Partnerships

Partneriaethau

Partnerships between the health and care sectors can include any of the following care services:

Care Forums

Taking Care of Wales Gofalu Am Cymru
Care forums are voluntary non-profit organisations who provide health, social care and well-being providers with a voice in the discussion of how to provide the best outcomes for those needing care and support. They also provide training, share best practice and resources and promote the importance of current legislation when providing care.

As an example, here is a link to the Care Forum Wales website:

https://www.careforumwales.co.uk/

Commissioned services Commissioned services develop and manage contracts with providers to ensure they meet national standards. They ensure that specialised services are commissioned from providers that have the suitable experience and expertise to provide care. They also monitor and review the quality, safety and performance of the care provided.

A commissioned service means care, support or supervision that has been arranged and paid for on an individual’s behalf by a public authority (e.g. a local authority social care department, a local authority housing department or the NHS).
Community led activities Co-production is one of the main principles of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014. It enables people both providing and receiving services to share power and responsibility, and to work together in equal and caring relationships. It creates opportunities for people to access the best support when they need it.

This page on the Social Care Wales website provided further information on co-production:

https://socialcare.wales/hub/hub-resource-sub-categories/co-production

Unpaid carers Unpaid carers refer to any person, such as a family member, friend or neighbour, who is giving regular, ongoing assistance to another person without payment for the care given. Unpaid carers often work alongside professionals/practitioners to provide the care and support needed.
Multi-agency working Multi-agency working means that different organisations work together to deliver services to people who may have various care needs. It is essential that care organisations work together if individuals are going to receive the range of care and support they require when they need it. Multi-agency working is about giving a seamless service to individuals that may have many and complex needs.

Care professionals working with different organisations must be clear about the role and responsibilities that they have in multi-agency working, and they need to understand how other sectors, including the private and voluntary sectors, help with planning support for the individual.
Multi-disciplinary teams (MDTs) Multi-disciplinary teams (MDTs) are made up of a group of experts who may be members of different professions who work together in one team.

For example: a multidisciplinary team (MDT) providing care and support for an individual with a mental health condition could include psychiatrists, clinical nurses, community mental health nurses, psychologists, social workers, occupational therapists, medical secretaries, and sometimes other professionals such as counsellors.
Self-help groups Self-help groups are groups of people who provide support for each other in a self-help group, the members share a common challenge/problem, often a common disease, addiction or challenge.

For example: Macmillan Cancer Support run self-help support groups around the country for people that have or have had cancer to give them the chance to talk to others who can understand what they are going through.

https://www.macmillan.org.uk/information-and-support/coping/getting-support/find-groups-and-talks-near-you#161600

Voluntary care services Voluntary care services are care services that are provided by non-profit making organisations that are quite often a registered charity e.g. British Red Cross, Tenovus Cancer Care, SCOPE, MIND Cymru, counselling and bereavement groups, other services provided by volunteers e.g. religious groups, befriending schemes, community groups, animal therapy.

Mae partneriaethau rhwng y sectorau iechyd a gofal yn gallu cynnwys unrhyw rai o'r gwasanaethau gofal canlynol:

Fforymau Gofal

Gofalu am Gymru Taking Care of Wales
Mae fforymau gofal yn fudiadau dielw gwirfoddol sy'n rhoi llais i ddarparwyr iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant yn y drafodaeth ynglŷn â sut i ddarparu'r canlyniadau gorau i bobl ag angen gofal a chymorth. Maent hefyd yn darparu hyfforddiant, yn rhannu arfer gorau ac adnoddau ac yn hybu pwysigrwydd deddfwriaeth gyfredol wrth ddarparu gofal.

Fel enghraifft, dyma gyswllt at wefan Fforwm Gofal Cymru:

https://www.careforumwales.co.uk/

Gwasanaethau wedi'u comisiynu Mae gwasanaethau wedi'u comisiynu'n datblygu ac yn rheoli contractau gyda darparwyr i sicrhau eu bod nhw'n bodloni safonau cenedlaethol. Maent yn sicrhau bod gwasanaethau arbenigol yn cael eu comisiynu gan ddarparwyr â'r profiad a'r arbenigedd addas i ddarparu gofal. Maent hefyd yn monitro ac yn adolygu ansawdd, diogelwch a pherfformiad y gofal a ddarperir.

Mae gwasanaeth wedi'i gomisiynu yn golygu gofal, cymorth neu oruchwyliaeth mae awdurdod cyhoeddus wedi'i drefnu a thalu amdano ar ran unigolyn (e.e. adran gofal cymdeithasol awdurdod lleol, adran tai awdurdod lleol neu'r GIG).
Gweithgareddau wedi'u harwain gan y gymuned Mae cydgynhyrchu yn un o brif egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'n galluogi pobl sy'n darparu ac yn derbyn gwasanaethau i rannu grym a chyfrifoldeb, ac i weithio gyda'i gilydd mewn perthnasoedd cyfartal a gofalgar. Mae'n creu cyfleoedd i bobl i gael y cymorth gorau pan fydd ei angen arnynt.

Roedd y dudalen hon ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru yn rhoi gwybodaeth bellach am gydgynhyrchu:

https://gofalcymdeithasol.cymru/hub/hub-resource-sub-categories/cydgynhyrchu

Gofalwyr di-dâl Mae gofalwyr di-dâl yn golygu unrhyw unigolyn, fel aelod teulu, ffrind neu gymydog, sy'n rhoi cymorth rheolaidd a pharhaus i rywun arall heb dâl am y gofal mae'n ei roi. Mae gofalwyr di-dâl yn aml yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol/ymarferwyr i ddarparu'r gofal a'r cymorth sydd ei angen.
Gweithio amlasiantaethol Mae gweithio amlasiantaethol yn golygu bod gwahanol sefydliadau'n gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau i bobl all fod ag amrywiaeth o anghenion gofal. Mae'n hanfodol bod sefydliadau gofal yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn i unigolion gael yr amrywiaeth o ofal a chymorth sydd ei angen pan fo ei angen. Mae gweithio amlasiantaethol yn golygu rhoi gwasanaeth di-dor i unigolion sy'n gallu bod â llawer o anghenion cymhleth.

Mae'n rhaid i weithwyr gofal proffesiynol sy'n gweithio gyda gwahanol sefydliadau fod yn glir am eu rôl a'u cyfrifoldebau o ran gweithio amlasiantaethol, ac mae angen iddynt ddeall sut mae sectorau eraill, gan gynnwys y sectorau preifat a gwirfoddol, yn helpu i gynllunio cymorth i'r unigolyn.
Timau amlddisgyblaethol Mae timau amlddisgyblaethol wedi'u gwneud o grŵp o arbenigwyr sy'n gallu bod yn aelodau o wahanol broffesiynau ac sy'n gweithio gyda'i gilydd mewn un tîm.

Er enghraifft: gallai tîm amlddisgyblaethol sy'n darparu gofal a chymorth i unigolyn â chyflwr iechyd meddwl gynnwys seiciatryddion, nyrsys clinigol, nyrsys iechyd meddwl cymunedol, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol, ysgrifenyddion meddygol, ac weithiau gweithwyr proffesiynol eraill fel cwnselwyr.
Grwpiau hunangymorth Grwpiau o bobl yw'r rhain sy'n darparu cymorth i'w gilydd. Mewn grŵp hunangymorth, mae'r aelodau'n rhannu her/problem gyffredin, sy'n aml yn glefyd, yn gaethiwed neu'n her.

Er enghraifft: Mae Cymorth Canser Macmillan yn cynnal grwpiau cymorth hunangymorth ledled y wlad i bobl sy'n dioddef o ganser, neu sydd wedi cael canser, i roi cyfle iddyn nhw i siarad â phobl eraill sy'n gallu deall beth maen nhw'n ei wynebu.

https://www.macmillan.org.uk/information-and-support/coping/getting-support/find-groups-and-talks-near-you#161600

Gwasanaethau gofal gwirfoddol Gwasanaethau gofal yw'r rhain sy'n cael eu darparu gan fudiadau dielw sy'n eithaf aml yn elusen gofrestredig e.e. Y Groes Goch Brydeinig, Gofal Canser Tenovus, SCOPE, MIND Cymru, grwpiau cwnsela a phrofedigaeth, gwasanaethau eraill a ddarperir gan wirfoddolwyr e.e. grwpiau crefyddol, cynlluniau cyfeillio, grwpiau cymunedol, therapi anifeiliaid.

Partnerships

Partneriaethau

Gwenno is 27 years old and has mental health issues. She cannot look after herself without support, and lives in supported living accommodation on the outskirts of the town. This accommodation was arranged for her by a housing officer from the local council. Gwenno’s key worker, who is a social worker is trained to support individuals with their mental health. A community psychiatric nurse visits Gwenno at home each day to make sure that she is taking her medication. Gwenno has a sister living in the next town who calls by every other day to check if she is coping and to make sure that her bills are paid and to liaise with the key worker.

Gwenno attends a local day centre run by the local Community Mental Health Team three times a week to take part in a range of workshops and activities within a recovery framework for people with mental health needs. During her time at the centre she attends several groups run by individuals that have shared similar challenges to herself.

At the day centre Gwenno also has access to several different organisations, such as MIND Cymru who encourage Gwenno to visit the local drop-in café for some of her meals. MIND have put Gwenno in touch with a community gardening group set up by the Council to get people to grow their own food. The community group also provide informal cookery lessons to members of the community.

Which services are working in partnership to ensure the best possible outcome for Gwenno?

Mae Gwenno yn 27 oed ac mae ganddi hi broblemau iechyd meddwl. All hi ddim gofalu amdani ei hun heb gymorth, ac mae hi'n byw mewn llety byw â chymorth ar gyrion y dref. Cafodd y llety ei drefnu ar ei chyfer hi gan swyddog tai o'r cyngor lleol. Mae gweithiwr allweddol Gwenno, sy'n weithiwr cymdeithasol, wedi cael ei hyfforddi i gynorthwyo unigolion â'u hiechyd meddwl. Mae nyrs seiciatrig gymunedol yn ymweld â Gwenno yn ei chartref bob dydd i wneud yn siŵr ei bod hi'n cymryd ei meddyginiaeth. Mae gan Gwenno chwaer sy'n byw yn y dref nesaf sy'n galw heibio bob yn ail ddiwrnod i weld ydy hi'n ymdopi ac i wneud yn siŵr bod ei biliau'n cael eu talu ac i gysylltu â'r gweithiwr allweddol.

Mae Gwenno yn mynychu canolfan ddydd leol sy'n cael ei chynnal gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol lleol dair gwaith yr wythnos i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai a gweithgareddau o fewn fframwaith i wella pobl ag anghenion iechyd meddwl. Yn ystod ei hamser yn y ganolfan, mae hi'n mynychu llawer o grwpiau sy'n cael eu cynnal gan unigolion sydd wedi rhannu heriau tebyg iddi hi.

Yn y ganolfan ddydd, mae Gwenno hefyd yn cael mynediad i lawer o wahanol fudiadau, fel MIND Cymru sy'n annog Gwenno i fynd i'r caffi galw heibio lleol i gael rhai o'i phrydau bwyd. Mae MIND wedi rhoi Gwenno mewn cysylltiad â grŵp garddio cymunedol sydd wedi'i sefydlu gan y Cyngor i berswadio pobl i dyfu eu bwyd eu hunain. Mae'r grŵp cymunedol hefyd yn darparu gwersi coginio anffurfiol i aelodau o'r gymuned.

Pa wasanaethau sy'n gweithio mewn partneriaeth i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i Gwenno?

Suggested answer:

The services working in partnership to ensure the best possible outcome for Gwenno are:

  • Supported living accommodation
  • Housing Officer
  • Social Worker
  • Community Psychiatric Nurse
  • Gwenno’s sister (family)
  • Community Mental Health Team
  • Self-help groups
  • MIND Cymru
  • Community gardening group.

Is Gwenno being supported by multi-agency working or a multi-disciplinary team?

Gwenno is being supported by multi-agency working:

  • Supported living accommodation – run through a wide range of groups
  • Local Council – housing officer, social/key worker
  • Local Health Board – Community Mental Health Team, Community Psychiatric Nurse
  • Family
  • Self-help groups
  • Voluntary care services – MIND Cymru
  • Community-led activities – gardening group.

Ateb a awgrymir:

Y gwasanaethau sy'n gweithio mewn partneriaeth i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i Gwenno yw:

  • Llety byw â chymorth
  • Swyddog Tai
  • Gweithiwr Cymdeithasol
  • Nyrs Seiciatrig Gymunedol
  • Chwaer Gwenno (teulu)
  • Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol
  • Grwpiau hunangymorth
  • MIND Cymru
  • Grŵp garddio cymunedol

Ydy Gwenno'n cael ei chefnogi gan waith amlasiantaethol neu gan dîm amlddisgyblaethol?

Mae Gwenno'n cael ei chefnogi gan waith amlasiantaethol:

  • Llety byw â chymorth – yn cael ei gynnal drwy amrywiaeth eang o grwpiau
  • Cyngor Lleol – swyddog tai, gweithiwr cymdeithasol/allweddol
  • Bwrdd Iechyd Lleol – Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, Nyrs Seiciatrig Gymunedol
  • Teulu
  • Grwpiau hunangymorth
  • Gwasanaethau gofal gwirfoddol – MIND Cymru
  • Gweithgareddau wedi'u harwain gan y gymuned – grŵp garddio.