Health and Social Care sectors working in partnership to provide better opportunities

Sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu gwell cyfleoedd

Care home walk

There are different ways that care and support is provided for individuals across the lifespan. Health and social care sectors work together in partnership with individuals to provide care and support to achieve the best outcomes possible for the individuals accessing care.

Before looking at the different partnerships within the health and social care sectors, it is important to understand that funding for care services come from different sources.

Mixed economy of care refers to the provision of services from a variety of sources including:

  • Statutory care: services that are paid for and provided by the Welsh and local Government e.g. NHS services, hospitals, health centres, local authority services, social care and commissioned services.
  • Private care: services that are run as a business e.g. BUPA, private dentists, residential or nursing homes.
  • Third-sector care: services that are run by a range of organisations that are neither statutory nor private. They include voluntary and community organisations (both registered charities and other organisations such as associations, self-help groups and community groups), social enterprises and co-operatives.

Darperir gofal a chymorth i unigolion mewn gwahanol ffyrdd ar hyd y rhychwant oes. Mae'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth gydag unigolion i ddarparu gofal a chymorth i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl i'r unigolion sy'n cael gofal.

Cyn edrych ar y gwahanol bartneriaethau o fewn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n bwysig deall bod arian i wasanaethau gofal yn dod o wahanol ffynonellau.

Mae economi gofal cymysg yn cyfeirio at ddarparu gwasanaethau o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys:

  • Gofal statudol: gwasanaethau mae Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn talu amdanynt ac yn eu darparu e.e. gwasanaethau'r GIG, ysbytai, canolfannau iechyd, gwasanaethau awdurdod lleol, gofal cymdeithasol a chomisiynu gwasanaethau.
  • Gofal preifat: gwasanaethau sy'n cael eu cynnal fel busnes e.e. BUPA, deintyddion preifat, cartrefi preswyl neu nyrsio.
  • Gofal trydydd sector: gwasanaethau sy'n cael eu cynnal gan amrywiaeth o fudiadau sydd ddim yn statudol nac yn breifat. Maent yn cynnwys mudiadau gwirfoddol a chymunedol (elusennau cofrestredig a mudiadau eraill fel cymdeithasau, grwpiau hunangymorth a grwpiau cymunedol), mentrau cymdeithasol a chydweithfeydd.

Health and Social Care sectors working in partnership to provide better opportunities

Sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu gwell cyfleoedd

Drag the examples of services to the correct column.

Llusgwch yr enghreifftiau o wasanaethau i'r golofn gywir.