There are a wide range of agencies that aim to promote health in Wales. These agencies will focus upon different areas of health and can be government run or voluntary organisations, such as charities. They include:
Mae amrediad eang o asiantaethau yn ceisio hybu iechyd yng Nghymru. Bydd yr asiantaethau hyn yn canolbwyntio ar feysydd iechyd gwahanol a gallan nhw fod yn sefydliadau sy’n cael eu rhedeg gan y llywodraeth neu fudiadau gwirfoddol, fel elusennau. Mae’r rhain yn cynnwys:
The NHS covers the whole of the U.K. and has a major role in promoting the health of the population. The NHS provides diagnostic services and treatments for various health conditions. If an individual is diagnosed with a condition, appropriate advice and treatment would be offered in order to try and maintain the individual’s health and well-being.
The NHS also offers health promotion services (Public Health Wales) and advice to try and encourage individuals to make healthy choices and to prevent ill health. This can include advice and services about issues such as:
Mae’r GIG yn ymdrin â’r Deyrnas Unedig i gyd ac mae’n chwarae rhan fawr i hybu iechyd y boblogaeth. Mae’r GIG yn darparu gwasanaethau diagnostig a thriniaethau ar gyfer gwahanol gyflyrau iechyd. Os bydd unigolyn yn cael diagnosis o gyflwr byddai cyngor a thriniaeth briodol yn cael eu cynnig er mwyn ceisio cynnal iechyd a llesiant yr unigolyn.
Mae’r GIG hefyd yn cynnig gwasanaeth hybu iechyd (Iechyd Cyhoeddus Cymru) a chyngor i geisio annog unigolion i wneud dewisiadau iach ac i atal afiechyd. Gall hyn gynnwys cyngor a gwasanaethau am faterion fel:
Name some of the advice and services that The NHS health promotion offers.
Enwch rai mathau o gyngor a gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan wasanaeth hybu iechyd y GIG.
Councils have been given a leading role to reduce health inequalities and premature deaths and improve health and well-being.
They are required to tackle the cause of ill health, reduce health inequalities and commission services that address the needs of the local population; particularly the health needs of the disadvantaged and vulnerable groups, as well as giving consideration to equality issues.
Mae cynghorau wedi cael rôl flaenllaw i leihau anghydraddoldebau iechyd a marwolaethau cynamserol a gwella iechyd a llesiant.
Mae’n ofynnol iddyn nhw fynd i’r afael ag achosion o iechyd gwael, lleihau anghydraddoldebau iechyd a chomisiynu gwasanaethau sy’n rhoi sylw i anghenion y boblogaeth leol; yn benodol, anghenion iechyd grwpiau dan anfantais a rhai sy’n agored i niwed, yn ogystal ag ystyried materion yn ymwneud â chydraddoldeb.
Access the resources available to borrow when running healthy living campaigns at local authority level.
Only four resources can be borrowed at any one time.
Thinking of the issues in your local authority, decide which health campaign you would run and explain which resources you would borrow and how you think they will help.
Defnyddiwch yr adnoddau sydd ar gael i’w benthyg wrth redeg ymgyrchoedd byw’n iach ar lefel awdurdod lleol.
Gellir benthyg pedwar adnodd ar y tro yn unig.
Meddyliwch am y materion yn eich awdurdod lleol, penderfynwch pa ymgyrch iechyd fyddech chi’n ei rhedeg ac esboniwch pa adnoddau fyddech chi’n eu benthyg a sut rydych yn credu y byddan nhw o gymorth.
Schools promote health by providing health education through both the formal curriculum during lesson times and through the informal curriculum, such as through assemblies. Through the formal curriculum, classroom-based topics might include: healthy eating, mental health and well-being and sexual health. Through the informal curriculum, topics such as road safety may be addressed, for example through having an assembly on road safety.
Teachers and lecturers can encourage positive attitudes and healthy living and give advice on general well-being. They can carry out classroom activities to promote health, such as projects on diet and physical education.
Public Health Wales believe that teaching and learning can help an individual build the knowledge and skills they need to grow into healthy individuals through:
Julie Bishop – Public Health Wales
Mae ysgolion yn hybu iechyd drwy ddarparu addysg iechyd drwy’r cwricwlwm ffurfiol yn ystod gwersi a thrwy’r cwricwlwm anffurfiol, megis yn ystod gwasanaethau. Fel rhan o’r cwricwlwm ffurfiol, gallai testunau a drafodir yn yr ystafell ddosbarth gynnwys: bwyta’n iach, iechyd meddwl a llesiant ac iechyd rhywiol. Fel rhan o’r cwricwlwm anffurfiol, gellid rhoi sylw i bynciau fel diogelwch ffyrdd, er enghraifft drwy gynnal gwasanaeth ar ddiogelwch ffyrdd.
Gall athrawon a darlithwyr annog agweddau cadarnhaol a byw’n iach a rhoi cyngor ar lesiant cyffredinol. Gallan nhw gynnal gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth i hybu iechyd, fel projectau ar ddeiet ac addysg gorfforol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn credu gall addysgu a dysgu helpu unigolyn i feithrin y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arno i dyfu yn unigolyn iach drwy’r dulliau canlynol:
Julie Bishop – Iechyd Cyhoeddus Cymru
Public Health Wales identified the following as statements attributed to healthy and confident individuals. For each of the statements identify which apply to you.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi’r gosodiadau canlynol fel rhai sy’n cael eu priodoli i unigolion iach a hyderus. Ar gyfer pob gosodiad nodwch pa rai sy’n gymwys i chi.
QuestionCwestiwn | Your AnswerEich ateb |
---|
For those statements you have identified as not being attributed to you, how do you think school could help you develop those skills? Yn achos y gosodiadau hynny y gwnaethoch chi nodi nad ydyn nhw’n berthnasol i chi, sut ydych chi’n meddwl gallai’r ysgol eich helpu i ddatblygu’r sgiliau hynny?
Charities work on both a national and local level.
Third sector organisations in Wales include:
Local charities work on a much smaller scale and generally focus their work within a town. Their funds tend to be more limited compared to a national charity. Charities that work on a local level within Wales include:
Third sector organisations raise awareness and offer support and advice about a variety of health and well-being issues.
Mae elusennau yn gweithio ar lefel leol a chenedlaethol.
Mae mudiadau’r trydydd sector yng Nghymru yn cynnwys:
Mae elusennau lleol yn gweithio ar raddfa llawer llai ac yn gyffredinol mae eu gwaith yn canolbwyntio ar dref. Mae ganddyn nhw lai o arian fel arfer o’u cymharu ag elusen genedlaethol. Mae elusennau sy’n gweithio ar lefel leol yng Nghymru yn cynnwys:
Mae mudiadau’r trydydd sector yn codi ymwybyddiaeth ac yn cynnig cymorth a chyngor ynghylch amrywiaeth o faterion iechyd a llesiant.
Do some research into some local third sector organisations. Choose one organisation and make a poster explaining how it promotes health and well-being.
Here are some examples of learners work who have completed this.
Ymchwiliwch i mewn i fudiadau’r trydydd sector. Dewiswch fudiad a gwnewch boster yn esbonio sut mae’r mudiad yn hybu iechyd a llesiant.
Dyma rhai enghreifftiau o waith dysgwyr sydd wedi cwblhau’r dasg.
They are a charity that has been working with mental health for 30 years. Their mission is to be a platform for connection, transformation and social change. They want sustainable wellbeing for all suffering with mental health. Their work takes a trauma informed approach to understanding mental health and emotional distress. They are working towards a fundamental shift in the way that public services are provided and are making sure that people with mental health problems get the correct help that they need.
How they help:
Maent yn elusen sydd wedi bod yn gweithio ym maes iechyd meddwl ers dros 30 mlynedd. Eu cenhadaeth yw bod yn blatfform ar gyfer cysylltiad, trawsnewid a newid cymdeithasol. Maent eisiau lles cynaliadwy i bawb sy’n dioddef gyda’u hiechyd meddwl. Mae eu gwaith yn defnyddio dull wedi’i lywio gan drawma i ddeall iechyd meddwl a thrallod emosiynol. Maent yn gweithio tuag at newid sylfaenol yn y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu ac yn sicrhau bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn derbyn y cymorth sydd ei hangen arnynt.
Sut maent yn helpu:
Welsh hearts are the leading heart charity in Wales for placing defibrillators training in Wales. They are regarded as the heart charity at the centre of saving many lives in Wales. Their aim is to provide public access defibrillators in Wales in close partnership with strategic partners. This is in place to provide free defibrillator and CPR training for the Welsh public. Also, to screen Welsh hearts for heart conditions that may otherwise go undetected. Another reason would be to ensure moneys raised in Wales are utilized and distributed within Wales on specific heart related projects.
The Welsh hearts aim to support the future ambition that every facility in Wales, no matter the size, will be no more than 100m from access to a life-saving defibrillator.
The Welsh hearts aim to work hard across Wales to raise funds for their life saving research, support people living with a heart disease also to reduce the risk of future generations.
Calonnau Cymru yw’r elusen calonnau arweiniol yng Nghymru am ddosbarthu diffribilwyr a hyfforddiant yng Nghymru. Mae’r elusen yn cael ei ystyried fel yr elusen calonnau sy’n ganolbwynt i achub nifer o fywydau yng Nghymru. Eu nod yw darparu diffribilwyr i’r cyhoedd eu defnyddio mewn partneriaeth agos â phartneriaid strategol. Mae hwn yn ei le i ddarparu hyfforddiant diffribilwyr ac adfywio caridio-pwlmonaidd (CPR) am ddim i aelodau i’r cyhoedd yng Nghymru ac i sgrinio calonnau Cymru am glefydau’r galon nas canfuwyd fel arall. Rheswm arall yw sicrhau bod yr arian a godir yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio a’i ddosbarthu o fewn y wlad ar brosiectau yn ymwneud â’r galon.
Nod calonnau Cymru yw cefnogi uchelgais y dyfodol y bydd pob sefydliad yng Nghymru, beth bynnag ei faint, yn llai na 100m i ffwrdd o ddiffribiliwr a all achub bywyd.
Mae calonnau Cymru yn gweithio’n galed ledled y wlad i godi arian ar gyfer eu hymchwil a all achub bywyd, i gefnogi pobl sy’n byw â chlefyd y galon ac i leihau’r risg i genedlaethau’r dyfodol.
Platfform helps
Platfform’s aims and activities
“We provide a wide range of services to people experiencing mental ill health, supporting their independence, their health and wellbeing and their recovery. We lobby to improve mental health policy, practice and legislation and we campaign to increase public understanding of mental health and wellbeing.”
What Platfform do
Mae Platfform yn helpu
Nodau a gweithgareddau Platfform
“Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau i bobl sy’n profi iechyd meddwl gwael, yn cefnogi eu hannibyniaeth, eu hiechyd a’u llesiant a’u hadferiad. Rydym yn gobeithio gwella polisi, arferion a deddfwriaeth iechyd meddwl ac yn ymgyrchu i gynyddu gwybodaeth y cyhoedd am iechyd a llesiant meddyliol.”
Beth mae Platfform yn ei wneud
Latch Welsh Children’s Cancer Charity supports children receiving treatment for cancer and leukaemia at the Children’s Hospital for Wales and their families.
The organization offers families:
And many more!
They need to raise £700,000 a year to cover the costs of supporting families.
Although they are based within the Children’s Hospital for Wales, they have a Social Worker team that visits families at home across Wales.
Whilst the children are in hospital, they often miss their normal lives, where they are interacting with others. LATCH provides these children with a range of activities and treats to keep children’s morale high and keeping them occupied and amused during long stays in hospitals.
In 2017, they launched an ‘iPad’s for patients’ project. This is where they give an iPads to individual patients. This is done to keep the patient occupied and entertained, but also, they are able to keep contact with friends and families through social media and they can also carry on with their school curricular.
Mae Elusen Canser Plant Cymru, Latch, yn cefnogi plant sy’n derbyn triniaeth am ganser a lewcemia yn Ysbyty Plant Cymru a’u teuluoedd.
Mae’r mudiad yn cynnig gwasanaethau i’r teulu, gan gynnwys:
A llawer mwy!
Mae angen iddynt godi £700,000 y flwyddyn er mwyn sicrhau bod yna ddigon o arian i gefnogi teuluoedd.
Er eu bod wedi’u lleoli o fewn Ysbyty Plant Cymru, mae ganddynt dîm o Weithwyr Cymdeithasol sy’n ymweld â theuluoedd yn eu cartrefi ledled Cymru.
Tra bod y plant yn yr ysbyty, maent yn colli eu bywydau arferol, lle byddant yn cymdeithasu ag eraill. Mae LATCH yn darparu amrywiaeth o weithgareddau a thrîts i blant i’w calonogi ac i’w cadw’n brysur ac wedi’u diddanu yn ystod arosiadau hir yn yr ysbyty.
Yn 107, cychwynnwyd prosiect ‘iPad for patients’. Cafodd bob claf iPad yr un. Maen nhw’n gwneud hyn er mwyn cadw claf yn brysur ac wedi’i ddiddanu, ond hefyd, maent yn gallu cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu trwy’r cyfryngau cymdeithasol a gallent hefyd barhau gyda’u gwaith ysgol.
Decide whether these local charities support physical health or mental health. Drag the national charities to the correct columns.
Penderfynwch a yw’r elusennau cenedlaethol hyn yn rhoi cymorth iechyd corfforol neu iechyd meddwl. Llusgwch yr elusennau cenedlaethol i’r colofnau cywir.