English Cymraeg

Study the questions carefully. They are all discussion statements.

In each case, what’s your first impression about what your conclusion will be – yes or no? Agree or disagree?

Can you summarise what your concluding ‘summing-up’ argument is likely to be, in no more than around 40 words? The first one has been done for you.

Astudiwch y cwestiynau'n ofalus. Maen nhw i gyd yn osodiadau trafodaeth.

Ym mhob achos, beth yw eich argraff gyntaf o ran beth fydd eich casgliad – ydw neu nac ydw? Cytuno neu anghytuno?

Allwch chi grynhoi beth mae'n debygol fydd eich dadl 'grynhoi' derfynol, mewn dim mwy na tua 40 gair? Mae'r un cyntaf wedi'i wneud i chi.

First impressions - what’s your final verdict?

Discussion statement

Your ‘first impression’ verdict

‘All life on Earth will inevitably suffer some harm because of increased atmospheric carbon storage.’ IN CONCLUSION, YES - I MOSTLY AGREE. Governments are still acting slowly, and I think the world will keep warming - with some harmful effects everywhere - until maybe 2040. But new technologies like carbon storage will hopefully mature in time to stop really catastrophic harm.
‘The best way to manage tectonic hazards is to prevent people from living close to plate boundaries.’
‘Global flows of people and ideas cannot be controlled by national governments.’

Argraffiadau cyntaf – beth yw eich barn derfynol?

Gosodiad trafodaeth

Eich barn 'argraff gyntaf'

'Bydd pob bywyd ar y Ddaear yn dioddef rhyw niwed yn anochel oherwydd storfeydd carbon atmosfferig cynyddol.' I GLOI, YDW – RWY'N CYTUNO YN BENNAF. Mae llywodraethau yn dal i weithredu'n araf, ac rwy'n credu y bydd y byd yn dal i gynhesu – gyda rhai effeithiau niweidiol ym mhobman – tan tua 2040. Ond gobeithio bydd technolegau newydd fel storfeydd carbon yn aeddfedu mewn pryd i atal niwed catastroffig iawn.
'Y ffordd orau i reoli peryglon tectonig yw atal pobl rhag byw yn agos at ffiniau platiau.'
'Dydy llywodraethau cenedlaethol ddim yn gallu rheoli llifoedd o bobl a syniadau byd-eang.'

hiddenContent1

  • Lorem ipsum dolor sit amet.
  • Consectetur adipisicing elit.
  • Explicabo tempore quia enim quod.
  • Perferendis illum, quae id natus dolores.
  • in qui? Quos tempore illo, dolor illum est.

cynnwysCudd1

  • Lorem ipsum dolor sit amet.
  • Consectetur adipisicing elit.
  • Explicabo tempore quia enim quod.
  • Perferendis illum, quae id natus dolores.
  • in qui? Quos tempore illo, dolor illum est.

Ending your essay with a conclusion

For some essays, a conclusion is essential. This is the crucial paragraph ending an essay which ties up all the ideas. An impressive evaluative conclusion will:

  • give a direct answer that takes notice of all the words in the essay title
  • makes a final judgement that is consistent with all of the essay's evidence and examples
  • justifies the judgement, while acknowledging possibly conflicting evidence or other perspectives.

Common command phrases requiring a judgement/conclusion are likely to include:

  • To what extent do you agree that...
  • Evaluate the success of...
  • Discuss the importance of...
  • Evaluate the view that...

Question challenges that ask for extent of agreement (evaluate the view) should take one of four possible options marked in green on the diagram below.

WJEC

Gorffen eich traethawd â chasgliad

Ar gyfer rhai traethodau, mae casgliad yn hanfodol. Hwn yw'r paragraff hollbwysig ar ddiwedd traethawd sy'n clymu'r holl syniadau at ei gilydd. Bydd casgliad gwerthusol sy'n creu argraff yn:

  • rhoi ateb uniongyrchol sy'n rhoi sylw i'r holl eiriau yn nheitl y traethawd
  • ffurfio barn derfynol sy'n gyson â holl dystiolaeth ac enghreifftiau y traethawd
  • cyfiawnhau'r farn, gan gydnabod tystiolaeth anghyson posibl neu safbwyntiau eraill.

Dylai sialensiau cwestiynau sy’n gofyn i ba raddau rydych chi’n cytuno (gwerthuso’r safbwynt) ddefnyddio un o bedwar safbwynt posibl sydd wedi’u marcio’n wyrdd ar y diagram isod.

  • I ba raddau rydych chi’n cytuno...
  • Gwerthuswch lwyddiant...
  • Trafodwch bwysigrwydd...
  • Gwerthuswch y safbwynt...

Dylai sialensiau cwestiynau sy’n gofyn i ba raddau rydych chi’n cytuno (gwerthuso’r safbwynt) ddefnyddio un o bedwar safbwynt posibl sydd wedi’u marcio’n wyrdd ar y diagram isod.

CBAC

Now it’s your turn to make a judgement: Read the two conclusions to the essay question, ‘Evaluate the view that vulnerability to tectonic hazards has risen over time.’

Which is the best conclusion, and why? Write a brief comment in each box which summarises your opinion. Then click the ‘Show Examiner Commentary’ button to see what an examiner thought.

Eich tro chi yw hi nawr i ffurfio barn: Darllenwch y ddau gasgliad i'r cwestiwn traethawd, 'Gwerthuswch y safbwynt bod natur agored i niwed tuag at beryglon tectonig wedi cynyddu dros amser.'

Pa un yw'r casgliad gorau, a pham? Ysgrifennwch sylw byr ym mhob blwch sy'n crynhoi eich barn. Yna, cliciwch ar y botwm 'Dangos Sylwebaeth arholwr' i weld beth oedd barn arholwr.

Be the judge

Response A

In general, this statement is untrue globally if vulnerability is interpreted as loss of life. Fewer people now die as a result of earthquakes, volcanoes or tsunamis than in the past because most countries have more effective warning systems than they used to. However, far more people today are at risk of being affected by tectonic hazards to some degree than in the past due to population growth and rising affluence (so greater property losses), especially in megacities close to plate boundaries. In many of these places, it would be true to say that vulnerability at the local scale has indeed risen.

Response B

In conclusion, vulnerability has fallen over time, though there will always be extreme unpredictable events which bring heavy losses of life. As this essay has shown, the main reasons why vulnerability has fallen are improved monitoring and better post-event management. Improved warnings and better medical care for victims mean that far fewer people are killed by tectonic hazards each year, a trend which is set to continue.

Chi yw'r beirniad

Ymateb A

Yn gyffredinol, mae'r gosodiad hwn yn anghywir yn fyd-eang os yw natur agored i niwed yn cael ei dehongli fel colli bywyd. Mae llai o bobl yn marw erbyn hyn o ganlyniad i ddaeargrynfeydd, llosgfynyddoedd neu tsunamis nag yn y gorffennol oherwydd bod gan y rhan fwyaf o wledydd systemau rhybuddio mwy effeithiol nag o'r blaen. Fodd bynnag, mae llawer mwy o bobl heddiw mewn perygl o gael eu heffeithio gan beryglon tectonig i ryw raddau nag yn y gorffennol o ganlyniad i dwf poblogaeth a chyfoeth cynyddol (felly mwy o eiddo'n cael ei golli), yn enwedig mewn mega-ddinasoedd sy'n agos at ffiniau platiau. Mewn llawer o'r lleoedd hyn, byddai'n wir dweud bod natur agored i niwed ar y raddfa leol yn sicr wedi codi.

Ymateb B

I gloi, mae natur agored i niwed wedi lleihau dros amser, er y bydd digwyddiadau annarogan eithafol bob amser sy'n arwain at golli llawer o fywydau. Fel mae'r traethawd hwn wedi'i ddangos, y prif resymau dros pam bod natur agored i niwed wedi lleihau yw monitro gwell a rheoli gwell ar ôl y digwyddiad. Mae rhybuddion gwell a gofal meddygol gwell i ddioddefwyr yn golygu bod llawer llai o bobl yn cael eu lladd gan beryglon tectonig bob blwyddyn, tuedd sy'n sicr o barhau.

Examiner commentary response A

This is an excellent summing up because it is inherently geographical and makes the issue of spatial scale central to the summing-up. Additionally, there is some applied understanding and evaluation of risk here – with a distinction made between people and property. All in all, this feels like a conclusion made by someone who is ‘thinking like a geographer’.

Examiner commentary response B

This is a more simplistic conclusion – there is basic agreement that things are getting better over time thanks to new technology and management. It is not a particularly geographical conclusion either, given the high degree of generalisation and absence of any mention of scales or place contexts. In summing-up, this candidate does little to convince us that they are ‘thinking like a geographer’.

Sylwebaeth arholwr i ymateb A

Mae hwn yn grynodeb ardderchog oherwydd ei fod yn gwbl ddaearyddol ac yn rhoi'r mater o raddfa ofodol yn ganolog i'r crynodeb. Yn ogystal, mae rhywfaint o ddealltwriaeth gymhwysol a gwerthuso risg yma – a gwahaniaethu rhwng pobl ac eiddo. Ar y cyfan, mae hwn yn teimlo fel casgliad wedi'i wneud gan rywun sy'n 'meddwl fel daearyddwr'.

Sylwebaeth arholwr i ymateb B

Mae hwn yn gasgliad mwy syml – mae'n cytuno'n sylfaenol bod pethau'n gwella dros amser, diolch i dechnoleg a rheolaeth newydd. Nid yw'n gasgliad arbennig o ddaearyddol chwaith, o ystyried y lefel uchel o gyffredinoli a'r diffyg cyfeirio at raddfeydd neu gyd-destunau lle. Wrth grynhoi, nid yw'r ymgeisydd hwn yn gwneud llawer i'n hargyhoeddi ni ei fod yn 'meddwl fel daearyddwr'.


Making a final judgement

Llunio barn derfynol

If your essay requires you to conclude by taking a view on something, you should ideally adopt one of four possible positions marked in green on the diagram opposite.

WJEC

Os oes angen dod i gasgliad yn eich traethawd drwy roi safbwynt ar rywbeth, dylech chi ddefnyddio un o bedwar safbwynt posibl yn ddelfrydol. Mae’r rhain wedi’u marcio’n wyrdd ar y diagram gyferbyn.

WJEC