Intellectual (cognitive) stages and general patterns of development

Cyfnodau a phatrymau cyffredinol o ddatblygiad deallusol (gwybyddol)

Babies wearling glasses sourounded by books

Intellectual development

Intellectual development, also known as cognitive development, involves the development of the mind and includes language development. Children learn how to reason, think, understand and explain things. Most children will experience the same pattern of intellectual development and children will usually reach milestones at the same time.

Children will learn about the world around them through observation, emulation, experience and failure, play, exploration, using the senses and experimentation. Once a child can move around, their intellectual development will accelerate as they are provided with new experiences to learn from.

Intellectual development includes memory, concentration, reasoning, perception, imagination and creativity and problem solving. It is important for adults to provide a stimulating environment for children as well as new experiences which will help to promote their development, such as games, books, toys, outdoor experiences and various types of play.

Language skills

Children develop language skills very quickly between 0 and 5 years old. When a child is born, they can communicate their needs by crying and using facial expressions which lasts for the first 12 months. The ability to understand language normally occurs before the ability to communicate. Children will start to communicate verbally by babbling and then by using one or two words. This then turns into putting two words together, then three, and then whole sentences. Once a child is two, they will be able to say more than 200 words and will learn new words very quickly. The increase in vocabulary is influenced by how much language is heard by the child. By 6 years old the child will have more than 10,000 words in their vocabulary. An 8-year-old will be able to have conversations with adults.

Datblygiad deallusol

Mae datblygiad deallusol, a elwir hefyd yn ddatblygiad gwybyddol, yn ymwneud â datblygiad y meddwl ac mae’n cynnwys datblygiad iaith. Mae plant yn dysgu sut i resymu, meddwl, deall ac esbonio pethau. Yn achos y rhan fwyaf o blant mae’r patrwm datblygiad deallusol fel rheol yn dilyn yr un drefn ac fel rheol, mae plant yn cyrraedd cerrig milltir ar yr un pryd fwy neu lai.

Bydd plant yn dysgu am y byd o’u cwmpas trwy arsylwi, dynwared, profi a methu, chwarae, archwilio, defnyddio’u synhwyrau ac arbrofi. Unwaith y gall plentyn symud o gwmpas, bydd eu datblygiad deallusol yn cyflymu wrth iddynt gael mwy o brofiadau newydd i ddysgu oddi wrthynt.

Mae datblygiad deallusol yn cynnwys cof, canolbwyntio, rhesymu, canfyddiad, dychymyg a chreadigrwydd a datrys problemau. Mae’n bwysig bod oedolion yn darparu amgylchedd ysgogol i blant ynghyd â phrofiadau newydd a fydd yn helpu i hybu eu datblygiad, fel gemau, llyfrau, teganau, profiadau yn yr awyr agored ac amrywiol fathau o chwarae.

Sgiliau iaith

Mae plant yn datblygu sgiliau iaith yn gyflym iawn rhwng 0 a 5 oed. Pan gaiff plentyn ei eni, gall gyfathrebu ei anghenion trwy grio a defnyddio mynegiant y wyneb gyda hyn yn parhau am y 12 mis cyntaf. Mae'r gallu i ddeall iaith fel arfer yn digwydd cyn y gallu i gyfathrebu. Mae'r plant yn dechrau cyfathrebu ar lafar trwy faldorddi ac yna trwy ddefnyddio un neu ddau o eiriau. Mae hyn wedyn yn troi i mewn i roi dau air gyda'i gilydd, ac yna tri, ac yna brawddegau cyfan. Rhwng tua 9-12 mis bydd babanod yn dechrau archwilio llyfrau. Unwaith y bydd plentyn yn 2 oed, maent yn siarad mwy na 200 o eiriau, yn dysgu geiriau newydd yn gyflym iawn ac yn dechrau sgriblo. Mae’r cynnydd yn yr eirfa yn cael ei ddylanwadu gan faint o iaith mae’r plentyn yn clywed. Erbyn chwech mae gan blentyn eirfa o dros 10,000 o eiriau, a gall ysgrifennu ei enw ei hun yn ogystal â rhai geiriau cyfarwydd. Bydd plentyn wyth oed yn gallu cynnal sgyrsiau fel oedolion.

Different stages of child intellectual (cognitive) development (0-19 years old)

Click on an age milestone and select the appropriate statement from the list.

Camau datblygiad deallusol plant (0-19 oed)

Cliciwch ar garreg filltir oedran a dewiswch y gosodiad priodol o’r rhestr.