The Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Well-being goals

The Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 aims to improve the social, economic, environmental and cultural well-being of Wales now and in the future, including:

  • The seven well-being goals:
    • a prosperous Wales
    • a resilient Wales
    • a healthier Wales
    • a more equal Wales
    • a Wales of cohesive communities
    • a Wales of vibrant culture and thriving Welsh Language
    • a globally responsible Wales.
  • The sustainable development principle - There are five things that public bodies need to think about to show that they have applied the sustainable development principle:
    • the importance of balancing short-term needs with the need to safeguard the ability to also meet long-term needs
    • how acting to prevent problems occurring or getting worse may help public bodies meet their objectives
    • considering how the public body’s well-being objectives may impact upon each of the well-being goals, on their other objectives or on the objectives of other public bodies
    • acting in collaboration with any other individual (or different parts of the public body itself) that could help the body to meet its well-being objectives
    • the importance of involving individuals with an interest in achieving the well-being goals and ensuring that those individuals reflect the diversity of the area which the body serves.
  • Well-being duty - The Act places a duty that the public bodies will be expected to carry out. A duty means they have to do this by law. The well-being duty states that each public body must carry out sustainable development. The action a public body takes in carrying out sustainable development must include:
    • setting and publishing objectives (“well-being objectives”) that are designed to maximise its contribution to achieving each of the well-being goals
    • taking all reasonable steps (in exercising its functions) to meet those objectives.

This means that each public body listed in the Act must work to improve the economic, social, environmental and cultural well-being of Wales. To do this, they must set and publish well-being objectives. These objectives will show how each public body will work to achieve the vision for Wales set out in the well-being goals. Public bodies must then take action to make sure they meet the objectives they set.

Public bodies listed:

Welsh ministers

Local authorities

Local health boards

Public Health Wales NHS Trust

Velindre NHS Trust

National park authorities

Fire and rescue authorities

Natural resources Wales

The Arts Council of Wales

Sports Council of Wales

The National Library of Wales

The National Museum of Wales

Well-being goals

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru nawr ac yn y dyfodol, gan gynnwys:

  • Y saith nod llesiant:
    • Cymru lewyrchus
    • Cymru gydnerth
    • Cymru iachach
    • Cymru sy’n fwy cyfartal
    • Cymru o gymunedau cydlynol
    • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
    • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.
  • Yr egwyddor datblygu cynaliadwy – Mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus ystyried pum peth i ddangos eu bod nhw wedi defnyddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy:
    • pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd
    • sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion
    • ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’i amcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill
    • sut gallai cydweithio ag unrhyw unigolyn arall (neu adrannau gwahanol yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant
    • pwysigrwydd cynnwys unigolion sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant a sicrhau bod yr unigolion hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal mae’r corff yn ei gwasanaethu.
  • Dyletswydd llesiant – Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd y mae disgwyl i gyrff cyhoeddus ei rhoi ar waith. Mae dyletswydd yn golygu bod yn rhaid iddyn nhw wneud hyn yn ôl y gyfraith. Mae’r ddyletswydd llesiant yn nodi bod yn rhaid i bob corff cyhoeddus gadw at yr egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae’n rhaid i’r weithred bydd corff cyhoeddus yn ei chyflawni wrth gadw at yr egwyddor datblygu cynaliadwy gynnwys:
    • pennu a chyhoeddi amcanion (“amcanion llesiant”) sydd wedi’u cynllunio er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyfraniad at gyflawni pob un o’r nodau llesiant
    • cymryd yr holl gamau rhesymol (wrth arfer ei swyddogaethau) i fodloni’r amcanion hynny.

Golyga hyn fod yn rhaid i bob corff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf weithio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. I wneud hyn mae'n rhaid iddyn nhw bennu a chyhoeddi amcanion llesiant. Bydd yr amcanion hyn yn dangos sut bydd pob corff cyhoeddus yn gweithio i gyflawni'r weledigaeth ar gyfer Cymru a nodwyd yn y nodau llesiant. Yna, mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus weithredu i sicrhau eu bod yn bodloni'r amcanion y gwnaethon nhw eu gosod.

Cyrff cyhoeddus a restrir:

Gweinidogion Cymru

Awdurdodau lleol

Byrddau Iechyd Lleol

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd y Cyhoedd Cymru

Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Awdurdodau parciau cenedlaethol

Awdurdodau tân ac achub

Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyngor Celfyddydau Cymru

Cyngor Chwaraeon Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Amgueddfa Cymru

The Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Watch the film and identify what each of the goals means to Megan. How is Megan supported to achieve each of the goals?

  • a prosperous Wales
  • a resilient Wales
  • a healthier Wales
  • a more equal Wales
  • a Wales of cohesive communities
  • a Wales of vibrant culture and thriving Welsh Language
  • a globally responsible Wales.

Gwyliwch y ffilm a nodwch beth mae pob un o’r nodau yn ei olygu i Megan. Sut mae Megan yn cael cymorth i gyflawni pob un o’r nodau?

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynol
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

The Social Services and Well-being (Wales) Act 2014

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

The Social Services and Well-being (Wales) Act is the new legal framework that brings together and modernises social services law.

The principles of the Act are as follows:

  • support individuals who have care and support needs to achieve well-being
  • put individuals at the heart of the new system by giving them an equal say in the support they receive
  • partnership and cooperation drive service delivery
  • focussing on delaying and preventing the need for care and support to avoid escalation.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yw’r fframwaith cyfreithiol newydd sy’n dod â chyfraith gwasanaethau cymdeithasol ynghyd ac yn ei moderneiddio.

Dyma brif egwyddorion y Ddeddf:

  • cefnogi i unigolion sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth i gyflawni llesiant
  • rhoi unigolion wrth wraidd y system newydd drwy roi llais cyfartal iddynt yn y gefnogaeth a gânt
  • partneriaeth a chydweithredu sy’n gyrru cyflenwi gwasanaethau
  • canolbwyntio ar oedi ac atal yr angen am ofal a chymorth i osgoi gwaethygu’r sefyllfa.

Social Services and Well-being (Wales) Act 2014

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Under this Act, the term “well-being” is defined as:

  • having a good home
  • having a social life and enough money to lead a healthy life
  • feeling part of the community
  • having positive relationships
  • education, training, sports and play
  • protection from abuse, harm and neglect
  • physically, mentally and emotionally happy
  • rights.

Therefore, if well-being is not being met, people struggle until they or someone else contacts Social Services for help.

Under the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014:

  • Assessments are carried out in the best way to meet an individual’s needs. The new process is simple and avoids unnecessary bureaucracy.
  • The focus is on what matters to the person and how they can use their own strengths and resources to do those things. Assessment is a partnership between the person and the professional.
  • Assessment of a person by different partners can be carried out at the same time. These assessments can be completed by one body on behalf of others.
  • Eligibility is not about giving a right to a service; it is about access to care and support to meet personal outcomes.
  • The individual has an eligible need for care and support if an assessment establishes that they can only overcome barriers and achieve their personal outcomes if the local authority prepares a care and support plan, or support plan for carers and ensures that it is delivered.
  • When undertaking an assessment, it has to promote an individual’s well-being and to have regard for their culture, dignity, views, wishes and feelings. They may require the service of an advocate, interpreter or translator.

The abbreviation PEWW is an easy way to remember key elements of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014:

  • People – putting the individual at the centre by giving them a stronger voice and control over services they receive.
  • Earlier intervention – more preventative services. Supporting people before their needs become critical.
  • Working together – stronger partnership working between all parties involved.
  • Well-being – supporting people to achieve their own well-being, building on a person’s circumstances, capabilities, networks and communities.

O dan y Ddeddf hon, diffinnir y term "llesiant" fel:

  • cael cartref da
  • cael bywyd cymdeithasol a digon o arian i fyw bywyd iach
  • teimlo'n rhan o'r gymuned
  • cael perthnasoedd cadarnhaol
  • addysg, hyfforddiant, chwaraeon a chwarae
  • cael eich amddiffyn rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
  • bod yn hapus yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol
  • hawliau.

Felly, os na fydd gofynion llesiant yn cael eu bodloni, bydd pobl yn ei chael hi'n anodd hyd nes y byddan nhw, neu rywun arall, yn cysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol am help.

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014:

  • Caiff asesiadau eu cynnal yn y ffordd orau i ddiwallu anghenion unigolyn. Mae'r broses newydd yn syml ac yn osgoi biwrocratiaeth ddiangen.
  • Rhoddir ffocws ar beth sy'n bwysig i'r unigolyn a sut y gall ddefnyddio ei gryfderau a'i adnoddau ei hun er mwyn gwneud y pethau hynny. Mae asesiad yn bartneriaeth rhwng yr unigolyn a'r gweithiwr proffesiynol.
  • Gall gwahanol bartneriaid asesu unigolyn ar yr un pryd. Gall un corff gwblhau'r asesiadau hyn ar ran cyrff eraill.
  • Nid mater o roi hawl i wasanaeth yw'r broses o bennu cymhwysedd; ond mater o gael gafael ar ofal a chymorth er mwyn cyflawni canlyniadau personol.
  • Bydd gan yr unigolyn angen cymwys am ofal a chymorth os bydd asesiad yn nodi mai dim ond os bydd yr awdurdod lleol yn paratoi cynllun gofal a chymorth, neu gynllun cymorth i ofalwyr ac yn sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflawni, y gall oresgyn rhwystrau a chyflawni ei ganlyniadau personol.
  • Wrth gynnal asesiad, rhaid hybu llesiant unigolyn ac ystyried ei ddiwylliant, ei urddas, ei safbwyntiau, ei ddymuniadau a'i deimladau. Gall fod angen gwasanaeth eiriolwr, dehonglydd neu gyfieithydd.

Mae elfennau allweddol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel a ganlyn:

  • Pobl – sicrhau bod yr unigolyn wrth wraidd y broses drwy roi llais cryfach a mwy o reolaeth iddo dros y gwasanaethau a gaiff.
  • Ymyrryd yn gynharach – mwy o wasanaethau ataliol. Cefnogi pobl cyn i'w hanghenion ddod yn ddifrifol.
  • Cydweithio – gweithio mewn partneriaeth gryfach rhwng yr holl bartïon cysylltiedig.
  • Llesiant – cefnogi pobl i gyflawni eu llesiant eu hunain, gan weithredu'n unol ag amgylchiadau, galluoedd, rhwydweithiau a chymunedau'r unigolyn.

How the Welsh Government works to improve health and well-being and reduce inequalities

Complete the table below.

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau

Cwblhewch y tabl isod.

Legislation 100 words on how this legislation improves health and well- being and reduces inequalities in health.
Well-being of Future Generations Act 2015
Social Services and Well-being (Wales) Act 2014
Deddfwriaeth 100 o eiriau i ddisgrifio sut mae'r ddeddfwriaeth hon yn gwella iechyd a llesiant ac yn lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014