Welsh Language Standards

Safonau’r Gymraeg

Welsh language

The Welsh Language Standards (No.7) Regulations 2018

Regulations which specify standards in relation to the conduct of local health boards, NHS trusts, community health councils and the Board of Community Health Councils in Wales. The regulations specify service delivery standards, intended to promote or facilitate the use of the Welsh language, or to work towards ensuring that the Welsh language is treated no less favourably than the English language.

Services are required to assess the Welsh language skills of their employees and provide opportunities for training in Welsh, if they provide such training in English. They are also required to provide opportunities during working hours for employees to receive basic Welsh language lessons and further training, free of charge, to develop their language skills.

https://bit.ly/2GutiD8

Cymraeg 2050: A million Welsh speakers by 2050

The Welsh Government's strategy to promote and facilitate the use of the Welsh language sets out a long-term approach to achieving the target of a million Welsh speakers by 2050. Creating an early years workforce with robust linguistic skills, able to motivate and inspire learners, is essential to the success of the strategy. Welsh language and Welsh-medium training for childcare workers will be provided by means of several programmes. Since increasing Welsh-medium early years childcare provision is essential to the aim of achieving a million speakers, the Welsh Government will ensure a coordinated plan to develop the early years workforce.

https://bit.ly/2JY2g88

Welsh-medium Education Strategy

The Strategy was published in April 2010 to develop effective provision from nursery to further and higher education. The Welsh Government's aim is to have an education system that responds to the demand for Welsh-medium education and enables an increase in the number of people who are fluent in Welsh and able to use the language with their families/carers, in their communities and in the workplace. To achieve this aim, a Welsh-medium education workforce is needed that provides sufficient numbers of childcare workers for all phases of education and training.

https://bit.ly/2XYLHm4

Welsh-medium Education Strategy: Next steps

This document sets out the Welsh Government's next steps for the development of Welsh-medium education and Welsh language education from April 2016. The document outlines the Welsh Government's priorities as part of the development of the long-term Welsh language strategy. The document states that ensuring a sufficient workforce for Welsh-medium education and training is fundamental to the growth of the sector. In addition, ensuring that the workforce has the skills and resources needed to deliver high-quality education and training is essential.

https://bit.ly/2Zaf9SL

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018

Rheoliadau sy’n gosod safonau mewn perthynas ag ymddygiad byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau GIG, cynghorau iechyd cymuned a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru. Mae’r rheoliadau’n gosod safonau ar gyfer darparu gwasanaethau, gyda’r bwriad o hybu neu hwyluso defnyddio’r Gymraeg, neu weithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Mae’n rhaid i wasanaethau asesu sgiliau Cymraeg eu staff a darparu cyfleoedd iddynt gael hyfforddiant yn Gymraeg os ydynt yn darparu hyfforddiant o’r fath yn Saesneg. Mae’n rhaid iddynt hefyd ddarparu cyfleoedd yn ystod oriau gwaith i staff gael gwersi Cymraeg sylfaenol a hyfforddiant pellach, yn rhad ac am ddim, er mwyn datblygu eu sgiliau yn yr iaith.

https://bit.ly/2ZalgX4

Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn nodi cynllun hirdymor o gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr yr iaith erbyn 2050. Mae gweithlu'r blynyddoedd cynnar sydd â sgiliau ieithyddol cadarn ac sy’n gallu ysbrydoli ac ysgogi dysgwyr yn hanfodol i lwyddiant y strategaeth. Bydd hyfforddiant iaith Gymraeg a chyfrwng Cymraeg ar gyfer gweithwyr gofal plant y blynyddoedd cynnar yn cael ei ddarparu trwy sawl rhaglen wahanol. Gan fod cynyddu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar yn allweddol i’r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr, bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau cynllun ar gyfer datblygu gweithlu'r blynyddoedd cynnar.

https://bit.ly/2N43azF

Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg

Cyhoeddwyd y Strategaeth ym mis Ebrill 2010 i ddatblygu darpariaeth effeithiol o addysg feithrin hyd at addysg bellach ac uwch. Nod Llywodraeth Cymru yw cael system addysg sy’n ymateb i’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ac sy’n sicrhau cynnydd yn nifer y bobl sy’n rhugl yn y Gymraeg ac sy’n gallu defnyddio’r iaith gyda’u teuluoedd/gofalwyr, yn eu cymunedau ac yn y gweithle. Er mwyn cwrdd â’r nod y mae angen sicrhau gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg sy’n darparu nifer ddigonol o gweithwyr gofal plant ar gyfer pob cyfnod addysg a hyfforddiant.

https://bit.ly/2YfxtbZ

Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg: Y Camau Nesaf

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r camau nesaf Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg o Ebrill 2016. Mae’r ddogfen yn amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru fel rhan o ddatblygiad y strategaeth iaith Gymraeg tymor hir. Mae’r ddogfen yn nodi bod sicrhau gweithlu digonol ar gyfer addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg yn hanfodol ar gyfer twf y sector. Yn ogystal, mae’n hanfodol bod gan y gweithlu'r sgiliau a’r adnoddau i ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel.

https://bit.ly/2Yj7sMN

Welsh Language Standards

Drag the description to the correct Act or policy.

Safonau’r Gymraeg

Llusgwch y disgrifiad i’r Ddeddf neu bolisi cywir.

Description

Disgrifiad

Act or policy

Ddeddf neu bolisi

Correct answers

Atebion cywir