Health campaigns and initiatives

Ymgyrchoedd a mentrau iechyd

Healthy Lifestyle

Individuals can benefit greatly from health campaigns and initiatives, and not just with improvements to their health and well-being.

Knowledge is power

When an individual understands the risks or benefits of different lifestyles, they are better able to choose options that will be beneficial to their health and well-being. A healthier lifestyle can mean less time off school or work due to illness, which in turn leads to companies viewing an individual as more attractive. Employers view healthy workers as more productive.

Improved health can also help individuals out of poverty. Adults who live a healthy lifestyle will in turn teach their children to live healthily. Good health in children is linked to improved educational attainment, which allows children greater options as they reach adulthood and generates social mobility within communities.

Greater understanding of screening programmes and health checks ensures that individuals take greater responsibility for their own health meaning that illness and disease can be caught and treated early, providing better outcomes for the individual. This also relieves pressure on services as long term ill health is reduced.

Gall ymgyrchoedd a mentrau iechyd fod o fudd mawr i unigolion, nid yn unig o ran gwella eu hiechyd a'u llesiant.

Mae gwybodaeth yn grymuso

Pan fydd unigolyn yn deall y risgiau neu'r buddiannau sy'n gysylltiedig â ffyrdd gwahanol o fyw, bydd mewn sefyllfa well i ddewis opsiynau a fydd o fudd i'w iechyd a'i lesiant. Gall ffordd iachach o fyw golygu na fydd unigolyn yn absennol o'r ysgol neu'r gwaith cymaint o ganlyniad i salwch, a fydd yn gwneud yr unigolyn hwnnw yn fwy deniadol i gwmnïau. Mae cyflogwyr o'r farn bod gweithwyr iach yn fwy cynhyrchiol.

Gall gwell iechyd hefyd helpu unigolion i ddod allan o dlodi. Bydd oedolion â ffordd iach o fyw, yn eu tro, yn addysgu ffordd iach o fyw i'w plant. Mae iechyd da ymhlith plant yn gysylltiedig â gwell cyrhaeddiad addysgol, sy'n rhoi mwy o opsiynau i blant wrth iddynt ddod yn oedolion ac yn creu symudedd cymdeithasol o fewn cymunedau.

Mae gwell dealltwriaeth o raglenni sgrinio ac archwiliadau iechyd yn sicrhau bod unigolion yn cymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu hiechyd eu hunain gan olygu y gellir nodi achosion o salwch a chlefydau a'u trin yn gynnar, gan ddarparu gwell canlyniad i'r unigolyn. Mae hyn hefyd yn lleihau'r pwysau ar wasanaethau gan fod achosion o salwch hirdymor yn lleihau.

Legislation, initiatives, advice or campaign

Drag the options to the correct columns.

Deddfwriaeth, mentrau, cyngor neu ymgyrch

Llusgwch yr opsiynau i’r colofnau cywir.