Developing Welsh language skills

Datblygu sgiliau Cymraeg eich hun

There are numerous courses across Wales as well as online courses to support childcare workers, both Welsh speakers and learners, to develop Welsh language skills.

Learn Welsh Cymru

A website which provides guidance on courses for learning Welsh across Wales, during the day and in the evening. Learning can be achieved via classroom lessons or online learning. Courses are delivered by the National Centre for Learning Welsh's 11 course providers. There are courses available for all levels. Welsh language courses are available on 5 levels. Further information is available via the video below:

Mae yna gyrsiau niferus ar gael ledled Cymru yn ogystal â chyrsiau ar lein a fydd o gymorth i gweithwyr gofal plant, boed yn siaradwyr y Gymraeg neu’n ddysgwyr i ddatblygu sgiliau Cymraeg.

Dysgu Cymraeg Cymru

Gwefan sy’n cynnig arweiniad ar gyrsiau dysgu Cymraeg ledled Cymru yn ystod y dydd a gyda’r nos. Gellir dysgu trwy gael gwersi mewn dosbarth neu ddysgu ar-lein. Mae'r cyrsiau yn cael eu cynnal gan 11 darparwr cwrs y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Mae cyrsiau ar gael ar gyfer pob lefel. Mae cyrsiau Cymraeg ar gael ar bum lefel. Ceir mwy o wybodaeth trwy wylio’r fideo isod:

Learning

They also provide Cymraeg i'r Teulu (Welsh for the Family) courses which help parents/carers speak Welsh with children under the age of 7. A range of courses are available, such as:

  • Sadwrn siarad
  • residential courses
  • online courses
  • intensive courses.

Further reading:

https://learnwelsh.cymru/

The Learn Welsh Level Checker

A scheme which uses online skills tests to discover the level of Welsh language skills within the childcare workforce. The Learn Welsh Level Checker is a diagnostic tool which helps people to identify their level of competency in Welsh accurately. The results can be used to identify opportunities for further professional development. A range of courses are available to improve language and develop new skills. Undertaking a course contributes to creating a true baseline which demonstrates the Welsh language skills of the workforce and where further investment is needed to support efforts to use Welsh daily.

Further reading:

https://www.cwlwm.org.uk/edi-project/

Coleg Cymraeg Cenedlaethol - Language Skills Certificate

This certificate was used for the first time in 2013. Its aim is to enable students studying in Wales to gain a language skills certificate. It shows their current position in terms of language skills and their ability to work through the medium of Welsh.

The Welsh Government has stated its support for the certificate. To gain the qualification, students are required to make an oral presentation as well as sit a written test which includes three tasks. Both tasks will not be undertaken on the same day. The certificate is awarded on three levels:

  • Pass
  • Merit
  • Distinction.

Further reading:

https://bit.ly/2M9zAeP

Mudiad Meithrin

The Mudiad Meithrin offers a range of courses for its staff with the aim of contributing to the continuing professional development (CPD) of the workforce and the well-being of children and their families/carers. Training is delivered on specific learning areas, such as the Sand Area, the Water Area, the Construction Area, the Role Play Area, the Reading Corner, the Craft Corner and the Home Corner. Although this training is not directly related to developing language skills, participating childcare workers will be introduced to vocabulary and phrases which may be unfamiliar. The vocabulary can be used and applied in the workplace. As well as these courses, the Mudiad Meithrin offers a Basic Language Scheme.

The Mudiad Meithrin emphasises the importance of ensuring that every member of staff in a cylch meithrin or a day nursery can use Welsh in every aspect of their work with children. The aim of the Basic Language Scheme is to help staff to use Welsh confidently in the setting.

During the course, childcare workers will benefit from experiences such as:

  • Hearing and learning vocabulary, phrases and songs. These can be used in the activities offered daily in the setting.
  • Develop confidence when using correct language patterns as part of activities and daily routines.
  • Once the childcare worker has developed to using the language confidently, they can apply for an assessment in order to gain the certificate associated with the course.
  • After completing the course, childcare workers will feel more confident to lead daily activities in settings and they will be able to support and develop children's language skills. They will also feel more confident when communicating with families/carers.

Further reading:

https://bit.ly/2Z4m2VH

Maent hefyd yn darparu cyrsiau Cymraeg i’r Teulu sy’n helpu rhieni/gofalwyr i siarad Cymraeg gyda phlant sy’n iau na saith oed. Cynigir cyrsiau amrywiol megis:

  • Sadwrn siarad
  • cyrsiau preswyl
  • cyrsiau ar-lein
  • cyrsiau dwys.

Darllen pellach:

https://dysgucymraeg.cymru/

Gwiriwr Lefel Dysgu Cymraeg

Cynllun sy’n defnyddio profion sgiliau ar-lein i ddarganfod lefel sgiliau Cymraeg y gweithlu gofal plant. Mae’r Gwiriwr Lefel Dysgu Cymraeg yn offeryn diagnostig sy’n helpu pobl i adnabod eu lefel cymhwysedd Cymraeg yn gywir. Gellir defnyddio’r canlyniadau er mwyn adnabod cyfleoedd i ddatblygu ymhellach yn broffesiynol. Mae nifer o gyrsiau amrywiol ar gael i loywi iaith a datblygu sgiliau newydd. Mae cymryd rhan mewn cwrs yn cyfrannu at greu gwaelodlin real sy’n dangos beth yw lefel sgiliau Cymraeg y gweithlu, a lle mae angen buddsoddiad pellach i gefnogi ymdrechion wrth ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd.

Darllen pellach:

https://www.cwlwm.org.uk/edi-project/

Coleg Cymraeg Cenedlaethol - Tystysgrif Sgiliau Iaith Cymraeg

Dechreuwyd defnyddio’r dystysgrif am y tro cyntaf yn 2013. Ei nod yw galluogi myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru i ennill tystysgrif sgiliau Iaith. Mae’n dangos lle maen nhw arni o ran ei sgiliau iaith a’u gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei gefnogaeth i’r dystysgrif , Mae’r cymhwyster yn gofyn i’r myfyriwr wneud cyflwyniad llafar yn ogystal â sefyll prawf ysgrifenedig sy’n cynnwys tair tasg. Ni fydd y ddwy dasg yn cael eu cymryd ar yr un diwrnod. Dyfernir y dystysgrif ar dair gwahanol lefel:

  • Llwyddo
  • Clod
  • Rhagoriaeth.

Darllen pellach:

https://bit.ly/2SCB1no

Mudiad Meithrin

Mae’r Mudiad Meithrin yn cynnig cyrsiau amrywiol i’w staff gyda’r nod o gyfrannu at ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) y gweithlu ac er budd plant a’u teuluoedd/gofalwyr. Maent yn cynnal hyfforddiant ar ardaloedd dysgu penodol, megis ardal Tywod, Ardal Ddŵr, Ardal Adeiladu, Ardal Chwarae Rôl, Cornel Ddarllen, Ardal Crefft ac Ardal Tŷ Bach Twt. Er nad yw’r rhain yn ymwneud yn uniongyrchol â datblygu sgiliau iaith, trwy eu mynychu bydd gweithwyr gofal plant yn cael eu cyflwyno i eirfa ac ymadroddion sydd, efallai, yn anghyfarwydd. Gellir defnyddio’r eirfa a ddysgwyd a’u rhoi ar waith yn y lleoliad gwaith. Yn ogystal â’r cyrsiau hyn mae’r Mudiad Meithrin yn cynnig cwrs Cynllun Iaith Sylfaenol.

Mae’r Mudiad Meithrin yn pwysleisio pwysigrwydd bod pob aelod o staff mewn cylch meithrin neu feithrinfa ddydd yn medru defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u gwaith gyda phlant. Nod y Cynllun Iaith Sylfaenol yw cynorthwyo staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus y lleoliad.

Yn ystod y cwrs, bydd gweithwyr gofal plant yn elwa o brofiadau megis:

  • Clywed a dysgu geirfa, ymadroddion a chaneuon. Gellir defnyddio'r rhain ar gyfer y gweithgareddau a gynigir yn ddyddiol yn y lleoliad.
  • Datblygu hyder wrth ymgyfarwyddo â defnyddio patrymau iaith cywir wrth gynnal gweithgareddau a threfniadau dyddiol.
  • Unwaith y bydd gweithiwr gofal plant wedi datblygu i ddefnyddio’r iaith yn hyderus gall wneud cais am asesiad er mwyn ennill tystysgrif sy’n cyd-fynd â’r cwrs.
  • Ar ôl cwblhau’r cwrs bydd gweithwyr gofal plant yn fwy hyderus i arwain gweithgareddau bob dydd mewn lleoliadau yn ogystal â gallu cefnogi a datblygu sgiliau iaith y plant. Byddant hefyd yn fwy hyderus wrth gyfathrebu â theuluoedd/gofalwyr.

Darllen pellach:

https://bit.ly/2LEz49w

Developing Welsh language skills

Drag the course to the correct description.

Datblygu sgiliau Cymraeg eich hun

Llusgwch y cwrs gyda’r disgrifiad cywir.

Language Course

Cwrs Iaith

Description

Disgrifiad

Correct answers

Atebion cywir