of major transport organisations: coach operators, car hire companies, train operators, ferry companies, cruise companies and airlines. Mae pob math o dwristiaeth yn cynnwys rhyw fath o gludiant o'r cartref i'r cyrchfan, ac yn aml mae angen mwy nag un dull o gludiant. Mae rhwydwaith trafnidiaeth effeithiol yn hanfodol ar gyfer y diwydiant twristiaeth yn y DU fel y gall twristiaid deithio i mewn ac allan o gyrchfannau twristiaeth yn hawdd, yn gyflym ac yn ddiogel. Dylai dysgwyr fod yn gyfarwydd ag enwau'r prif sefydliadau cludiant: gweithredwyr bysiau, cwmnïau llogi ceir, gweithredwyr trenau, cwmnïau fferïau, cwmnïau mordeithio a chwmnïau hedfan. |
Guiding and information services Gwasanaethau gwybodaeth a thywys |
These two services are sometimes included in the support services sector. People working as guides are important in providing tourists with the appropriate information for the attraction / destination they are visiting. Blue Badge Tourist Guides are the official, professional tourist guides of the United Kingdom. They are recognised by local tourist bodies throughout the UK, and by VisitBritain, as Britain’s official tourist guides. Information services in the UK’s tourism industry include National Tourist Boards such as Visit Wales and VisitBritain and Regional Tourist Boards such as London and North West England. Local Tourist Information Centres and visitor centres provide a range of products and services which help tourists get the most from their visit. London & Partners is the official promotional company for London. They are a not-for-profit public-private partnership, funded by the Mayor of London and a network of commercial partners. Their aims are to build London’s international reputation and create additional jobs and growth for the London economy by attracting overseas businesses, events, congresses, students and visitors to London and helping London businesses go global. Weithiau mae'r ddau wasanaeth hyn yn cael eu cynnwys yn y sector gwasanaethau cymorth. Mae pobl sy'n gweithio fel tywyswyr yn bwysig am eu bod yn rhoi'r wybodaeth briodol i dwristiaid ar gyfer yr atyniad/y cyrchfan maent yn ymweld â nhw. Tywyswyr Twristiaid Bathodyn Glas yw'r tywyswyr twristiaid proffesiynol, swyddogol yn y Deyrnas Unedig. Cânt eu cydnabod gan gyrff twristiaeth lleol ledled y DU, a gan VisitBritain, fel tywyswyr twristiaid swyddogol Prydain. Mae'r gwasanaethau gwybodaeth yn niwydiant twristiaeth y DU yn cynnwys Byrddau Croeso Cenedlaethol fel Croeso Cymru a VisitBritain, a Byrddau Croeso Rhanbarthol fel Llundain a Gogledd Orllewin Lloegr. Mae Canolfannau Croeso a chanolfannau ymwelwyr lleol yn darparu amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau sy'n helpu twristiaid i gael y budd mwyaf o'u hymweliad. London & Partners yw'r cwmni hyrwyddo swyddogol ar gyfer Llundain. Maent yn bartneriaeth gyhoeddus-breifat ddielw, a ariennir gan Faer Llundain a rhwydwaith o bartneriaid masnachol. Eu nodau yw datblygu enw da rhyngwladol Llundain a chreu swyddi a thwf ychwanegol ar gyfer economi Llundain – drwy atynnu busnesau tramor, digwyddiadau, cyngresau, myfyrwyr ac ymwelwyr i Lundain a helpu busnesau Llundain i fynd yn fyd-eang. |
NGOs Cyrff anllywodraethol | An NGO is a non-profit organisation that operates independently of any government, typically one whose purpose is to address a social or political issue. However, NGOs may also receive funding from a government, as is the case with VisitBritain and VisitWales. Mae corff anllywodraethol (NGO) yn sefydliad dielw sy'n gweithredu'n annibynnol oddi wrth unrhyw lywodraeth, ac yn nodweddiadol, ei bwrpas yw mynd i'r afael â mater cymdeithasol neu wleidyddol. Fodd bynnag, gall corff anllywodraethol hefyd dderbyn cyllid gan lywodraeth, fel yn achos VisitBritain a Croeso Cymru. |
Charities Elusennau |
Charities are non-profit organisations. UK charities involved in tourism include:
Differences between a non-profit (charities) and an NGO:
Y gwahaniaethau rhwng sefydliad dielw (elusen) a sefydliad anllywodraethol yw:
|
Government Llywodraeth |
VisitBritain is the national tourism agency – a non-departmental public body, funded by DCMS, which plays a unique role in building England’s/Britain’s tourism product, raising Britain’s profile worldwide, increasing the volume and value of tourism exports and developing the UK’s visitor economy. Working with a wide range of partners in both the UK and overseas, their mission is to grow the volume and value of inbound tourism across the nations and regions of Britain and to develop world-class English tourism products to support growth aspirations. Visit Wales is the Welsh Government's tourism team and a part of the Department for Heritage. The role of Visit Wales is to support the Welsh tourism industry, improve tourism in Wales and provide a strategic framework within which private enterprise can achieve sustainable growth and success, thus improving the social and economic well-being of Wales. VisitBritain yw'r asiantaeth twristiaeth genedlaethol – corff cyhoeddus anadrannol a ariennir gan Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS). Mae'n chwarae rhan unigryw yn datblygu cynnyrch twristiaeth Lloegr/Prydain, gan wella proffil Prydain yn fyd-eang, cynyddu niferoedd a gwerth yr allforion twristiaeth a datblygu economi ymwelwyr y DU. Drwy weithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid yn y DU a thramor, eu cenhadaeth yw tyfu niferoedd a gwerth twristiaeth tuag i mewn ar draws cenhedloedd a rhanbarthau Prydain a datblygu cynhyrchion twristiaeth o'r radd flaenaf yn Lloegr i gefnogi'r dyheadau am dwf. Croeso Cymru yw tîm twristiaeth Llywodraeth Cymru, a rhan o'r Adran Dreftadaeth. Rôl Croeso Cymru yw cefnogi diwydiant twristiaeth Cymru, gwella twristiaeth yng Nghymru a darparu fframwaith strategol sy'n caniatáu i fentrau preifat gyflawni twf a llwyddiant cynaliadwy, a thrwy hynny, gwella llesiant cymdeithasol ac economaidd Cymru. |
Coastal Arfordirol |
The UK’s coastal destinations include:
|
Cultural Diwylliannol |
The UK’s main cultural destinations include cities such as Bath, Chester, London, Portsmouth and Liverpool which offer cultural attractions within. Some of the UK’s cities have been chosen as cities of culture which has helped to increase their appeal to tourists, e.g. Glasgow and Hull. Cultural destinations can also include well known heritage sites such as Stonehenge, Fountains Abbey, Hadrian’s Wall and Pembroke Castle. Major events can also attract many people to a destination – examples include Glyndebourne Festival Opera, Glastonbury Festival and Hay Festival. Mae prif gyrchfannau diwylliannol y DU gynnwys dinasoedd fel Caerfaddon, Caer, Llundain, Portsmouth a Lerpwl, sy'n cynnig atyniadau diwylliannol o’u mewn. Mae rhai o ddinasoedd y DU wedi cael eu dewis yn ddinas diwylliant ac mae hyn wedi helpu i gynyddu eu hapêl i dwristiaid, e.e. Glasgow a Hull. Gall cyrchfannau diwylliannol hefyd gynnwys safleoedd treftadaeth adnabyddus fel Côr y Cewri, Abaty Fountains, Mur Hadrian a Chastell Penfro. Gall digwyddiadau pwysig hefyd ddenu pobl at gyrchfan – ymhlith yr enghreifftiau mae Gŵyl Opera Glyndebourne, Gŵyl Glastonbury a Gŵyl y Gelli. |
Countryside Cefn gwlad | Countryside areas are geographic areas located outside towns and cities. Learners should know the UK’s major countryside areas such as National Parks, AONBs, moors, nature reserves, forests/woods and mountainous areas. Although there are many outdoor activities to be enjoyed in the UK’s countryside areas, they also offer stately homes, iconic gardens, heritage sites, quaint villages, market towns and real ale pubs. Mae ardaloedd cefn gwlad yn ardaloedd daearyddol a leolir y tu allan i drefi a dinasoedd. Dylai dysgwyr fod yn gyfarwydd â phrif ardaloedd cefn gwlad y DU fel Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, gweunydd, gwarchodfeydd natur, fforestydd/coedwigoedd ac ardaloedd mynyddig. Er y gellir mwynhau llawer o weithgareddau awyr agored yn ardaloedd cefn gwlad y DU maent hefyd yn cynnig plastai, gerddi eiconig, safleoedd treftadaeth, pentrefi traddodiadol eu golwg, trefi marchnad a thafarnau â chwrw casgen go iawn. |
City Dinas | Learners should know the UK’s major cities and why they appeal to different types of tourists. Some cities have more attractions and appeal to leisure tourists whereas others might appeal more to business tourists. Some of the UK’s cities have been chosen as cities of culture which has helped to increase their appeal to tourists, e.g. Glasgow and Hull. Dylai dysgwyr fod yn gyfarwydd â dinasoedd pwysig y DU a gwybod pam maent yn apelio at wahanol fathau o dwristiaid. Mae gan rai dinasoedd fwy o atyniadau ac yn apelio i dwristiaid hamdden ac efallai bod rhai eraill yn apelio'n fwy i dwristiaid busnes. Mae rhai o ddinasoedd y DU wedi cael eu dewis yn ddinas diwylliant ac mae hyn wedi helpu i gynyddu eu hapêl i dwristiaid, e.e. Glasgow a Hull. |
Marketing principles Egwyddorion marchnata |
The basic principles of marketing consist of product, price, place, promotion and people – the 5 Ps. For a marketing strategy to be effective, the 5 Ps need to work together rather than as standalone principles. Marketing is the process of identifying, anticipating (predicting) and satisfying customer needs profitably. Mae egwyddorion sylfaenol marchnata yn cynnwys cynnyrch, pris, lle, hyrwyddo a phobl ('the 5 Ps' yn y Saesneg – product, price, place, promotion, people). Er mwyn i strategaeth farchnata fod yn llwyddiannus, mae angen i'r 5 P weithio gyda'i gilydd yn hytrach nag egwyddorion annibynnol. Marchnata yw'r broses o nodi, rhagweld (rhagfynegi) a bodloni anghenion cwsmeriaid yn broffidiol. |
Product Cynnyrch | A tourist product is an ‘object’ that attracts tourists. Examples include accommodation, transportation, dining and entertainment as well as attractions and tours. The tourism product may be defined as a package of tangible and intangible components (services) based on activity at a destination. Mae cynnyrch twristaidd yn 'wrthrych' sy'n denu twristiaid. Mae enghreifftiau'n cynnwys llety, cludiant, bwyta ac adloniant yn ogystal ag atyniadau a theithiau. Gellir diffinio'r cynnyrch twristiaeth fel pecyn o gydrannau diriaethol ac anniriaethol (gwasanaethau) yn seiliedig ar weithgaredd mewn cyrchfan. |
Price Pris | Price is what a tourist pays for a product (or service). The price of products may fluctuate due to supply and demand. For example, hotel prices will vary over a period of time due to factors such as weather, school holidays, the economy and special events – supply and demand at different times of the year. Pris yw'r hyn y mae twristiaid yn ei dalu am gynnyrch (neu wasanaeth). Gall pris cynhyrchion amrywio yn sgil y cyflenwad a'r galw. Er enghraifft, bydd prisiau gwestai yn amrywio dros gyfnod o amser oherwydd ffactorau megis tywydd, gwyliau ysgol, yr economi a digwyddiadau arbennig – cyflenwad a galw ar adegau gwahanol o'r flwyddyn. |
Place Lle | Place is more than just the geographic location of a visitor activity. Place is also a mixture of a destination’s qualities, including landscape and architecture, history and heritage and social structures and relationships. Tourists want to feel safe and secure in order to enjoy the experience of visiting a destination. Mae lle yn fwy na dim ond lleoliad daearyddol gweithgaredd ymwelwyr. Mae lle hefyd yn gymysgedd o rinweddau cyrchfan, gan gynnwys tirwedd a phensaernïaeth, hanes a threftadaeth a strwythurau a pherthnasoedd cymdeithasol. Mae twristiaid am deimlo'n ddiogel er mwyn mwynhau'r profiad o ymweld â chyrchfan. |
Promotion Hyrwyddo |
Promoting the product or service in tourism involves raising awareness among potential customers about its existence. It is likely that advertising is the most well-known form of promotion, using media such as television, radio, internet, newspapers and magazines. Websites, apps, blogs and social media are also used as advertising mediums and have become increasingly important in attracting tourists. Tourist Information Centres (TICs) and visitor centres play an important role in promoting destinations and tourism organisations. Promotion can serve a variety of other purposes, such as a hotel chain gaining market share, improving brand name or image, or bringing to the market a new product. The effective promotion will create the need or desire for the product, which, ultimately, will lead to increased sales. Mae hyrwyddo cynnyrch neu wasanaeth mewn twristiaeth yn cynnwys codi ymwybyddiaeth ymhlith cwsmeriaid posibl ynghylch y potensial. Mae'n debygol mai hysbysebu yw'r math mwyaf adnabyddus o hyrwyddo, gan ddefnyddio cyfryngau megis y teledu, radio, rhyngrwyd, papurau newydd a chylchgronau. Defnyddir gwefannau, apiau, blogiau a'r cyfryngau cymdeithasol fel cyfryngau hysbysebu hefyd, a bellach maen nhw'n gynyddol bwysig wrth ddenu twristiaid. Mae gan Ganolfannau Croeso (TIC) a chanolfannau i ymwelwyr rôl bwysig wrth hyrwyddo cyrchfannau a sefydliadau twristiaeth. Gellir defnyddio hyrwyddo at amrywiaeth o bwrpasau eraill, megis cadwyn o westai yn ennill cyfran o'r farchnad, gwella enw neu ddelwedd brand, neu gyflwyno cynnyrch newydd i'r farchnad. Bydd hyrwyddo effeithiol yn creu'r angen neu'r awydd am y cynnyrch, a fydd, yn y pen draw, yn arwain at gynnydd mewn gwerthiant. |
People Pobl |
People play a major role in the success or failure of tourism organisations. Customer service is a vital element of the tourism industry and might include handling complaints and helping and advising tourists. People/employees involved in marketing, catering, entertainment and cleaning all have their part to play in the tourism industry. Mae gan bobl rôl fawr yn llwyddiant neu fethiant sefydliadau twristiaeth. Mae gwasanaeth i gwsmeriaid yn elfen hanfodol o'r diwydiant twristiaeth a gallai gynnwys trin cwynion a helpu a chynghori twristiaid. Mae pobl/gweithwyr sy'n ymwneud â marchnata, arlwyo, adloniant a glanhau i gyd yn rhan o'r diwydiant twristiaeth. |
Marketing objectives Amcanion marchnata |
Marketing objectives set out what a tourism organisation wants to achieve from its marketing activities. Effective marketing meets the SMART criteria. Examples include:
Dyma rai enghreifftiau:
|
Market research Ymchwil marchnata |
Four common primary market research techniques are questionnaires (surveys), interviews, focus groups and customer observation. Examples of secondary research include trade articles, government reports, VisitBritain statistics and a tourism organisation’s data records. Market research is an important tool for a tourism organisation as it can:
Mae ymchwil i'r farchnad yn adnodd pwysig i sefydliad twristiaeth gan y gallai:
|
Segmentation and target marketing Segmentu a marchnata wedi'i dargedu |
The tourism industry is not capable of satisfying every individual's need. Therefore, segmenting the total market helps to understand specific demands of tourists. It helps to create effective marketing strategies to target specific market segments. Market segments include:
|
Seasonal Tymhorol | There are different types of seasonal jobs in the UK’s tourism industry as different sectors need to recruit staff for bars, restaurants, hotel housekeeping, cruise ships, ski chalets, theme parks, etc. Mae gwahanol fathau o swyddi tymhorol yn niwydiant twristiaeth y DU gan fod angen i sectorau gwahanol recriwtio staff ar gyfer y bariau, bwytai, cadw tŷ mewn gwestai, llongau mordeithiau, chalets sgïo, parciau thema, ac ati. |
Temporary / permanent Dros dro / parhaol | Some jobs in the UK’s tourism industry can be full-time, part-time, permanent or temporary. Tourism organisations need to be flexible in order to recruit the staff they need. This could be a combination of full-time, part-time, temporary and permanent staff. Gall swyddi yn y diwydiant twristiaeth yn y DU fod yn rhai llawn amser, rhan-amser, parhaol neu dros dro. Mae'n rhaid i sefydliadau twristiaeth fod yn hyblyg er mwyn recriwtio'r staff y mae eu hangen arnynt. Gallai hyn fod yn gyfuniad o staff llawn amser, rhan-amser, dros dro a pharhaol. |
Management, supervisory, operative Rheoli, goruchwyliol, gweithiol |
There is a range of jobs at higher levels. Examples include duty managers, marketing managers, restaurant managers, maintenance managers and events supervisors. Management positions can be gained through academic qualifications, vocational qualifications or tourism industry experience. Specific in-house training is likely to be available within the industry and is often encouraged to enhance promotion prospects and knowledge of particular issues such as leadership skills and marketing methods. Mae amrywiaeth o swyddi ar lefelau uwch. Ymhlith yr enghreifftiau mae rheolwyr dyletswydd, rheolwyr marchnata, rheolwyr bwytai, rheolwyr cynnal a chadw a goruchwylwyr digwyddiadau. Gellir cael swyddi rheoli trwy gymwysterau academaidd, cymwysterau galwedigaethol neu brofiad yn y diwydiant twristiaeth. Mae'n debygol y bydd hyfforddiant mewnol penodol ar gael yn y diwydiant ac yn aml mae hyn yn cael ei annog er mwyn gwella’r rhagolygon am ddyrchafiad a’r wybodaeth am faterion penodol fel sgiliau arweinyddiaeth a dulliau marchnata. |
Personal and interpersonal Personol a rhyngbersonol | Learners should know the difference between personal and inter-personal skills. Responsibility, loyalty, friendliness, resourcefulness and dependability are all considered personal skills. Interpersonal skills (communication skills) refer to the ability to communicate or interact well with other people such as guests and colleagues. Interpersonal skills overlap with communication skills; however, the latter can include non-verbal communication such as body language and written communication. Dylai dysgwyr wybod beth yw'r gwahaniaeth rhwng sgiliau personol a rhyngbersonol. Mae cyfrifoldeb, teyrngarwch, cyfeillgarwch, dyfeisgarwch a dibynadwyedd, bob un, yn cael eu hystyried yn sgiliau personol. Mae sgiliau rhyngbersonol (sgiliau cyfathrebu) yn cyfeirio at y gallu i gyfathrebu neu ryngweithio'n dda gyda phobl eraill fel gwesteion a chydweithwyr. Mae sgiliau rhyngbersonol yn gorgyffwrdd â sgiliau cyfathrebu, ond gall y diwethaf gynnwys cyfathrebu di-eiriau fel iaith y corff a chyfathrebu ysgrifenedig. |
Technical / Practical Technegol / Ymarferol | Technical skills are the abilities and knowledge needed to perform specific tasks in the UK’s tourism industry. They are practical and often relate to mechanics, ICT, health and safety and mathematics. Technical skills are often underrated in the tourism industry as they involve little interaction with tourists/customers. Sgiliau technegol yw'r galluoedd a'r wybodaeth sydd eu hangen i gyflawni tasgau penodol yn y diwydiant twristiaeth yn y DU. Maent yn ymarferol, ac yn aml yn gysylltiedig â mecaneg, TGCh, iechyd a diogelwch a mathemateg. Yn aml mae sgiliau technegol yn cael eu tanbrisio yn y diwydiant twristiaeth gan nad ydynt yn cynnwys llawer o ryngweithio gyda thwristiaid/cwsmeriaid. |
Qualities Rhinweddau | Employers also value qualities as well as skills and qualifications. Typical qualities that employers seek in their employees include honesty, work ethic, flexibility, determination, reliability, willingness to learn and loyalty. Mae cyflogwyr hefyd yn gwerthfawrogi rhinweddau ynghyd â sgiliau a chymwysterau. Ymysg y nodweddion y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw yn eu gweithwyr mae gonestrwydd, moeseg gwaith, hyblygrwydd, penderfynoldeb, dibynadwyedd, parodrwydd i ddysgu a theyrngarwch. |
Qualifications Cymwysterau |
There is a wide range of qualifications which tourism organisations value when recruiting and retaining staff. The qualifications offered include those offered by educational institutions such as schools, colleges and universities – GCSEs, GCEs, BTECs and degrees, for example. Some organisations encourage their staff to gain qualifications while at work, online or by attending a college/university for one day a week. Acquiring relevant professional qualifications in the different areas of tourism can improve prospects for employment and upward mobility. Consequently, NVQs and undergraduate degrees are fairly common within the tourism workforce, especially for those in managerial and administrative roles. There is also a wide range of tourism related apprenticeships available. This sort of placement is usually offered to those in the 16 – 24 age range and can provide the necessary training and experience required to gain a permanent job. Mae amrywiaeth eang o gymwysterau y mae sefydliadau twristiaeth yn eu gwerthfawrogi wrth recriwtio a chadw staff. Mae'r cymwysterau a gynigir yn cynnwys y rhai a gynigir gan sefydliadau addysgol megis ysgolion, colegau a phrifysgolion – TGAU, TAG, BTEC a graddau, er enghraifft. Mae rhai sefydliadau'n annog eu staff i ennill cymwysterau tra byddant yn y gwaith, ar-lein neu drwy fynychu coleg/prifysgol am ddiwrnod bob wythnos. Gall ennill cymwysterau proffesiynol perthnasol yn y gwahanol feysydd twristiaeth wella'r rhagolygon am gyflogaeth ac am symudedd tuag i fyny. O ganlyniad, mae cymwysterau NVQ a graddau israddedig yn eithaf cyffredin ymhlith y gweithlu twristiaeth, yn enwedig ymhlith y rhai hynny sydd mewn rolau rheolaethol a gweinyddol. Mae amrywiaeth eang o brentisiaethau cysylltiedig â thwristiaeth ar gael hefyd. Fel arfer caiff y math hwn o leoliad ei gynnig i'r rhai hynny sydd yn yr ystod oedran 16-24 a gall ddarparu'r hyfforddiant a'r profiad sy'n ofynnol er mwyn cael swydd barhaol. |
Summary Crynodeb |
Learners need to know:
|
Direct and indirect employment Cyflogaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol | The UK’s tourism industry employs approximately 3 million people and is one of the most important industries in the UK. This figure is expected to increase to nearly 4 million by 2025. Learners should be aware that tourism also creates jobs outside its own sector, e.g. in retail. Mae'r diwydiant twristiaeth yn y DU yn cyflogi tua 3 miliwn o bobl ac mae'n un o'r diwydiannau pwysicaf yn y DU. Disgwylir y bydd y ffigur hwn yn cynyddu i bron 4 miliwn erbyn 2025. Dylai dysgwyr fod yn ymwybodol o'r ffaith bod twristiaeth hefyd yn creu swyddi y tu allan i'w sector ei hun, e.e. mewn adwerthu. |
Full time / Part time and flexible contracts Contractau llawn amser / rhan-amser a hyblyg |
Nearly 90% of those employed in the UK’s tourism industry are on permanent contracts – full-time and part-time. Flexible contracts: Under a casual contract, there is commonly no obligation for the employer to offer work to the individual and, crucially, no obligation on the individual to accept work that is offered. A zero-hour contract will typically, but not necessarily, differ from a standard casual worker agreement in that, while the employer is under no obligation to offer work, the individual is usually obliged to be available and to accept the work when it is offered. There has been much criticism in the media about the increasing use of casual contracts and zero-hour employment positions. Mae gan bron 90% o'r rhai a gyflogir yn niwydiant twristiaeth y DU gontractau parhaol – llawn amser a rhan-amser. Contractau hyblyg: Dan gontract gwaith dros-dro (casual) nid oes fel arfer unrhyw ymrwymiad ar ran y cyflogwr i gynnig gwaith i'r unigolyn ac, o'r pwys mwyaf, nid oes ymrwymiad ar ran yr unigolyn i dderbyn gwaith a gynigir. Yn nodweddiadol, ond nid o reidrwydd, bydd cytundeb contract dim oriau yn wahanol i gytundeb gwaith dros-dro cyffredin oherwydd, er nad oes unrhyw ymrwymiad ar ran y cyflogwr i gynnig gwaith, mae ymrwymiad ar yr unigolyn fel arfer i fod ar gael ac i dderbyn gwaith pan gaiff ei gynnig. Mae llawer o feirniadaeth yn y cyfryngau ynglŷn â'r cynnydd yn y defnydd o gontractau a swyddi gwaith dim oriau. |
Seasonal work Gwaith tymhorol | The UK’s tourism industry has traditionally been very seasonal. In recent years, many tourism destinations and organisations are promoting themselves as all-year options for tourists. As a result, there has been a decrease in the number of seasonal employment opportunities in the UK. Some tourism organisations also employ people from overseas during peak periods, but this may change as a result of Brexit. Yn draddodiadol, mae'r diwydiant twristiaeth yn y DU wedi bod yn dymhorol iawn. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o gyrchfannau a sefydliadau twristiaeth yn marchnata eu hunain fel dewis trwy gydol y flwyddyn i dwristiaid. O ganlyniad, mae gostyngiad yn nifer y cyfleoedd cyflogaeth tymhorol yn y DU. Mae rhai sefydliadau twristiaeth hefyd yn cyflogi pobl o dramor yn ystod cyfnodau brig ond gallai hyn newid o ganlyniad i Brexit. |
Graduate opportunities Cyfleoedd i raddedigion | More people are entering the UK tourism industry with a degree or equivalent. Although the percentage is still lower than non-tourism industries, the increasing popularity of Tourism Management degree (and similar) courses is likely to narrow the gap in future years. Mae mwy o bobl yn dod i mewn i'r diwydiant twristiaeth yn y DU gyda gradd neu gymhwyster cyfatebol. Er bod y ganran yn dal i fod yn is nag mewn diwydiannau y tu allan i dwristiaeth, mae poblogrwydd cynyddol cyrsiau gradd (a thebyg) mewn Rheoli Twristiaeth yn debygol o gau'r bwlch yn y blynyddoedd nesaf. |
Apprenticeships Prentisiaethau | The number of people completing apprenticeships in the tourism industry is still quite small. However, the government’s apprenticeship scheme is still in its infancy, but it is hoped that more young people will take advantage of the scheme in order to learn a skill and gain a permanent work placement. Mae nifer y bobl sy'n gwneud prentisiaethau yn y diwydiant twristiaeth yn eithaf isel o hyd. Fodd bynnag, mae'n ddyddiau cynnar o hyd i gynllun prentisiaeth y llywodraeth ond gobeithir y bydd mwy o bobl ifanc yn manteisio ar y cynllun er mwyn dysgu sgìl ac ennill lleoliad gwaith parhaol. |
Employment agencies Asiantaethau cyflogi | Employment/recruitment agencies can assist jobseekers looking for placement in roles such as cruise ship staff, cabin crew and hotel staff. In addition, some UK tourism organisations use these agencies to recruit staff as it can save time and money and they may not have the relevant expertise to recruit the appropriate staff. Gall asiantaethau cyflogi/recriwtio helpu ceiswyr gwaith i chwilio am leoliad mewn rolau fel staff llongau mordeithio, criw awyrennau a staff gwestai. Yn ychwanegol, mae rhai sefydliadau twristiaeth yn y DU yn defnyddio'r asiantaethau hyn i recriwtio staff gan y gall arbed amser ac arian ac efallai na fydd ganddynt yr arbenigedd perthnasol i recriwtio'r staff priodol. |
Multiplier effect Effaith lluosydd |
Tourism not only creates jobs in the tourism industry, it also creates jobs growth in the primary and secondary sectors of industry. This is known as the multiplier effect, which in its simplest form is how money spent by a tourist circulates through a country's economy. For example, money spent in a hotel helps to create jobs directly in the hotel, but it also creates jobs indirectly elsewhere in the economy. The hotel, for example, has to buy food from local farmers, who may spend some of this money on fertiliser or clothes. The demand for local products increases as tourists often buy souvenirs, which increases secondary employment – the positive impact. Learners should know that some of this money eventually 'leaks' from the economy through imports (the purchase of goods from other countries) – the negative impact. Nid yn unig y mae twristiaeth yn creu swyddi yn y diwydiant twristiaeth, mae hefyd yn creu twf mewn swyddi yn y sectorau cynradd ac eilaidd mewn diwydiant. Gelwir hyn yr effaith luosydd ac ar ei ffurf symlaf; dyma sut mae'r arian sy'n cael ei wario gan dwrist yn cylchredeg trwy economi gwlad. Er enghraifft, mae arian sy'n cael ei wario mewn gwesty yn helpu i greu swyddi yn uniongyrchol yn y gwesty, ond mae hefyd yn creu swyddi yn anuniongyrchol mewn rhannau eraill o'r economi. Er enghraifft, mae'r gwesty'n prynu bwyd gan ffermwyr lleol, a allai wario peth o'r arian hwn ar wrtaith neu ddillad. Mae'r galw am gynhyrchion lleol yn cynyddu gan fod twristiaid yn aml yn prynu anrhegion, sy'n cynyddu cyflogaeth eilaidd – yr effaith gadarnhaol. Dylai dysgwyr wybod bod peth o'r arian hwn yn 'gollwng' ymhen amser o'r economi trwy fewnforion (pryniant nwyddau o wledydd eraill) – yr effaith negyddol. |
Butler Model Model Butler |
The purpose of the Butler Model is to look at the way that tourist destinations grow and develop. The tourist industry is dynamic and constantly changing. Therefore, the Butler Model is a way of studying tourist destinations and seeing how they change over time and in relation to the changing demands of the tourism industry. These changes can then be compared to the predictions as shown on the Butler Model which breaks down tourist destination development into 5/6 stages. The Butler Model (and similar) is important as it raises the awareness in tourism destination organisations that they might need to regenerate, build new attractions and target new markets at some time in the future. The Butler Model and other tourism area life cycle (TALC) models can be considered as being hypothetical, but experts disagree on how useful and accurate they really are. Pwrpas y Model Butler yw edrych ar y ffordd y mae cyrchfannau i dwristiaid yn tyfu ac yn datblygu. Mae'r diwydiant twristiaeth yn ddynamig ac yn newid yn barhaus. Felly, mae'r Model Butler yn ffordd o astudio cyrchfannau i dwristiaid a gweld sut maent yn newid dros amser ac mewn perthynas â'r newid yng ngalwadau'r diwydiant twristiaeth. Yna gall y newidiadau hyn gael eu cymharu â'r rhagfynegiadau fel y'u dangosir yn y Model Butler sy'n dadansoddi datblygiad cyrchfannau twristiaeth fesul 5/6 o gamau. Mae'r Model Butler (a'i debyg) yn bwysig am ei fod yn gwneud sefydliadau cyrchfannau twristiaeth yn ymwybodol o’r ffaith y gallai fod angen iddynt adfywio, adeiladu atyniadau newydd a thargedu marchnadoedd newydd ar ryw adeg yn y dyfodol. Gellir ystyried bod y Model Butler a modelau cylchred bywyd mewn ardaloedd twristiaeth (TALC) eraill yn ddamcaniaethol ond mae arbenigwyr yn anghytuno ar ba mor ddefnyddiol a chywir mae'r rhain mewn gwirionedd. |
Changing trends and fashions Tueddiadau a ffasiynau newidiol |
There are a range of tourism trends which affect the UK’s tourism industry. Examples include:
In times of recession and insecurity (terrorism, intolerance and changing politics) tourists look for good value for money and safety. This could mean more are likely to opt for ‘staycation’ holidays. Mae amrywiaeth o dueddiadau twristiaeth sy'n effeithio ar y diwydiant twristiaeth yn y DU. Ymysg yr enghreifftiau mae:
Ar adegau o ddirwasgiad ac ansicrwydd (terfysgaeth, anoddefgarwch a gwleidyddiaeth newidiol) mae twristiaid yn chwilio am werth da am arian a diogelwch. Gallai hyn olygu eu bod yn fwy tebygol o ddewis ‘gwyliau gartref’ (staycation). |
Competition Cystadleuaeth | Competition occurs among tourism destinations, countries or regions as well as tourism businesses offering similar goods or services and located in the same tourist destination. Tourism destinations and businesses are continually competing for tourists and need to consider different strategies to attract tourists. Examples might include new attractions, regeneration of areas, targeting new markets, innovative promotional campaigns and making use of new technologies. Mae cystadleuaeth yn digwydd ymhlith cyrchfannau twristiaeth, gwledydd neu ranbarthau ynghyd â busnesau twristiaeth sy'n cynnig nwyddau neu wasanaethau tebyg ac a leolir yn yr un cyrchfan twristiaeth. Mae cyrchfannau a busnesau twristiaeth yn cystadlu'n barhaus am dwristiaid ac mae'n rhaid iddynt ystyried gwahanol strategaethau i ddenu twristiaid. Gall enghreifftiau gynnwys atyniadau newydd, adfywio ardaloedd, targedu marchnadoedd newydd, ymgyrchoedd hyrwyddo arloesol a gwneud defnydd o dechnolegau newydd. |
Changing customer demographics Demograffeg cwsmeriaid newidiol | Demographics are the socio-economic characteristics of a population such as age, sex, birth rate, income level, marital status, family structure and religion. The UK’s tourism industry needs to be aware of changing demographics so that they market their products and services effectively and plan for the future. Demograffeg yw nodweddion economaidd-gymdeithasol poblogaeth, fel oedran, rhyw, y gyfradd genedigaethau, lefel incwm, statws priodasol, strwythur teulu a chrefydd. Mae'n rhaid i'r diwydiant twristiaeth yn y DU fod yn ymwybodol o’r ddemograffeg newidiol fel y gallant farchnata’u cynhyrchion a'u gwasanaethau'n effeithiol a chynllunio ar gyfer y dyfodol. |
Economic Economaidd | A tourism destination management plan is likely to include economic objectives such as job creation and increasing the value of tourism (wealth/income for local people and businesses). Tourism can also have negative economic impacts such as an increase house prices and local products and services. Mae cynllun rheoli cyrchfannau twristiaeth yn debygol o gynnwys amcanion economaidd fel creu swyddi a chynyddu gwerth twristiaeth (cyfoeth/incwm ar gyfer pobl a busnesau lleol). Gall twristiaeth gael effeithiau economaidd negyddol hefyd fel cynnydd ym mhrisiau tai a chynhyrchion a gwasanaethau lleol. |
Social Cymdeithasol | A tourism destination management plan is likely to include positive social objectives such as job creation and improvements to local facilities. Reducing negative impacts on local peoples’ way of life might also be an objective, e.g. displacement, overcrowding, traffic congestion and car parking. Mae cynllun rheoli cyrchfannau twristiaeth yn debygol o gynnwys amcanion cymdeithasol cadarnhaol fel creu swyddi a gwella cyfleusterau lleol. Gallai lleihau’r effeithiau negyddol ar ffordd o fyw pobl leol fod yn amcan hefyd, e.e. dadleoli, gorlenwi, tagfeydd trafnidiaeth a pharcio ceir. |
Environmental Amgylcheddol | Tourism destination management plans are likely to include environmental objectives such as regenerating areas, increasing the use of public transport, conserving areas, reducing pollution levels (air, water and land) and encouraging water and energy saving projects. Mae cynlluniau rheoli cyrchfannau twristiaeth yn debygol o gynnwys amcanion amgylcheddol fel adfywio ardaloedd, cynyddu'r defnydd o gludiant cyhoeddus, gwarchod ardaloedd, gostwng lefelau llygredd (awyr, dŵr, tir) ac annog projectau arbed dŵr ac egni. |
Stakeholder needs Anghenion rhanddeiliaid |
Tourism destination management plans should take into account all stakeholders’ needs before any plans are finalised. Stakeholders can include tourism organisations, local people, government and pressure groups. Involving stakeholders in the process is more likely to result in a plan which would work for the great majority. Dylai cynlluniau rheoli cyrchfannau twristiaeth ystyried anghenion yr holl randdeiliaid cyn i unrhyw gynlluniau gael eu terfynu. Gall rhanddeiliaid gynnwys sefydliadau twristiaeth, pobl leol, llywodraeth a charfanau pwyso. Mae cynnwys rhanddeiliaid yn y broses yn fwy tebygol o arwain i gynllun a fyddai'n gweithio i'r mwyafrif. |
Success indicators Arwyddion llwyddiant |
|
Image and reputation Delwedd ac enw da |
The image and reputation of a destination is an important factor for tourists when deciding whether or not to visit a destination, especially if they have not been before. Tourists may be influenced by friends and family, media reports, travel websites and other sources which provide information about the image and reputation of a destination. Learners should be aware that significant events can drastically affect the image and reputation of a destination in a very short period of time; e.g. terrorist attacks have a negative impact on the image of a destination. Conversely, hosting a major sporting or cultural event may well result in enhancing the image and reputation of a destination. Mae delwedd ac enw da cyrchfan yn ffactorau pwysig i dwristiaid wrth iddynt benderfynu a fyddant yn ymweld â chyrchfan neu beidio, yn enwedig os nad ydynt wedi bod yno o'r blaen. Gall ffrindiau a theulu, adroddiadau yn y cyfryngau, gwefannau teithio a ffynonellau eraill sy'n darparu gwybodaeth ynglŷn â delwedd ac enw da cyrchfan ddylanwadu ar dwristiaid. Dylai dysgwyr fod yn ymwybodol y gall digwyddiadau arwyddocaol effeithio'n aruthrol ar ddelwedd ac enw da cyrchfan mewn cyfnod byr iawn o amser; e.e. mae ymosodiadau terfysgol yn cael effaith negyddol ar ddelwedd cyrchfan. I'r gwrthwyneb, gallai croesawu digwyddiad chwaraeon neu ddiwylliannol pwysig arwain i wella delwedd ac enw da cyrchfan. |
Political Gwleidyddol |
Political change can either increase or decrease a country's attractiveness for tourism, depending on what the change is. Political instability, civil unrest and war will generate negative publicity, which results in the inevitable decrease in tourist arrivals with substantial negative economic consequences. Political stability is of extreme importance to any investment, but it is of special consequence to tourism because of what is being sold: leisure, fun, peace and comfort. These can only be successfully marketed under stable political conditions. Tourist arrivals are a barometer not only of a nation’s currency relative to other currencies but also of the safe perception of a nation. Learners should keep abreast of Brexit developments which could result in changes to border controls, visa requirements, restrictions and taxes. Gall newid gwleidyddol naill ai gynyddu neu leihau pa mor ddeniadol yw gwlad o ran twristiaeth, yn dibynnu ar beth yw'r newid. Bydd ansefydlogrwydd gwleidyddol, aflonyddwch cymdeithasol a rhyfel yn cynhyrchu cyhoeddusrwydd negyddol, sydd yn anochel yn arwain at ostyngiad mewn dyfodiadau twristiaid gyda chanlyniadau economaidd negyddol sylweddol. Mae sefydlogrwydd gwleidyddol o bwys mawr i unrhyw fuddsoddiad, ond mae'n arbennig o arwyddocaol i dwristiaeth oherwydd yr hyn sy'n cael ei werthu: hamdden, hwyl, heddwch a chysur. Mae'n rhaid cael amodau gwleidyddol sefydlog er mwyn i'r rhain gael eu marchnata'n llwyddiannus. Mae dyfodiadau twristiaid yn faromedr nid yn unig o arian cyfred cenedl mewn perthynas ag arian cyfred arall, ond hefyd o'r canfyddiad bod cenedl yn ddiogel. Dylai dysgwyr ddilyn datblygiadau Brexit a allai arwain at newidiadau mewn rheoli ffiniau, gofynion fisâu, cyfyngiadau a threthi. |
Social Cymdeithasol | Social factors can impact on tourists’ choice of holiday type and destination. Examples include lifestyle, religion, disposable income, diverse family structures, ethnic diversity and health awareness. Changes in social factors can have positive and negative impacts on the UK’s tourism industry. Tourism organisations need to be aware of these changing factors so that they can respond by providing the products and services that tourists want. Gall ffactorau cymdeithasol effeithio ar ddewis twristiaid o'r math o wyliau ac o gyrchfan. Ymhlith yr enghreifftiau mae ffordd o fyw, crefydd, incwm gwario, strwythurau teuluol amrywiol, amrywiaeth ethnig ac ymwybyddiaeth iechyd. Gall newidiadau mewn ffactorau cymdeithasol gael effeithiau cadarnhaol a negyddol ar y diwydiant twristiaeth yn y DU. Mae angen i sefydliadau twristiaeth fod yn ymwybodol o'r ffactorau newidiol hyn fel y gallant ymateb drwy ddarparu'r cynhyrchion a'r gwasanaethau y mae twristiaid eu heisiau. |
Economic Economaidd |
In times of economic prosperity, the demand for tourism activities in the UK increases, which has a positive economic impact on the UK’s GDP and tourism businesses. This is because people will travel more for business and leisure as they are likely to have an increase in disposable income. Business tourism is also likely to increase as businesses are likely to have more money to spend and invest. In times of recession the opposite is likely to happen. Changes in economic factors, within the UK and/or overseas, such as taxes, inflation levels, access to credit, disposable income and cost of living are likely to have impacts on the UK’s tourism industry. Ar adegau o ffyniant economaidd mae'r galw am weithgareddau twristiaeth yn y DU yn cynyddu gan gael effaith economaidd ar CMC (GDP) a busnesau twristiaeth y DU. Mae hyn oherwydd y bydd pobl yn teithio mwy ar gyfer busnes a hamdden gan eu bod yn debygol o fwynhau cynnydd yn eu hincwm gwario. Mae twristiaeth fusnes hefyd yn debygol o gynyddu gan fod busnesau'n debygol o gael mwy i'w wario ac i’w fuddsoddi. Ar adegau o ddirwasgiad mae'r gwrthwyneb yn debygol o ddigwydd. Mae newidiadau mewn ffactorau economaidd, yn y DU a/neu dramor, fel trethi, lefelau chwyddiant, mynediad at gredyd, incwm gwario a chostau byw yn debygol o gael effeithiau ar y diwydiant twristiaeth yn y DU. |
Environmental Amgylcheddol |
Environmental factors refer to any element that might bring change to an existing environment. This can include factors such as climate change and the management and conservation of natural landscapes (countryside and coastal areas, National Parks, AONBs). The successful management of tourism destinations can help to attract both domestic and inbound tourists. Environmental pressures such as pollution, deforestation, floods, gales, snow and ice can have impacts on tourism destinations and businesses. Learners need to know that environmental factors can have positive and negative impacts. Mae ffactorau amgylcheddol yn cyfeirio at unrhyw elfen a all ddod â newid i amgylchedd presennol. Gall hyn gynnwys ffactorau fel newid hinsawdd a rheolaeth a chadwraeth tirweddau naturiol (ardaloedd cefn gwlad ac arfordirol, Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol). Gall rheoli cyrchfannau twristiaeth yn llwyddiannus helpu i ddenu twristiaid tuag i mewn a domestig. Gall pwysau amgylcheddol fel llygredd, datgoedwigo, llifogydd, tymhestloedd, eira ac ia effeithio ar gyrchfannau a busnesau twristiaeth. Dylai dysgwyr wybod bod ffactorau amgylcheddol yn gallu effeithio mewn ffyrdd cadarnhaol a negyddol. |