Between the ages of 0 and 5 children develop language very quickly. The pre-linguistic phase is the time period from about a year before children say their first words. During this period, babies can communicate their needs by crying and facial expression. Babies usually respond to adults by recognising the pitch of the voice of the person speaking to them. They will often respond non-verbally, for example by smiling. Before babies learn spoken language, they will respond to sound and speech and usually develop the ability to understand language before the ability to communicate.
Children begin communicating verbally by babbling and then by using one or two words. This then turns into putting two words together, and then three, and then whole sentences. Once the child has reached two years old, they usually speak more than 200 words and learn new words very quickly. The rate of vocabulary acquisition is influenced by how much language the child hears. By the time they are 6 years old, children usually use over 10,000 words. An 8 year old child will be able to hold a conversation like an adult.
Pre-linguistic stages – from birth to 12 months:
There are two main areas of language development:
Between the ages of 1 and 2, babies will respond to familiar directions e.g. ‘come here’ (receptive language). They will babble and can recognise the names of familiar objects (expressive language).
By the time they are 3 years old children can follow two step directions, such as “put the cup in the sink and the banana skin in the bin” (receptive language). They will use sentences of 3-4 words (expressive language).
By the time they are 5 years old children will understand the relationship between objects e.g. ‘the girl who is reading the book’ and ‘the boy who is playing with the blocks’ (receptive language). They will be able to converse with another person (expressive language).
Between the ages of about 7 and 8 children will be able to listen for longer periods of time e.g. the class teacher reading a long story (receptive language). They will be able to express an opinion (expressive language).
Early literacy (mark making) – Children like to copy adults and utilise writing instruments by making marks on paper or any surface that is available. In developing early literacy skills children form lines and dots before developing the ability to copy a mark made by others. They gradually begin to form curves and circles. The children will then develop the ability to copy straight lines and curves made by others. Finally, they develop the ability to use straight lines and curves to form symbols.
Bilingualism and multilingualism – As children acquire a new language or languages they move through several stages. These stages can vary from child to child, depending on their experiences or personal circumstances:
Rhwng 0 a 5 oed mae plant yn datblygu iaith yn gyflym iawn. Y cam cyn-ieithyddol yw'r cyfnod o tua blwyddyn cyn i blant ddweud eu geiriau cyntaf. Yn ystod y cyfnod hwn, gall fabanod gyfathrebu eu hanghenion trwy grio a mynegiant y wyneb. Mae babanod fel arfer yn ymateb i oedolion trwy adnabod traw llais y person sy'n siarad â nhw. Yn aml byddant yn ymateb yn ddi-eiriau, er enghraifft trwy wenu. Cyn i fabanod ddysgu iaith lafar, maent yn ymateb i sain a lleferydd ac mae'r gallu i ddeall iaith fel arfer yn digwydd cyn y gallu i gyfathrebu.
Mae plant yn dechrau cyfathrebu ar lafar trwy faldorddi ac yna trwy ddefnyddio un neu ddau o eiriau. Mae hyn wedyn yn troi i mewn i roi dau air gyda'i gilydd, ac yna tri, ac yna brawddegau cyfan. Unwaith y bydd plentyn yn 2 oed, maent fel arfer yn siarad mwy na 200 o eiriau, ac yn dysgu geiriau newydd yn gyflym iawn. Mae cyfradd yr eirfa yn cael ei ddylanwadu gan faint o iaith mae’r plentyn yn clywed. Erbyn 6 oed mae plant fel arfer yn defnyddio dros 10,000 o eiriau. Bydd plentyn 8 oed yn gallu cynnal sgwrs fel oedolyn.
Camau cyn-ieithyddol - genedigaeth hyd at 12 mis:
Mae dau brif ardal o ddatblygiad iaith:
Rhwng 1-2 oed bydd babanod yn ymateb i gyfarwyddiadau cyfarwydd e.e. ‘tyrd yma’ (iaith dderbyniol). Byddant yn baldorddi ac yn gallu adnabod enwau gwrthrychau cyfarwydd (iaith fynegiannol).
Erbyn 3 oed gall plant ddilyn cyfarwyddiadau dau gam, fel “rho’r cwpan yn y sinc a’r croen banana yn y bin” (iaith dderbyniol). Byddant yn defnyddio brawddegau o 3 - 4 air (iaith fynegiannol).
Erbyn 5 oed bydd plant yn deall y berthynas rhwng gwrthrychau e.e. ‘y ferch sy’n darllen llyfr’ a ‘y bachgen sy’n chwarae gyda’r blociau’ (iaith dderbyniol). Byddant yn gallu sgwrsio â pherson arall (iaith fynegiannol).
Rhwng tua 7-8 oed gall blant wrando am gyfnodau hirach e.e. yr athrawes dosbarth yn darllen stori hir (iaith dderbyniol). Byddant yn gallu mynegi barn (iaith fynegiannol).
Llythrennedd cynnar (gwneud marciau) - Mae plant yn hoffi copïo oedolion a manteisio ar offer ysgrifennu drwy wneud marciau ar bapur neu unrhyw arwyneb sydd ar gael. Wrth ddatblygu sgiliau llythrennedd cynnar mae plant yn ffurfio llinellau a dotiau cyn datblygu'r gallu i gopïo marc a wneir gan eraill. Yn raddol maent yn dechrau ffurfio cromliniau a chylchoedd. Yna bydd y plant yn datblygu'r gallu i gopïo llinellau syth a chromliniau a wneir gan eraill. Yn olaf, maent yn datblygu'r gallu i ddefnyddio llinellau syth a chromliniau i ffurfio symbolau.
Dwyieithrwydd ac amlieithrwydd - Wrth i blant gaffael iaith neu ieithoedd newydd maent yn symud drwy sawl cam. Gall y camau hyn amrywio o blentyn i blentyn, yn ddibynnol ar eu profiadau neu amgylchiadau personol:
Drag the statements to the correct pictures.
Llusgwch y datganiadau at y lluniau cywir.
Warning! This resource is not optimised for use on mobile devices.
Rhybudd! Ni ellir defnyddio’r adnodd yma ar ffonau symudol neu dabled.
Well done. You have matched them all correctly.
Da iawn. Rydych wedi paru pob un yn gywir.
Images
Delweddau
|
Statements
Datganiadau
|
Correct answers
Atebion cywir
|
---|