Job descriptions and person specifications

Disgrifiadau swydd a manylebau person

Money

Job description

An employed individual will be given a job description stating how the job should be done. A job description states the general purpose of the role and the main duties and responsibilities to be accomplished as part of the role. It does not include a detailed list of tasks and activities associated with the role.

Person specification

The associated person specification details the skills and experience required in order to accomplish the role effectively. It is similar to a job description, but more specific. It describes the qualifications, skills, experience, knowledge and other attributes required to accomplish the duties associated with the role. A person specification describes the expectations and limitations of the role and the responsibilities of the job, for example, the responsibility level of the role.

Limitations of the role and responsibilities

The boundaries of the role should also explain what should not be done. This could include activities that training is not provided for, or activities that an individual is unable to undertake, possibly due to their health status or lack of experience. If an individual steps beyond the boundaries of the role and responsibilities, they could endanger the health, safety and well-being of children or young people and their families/carers.

Knowing the duties and responsibilities associated with the role is extremely important, as is working within the limits. An induction period is an effective way of ensuring that information about the duties, responsibilities and limitations associated with the role is shared with new workers. The All Wales Induction Framework for Early Years and Childcare supports new workers during their induction period. It includes the principles and the values, the information and the skills required by workers to accomplish their work.

Seeking additional help

Regular support and supervision from a supervisor should be sought through supervision sessions. This provides an opportunity to draw the attention of the team leader to any situations that have arisen. It is important to seek advice from colleagues in situations that are beyond the scope of the role, responsibilities, experience level and expertise. For example, a childcare worker could face difficulties when dealing with the behaviour of a specific child. By discussing the matter informally or in a team meeting, they can get feedback, help and support from other staff members. A child with additional needs may start attending the setting, and a childcare worker could seek support from other staff members who are more experienced, or from other professionals, such as speech and language therapists, health visitors or specialist nurses.

Sometimes, the instructions to be followed may not be clear, and there may be concerns with regard to which steps to take. These concerns should be aired as soon as possible, especially if they could affect the standard of service provided or complicate a potentially dangerous situation.

The National Occupational Standards (NOS) offer guidance to childcare workers as they describe the skills, knowledge and understanding required to accomplish tasks effectively.

http://bit.ly/2SpJHgQ

Disgrifiad swydd

Mae unigolion cyflogedig yn cael disgrifiad swydd sy’n nodi’r ffordd y dylid gwneud eu gwaith. Mae disgrifiad swydd yn nodi pwrpas cyffredinol y rôl a'r prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau i'w cyflawni fel rhan o’r swydd. Nid yw'n cynnwys rhestr fanwl o dasgau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r rôl.

Manyleb person

Mae'r fanyleb person cysylltiedig yn manylu’r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen er mwyn cyflawni'r swydd yn effeithiol. Mae'n debyg i ddisgrifiad swydd, ond yn fwy penodol. Mae’n disgrifio'r cymwysterau, sgiliau, profiad, gwybodaeth a phriodoleddau eraill sydd eu hangen arnoch i gyflawni dyletswyddau'r swydd. Mae manyleb person yn disgrifio disgwyliadau a chyfyngiadau rolau a chyfrifoldebau’r swydd, er enghraifft, lefel cyfrifoldebau’r swydd.

Cyfyngiadau rolau a chyfrifoldebau

Dylai ffiniau rôl y swydd hefyd egluro'r hyn na ddylid ei wneud. Gallai hyn gynnwys gweithgareddau nad oes hyfforddiant wedi’i gynnig ar eu cyfer, neu weithgareddau nad ydy person yn gallu eu gwneud, efallai oherwydd statws iechyd neu ddiffyg profiad. Os ydy rhywun yn camu y tu hwnt i ffiniau rolau a chyfrifoldebau gallai wynebu'r risg o roi iechyd, diogelwch a lles plant neu bobl ifanc a’u teuluoedd/gofalwyr mewn perygl.

Mae gwybod beth yw dyletswyddau a chyfrifoldebau swydd yn hynod bwysig, a sicrhau gweithio o fewn y cyfyngiadau. Mae cyfnod anwytho’n ffordd effeithiol i sicrhau bod gwybodaeth am ddyletswyddau, cyfrifoldebau a chyfyngiadau’r swydd yn cael eu rhannu gyda gweithwyr newydd. Mae’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn cefnogi gweithwyr newydd yn ystod cyfnod sefydlu eu cyflogaeth. Mae’n cynnwys yr egwyddorion a’r gwerthoedd, y wybodaeth a’r sgiliau y mae gweithwyr eu hangen i wneud eu swydd.

Ceisio cymorth ychwanegol

Bydd angen ceisio cefnogaeth a goruchwyliaeth reolaidd gan oruchwyliwr trwy sesiynau goruchwylio. Mae hyn yn gyfle i ddod ag unrhyw sefyllfaoedd i sylw arweinydd y tîm. Mae’n bwysig ceisio cyngor gan gydweithwyr mewn sefyllfaoedd y tu hwnt i’r rôl, cyfrifoldebau, lefel o brofiad ac arbenigedd. Er enghraifft, gall gweithiwr gofal plant wynebu anawsterau wrth ddelio ag ymddygiad plentyn penodol. Trwy drafod y mater yn anffurfiol neu mewn cyfarfod tîm, gall dderbyn adborth, cymorth a chefnogaeth gan staff eraill. Efallai bydd plentyn ag anghenion ychwanegol yn cychwyn yn y lleoliad, gall gweithiwr gofal plant geisio cymorth gan staff eraill mwy profiadol, neu gan gydweithwyr proffesiynol eraill, megis therapydd Iaith a lleferydd, ymwelydd iechyd neu nyrs arbenigol.

Ar adegau, efallai na fydd y cyfarwyddiadau y mae angen eu dilyn yn glir ac efallai y bydd rhai pryderon ynghylch pa gamau i'w cymryd. Mae angen gwyntyllu’r pryderon hyn cyn gynted â phosibl, yn enwedig os gallent effeithio ar safon y gwasanaeth a ddarperir neu gymhlethu sefyllfa a allai fod yn beryglus.

Gall Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) gynnig arweiniad i gweithwyr gofal plant gan eu bod yn disgrifio’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth y mae eu hangen i gyflawni tasgau’n effeithiol.

http://bit.ly/30LA7b9

Job descriptions and person specifications

Choose the correct answer. Be careful - there may be more than one correct answer.

Disgrifiadau swydd a manylebau person

Dewiswch yr ateb cywir. Byddwch yn ofalus - gall mwy nag un ateb fod yn gywir.