Physical and behavioural signs and symptoms of potential sickness and infestation/infection

Arwyddion a symptomau corfforol ac ymddygiadol o salwch a phla/haint posibl

Child with chickenpox

Some illnesses, infestations and infections can easily be passed on from one child to another. The child will become unwell as something prevents the body's function from working effectively. It's important to know about different sicknesses, infestations and infections as many of them start with the same signs. Some illnesses are more prevalent and most children have them in childhood. In these cases, only simple treatments are needed such as resting, keeping cool and drinking enough fluids. A quicker response will be necessary if the illness or its effects are more serious. It's important to be aware of the fact that types of sickness and illnesses in children and young people can lead to rapid and severe deterioration in cases such as Sepsis if the signs are not properly identified and addressed.




Illness / Infestation / Infection Signs Physical and behavioural symptoms
Common Childhood Illness
Mumps Viral infection. A painful swelling on the side of the face and beneath the ears. Difficulty swallowing. Headaches, sore and painful joints, dry mouth, nausea, fatigue, abdominal pain, lack of appetite, high temperature, fever.
Rubella It starts as a mild cold. A viral infection that looks like a minor red/pink rash. Swollen glands, fever, cough, runny nose, sore joints, lack of appetite, fatigue, conjunctivitis.
Polio Life threatening viral infection. It may appear without any signs but it's uncommon after vaccination. High temperature, sore throat, headache, abdominal pain, sore muscles, nausea.
Chickenpox It starts with common feelings of illness. Appears as a rash of itchy red spots. These will convert to liquid-filled blisters. Some symptoms will appear before the rash; generally feeling sick, headache, high temperature, sore and painful muscles, vomiting, lack of appetite.
Measles Viral infection that spreads rapidly. It starts with signs of cold. It will appear as a red/brown blotchy rash that starts on the head or neck, working down the body. Symptoms will develop around 10 days after infection; sneezing, coughing, runny nose, painful red eyes that are sensitive to light, fever, small white/grey spots on the inside of the cheek.
Tetanus Viral infection with bacteria found in soil or mud entering the body through lesions and wounds. It will cause muscle pain as it attacks the nervous system. The jaw may lock and neck muscles may tighten. Stiffness in neck and jaw muscles, difficulty swallowing, abdominal pain, fever, sweating, high heartbeat, higher than normal blood pressure.
Meningitis Infection of the protective membrane that surrounds the brain and the spinal cord. High temperature and fever, headache, nausea, a blotchy rash that doesn't disappear once glass is rolled over it, dislike of bright lights, stiff neck, drowsiness and unresponsiveness, prone to seizures.
Whooping Cough It starts as a cough and a cold. Bacterial infection of the lungs and airways. It causes periods of regular coughing. A cough that persists for a period of about 2 minutes at a time, rising mucus while coughing, nausea, breathlessness between coughs, face reddens due to the strain of the cough, the face turning blue for short periods due to the breathing difficulty.
Allergies/Conditions
Eczema Common in infants, especially if there is an allergy in the family. It starts with patches of dried skin on the hands, around the neck, knees, elbow, cheeks and scalp. Dry skin, itchy skin, skin turns red, scaly parts, skin leaking, skin bleeding, inflamed skin, sleep disruption, difficulty focusing on work.
Asthma The airway has seizures which makes breathing difficult. Causes cough, wheezing, tight lungs and breathlessness. Breathlessness, crouched forward, difficulty exhaling, difficulty speaking during a bout of asthma.
Hay fever Allergic condition that affects some individuals. It will appear if there is an allergy to a pollen. Causes a runny nose, sneezing and itchy eyes. Frequent sneezing, runny nose, blocked nose, red, itchy and watery eyes, itchy at the back of the throat, cough. Less common symptoms of headache, facial pain due to a blocked sinus, loss of sense of smell, earache.
Food allergies The body's immune system will respond to specific foods causing a reaction. It can affect different parts of the body at the same time. Itchy feeling inside the mouth, throat or ears; itchy red rash; swelling around the eyes, lips, tongue and mouth; nausea.
Minor Sickness
Cough Coughing is common and everyone will have periods of coughing. It's a reflex action in order to clear the mucus and irritants, such as dust or smoke. A dry cough will tickle the back of the throat. A chest cough will produce phlegm in order to clear the airways. The majority will recover from the cough in about three weeks' time.
A cold Viral infection of the nose, throat, sinus and upper respiratory tract. The individual will generally feel sick. Sore throat, runny nose, blocked nose, sneezing, coughing. May have symptoms of high temperature, headache and sore muscles.
Earache Caused by infection and will improve in three days without receiving treatment. The pain can be harsh, sudden or a burn-like pain and will come and go continuously. Generally sick, red ear, pulling of the ear, high temperature discharge from the ear, popping or screeching noise in the ear, affecting hearing.
Sore Throat Common sickness which, most often, recovers within the week. The majority will be caused by a cold or flu. Sore throat, difficulty eating, refusing to eat, breathing difficulty, snoring, swollen and inflamed tissue, infection can spread to the tonsils. It's possible for the tonsils to be covered by white spots full of pus.
Croup A childhood condition that affects the wind pipe, the airways to the lungs and the larynx. The sickness will start with common cold symptoms a few days before the onset of croup symptoms. A bark-like cough, breathing difficulty, croaky voice, harsh noise while breathing in, called 'stridor'. Symptoms will worsen during the night.
Fever and Heat If his or her temperature is higher than 37.5°C, the child or young person is suffering from fever. An easy way to find out if a person has a fever is to take his or her temperature. Fever is usually caused by infection or disease. Common conditions such as flu, earache, cough, croup or chickenpox can cause fever. Symptoms will include a temperature higher than 37.5°C, excessive sweating, shivery spells, sore muscles and joints, high heartbeat, palpitations, hot skin.
Diarrhoea and vomiting A common and regular sickness among young children. The faeces will be runny and will frequently re-occur. Regular vomiting and unable to keep any fluid or food in the body. Diarrhoea and vomiting symptoms may include generally being sick, headache, stomach cramps, nausea and vomiting, lack of appetite, dehydration.
Sunburn and heatstroke The skin will look red and sore. In cases of heatstroke, skin will also appear dry. Red and tender skin, the skin feeling warm, itchy, skin peeling. Heatstroke symptoms will include headache, light-headedness, red, hot and dry skin, lack of sweat, weak muscles, nausea and vomiting, strong or weak heartbeat.
Infestation/Infection
Ringworm It appears on the skin as rounded, raised patches with red edges and a clearer and scaly middle. Round, raised patches on the skin, red edges with a clearer middle, itchy and scaly skin, blisters on the skin.
Roundworm They live in the gut and appear as small white worms. These can be seen in the faeces. They lay their eggs around the bottom which makes the child itch. Abdominal pain, nausea and vomiting, weakness, bowel inflammation, diarrhoea, weight loss.
Head Lice Small insects that live in the hairs by the scalp. They feed on the blood. The first sign of head lice is an itchy scalp. The head itching, a rash on the back of the neck, small white eggs in the hair behind the ears or the nape of the neck, a moving sensation in the hair.
Herpes Simplex Blisters will appear around the lips and mouth. Appears as a liquid-filled ulcer on the sides of the mouth, a burning and itching sensation. Usually there will be no symptoms with the primary infection. Symptoms can be severe, as the gum may appear swollen and sore, sore throat, increased saliva production, high temperature, headache, generally feeling unwell.
Impetigo A common infection of the skin among children that quickly spreads from one to another. It appears as blisters and sore spots on the skin. Non-bullous spots and sore red blisters, runny blisters leaving yellow crusts, itchy skin. Bullous to start, with blisters that can usually be found between the body and neck or on the arms and legs. The blisters will spread before getting runny, leaving yellow crusts, fever, swollen glands.
Conjunctivitis It will cause the eyes to flare and will appear red. A sticky cover will appear over the eyelashes. Symptoms may include watery, itchy, burning eyes, grit-like sensation in the eyes, sticky cover over the eyelashes.
Scabies Caused by a small mite that burrows under the skin, feeding from the skin and laying eggs. Burrowing marks appear as silver lines on the skin with a black spot at one end. Scratching a lot, a body rash where the mite has burrowed, minor red rash. The itching will be worse at night when the skin is warmer.

Sepsis

A serious condition which may appear due to a complication that developed from any infection. Many of the sicknesses described above can lead to serious conditions such as sepsis. It's caused by a bacterial or viral infection and affects multiple organs or the whole body. Symptoms in children under the age of 5 appear to be different to the symptoms of older children and adults. Severe cases of sepsis can lead to septic shock. It is a serious condition with blood clots able to form through the body which prevents blood and oxygen flow to organs and body parts. Sepsis and septic shock are life threatening.

Sepsis symptoms in children under 5 years of age Sepsis symptoms in older children and adults
  • mottled, pale and bluish appearance
  • very drowsy and hard to waken
  • cold to touch
  • quick breathing
  • a rash that doesn't disappear once squeezed
  • seizures and convulsions.

Heat:

  • temperature over 38°C in infants under 3 months of age
  • temperature over 39°C in infants 3-6 months of age
  • any high temperatures that causes the child not to show an interest in things
  • lower temperature than 36°C.

Breathing:

  • breathing more difficult than usual
  • grunting noises with each breath
  • take breaks while breathing
  • unable to string too many words together due to shortness of breath.

Toilet/Nappy:

  • dry nappy for 12 hours
  • not been to the toilet.

Eating and Drinking:

  • a baby of under 1 month not showing an interest in feeding
  • when awake, not drinking for more than eight hours
  • green/black vomit or contains blood.

The body:

  • soft area on baby's head is swollen
  • eyes look sunken
  • disinterested appearance
  • baby is limp
  • cry is weak and constant
  • older child is confused
  • unresponsive
  • thin-skinned
  • stiff neck.

Other early symptoms can be:

  • low or high temperature with fever
  • shivering
  • quick heartbeat
  • quick breathing.

Sometimes more dangerous symptoms of sepsis or septic shock develop to include:

  • feeling light-headed or faint
  • feeling confused or out of touch with the environment
  • diarrhoea
  • nausea and vomiting
  • slurred speech
  • muscle aches
  • reduced urine production
  • cold, pale and mottled skin
  • unresponsive.

http://bit.ly/2KCh50c

Mae rhai mathau o salwch, pla a heintiau yn gallu cael eu trosglwyddo’n hawdd o un plentyn i’r llall. Bydd y plentyn yn mynd yn sâl gan fod rhywbeth yn atal swyddogaeth y corff rhag gweithio’n effeithiol. Mae’n bwysig gwybod am wahanol salwch, pla a heintiau gan fod llawer ohonynt yn dechrau gyda’r un arwyddion. Mae rhai afiechydon yn fwy cyffredin ac mae rhan fwyaf o blant yn eu cael yn ystod plentyndod. Yn yr achosion hyn, triniaethau syml sydd eu hangen megis gorffwys, cadw’n oer ac yfed digon. Bydd angen ymateb yn fwy cyflym os yw’r salwch neu effeithiau yn profi’n fwy difrifol. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r ffaith y gall mathau o salwch ac afiechydon mewn plant a phobl ifanc arwain at ddirywiad cyflym a difrifol mewn achosion megis Sepsis os na chaiff yr arwyddion eu hadnabod a’u trin yn briodol.




Salwch/ Pla / Haint Arwyddion Symptomau corfforol ac ymddygiadol
Salwch cyffredin yn ystod plentyndod
Clwy’r Pennau Haint firaol. Chwyddo poenus ar ochr yr wyneb ac o dan y clustiau. Anhawster llyncu. Cur pen, cymalau dolurus a phoenus, ceg sych, teimlo fel cyfogi, blinder, poen abdomenol, diffyg awydd bwyd, gwres uchel, twymyn.
Rwbela Yn dechrau fel annwyd ysgafn. Haint firaol sy’n ymddangos fel brech goch/pinc mân. Chwarennau wedi chwyddo, twymyn, peswch, trwyn yn rhedeg, cymalau dolurus, diffyg awydd bwyd, blinder, llid y gyfilben.
Polio Haint firaol sy’n beryg bywyd. Gall ymddangos heb unrhyw arwyddion ond yn anghyffredin yn sgil derbyn brechiad. Gwres uchel, dolur gwddf, cur pen, poen abdomenol, cyhyrau dolurus, cyfogi.
Brech yr Ieir Yn dechrau gyda theimladau cyffredinol o salwch. Ymddangos fel brech o sbotiau coch coslyd. Bydd y rhain yn troi i bothellau sy’n llawn hylif. Bydd rhai symptomau’n ymddangos cyn y frech; teimlo’n gyffredinol sâl, cur pen, gwres uchel, cyhyrau dolurus a phoenus, chwydu, diffyg awydd bwyd.
Y Frech Goch Haint firaol sy’n ymledu’n gyflym. Yn dechrau gydag arwyddion o annwyd. Bydd yn ymddangos fel brech goch/brown blotiog sy’n dechrau ar y pen neu’r gwddf gan weithio i lawr y corff. Bydd y symptomau yn datblygu tua 10 niwrnod ar ôl cael yr haint; tisian, peswch, trwyn yn rhedeg, llygaid coch poenus sy’n sensitif i olau, twymyn, sbotiau bach gwyn/llwyd y tu mewn i’r foch.
Tetanws Haint facteriol gyda’r bacteria sydd mewn pridd neu faw yn dod i mewn i’r corff trwy friwiau a chlwyfau. Bydd yn achosi poen i’r cyhyrau wrth iddo ymosod ar y system nerfol. Gall yr ên gloi a chyhyrau’r gwddf dynhau. Anystwythder yng nghyhyrau’r gwddf a’r ên, anhawster llyncu, poen abdomenol, twymyn, chwysu, curiad calon uchel, pwysau gwaed yn uwch nag arfer.
Llid yr Ymennydd Haint o’r bilen amddiffynnol sy’n amgylchynu’r ymennydd a madruddyn y cefn. Gwres uchel a thwymyn, cur pen, cyfogi, brech flotiog sydd ddim yn diflannu wrth rolio gwydr drosto, casáu golau llachar, gwddf anystwyth, cysglyd a ddim yn ymateb, cael ffitiau.
Pas Yn dechrau fel peswch ac annwyd. Haint bacterial o’r ysgyfaint a’r llwybrau anadlu. Mae’n achosi cyfnodau o beswch rheolaidd. Peswch sy’n parhau am gyfnod o ryw 2 funud ar y tro, codi mwcws wrth beswch, cyfogi, ymladd am anadl rhwng y peswch, yr wyneb yn goch oherwydd y straen o besychu, yr wyneb yn troi’n las am gyfnodau byr yn sgil anhawster anadlu.
Alergeddau/Cyflyrau
Ecsema Mae’n gyffredin mewn babanod, yn enwedig os oes alergedd yn y teulu. Mae’n dechrau gyda rhannau o groen sych ar y dwylo, o amgylch y gwddf, y pengliniau, y benelin, y bochau a chroen y pen. Croen sych, croen yn cosi, croen yn troi’n goch, mannau cennog, croen yn gollwng, croen yn gwaedu, croen llidus, amharu ar gwsg, anhawster canolbwyntio ar waith.
Asthma Mae’r llwybrau anadlu’n cael ffitiau sy’n gwneud yr anadlu’n anodd. Yn achosi peswch, gwichian, ysgyfaint tynn a diffyg anadl. Yn fyr o anadl, plygu ymlaen yn ei grwman, anhawster chwythu aer allan, anhawster siarad yn ystod pwl o asthma.
Clwy’r gwair Cyflwr alergol cyffredin sy’n effeithio rhai unigolion. Bydd yn ymddangos os oes alergedd at baill. Yn achosi’r trwyn i redeg, tisian a’r llygaid i gosi. Tisian yn aml, trwyn yn rhedeg, trwyn wedi’i flocio, llygaid yn goch, coslyd a dyfrllyd, corn gwddf coslyd, peswch. Gwelir symptomau llai cyffredin o gur pen, poen yn yr wyneb o achos y sinws wedi blocio, colli’r synnwyr arogli, pigyn clust.
Alergeddau Bwyd Bydd system imiwnedd y corff yn ymateb i fwydydd penodol gan achosi adwaith. Gall effeithio ar wahanol rannau o’r corff ar yr un pryd. Teimlad coslyd y tu fewn i’r geg, y corn gwddf neu’r clustiau; brech goch goslyd; chwyddo yn yr wyneb, o amgylch y llygaid, y gwefusau, y tafod a’r geg; cyfogi.
Mân Salwch
Peswch Mae peswch yn gyffredin ac fe fydd pawb yn cael cyfnodau o beswch. Mae’n weithred atgyrchol er mwyn clirio’r mwcws a chythruddion megis llwch neu fwg. Bydd peswch sych yn coglis y corn gwddf. Bydd peswch yn y frest yn cynhyrchu fflem er mwyn clirio’r llwybrau anadlu. Bydd mwyafrif yn gwella o’r peswch ymhen ryw dair wythnos.
Annwyd Haint firaol yn y trwyn, gwddf, sinws a’r llwybr anadlu uwch. Bydd yr unigolyn yn teimlo’n gyffredinol sâl. Dolur gwddf, trwyn yn rhedeg, trwyn wedi cau, tisian, peswch. Gall fod symptomau o wres uchel, cur pen a chyhyrau dolurus.
Pigyn Clust Caiff ei achosi gan haint ac fe fydd yn gwella ymhen tridiau heb dderbyn triniaeth. Gall y poen fod yn llym, yn wayw neu’n boen tebyg i losg a bydd yn mynd a dod neu’n barhaus. Cyffredinol sâl, y glust yn goch, tynnu ar y glust, gwres uchel, rhedlif o’r glust, popian neu sŵn gwichian yn y glust, effeithio ar y clyw.
Dolur Gwddf Salwch cyffredin sydd, gan amlaf, yn gwella o fewn yr wythnos. Bydd y mwyafrif yn cael ei achosi gan anwyd neu ffliw. Gwddf dolurus, anhawster bwyta, gwrthod bwyta, anhawster wrth anadlu, chwyrnu wrth gysgu, meinwe yn chwyddo ac yn llidus, gall yr haint ledaenu i’r tonsiliau. Mae’n bosibl i’r tonsiliau gael eu gorchuddio gan sbotiau gwyn yn llawn crawn.
Crŵp Cyflwr yn ystod plentyndod sy’n effeithio’r corn gwynt, y llwybrau anadlu i’r ysgyfaint a’r laryncs. Bydd y salwch yn dechrau gyda symptomau annwyd cyffredin ychydig ddiwrnodau cyn i symptomau crŵp ymddangos. Peswch fel cyfarthiad, anhawster anadlu, llais yn grug, sŵn aflafar wrth anadlu i mewn a elwir yn ‘stridor’, bydd y symptomau yn gwaethygu yn ystod y nos.
Twymyn a Gwres Os yw ei wres yn uwch na 37.5°C, bydd y plentyn neu’r person ifanc yn dioddef o dwymyn. Ffordd hawdd i ddarganfod a oes gan berson dwymyn yw cymryd ei dymheredd. Gan amlaf, caiff twymyn ei achosi gan haint neu afiechydon. Gall cyflyrau cyffredin megis ffliw, pigyn clust, peswch, crŵp neu frech yr ieir achosi twymyn. Bydd symptomau’n cynnwys gwres sydd yn uwch na 37.5°C, chwysu’n ormodol, cyfnodau o rynnu, cyhyrau a chymalau dolurus, curiad y galon yn uchel, crychguriadau, y croen yn boeth.
Dolur Rhydd a Chwydu Salwch cyffredin a rheolaidd ymhlith plant ifanc. Bydd y carthion yn ddyfrllyd ac yn digwydd yn gyson. Bydd yn chwydu’n gyson ac yn methu cadw unrhyw hylif na bwyd yn y corff. Gall symptomau dolur rhydd a chwydu gynnwys bod yn gyffredinol sâl, cur pen, cramp yn y stumog, cyfogi a chwydu, diffyg awydd bwyd, diffyg hylif.
Llosg Haul a Thrawiad gwres Bydd y croen yn edrych yn goch ac yn boenus. Mewn achosion o drawiad gwres, bydd y croen hefyd yn ymddangos yn sych. Croen coch a thyner, y croen yn teimlo’n dwym, coslyd, croen yn pilio. Bydd symptomau trawiad gwres yn cynnwys cur pen, bod yn benysgafn, croen coch, poeth a sych, diffyg chwysu, cyhyrau gwan, cyfogi a chwydu, curiad calon gref neu wan.
Pla/Haint
Tarwden Mae’n ymddangos ar y croen fel darnau crwn wedi’u codi gyda’r ymylon yn goch a’r canol yn gliriach ac yn gennog. Darnau crwn wedi codi ar y croen, ymylon coch gyda’r canol yn gliriach, croen cennog a choslyd, pothellu ar y croen.
Llyngyren Maent yn byw yn y perfedd ac yn ymddangos fel mwydod bach gwyn. Gellir gweld y rhain yn y carthion. Maent yn dodwy eu hwyau o amgylch y pen ôl ac mae hyn yn gwneud i’r plentyn gosi. Poen abdomenol, cyfogi a chwydu, gwanllyd, llid y coluddyn, dolur rhydd, colli pwysau.
Llau Pen Pryfed bach sy’n byw yn y gwallt yn ymyl y croen. Maent yn bwydo ar y gwaed. Croen y pen yn cosi yw’r arwydd cyntaf o lau pen. Y pen yn cosi, brech ar gefn y gwddf, wyau bach gwyn yn y gwallt tu ôl y clustiau neu wegil y gwddf, teimlad bod rhywbeth yn symud yn y gwallt.
Herpes Simplecs Bydd pothellu yn ymddangos o amgylch y gwefusau a’r geg. Ymddangos fel briw llawn hylif ar ochrau’r geg, teimlad o losgi a chosi. Rhan amlaf ni fydd symptomau gyda’r haint cynradd. Gall symptomau fod yn ddifrifol gan ymddangos fel deintgig wedi chwyddo ac yn ddolurus, gwddf dolurus, cynhyrchu mwy o boer, gwres uchel, cur pen, teimlo’n gyffredinol sâl.
Impetigo Haint cyffredin o’r croen ymysg plant sy’n ymledu o un i’r llall yn gyflym. Mae’n ymddangos fel pothellu a mannau dolurus ar y croen. Mannau a phothelli coch dolurus, y pothellu’n rhedeg gan adael crofenni melyn, croen coslyd. Dechrau gyda phothelli sydd, gan amlaf, i’w gweld rhwng canol y corff a’r gwddf neu ar y breichiau a'r coesau. Bydd y pothellu’n lledaenu cyn rhedeg ac yna’n gadael crofenni melyn, twymyn, chwarennau’n chwyddo.
Llid y Gyfbilen Bydd yn achosi llid o’r llygad a fydd yn ymddangos yn goch. Gwelir gorchudd gludiog dros yr amrannau. Gall symptomau gynnwys llygad ddyfrllyd, yn goslyd, llygad yn llosgi, teimlo fel petai graean yn y llygad, gorchudd gludiog dros yr amrannau.
Clefyd Crafu Cael eu hachosi gan widdonyn bychan sy’n tyrchu dan y croen, yn bwydo o’r croen ac yn dodwy wyau. Marciau tyrchu’n ymddangos fel llinellau lliw arian ar y croen gyda smotyn du ar un pen. Crafu llawer, brech ar y corff lle mae’r gwiddonyn wedi tyrchu, brech fân goch. Bydd y cosi’n waeth yn y nos pan fydd y croen yn gynhesach.

Sepsis

Cyflwr difrifol a all ymddangos yn sgil cymhlethdod a ddatblygodd yn sgil unrhyw haint. Gall nifer o’r salwch a ddisgrifir uchod arwain at gyflyrau difrifol megis sepsis. Mae’n cael ei achosi gan haint bacteriol neu feiriol ac yn effeithio ar organau lluosog neu’r corff cyfan. Mae symptomau mewn plant dan 5 oed yn ymddangos yn wahanol i symptomau plant hŷn ac oedolion. Gall achosion difrifol o sepsis arwain at sioc septig. Mae’n gyflwr difrifol gyda chlotiau gwaed yn gallu ffurfio trwy’r corff a fydd yn atal rhediad gwaed ac ocsigen i organau a rhannau o’r corff. Mae sepsis a sioc septig yn beryg bywyd.

Symptomau sepsis mewn plant dan 5 oed Symptomau sepsis mewn plant hŷn ac oedolion
  • edrych yn frith (mottled), gwelw a llwydlas
  • yn swrth iawn ac yn anodd eu dihuno
  • teimlo’n oer i’r cyffyrddiad
  • yn anadlu’n gyflym
  • yn cael brech sydd ddim yn diflannu wrth ei wasgu
  • cael ffit a chonfylsiwn.

Gwres:

  • gwres dros 38°C mewn babanod dan 3 mis oed
  • gwres dros 39°C mewn babanod 3 i 6 mis oed
  • unrhyw wres uchel sy’n achosi i’r plentyn beidio â dangos diddordeb mewn pethau
  • gwres isel sy’n llai na 36°C.

Anadlu:

  • anadlu yn anoddach nag arfer
  • gwneud synau ‘rhochian’ gyda phob anadl
  • cymryd seibiant wrth anadlu
  • dim anadl i fedru dweud llawer o eiriau gyda’i gilydd.

Toilet/cewyn:

  • y cewyn yn sych am 12 awr
  • heb fynd i’r toiled.

Bwyta ac yfed:

  • baban dan 1 mis oed dim yn dangos diddordeb mewn bwydo
  • pan ar ddihun, dim yn yfed am fwy nag wyth awr
  • chwydu yn lliw gwyrdd/du neu’n cynnwys gwaed.

Y corff:

  • man meddal ar ben y baban wedi chwyddo
  • llygaid yn edrych yn ‘suddedig’
  • dim yn dangos diddordeb
  • baban yn llipa
  • llefain yn wan ac yn gyson
  • plentyn hŷn yn gymysglyd
  • ddim yn ymateb
  • yn groendenau
  • y gwddf yn anystwyth.

Gall symptomau cynnar gynnwys:

  • gwres isel neu uchel gyda thwymyn
  • rhynnu
  • curiad calon gyflym
  • anadlu’n gyflym.

Weithiau gwelir symptomau mwy peryglus o septig neu sioc septig yn datblygu i gynnwys:

  • teimlo’n ben ysgafn neu’n llewyg
  • yn gymysglyd neu'n colli cysylltiad â’r amgylchedd
  • dolur rhydd
  • cyfogi a chwydu
  • lleferydd aneglur
  • cyhyrau poenus
  • cynhyrchu llai o wrin
  • croen yn oer, gwelw a brith
  • yn anymatebol.

http://bit.ly/2KCh50c

Hint 1: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 1: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

The possible reactions to immunisation and symptoms requiring an emergency response

Yr adweithiau posibl i imiwneiddio a symptomau sydd angen ymateb brys

a child having an injection

Immunisation protects children and young people from sickness that could threaten their lives. Infectious diseases can be dangerous and can be prevented by immunisation, enabling the body to be better able to fight the infections. Some diseases such as Diphtheria, Tetanus and Polio have almost been eradicated as more and more children are being immunised. Measles and Whooping Cough are now also less common. The diseases can become commonplace once again if children are not immunised. It's not possible to treat all diseases with antibiotics and therefore children must be immunised against these diseases.

As with all medications, children and young people can develop reactions when they are immunised. Common symptoms may appear around the vaccinated area such as swelling, redness and a small, hard lump and the child may develop a fever which feels uncomfortable, leading to a lack of sleep or over-sleeping. These should clear within approximately three days.

The possible reactions to immunisation

MMR: Measles, Mumps and Rubella

  • In 6 to 10 days, the Measles vaccine will take effect and may cause fever, rash and lack of appetite.
  • In 2 to 3 weeks, the Mumps vaccine will take effect and may cause symptoms of Mumps in some children – fever and swollen glands.
  • In 12 to 14 days, the Rubella vaccine will take effect and may cause rash and high temperature.
  • If the baby has a seizure, call the doctor or 999 immediately.

DTaP/IPV/Hib/HepB; diphtheria, tetanus, whooping cough, polio, haemophilus influenzae type b (known as HIB) and hepatitis B.

  • baby/child feeling irritated
  • skin is red and swollen with a small lump on the vaccinated area
  • fever
  • vomiting
  • crying more than usual
  • lack of appetite.

Pneumococcal (PCV13)

  • light fever
  • redness at the vaccinated area
  • swelling or hardening in the vaccinated area.

Rotavirus: Vaccine taken by mouth

  • unstable baby
  • diarrhoea
  • stomach pains
  • vomiting.

Meningococcal B (Men B)

  • Fever is a common reaction after Meningococcal B vaccine.

Hib/Men C: Hib and Meningitis C

  • pain and redness at the vaccinated area and vomiting
  • fever
  • feeling irritated
  • lack of appetite
  • drowsy.

Child flu vaccine: Nasal spray vaccine

  • heat
  • headache
  • generally sick
  • muscle weakening
  • lack of appetite.

4-in-1 (DTaP/IPV): Diphtheria, tetanus and whooping cough / polio

  • lack of appetite
  • feeling irritated
  • crying
  • restless
  • light fever
  • pain and redness at the vaccinated area and vomiting
  • vomiting
  • diarrhoea.

Men ACWY: protection against meningitis and blood poisoning (septicaemia).

  • redness, hardening and itching at the vaccinated area
  • headache
  • nausea
  • fatigue.

Actions to be taken when there are reactions to immunisation

The steps below for reactions are general and depend on what impact the vaccine has on the child.

  • hug the baby/child
  • regularly offer drinks
  • if it is breastfed, the baby may need more feeding
  • take the baby out for a stroll outdoors
  • if the vaccination area is very red, put a cold, wet cloth over it for 5 to 10 minutes
  • if the baby/child has a fever, remove their clothes
  • make sure that the heating in the house is not too high
  • offer plenty of cold drinks
  • give the child a bath or a wash in order to keep him/her cool
  • Give paracetamol to the child – remember to look in detail at what is the right dose to offer.

You will need to call the doctor or 999 immediately if the child's temperature is 39°C or higher or if he/she has a seizure.

If there are any concerns about sickness that cannot be treated at home/on location, it is suggested you call for the doctor or 999 immediately. Sometimes, a child will display symptoms that require urgent action.

  • a consistently drowsy or irritated child
  • become unresponsive
  • breathing problems
  • a cold, discoloured hands or feet and warm body
  • seizure
  • unusual skin colour
  • temperature of 39°C or higher
  • not feeding/eating
  • showing signs of dehydration (dry mouth, sunken eyes, no tears)
  • symptoms of meningitis (severe headache, cracking in the nape of the neck, a dislike of bright lights, a rash that doesn't disappear once pressed against – notice criteria 1.1 for more information)
  • symptoms of sepsis (higher/lower temperature than 39°C, discoloured skin, difficult to awaken, a rash that doesn't disappear once pressed against, seizures and convulsions – notice criteria 1.1 for more information).

Further reading:

http://bit.ly/31sPa9X

http://bit.ly/2MP5rBO

http://bit.ly/2MMiWCo

Mae imiwneiddio yn amddiffyn plant a phobl ifanc rhag salwch a all beryglu eu bywydau. Gall clefydau heintus fod yn beryglus a gall imiwneiddio eu rhwystro gan alluogi’r corff i fedru ymladd yr heintiau’n well. Mae rhai clefydau megis Difftheria, Tetanws a Pholio bron wedi’u dileu a hyn oherwydd bod mwy a mwy o blant yn cael eu himiwneiddio. Mae’r Frech Goch a’r Pas erbyn hyn hefyd yn llai cyffredin. Gall y clefydau ddod yn gyffredin unwaith eto os na fydd plant yn cael eu himiwneiddio. Nid yw’n bosib trin pob afiechyd gydag antibiotig ac felly mae’n rhaid i blant gael eu himiwneiddio yn erbyn y clefydau yma.

Fel gyda phob meddyginiaeth, gall blant a phobl ifanc ddatblygu adweithiau pan fyddant yn cael eu himiwneiddio. Gall symptomau cyffredin ymddangos o amgylch man y brechiad fel chwydd, yn goch a thalp bach caled a gall y plentyn ddatblygu twymyn gan deimlo ychydig yn anghysurus gan fethu cysgu neu gysgu llawer. Dylai’r rhain glirio o fewn rhyw dri diwrnod.

Yr adweithiau posib i imiwneiddio

MMR: Y Frech Goch, Clwy’r Pennau a’r Rwbela

  • Mewn 6 i 10 diwrnod, bydd brechlyn y Frech Goch yn dechrau gweithio a gall achosi twymyn, brech a diffyg awydd bwyd.
  • Mewn 2 i 3 wythnos, bydd y brechlyn Clwy’r Gennau yn dechrau gweithio gan arddangos symptomau Clwy’r Gennau mewn rhai plant – twymyn a’r chwarennau wedi chwyddo.
  • Mewn 12 i 14 diwrnod, bydd y brechlyn rwbela’n dechrau gweithio gan efallai achosi brech a gwres uchel.
  • Os caiff y baban ffit, bydd angen galw’r meddyg neu ffonio 999 yn syth.

DTaP/IPV/Hib/HepB; difftheria, tetanws, pas, Polio, ffliw haemoffilws math b (a elwir yn Hib) a hepatitis B.

  • baban/plentyn yn teimlo’n llidiog
  • y croen yn goch, wedi chwyddo gyda thalp bach ym man y brechiad
  • twymyn
  • chwydu
  • llefain anarferol
  • diffyg awydd bwyd.

Niwmococol (PCV13)

  • twymyn ysgafn
  • cochni ym man y brechiad
  • chwyddo neu galedu ym man y brechiad.

Rotafirws: Brechlyn syn cael ei gymryd drwy’r geg

  • baban yn ansefydlog
  • carthion yn rhydd
  • stumog boenus
  • chwydu.

Meningococaidd B (Men B)

  • Mae twymyn yn adwaith cyffredin ar ôl brechlyn Meningococaidd B.

Hib/Men C: Hib a Llid yr ymennydd C (Meningitis C)

  • poen, cochni a chwydu ym man y brechiad
  • twymyn
  • teimlo’n llidiog
  • diffyg awydd bwyd
  • cysglyd.

Brechiad ffliw plant: Brechlyn trwy chwistrell drwynol

  • gwres
  • cur pen
  • cyffredinol sâl
  • cyhyrau’n gwanio
  • diffyg awydd bwyd.

4-mewn-1 (DTaP/IPV): Difftheria, tetanws a phas/polio

  • diffyg awydd bwyd
  • teimlo’n llidiog
  • llefain
  • aflonydd
  • twymyn ysgafn
  • poen, cochni a chwydu ym man y brechiad
  • chwydu
  • dolur rhydd.

Men ACWY: amddiffyniad rhag llid yr ymennydd a gwenwyniad gwaed (septicaemia).

  • cochni, caledu a chosi ym man y brechiad
  • cur pen
  • cyfogi
  • blinder.

Camau i’w cymryd pan fydd adweithiau i imiwneiddio

Mae’r camau isod ar gyfer adweithiau yn gyffredinol ac yn dibynnu pa effaith mae’r brechlyn yn ei gael ar y plentyn.

  • cofleidiwch y baban/plentyn
  • cynigiwch ddiodydd yn rheolaidd
  • os yw'n cael ei fwydo o’r fron, efallai bydd y baban yn bwydo mwy
  • ewch â’r baban am dro yn yr awyr agored
  • os yw man y brechiad yn goch iawn, rhowch glwt glân oer arno am ryw 5 i 10 munud
  • os oes gan y baban/plentyn dwymyn, tynnwch ei ddillad
  • gwnewch yn siŵr nad yw gwres y tŷ yn rhy uchel
  • cynigiwch ddigon o ddiod oer
  • rhowch y plentyn mewn bath neu ei olchi er mwyn ei gadw’n glaear
  • rhowch paracetamol i’r plentyn - cofiwch edrych yn fanwl ar beth yw’r dos cywir i gynnig.

Bydd rhaid galw am y meddyg neu ffonio 999 ar unwaith os yw gwres y plentyn yn 39°C neu’n uwch neu os fydd yn cael ffit.

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch salwch na ellir ymdopi â hwy o fewn y cartref/lleoliad, awgrymir galw am y meddyg neu ffonio 999 ar unwaith. Weithiau, bydd plentyn yn arddangos symptomau y mae angen cymryd camau brys yn eu cylch.

  • plentyn sy’n gysglyd neu’n llidiog yn gyson
  • mynd yn anymatebol
  • problemau anadlu
  • annwyd, dwylo neu draed af liwiedig a chorff cynnes
  • cael ffit
  • lliw croen anarferol
  • gwres o 39°C a mwy
  • dim yn bwydo/bwyta
  • dangos arwyddion o ddadhydradiad (ceg sych, llygaid pantiog, dim dagrau)
  • symptomau llid yr ymennydd (cur pen difrifol, cric yn y gwar, anhoffter o olau llachar, brech nad yw’n diflannu wrth roi pwysau arno - gweler criteria 1.1 1m fwy o wybodaeth)
  • symptomau sepsis (gwres yn fwy/llai na 39°C, croen afliwiedig, anodd dihuno, anadlu’n gyflym, brech nad yw’n diflannu wrth roi pwysau arno, cael ffit a chonfylsiwn - gweler criteria 1.1 am fwy o wybodaeth).

Darllen pellach:

http://bit.ly/2M7VaB8

http://bit.ly/2Ko2jLV

http://bit.ly/2Tg3QWT

Hint 2: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 2: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Identifying and responding to signs of sickness and potential infestations/infections

Adnabod ac ymateb i arwyddion o salwch a phlâu/haint posibl

Child taking medication

Working in an early years and childcare setting requires practitioners who are aware of common sicknesses and infestations/infections as a child matures from being an infant to a teenager, identifying their signs and symptoms. Although the signs of some sicknesses, such as the illnesses against which children are immunised, are common, some signs, such as a rash, that appear on the body may vary. Practitioners need to be able to differentiate between these by identifying that a meningitis rash doesn't disappear if a glass is pressed over it. By identifying the range of symptoms, the best care and support can be offered to children and their parents/carers. Children will develop colds consistently and when identifying common symptoms, the practitioner can make the process easier for the child to deal with the condition and can encourage the child to drink fluids regularly. It's also important that the location staff know when children receive vaccinations. It's possible for children to have a reaction to vaccinations and although the majority will disappear in about three days, being aware of them will enable practitioners to offer the right care that they need.

It's important that practitioners know how to respond to signs of sickness by developing the ability to do this routinely. If a child suffers from a high temperature, vigilant response will be necessary as temperatures of 39°C or above can be dangerous if not appropriately identified and treated. It is required that all staff at the location have the information that will allow them to respond appropriately to signs of potential sickness and infestations/infections, in accordance with workplace policies and procedures. It's important to be vigilant while working with babies as they're unable to report feeling unwell. Symptoms such as the following will need to be kept in mind:

  • the baby more drowsy than usual
  • high temperature
  • diarrhoea which can cause dehydration.

By getting familiar with working with babies and children and developing an understanding of signs of sickness, the practitioner will confidently develop to identify and respond effectively in the child's interests. Notice there are policies and procedures in place within the location that provide clear guidance on what needs to be done in different situations. As part of their role, a practitioner needs to get familiar with the policies and procedures. Notice there is an appropriate policy on medication. This sets out a guidance on what the location is required to adopt if a child needs medication whilst at the location.

The practitioner will need to get familiar with the process of adapting daily routines as some sicknesses suffered by children are long term and he/she will need to ensure that children receive their medication on a regular basis. Asthma, diabetes and epilepsy are examples of these sorts of conditions. With some types of common sicknesses, such as a cold, the practitioner will need to ensure that there is enough air in the room without being too cold. The child can be offered quiet periods where they can read stories or make a jigsaw in a comfortable environment. Sick children get very tired, so they will need resting periods. If the infection is a fungal one, such as ringworm or impetigo, it is essential that the practitioner and all staff members have good hygiene standards in order to prevent the spread of infection. It must be ensured that everyone washes their hands regularly and that the infected child is encouraged not to touch the sore spot. If the baby does touch the sore spot, it will be necessary to explain that the hands must be washed immediately. An understanding of children's temperature and which temperatures can be life threatening must be developed. Although the temperatures of small children rise and fall quickly, the practitioner must be able to recognise the signs so that they know what action to take in order to reduce the temperature to a safe and stable level.

It's important that practitioners record any medication given to a child as well as record any signs of sickness that have spread among children.

Administration of medicine:

  • Written permission must be obtained from a parent/carer to give the medication.
  • The side-effects of medicines need to be known.
  • Medicines must be stored correctly.
  • They must not be accessible to the child.
  • The practitioner must ask the parent/carer who brings the child to the location when the last dose of medicine was given.
  • Keep a written record of the medication given to a child and make sure that the parent/carer signs it.
  • Only prescribed medication can be administered, and only with the doctor's permission.
  • The practitioner must undergo training in regard to the medical or technical knowledge of the administration of medication.
  • A child who administers his/her own medication, e.g. with an inhaler, will need to be supervised.
  • The location's policy and procedures must be read to develop a clear understanding about the management of medication.

The practitioner should take all possible steps to avoid the spread of disease among children by identifying signs and symptoms of infectious diseases.

  • If a child develops a sickness whilst at the location, the practitioner should contact the parent/carer immediately and ask them to collect their child as soon as possible.
  • If a child suffers from vomiting and diarrhoea, they cannot return to the location until 24 hours after the infection has cleared.
  • There should be guidelines in the location's policies and procedures that specify the specific times a child should be kept away from the location as a result of the development of an infection and the practitioner should get familiar with these.
  • The child's absence should be noted on the 'child sickness record form' which should be kept safely.
  • If an infectious disease spreads at the location, this should be reported to Public Health Wales or the Environmental Health Department.

A list of infectious diseases can be found on the Public Health Wales website.

Further reading:

http://bit.ly/2Kl9QLf

http://bit.ly/2YTH8VZ

Wrth weithio mewn lleoliad blynyddoedd cynnar a gofal plant, mae angen i ymarferwyr fod yn ymwybodol o salwch a phlâu/haint sy’n gyffredin wrth i blentyn dyfu o fod yn faban i berson ifanc yn ei arddegau gan adnabod eu harwyddion a’u symptomau. Er bod arwyddion rhai mathau o salwch, megis yr afiechydon y caiff plant eu himiwneiddio yn eu herbyn, yn gyffredin, bydd rhai arwyddion, megis brech, sy’n arddangos ar y corff yn medru amrywio. Mae angen i ymarferwyr fedru gwahaniaethu rhwng y rhain gan adnabod nad yw brech llid yr ymennydd yn diflannu os rhoddir gwydr drosto. Wrth adnabod yr amrywiaeth o symptomau, gellir cynnig y gofal a’r gefnogaeth gorau posib i blant a’u rhieni/gofalwyr. Bydd plant yn datblygu annwyd yn gyson ac wrth adnabod y symptomau cyffredin, gall yr ymarferydd wneud y broses yn haws i’r plentyn i ddelio â’r cyflwr a’i annog i yfed yn rheolaidd. Mae hefyd yn bwysig bod staff y lleoliad yn gwybod pryd mae plant yn derbyn brechiadau. Mae’n bosibl i blant gael adwaith i frechiadau ac er y bydd y mwyafrif yn diflannu ymhen ryw dri diwrnod, bydd gwybod amdanynt yn galluogi ymarferwyr i gynnig y gofal cywir sydd ei angen arnynt.

Mae’n bwysig bod ymarferwyr yn gwybod sut i ymateb i arwyddion o salwch gan ddatblygu’r gallu i wneud hyn yn rheoliadd. Os bydd plentyn yn dioddef o wres uchel, bydd angen ymateb trwy fod yn wyliadwrus gan fod tymheredd o 39°C neu uwch yn medru bod yn beryglus os na chaiff ei adnabod a’i drin yn briodol. Mae angen i holl staff y lleoliad fod â’r wybodaeth a fydd yn eu caniatáu i ymateb yn briodol i arwyddion o salwch a phlâu/haint posibl, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r gweithle. Bydd angen bod yn wyliadwrus wrth weithio gyda babanod gan nad ydynt yn medru dweud eu bod yn teimlo’n sâl. Bydd angen cadw llygaid ar symptomau fel y rhai canlynol:

  • y baban yn fwy cysglyd nag arfer
  • gwres uchel
  • dolur rhydd a all gael effaith o ddadhydriad.

Wrth ymgyfarwyddo â gweithio gyda babanod a phlant a datblygu dealltwriaeth o arwyddion o salwch, bydd yr ymarferydd yn datblygu’n hyderus i adnabod ac ymateb yn effeithiol, a hynny er lles y plentyn. Gweler fod polisïau a gweithdrefnau yn eu lle o fewn y lleoliad sy’n rhoi arweiniad clir ar yr hyn sydd angen ei wneud mewn sefyllfaoedd gwahanol. Fel rhan o’u rôl, y mae angen i ymarferwr ymgyfarwyddo â’r polisïau a’r gweithdrefnau yma. Gweler fod yna bolisi priodol ar feddyginiaeth. Mae hwn yn gosod canllawiau ar yr hyn sy’n ofynnol i’r lleoliad ei fabwysiadu os bydd angen rhoi meddyginiaeth i blentyn yn ystod ei amser yn y lleoliad.

Bydd angen i’r ymarferydd ymgyfarwyddo â’r broses o addasu arferion dyddiol gan fod rhai mathau o salwch y mae plant yn ddioddef ohonynt yn hir dymor a bydd angen sicrhau bod y plant yn cael eu meddyginiaethau yn rheolaidd. Mae asthma, diabetes ac epilepsi a rhai alergeddau yn enghreifftiau o’r mathau hyn o gyflyrau. Gyda rhai mathau o salwch cyffredin, megis annwyd, bydd angen i’r ymarferydd sicrhau bod digon o aer yn yr ystafell heb iddi fod yn rhy oer. Gellir cynnig cyfnodau tawel i’r plentyn lle all ddarllen storïau neu wneud jig-so mewn amgylchfyd gysurus. Mae plant sâl yn blino llawer, felly, bydd angen iddyn nhw gael cyfnodau i orffwys. Os yw’r haint yn un ffwngaidd, megis y darwden neu impetigo, mae’n hanfodol bod yr ymarferydd a holl aelodau staff â safonau hylendid da er mwyn atal yr haint rhag lledaenu. Rhaid sicrhau bod pawb yn golchi eu dwylo’n rheolaidd ac annog y plentyn heintus i geisio peidio â chyffwrdd â’r man dolurus. Os bydd yn gwneud hynny, bydd angen esbonio bod rhaid golchi’r dwylo yn syth. Rhaid datblygu dealltwriaeth o wres plant a pha dymheredd a all fod yn beryg bywyd. Er bod gwres plant bach yn codi a disgyn yn gyflym, mae’n rhaid i’r ymarferydd fedru adnabod yr arwyddion fel eu bod yn gwybod pa gamau i’w cymryd er mwyn lleihau’r gwres i lefel diogel a sefydlog.

Mae’n bwysig bod ymarferwyr yn cofnodi unrhyw feddyginiaeth a roddir i blentyn yn ogystal â chofnodi unrhyw arwydd o salwch a wnaeth ledu ymysg plant.

Rhoi meddyginiaeth:

  • Rhaid derbyn caniatâd ysgrifenedig oddi wrth riant/gofalwr i roi’r feddyginiaeth.
  • Mae angen gwybod am sgil-effeithiau’r meddyginiaethau.
  • Rhaid storio’r meddyginiaethau’n gywir.
  • Rhaid sicrhau nad ydyn nhw o fewn cyrraedd y plentyn.
  • Rhaid gofyn i’r rhiant/gofalwr sy’n dod â’r plentyn i’r lleoliad pryd rhoddwyd y dos diwethaf o’r feddyginiaeth.
  • Cadw cofnod ysgrifenedig o’r feddyginiaeth a roddir i blentyn a gwneud yn siŵr bod rhiant/gofalwr yn ei lofnodi.
  • Dim ond meddyginiaeth sydd ar bresgripsiwn a ellir ei roi, a hynny os yw’r meddyg wedi caniatáu.
  • Rhaid i’r ymarferydd dderbyn hyfforddiant ynghylch y gwybodaeth feddygol neu dechnegol am weinyddu meddyginiaeth.
  • Mae angen goruchwylio plentyn sy’n rhoi meddyginiaeth iddo’i hun, e.e. mewnanadlydd.
  • Rhaid darllen polisi a gweithdrefnau’r lleoliad er mwyn datblygu dealltwriaeth glir am reoli meddyginiaeth.

Dylai’r ymarferydd gymryd pob cam posib i osgoi clefydau rhag lledaenu ymysg plant drwy adnabod arwyddion a symptomau o glefydau heintus.

  • Os bydd plentyn yn datblygu salwch tra yn y lleoliad, dylai’r ymarferydd gysylltu â’r rhiant/gofalwr yn syth a gofyn iddynt gasglu ei phlentyn cyn gynted â phosib.
  • Os bydd plentyn yn dioddef o chwydu a dolur rhydd, ni all ddychwelyd i’r lleoliad tan 24 awr wedi i’r haint glirio.
  • Dylai bod canllawiau ym mholisïau a gweithdrefnau’r lleoliad sy’n nodi’r amseroedd penodol y dylai plentyn gael ei gadw draw o’r lleoliad yn sgil datblygu haint a dylai’r ymarferydd ymgyfarwyddo â’r rhain.
  • Dylid nodi absenoldeb y plentyn ar ‘ffurflen cofnodi salwch plentyn’ a’i chadw’n ddiogel.
  • Os tybier bod clefyd heintus yn lledaenu yn y lleoliad, dylid adrodd i Iechyd Cyhoeddus Cymru neu Adran Iechyd yr Amgylchedd.

Gellir dod o hyd i restr clefydau heintus ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Darllen pellach:

http://bit.ly/2Kl9QLf

http://bit.ly/2MbeU78

http://bit.ly/2yLZuxq

Hint 3: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 3: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.