English Cymraeg

The table below shows typical top, middle and low mark band AO2 criteria (alongside selected AO1 criteria).

Write what you think should appear in the three empty boxes. This will help you focus on exactly what the mark bands are telling the examiner to look for in your work.

Click on the eye icon to reveal the hidden text.

Mae'r tabl isod yn dangos meini prawf AA2 top, canol a gwaelod y band marciau (ochr yn ochr â meini prawf AA1 dewisol).

Ysgrifennwch yr hyn rydych chi'n meddwl ddylai ymddangos yn y tri blwch gwag. Bydd hyn yn eich helpu i ganolbwyntio ar yn union yr hyn mae'r bandiau marciau yn ei ddweud wrth yr arholwr i edrych amdano yn eich gwaith.

Cliciwch ar eicon y llygad er mwyn datguddio'r testun cudd.

Essay mark band grid

Band

AO1

Demonstrate knowledge and understanding

C

Make connections and links between different ideas

AS

Apply the specialised concepts such as scale, feedback and threshold

E

Evaluate like a geographer (essay mark scheme may also require evaluative conclusion)

Top

wide range of accurate knowledge and understanding with well-developed examples and terminology

confident and sustained application of the specialised concepts

sophisticated interpretation and evaluation; a full, comprehensive and coherent response

sophisticated connections between different elements of the question

Higher middle

accurate knowledge and understanding with developed examples and terminology

makes connections between different elements of the question

accurate interpretation and evaluation; a coherent response

some relevant and accurate application of the specialised concepts

Lower middle

reasonable knowledge and understanding, examples and terminology

makes partial connections between different elements of the question

some partial application of the specialised concepts

partial interpretation and evaluation; a partial but coherent response

Low

limited knowledge and understanding, examples and terminology

makes limited connections between different elements of the question

very limited or no application of the specialised concepts

limited interpretation and evaluation; a partial and limited response

Grid band marciau traethawd

Band

AA1

Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth

C

Gwneud cysylltiadau rhwng syniadau gwahanol

AS

Cymhwyso (Apply) y cysyniadau arbenigol (specialised concepts) megis graddfa, adborth a throthwy.

E

Gwerthuso fel daearyddwr (efallai y bydd cynllun marcio'r traethawd yn gofyn am gasgliad gwerthusol hefyd)

Top

amrywiaeth eang o wybodaeth a dealltwriaeth gywir gydag enghreifftiau wedi'u datblygu'n dda a therminoleg

cynnal eu cymhwysiad o gysyniadau arbenigol yn hyderus

dehongli a gwerthuso yn soffistigedig; ymateb llawn, cynhwysfawr a chydlynol

cysylltiadau soffistigedig rhwng elfennau gwahanol y cwestiwn

Canol uwch

gwybodaeth a dealltwriaeth gywir gydag enghreifftiau wedi'u datblygu a therminoleg

gwneud cysylltiadau rhwng elfennau gwahanol y cwestiwn

dehongli a gwerthuso cywir; ymateb cydlynol

cymhwyso'r cysyniadau arbenigol rhywfaint yn berthnasol a chywir

Canol is

gwybodaeth a dealltwriaeth resymol, enghreifftiau a therminoleg

gwneud cysylltiadau rhannol rhwng elfennau gwahanol y cwestiwn

cymhwyso'r cysyniadau arbenigol rhywfaint yn rhannol

dehongli a gwerthuso yn rhannol; ymateb rhannol ond cydlynol

Isel

gwybodaeth a dealltwriaeth gyfyngedig, enghreifftiau a therminoleg

gwneud cysylltiadau cyfyngedig rhwng elfennau gwahanol y cwestiwn

cymhwyso'r cysyniadau arbenigol yn gyfyngedig iawn neu ddim o gwbl

dehongli a gwerthuso cyfyngedig; ymateb rhannol a chyfyngedig

hiddenContent1

  • Lorem ipsum dolor sit amet.
  • Consectetur adipisicing elit.
  • Explicabo tempore quia enim quod.
  • Perferendis illum, quae id natus dolores.
  • in qui? Quos tempore illo, dolor illum est.

cynnwysCudd1

  • Lorem ipsum dolor sit amet.
  • Consectetur adipisicing elit.
  • Explicabo tempore quia enim quod.
  • Perferendis illum, quae id natus dolores.
  • in qui? Quos tempore illo, dolor illum est.

Part of AO2 involves ‘joining the dots’ between your AO1 ideas, examples or information. There are different kinds of connection:

  • Causal connections (cause and effect relationships). A question might ask: How effective is place reimaging as a way of improving quality of life for local communities? In your answer you need to establish very explicit links between the two things you are writing about – (1) place reimaging and (2) quality of life (with its social, economic and physical dimensions).
  • Topic relationships within the same topics (e.g. the water cycle and the carbon cycle).
  • Topic relationships between different topics (e.g. how carbon cycle changes might impact on coastal or glacial landscape systems).

Click on the eye icon to reveal the hidden text.

Mae rhan o AA2 yn cynnwys 'cysylltu'r dotiau' rhwng eich syniadau, enghreifftiau neu wybodaeth AA1. Mae mathau gwahanol o gysylltiadau:

  • Cysylltiadau achlysurol (perthnasoedd achos ac effaith). Gallai cwestiwn ofyn: Pa mor effeithiol yw ailddelweddu lleoedd fel ffordd o wella ansawdd bywyd ar gyfer cymunedau lleol? Yn eich ateb mae angen i chi sefydlu cysylltau clir iawn rhwng y ddau beth rydych chi'n ysgrifennu amdanyn nhw – (1) ailddelweddu lleoedd a (2) ansawdd bywyd (gyda'i ddimensiynau cymdeithasol, economaidd a ffisegol).
  • Perthnasoedd testun o fewn yr un testunau (e.e. y gylchred ddŵr a'r gylchred garbon).
  • Perthnasoedd testun rhwng testunau gwahanol (e.e. sut gallai newidiadau i'r gylchred garbon effeithio ar systemau tirwedd arfordirol neu rewlifol).

Cliciwch ar eicon y llygad er mwyn datguddio'r testun cudd.

Connecting ideas

Write in your own topic links in the table below:

Topic

What’s the link?

Topic

Global systems

Shrinking world / communication technologies

Tectonic hazards

Hazard warnings and predictions

Smartphones and GIS devices are now used routinely to help locate earthquake victims.

Carbon cycle

Climate change / changing rainfall and temperature predictions

Water cycle

Changes in river regimes and local hydrological cycle operations

More extreme rainfall events or periods of drought can lead to flashier hydrographs but also periods of very low river flow.

Global governance

Global agreements on issues such as help for refugees

Changing places

Population characteristics of settlements

Cultural diversity may increase in places where large numbers of refugees have settled over time, such as Leicester.

Syniadau cysylltiedig AA2

Ysgrifennwch eich cysylltau testun eich hunain yn y tabl isod:

Testun

Beth yw'r cysylltiad?

Testun

Systemau byd-eang

Byd sy'n crebachu/technolegau cyfathrebu

Peryglon tectonig

Rhybuddion a rhagfynegiadau peryglon

Mae ffonau clyfar a dyfeisiau GIS (system gwybodaeth ddaearyddol) erbyn hyn yn cael eu defnyddio fel mater o drefn i helpu i leoli dioddefwyr daeargrynfeydd.

Y gylchred garbon

Newid hinsawdd/newid mewn rhagfynegiadau glawiad a thymheredd

Y gylchred ddŵr

Newidiadau mewn patrymedd afonydd a gweithrediadau cylchred hydrolegol lleol

Gall achosion o lawiad mwy eithafol neu gyfnodau o sychder arwain at hydrograffau mwy serth ond hefyd cyfnodau o lif afonydd isel iawn.

Llywodraethiant byd-eang

Cytundebau byd-eang ar faterion fel cymorth ar gyfer ffoaduriaid

Lleoedd newidiol

Nodweddion poblogaeth aneddiadau

Gall amrywiaeth ddiwylliannol gynyddu mewn lleoedd lle mae niferoedd mawr o ffoaduriaid wedi cyfanheddu dros amser, megis Caerlŷr.


By applying the specialised A-level concepts as part of your evaluation, you can show an examiner that you are “thinking like a geographer”.

The specialised concepts include: Scale, Systems, Feedback, Risk, Resilience, Thresholds, Inequality, Identity, Mitigation, Adaptation, Interdependence, Sustainability and Causality.

When using them, you must do more than simply name them. You need to apply them in a way that helps build or ‘scaffold’ your argument.

SCALE is an especially useful concept to think about including when planning an essay.

Click on the eye icon to reveal the hidden text.

Drwy gymhwyso'r cysyniadau Safon Uwch arbenigol fel rhan o'ch gwerthusiad, gallwch chi ddangos i arholwr eich bod yn "meddwl fel daearyddwr".

Mae'r cysyniadau arbenigol yn cynnwys: Graddfa, Systemau, Adborth, Risg, Gwytnwch, Trothwyau, Anghydraddoldeb, Hunaniaeth, Lliniaru, Addasu, Cyd-ddibyniaeth, Cynaliadwyedd ac Achosiaeth.

Wrth eu defnyddio, rhaid i chi wneud mwy na dim ond eu henwi nhw. Rhaid i chi eu cymhwyso nhw mewn ffordd sy'n helpu i lunio neu 'sgaffaldio' eich dadl.

Mae GRADDFA yn gysyniad arbennig o ddefnyddiol i feddwl am ei gynnwys wrth gynllunio traethawd.

Cliciwch ar eicon y llygad er mwyn datguddio'r testun cudd.

Applying the specialised concepts

Apply the concept of scale to the questions in the tables below. Fill in the missing boxes.

Cymhwyso'r cysyniadau arbenigol

Cymhwyswch gysyniad graddfa at y cwestiynau yn y tablau isod. Llenwch y blychau sydd ar goll.


Consider the following essay title:

Assess the success of different strategies to help deprived areas of the UK.

Make notes in each box showing possible CONCEPTUAL approaches you could take in your essay.

Ystyriwch y teitl traethawd dilynol:

Aseswch lwyddiant strategaethau gwahanol er mwyn helpu ardaloedd difreintiedig o’r DU.

Gwnewch nodiadau ym mhob blwch yn dangos dulliau CYSYNIADOL posibl y gallech chi eu defnyddio yn eich traethawd.

Applying the specialised concepts

Assess the success of different strategies to help deprived areas of the UK. Fill in the missing boxes.

Cymhwyso'r cysyniadau arbenigol

Assess the success of different strategies to help deprived areas of the UK. Llenwch y blychau sydd ar goll.

Varying spatial scales (examples and case studies you could use) ‘Deprived areas’ can mean many things – so I can write about strategies for particular local neighbourhoods; or for whole cities (like Liverpool or Cardiff); or for entire regions (South Wales; Northern Powerhouse)
Short-term (short temporal scale) assessment of success
Longer-term (longer temporal scale) assessment of success
Perspectives and identities of different people (Do some groups view the strategies as successful, but not other groups? Why?)
Possible causal connections to write about (e.g. ‘knock-on’ links between different processes, impacts, etc.)
Sustainability issues (Are there any ‘people and the physical environment’ linkages you can mention?)
Graddfeydd gofodol amrywiol (enghreifftiau ac astudiaethau achos y gallech chi eu defnyddio) Gall 'ardaloedd difreintiedig' olygu llawer o bethau – felly gallaf ysgrifennu am strategaethau ar gyfer cymdogaethau lleol penodol; neu ar gyfer dinasoedd cyfan (fel Lerpwl neu Gaerdydd); neu ar gyfer rhanbarthau cyfan (De Cymru; Pwerdy Gogledd Lloegr)
Asesiad tymor byr (graddfa amseryddol/tymhorol byr) o lwyddiant
Asesiad tymor hirach (graddfa amseryddol/tymhorol hirach) o lwyddiant
Safbwyntiau a hunaniaethau pobl wahanol (Ydy rhai grwpiau yn ystyried bod y strategaethau yn llwyddiannus, ond nid grwpiau eraill? Pam?)
Cysylltiadau achlysurol posibl i ysgrifennu amdanyn nhw (e.e. cysylltau rhwng prosesau, effeithiau, ac ati gwahanol)
Materion cynaliadwyedd (A oes unrhyw gysylltau 'pobl a'r amgylchedd ffisegol' y gallwch chi gyfeirio atyn nhw?)

Evaluation embodies the word ‘value’ – putting your judgement on something and asserting an opinion. This should take place throughout your answer and is distinct from a final conclusive paragraph.

A good rule to remember is to always ‘say it, then weigh it’. The ‘saying’ part is AO1; the ‘weighing’ part is AO2.

One way of weighing up evidence is to (i) argue whether, on balance, you agree or disagree with something, while also remembering to (ii) write critically about possible exceptions to the rule.

Write in possible ’exceptions to the rule’ below.

Mae gwerthuso yn cynnwys y gair 'gwerth' – rhoi eich barn ar rywbeth a'i datgan. Dylai hyn ddigwydd drwy eich ateb ac mae'n wahanol i baragraff casgliad terfynol.

Arfer da i'w gofio yw 'dweud rhywbeth, yna'i bwyso a'i fesur' bob amser. AA1 yw'r rhan 'dweud'; AA2 yw'r rhan 'pwyso a mesur'.

Un ffordd o bwyso a mesur tystiolaeth yw (i) dadlau p'un a ydych chi, rhwng popeth, yn cytuno neu'n anghytuno â rhywbeth, wrth gofio hefyd (ii) ysgrifennu'n feirniadol am eithriadau posibl i'r rheol.

Ysgrifennwch 'eithriadau posibl i'r rheol' isod.

Evaluating like a geographer

Topic ‘Overall’ evaluation However… (critical thinking about any exceptions to the rule)
Water cycles In general, geology is one of the most important factors affecting water cycle flows. Following intense rainfall, lag times of peak discharge usually occur much later in rivers flowing over permeable rock than in areas of impermeable rock. However, there are sometimes exceptions to this rule. Hydrograph lag times could also be short in a basin with permeable rock if slope gradients are exceptionally steep, as there would be no time for percolation before water starts running downslope over the ground, due to gravity.
Global governance In summary, seafloor data cables have played a vital role in helping to connect people and places together at a global scale. The movement of ideas and information has meant that most of the world’s states are now more interconnected than ever before. However...
Tectonic hazards As an overall rule, it’s true that volcanoes at converging plate margins are far more hazardous than those found at diverging margins, in terms of the scale and cost of their impacts. However...

AA2 Gwerthuso fel daearyddwr

Testun Gwerthusiad 'cyffredinol' Fodd bynnag... (meddwl yn feirniadol am unrhyw eithriad i'r rheol)
Cylchredau dŵr Yn gyffredinol, daeareg yw un o'r ffactorau mwyaf pwysig sy'n effeithio ar lifoedd cylchred dŵr. Yn dilyn glawiad dwys, mae amseroedd oedi arllwysiad brig fel arfer yn digwydd yn llawer hwyrach mewn afonydd sy'n llifo dros graig athraidd nag mewn ardaloedd lle mae craig anathraidd. Fodd bynnag, mae eithriadau i’r rheol hon weithiau. Gallai amseroedd oedi hydrograffau hefyd fod yn fyr mewn basn â chraig athraidd os yw graddiannau llethrau yn eithriadol o serth, gan na fyddai amser ar gyfer trylifiad cyn i'r dŵr ddechrau llifo i lawr y llethr uwchben y ddaear, o ganlyniad i ddisgyrchiant.
Llywodraethiant byd-eang I grynhoi, mae ceblau data gwely'r môr wedi chwarae rhan bwysig wrth helpu i gysylltu pobl â lleoedd â'i gilydd ar raddfa fyd-eang. Mae symudiad syniadau a gwybodaeth wedi golygu bod y rhan fwyaf o wladwriaethau’r byd erbyn hyn yn fwy rhyng-gysylltiedig nag erioed o'r blaen. Fodd bynnag….
Peryglon tectonig Fel rheol gyffredinol, mae'n wir fod llosgfynyddoedd ar ymylon platiau cydgyfeiriol yn llawer mwy peryglus na'r rhai ar ymylon dargyfeiriol, o ran graddfa a chost eu heffeithiau. Fodd bynnag...

Evaluation can also involve weighing up what, in your view, is the most important influence on something.

Complete the two evaluation tables below.

They both show how different groups of people have been affected by an environmental event or change.

What other groups of people could you include? [The first box has been filled in for you already.]

Next, can you provide an evaluation of which group has been most affected, and why?

Gall gwerthuso hefyd gynnwys pwyso a mesur beth, yn eich barn chi, yw'r dylanwad mwyaf pwysig ar rywbeth.

Cwblhewch y ddau dabl gwerthuso isod.

Mae'r ddau'n dangos sut mae grwpiau gwahanol o bobl wedi'u heffeithio gan ddigwyddiad neu newid amgylcheddol.

Pa grwpiau eraill o bobl y gallech chi eu cynnwys? [Mae'r blwch cyntaf wedi'i lenwi yn barod.]

Nesaf, allwch chi gynnig gwerthusiad o ba grŵp sydd wedi'i effeithio fwyaf, a pham?

Evaluating like a geographer

AA2 Gwerthuso fel daearyddwr

Suggested answers below:

    Atebion awgrymedig isod:


      Spot the CASE omission

      Students Rhys and Seren have not used all of the CASE AO2 elements in their essays. Study the extracts from their essays below. Identify the CASE elements they have done well and the ones which are less well done.

      Question focus: Assess the importance of reimaging as a way of improving the economy of urban places.

      What they wrote

      Rhys

      Reimaging can be vital for the overall improvement of a city that has experienced deindustrialisation. In 2008, Liverpool became the European Capital of Culture, which boosted its image both in the UK and abroad. People everywhere became more aware of Liverpool's arts, culture and heritage. However, reimaging needs to be linked with redevelopment to be wholly successful because visitor facilities and attractions have got to be paid for. And without visitor facilities which encourage spending by tourists, the economic benefits of reimaging may be limited. In Liverpool, hundreds of millions of pounds was spent redeveloping the city’s shopping areas and improving infrastructure and its railway stations, and this was just as important as the reimaging part of the process.

      Seren

      In 2008, Liverpool became Europe's Capital of culture. This was a major boost to the city's reputation and image, leading to a huge increase in visitor numbers and spending. Without reimaging, Liverpool would have struggled to recover after decades of deindustrialisation. It is important to note, though, that the reimaging focused on small-scale central areas of the city but not large parts of the inner city where social conditions can still be poor, even now. The global financial crisis happened the year afterwards, which at first threatened the sustainability of tourism in Liverpool. However, visitors kept coming and one view is that the capital of culture image helped build Liverpool's resilience against the worldwide economic downturn that happened in 2009.

      What Rhys did well

      Where Rhys did less well

      What Seren did well

      Where Seren did less well

      Pa elfen CASE sydd wedi'i gadael allan?

      Dydy'r myfyrwyr, Rhys a Seren, ddim wedi defnyddio pob elfen CASE AA2 yn eu traethodau. Astudiwch y darnau o'r traethodau isod. Nodwch yr elfennau CASE maen nhw wedi'u gwneud yn dda a'r rhai sydd heb eu gwneud cystal.

      Canolbwynt cwestiwn: Aseswch bwysigrwydd ailddelweddu fel ffordd o wella economi lleoedd trefol.

      Yr hyn ysgrifennon nhw

      Rhys

      Gall ailddelweddu fod yn hanfodol ar gyfer gwella dinas sydd wedi profi dad-ddiwydianeiddio yn gyffredinol. Yn 2008, daeth Lerpwl yn Brifddinas Diwylliant Ewrop, a wnaeth hybu ei delwedd yn y DU a thramor. Daeth pobl o bobman yn fwy ymwybodol o gelfyddydau, diwylliant a threftadaeth Lerpwl. Fodd bynnag, mae angen cysylltu ailddelweddu ag ailddatblygu er mwyn bod yn gwbl lwyddiannus oherwydd bod angen talu am gyfleusterau ac atyniadau ymwelwyr. Heb gyfleusterau ymwelwyr, sy'n annog ymwelwyr i wario, gall manteision economaidd ailddelweddu fod yn gyfyngedig. Yn Lerpwl, cafodd cannoedd o filiynau o bunnoedd eu gwario ar ailddatblygu ardaloedd siopa y ddinas a gwella isadeiledd a'i gorsafoedd trenau, ac roedd hyn yr un mor bwysig â rhan ailddelweddu'r broses.

      Seren

      Yn 2008, daeth Lerpwl yn Brifddinas Diwylliant Ewrop. Roedd hyn yn hwb mawr i enw da a delwedd y ddinas, gan arwain at gynnydd enfawr yn niferoedd yr ymwelwyr a faint roedden nhw'n ei wario. Heb ailddelweddu, byddai Lerpwl wedi cael trafferth adfer ei hun ar ôl degawdau o ddad-ddiwydianeiddio. Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, bod y broses o ailddelweddu yn canolbwyntio ar ardaloedd canolog graddfa fach y ddinas ond nid rhannau mawr o'r ddinas fewnol lle mae amodau cymdeithasol yn dal i fod yn wael, hyd yn oed heddiw. Digwyddodd yr argyfwng ariannol byd-eang yn y flwyddyn olynol, a oedd i ddechrau yn bygwth cynaliadwyedd twristiaeth yn Lerpwl. Fodd bynnag, roedd ymwelwyr yn dal i ddod ac un safbwynt yw bod delwedd y brifddinas diwylliant wedi helpu i adeiladu gwytnwch Lerpwl yn erbyn y dirywiad economaidd byd-eang a ddigwyddodd yn 2009.

      Beth wnaeth Rhys yn dda

      Beth na wnaeth Rhys cystal

      Beth wnaeth Seren yn dda

      Beth na wnaeth Seren cystal

      Rhys examiner commentary

      This answer provides a strong evaluation of the importance of reimaging compared with other complementary redevelopment strategies. Connections between reimaging and redevelopment are established. But it is a pity the specialised concepts are not used.

      Seren examiner commentary

      There is some excellent evaluation here which makes use of specialised concepts including risk and resilience. There is a good focus also on the spatial scale of reimaging. But there is limited recognition of the connections between reimaging and other strategies like redevelopment.

      Sylwebaeth arholwr Rhys

      Mae'r ateb hwn yn rhoi gwerthusiad cryf o bwysigrwydd ailddelweddu o'i gymharu â strategaethau ailddatblygu cyflenwol eraill. Mae cysylltiadau rhwng ailddelweddu ac ailddatblygu wedi'u sefydlu. Ond mae'n siomedig nad yw'r cysyniadau arbenigol wedi'u defnyddio.

      Sylwebaeth arholwr Seren

      Mae rhywfaint o werthuso ardderchog yma sy'n gwneud defnydd o gysyniadau arbenigol, gan gynnwys risg a gwytnwch. Mae hefyd yn canolbwyntio'n dda ar raddfa ofodol ailddelweddu. Ond cydnabyddiaeth gyfyngedig sydd o'r cysylltiadau rhwng ailddelweddu a strategaethau eraill fel ailddatblygu.