What is meant by the term ‘co-occurring mental health and substance misuse’

Beth yw ystyr 'problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau a welir ar yr un pryd'

substance misuse

Mental ill-health and substance misuse often overlap and in many people with addictions, there is often an underlying mental health issue as well. While neither condition causes the other, they do often exist together (known as comorbidity). In addition, one condition can often exacerbate the symptoms of the other.

Substance misuse and mental health disorders such as depression and anxiety are closely linked, however:

  • substances are often used to self-medicate the symptoms of mental health problems, to cope with difficult emotions, or to temporarily change mood
  • substance misuse can increase the underlying risk for mental disorders caused by a mix of genetics, environmental, and other outside factors (for example, evidence suggests that certain cannabis users have an increased risk of psychosis, while those who abuse opioid painkillers are at greater risk for depression)
  • substance misuse can make symptoms of a mental health problem worse and may increase symptoms or trigger new symptoms
  • substance misuse can also interact with prescription medications, such as antidepressants, anti-anxiety medications and mood stabilizers, making them less effective at managing symptoms.

Mae salwch meddwl a chamddefnyddio sylweddau yn aml yn gorgyffwrdd ac yn aml, mae gan lawer o bobl sy'n gaeth i sylweddau broblem iechyd meddwl sylfaenol hefyd. Er nad yw'r naill gyflwr yn achosi'r llall, maent yn aml yn cyd-fodoli (y cyfeirir ato fel cydforbidrwydd). Yn ogystal, gall un cyflwr yn aml waethygu symptomau'r llall.

Mae cysylltiad agos rhwng camddefnyddio sylweddau ac anhwylderau iechyd meddwl fel iselder, ond:

  • defnyddir sylweddau yn aml i hunan-feddyginiaethu symptomau problemau iechyd meddwl, i ymdopi ag emosiynau anodd neu i newid hwyliau unigolyn am gyfnod
  • gall camddefnyddio sylweddau gynyddu'r risg sylfaenol y ceir anhwylderau meddwl wedi'u hachosi gan gymysgedd o eneteg, ffactorau amgylcheddol a ffactorau allanol eraill (er enghraifft, mae tystiolaeth yn awgrymu bod risg uwch y bydd rhai defnyddwyr canabis yn dioddef o seicosis, ac mae'r rheini sy'n camddefnyddio cyffur lleddfu poen opioid yn fwy tebygol o ddioddef o iselder)
  • gall camddefnyddio sylweddau waethygu symptomau problem iechyd meddwl a gall gynyddu'r symptomau neu ysgogi symptomau newydd
  • gall camddefnyddio sylweddau hefyd ryngweithio â meddyginiaethau ar bresgripsiwn, fel cyffuriau gwrthiselder, meddyginiaethau gwrthbryder a sefydlogwyr hwyliau, gan eu gwneud yn llai effeithiol wrth reoli'r symptomau.

Mental health problems associated with substance misuse

Problemau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau

depression help

The mental health problems that most commonly co-occur with substance abuse are depression, bipolar disorder, and anxiety disorders.

Common signs and symptoms of depression:

  • feelings of helplessness and hopelessness
  • loss of interest in daily activities
  • inability to experience pleasure
  • appetite or weight changes
  • sleep changes
  • loss of energy
  • strong feelings of worthlessness or guilt
  • concentration problems
  • anger, physical pain, and reckless behavior (especially in men).

Common signs and symptoms of bipolar disorder:

  • feelings of euphoria or extreme irritability
  • unrealistic, grandiose beliefs
  • decreased need for sleep
  • increased energy
  • rapid speech and racing thoughts
  • impaired judgment and impulsivity
  • hyperactivity
  • anger or rage.

Common signs and symptoms of anxiety:

  • excessive tension and worry
  • feeling restless or jumpy
  • irritability or feeling “on edge”
  • racing heart or shortness of breath
  • nausea, trembling, or dizziness
  • muscle tension, headaches
  • trouble concentrating
  • insomnia.

Other mental health conditions that commonly co-occur with substance misuse include Schizophrenia, Borderline Personality Disorder, and Post-Traumatic Stress Disorder.

Y problemau iechyd meddwl sy'n cyd-ddigwydd amlaf ag achosion o gamddefnyddio sylweddau yw iselder, anhwylder deubegwn ac anhwylderau sy'n gysylltiedig â gorbryder.

Arwyddion a symptomau cyffredin iselder:

  • teimladau o ddiymadferthedd ac anobaith
  • colli diddordeb mewn gweithgareddau beunyddiol
  • methu â phrofi pleser
  • newidiadau o ran yr awydd am fwyd neu o ran pwysau
  • newidiadau o ran cwsg
  • diffyg egni
  • teimladau cryf o ddiffyg gwerth neu euogrwydd
  • problemau wrth ganolbwyntio
  • dicter, poen corfforol, ac ymddygiad anystyriol (yn enwedig ymhlith dynion).

Arwyddion a symptomau cyffredin anhwylder deubegwn:

  • teimladau o ewfforia neu anniddigrwydd eithafol
  • credoau mawreddog, afrealistig
  • llai o angen cwsg
  • mwy o egni
  • siarad yn gyflym a'r meddwl yn gynhyrfus
  • barn amharedig a byrbwylldra
  • gorfywiogrwydd
  • dicter neu gynddaredd.

Arwyddion a symptomau cyffredin gorbryder:

  • tensiwn a phryder gormodol
  • teimlo'n aflonydd neu'n gynhyrfus
  • anniddigrwydd neu deimlo "ar y dibyn"
  • curiad calon cyflym neu brinder anadl
  • cyfog, cryndod neu bendro
  • tensiwn yn y cyhyrau, cur pen
  • anawsterau wrth ganolbwyntio
  • anhunedd.

Mae cyflyrau iechyd meddwl eraill sy'n cyd-ddigwydd yn aml ag achosion o gamddefnyddio sylweddau yn cynnwys Sgitsoffrenia, Anhwylder Personoliaeth Ffiniol ac Anhwylder Pryder Ôl-drawmatig.

Issues faced by individuals with both mental ill-health and substance misuse

Problemau a wynebir gan unigolion ag iechyd meddwl gwael a phroblemau camddefnyddio sylweddau

comforting man with depression

Service users with a co-occurring mental health diagnosis and substance misuse diagnosis may find it difficult to get the help they need. For example, they may have been told that mental health services cannot help because of their alcohol or substance misuse. However, the National Institute for Health and Care Excellence (NICE) is very clear that mental health services should always assess a service user fairly and give a dual diagnosis if required. NICE guidelines also state that a service user should not be turned away from mental health services because of substance misuse.

Mental ill-health and substance misuse are also commonly seen as both a cause and a consequence of homelessness. Housing conditions can lead to mental health problems not previously present, or those with existing mental health problems and misuse substances can drift more easily into poor housing. This also links back to and emphasises the difficulties facing homeless service users with co-occurring diagnosis who are excluded from mental health services because of a lack of a joined-up approach which tackles both their mental health needs and substance misuse issues.

Gall defnyddwyr gwasanaethau â diagnosis iechyd meddwl a diagnosis camddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd ei chael hi'n anodd cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt. Er enghraifft, mae'n bosibl y byddant wedi cael gwybod na all gwasanaethau iechyd meddwl eu helpu gan eu bod yn camddefnyddio alcohol neu sylweddau. Fodd bynnag, mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yn nodi'n glir iawn y dylai gwasanaethau iechyd meddwl bob amser asesu defnyddiwr gwasanaeth mewn ffordd deg a chynnig diagnosis deuol os bydd angen. Mae canllawiau NICE hefyd yn nodi na ddylai gwasanaethau iechyd meddwl wrthod defnyddiwr gwasanaethau am ei fod yn camddefnyddio sylweddau.

Ystyrir hefyd bod salwch meddwl a chamddefnyddio sylweddau yn achos ac yn ganlyniad cyffredin o ran digartrefedd. Gall amodau tai arwain at broblemau iechyd meddwl nad oeddent yn bodoli cyn hynny, neu gall y rheini â phroblemau iechyd meddwl ac sy'n camddefnyddio sylweddau eu cael eu hunain mewn tai gwael. Mae hyn hefyd yn gysylltiedig â'r anawsterau sy'n wynebu defnyddwyr gwasanaethau digartref â diagnosau sy'n cyd-ddigwydd, ac yn pwysleisio'r anawsterau hynny, a gaiff eu hall-gau o wasanaethau iechyd meddwl gan nad oes dull gweithredu cydgysylltiedig ar waith i ddiwallu eu hanghenion iechyd meddwl ac i ymdrin â'u problemau o ran camddefnyddio sylweddau ar yr un pryd.