Legislative Framework

Deall rôl, cyfrifoldebau ac atebolrwyddau proffesiynol yng nghyd-destun fframweithiau deddfwriaethol

3 to 5 years old

When working in children's care and education, there are several codes of practice to be followed. A code of practice offers guidance and sets a precedent with regard to the conduct of professional childcare workers. Settings which provide children's care and education have a number of codes of practice and procedures which are specifically written to support the practice of individual settings.

All Wales Induction Framework for Early Years and Childcare

The All Wales Induction Framework for Early Years and Childcare supports new workers during their induction period. The framework:

  • includes the principles and the values, the information and the skills required by workers to accomplish their work
  • offers settings a firm structure for the induction process
  • ensures that new workers are clear with regard to the information and skills that they need to evidence during their first six months of employment
  • creates a firm foundation for new workers so that they can develop their own practice and career in the future, and across the early years and childcare sector.

https://bit.ly/2JPAMkZ

NHS Wales Code of Conduct for Healthcare Support Workers in Wales

This code of conduct describes the standards of conduct and approach expected by all healthcare support workers employed by the National Health Service in Wales. Healthcare support workers have a duty to ensure that their conduct does not fall below the standards in the Code. They must ensure that no action or omission (a failure to act or negligence) compromises the safety and well-being of service users and the public, whilst in their care.

Healthcare support workers must:

  • be accountable by making sure they can always answer for their actions or omissions
  • promote and uphold the privacy, dignity, rights and well-being of service users and their carers at all times
  • work in collaboration with their colleagues as part of a team to ensure the delivery of high quality safe care to service users and their families/carers
  • communicate in an open, transparent and effective way to promote the well-being of service users and carers
  • respect a person’s right to confidentiality, protecting and upholding their privacy
  • improve the quality of care to service users by updating their knowledge, skills and experience through personal and professional development
  • promote equality of all service users, colleagues and members of the public,
  • who are entitled to be treated fairly and without bias.

https://bit.ly/2SpILcd

Code of Practice for NHS Wales employers

The Code of Practice for NHS Wales’ employers is an important assurance mechanism, supporting the employment of healthcare support workers in Wales. The Code of Practice for employers is supported by a Code of Conduct for healthcare support workers, which describes the standards individuals must comply with. Employers should be familiar with the Code of Conduct and ensure staff are supported to achieve the standards it contains. Both Codes support the basic principles of service user safety and public protection and should underpin the day to day working practices of NHS Wales. Employers will need to establish and implement systems and processes to support healthcare support workers to achieve the standards in the Code of Conduct. To meet their responsibilities in relation to supporting healthcare support workers to comply with their Code of Conduct, employers must:

  • make sure people are suitable to be employed within the healthcare workforce, and that they understand their roles, accountabilities and responsibilities
  • have procedures in place so healthcare support workers can meet the requirements of the Code of Conduct
  • provide timely, appropriate and accessible education, training and development opportunities to enable healthcare support workers to develop and strengthen their skills and knowledge
  • promote this Code of Practice and the Code of Conduct for healthcare support workers to staff, service users and other stakeholders and ensure its use in day to day practice within their organisation.

https://bit.ly/2JOmLUI

Regulations and National Minimum Standards for providing childcare for children up to the age of 12 years

This document sets the national minimum standards relevant to childminders and daycare providers for children up to the age of 12 years. Childcare providers must meet the standards and they are inspected by the Care Inspectorate Wales.

https://bit.ly/2WPnwls

National Occupational Standards (NOS)

There are National Occupational Standards for Childcare, Learning and Development, and they determine how different parts of an individual's work should be accomplished and help to provide high quality services. The National Occupational Standards:

  • define the key functions of a vocation
  • describe the skills, knowledge and information required to accomplish tasks effectively, e.g. a childcare worker in a nursery
  • have been developed in consultation with employers and stakeholders and have been given official status in the UK
  • are reviewed on a regular basis which means that they evolve over time
  • have been approved by agencies that work for UK Government departments.

Wrth weithio ym myd gofal ac addysg plant mae yna sawl cod ymarfer sydd angen eu dilyn. Mae côd ymarfer yn cynnig arweiniad ac yn gosod sail o ran ymddygiad gweithwyr gofal plant proffesiynol. Bydd lleoliadau gofal ac addysg plant â nifer o godau ymarfer a gweithdrefnau sydd wedi eu hysgrifennu’n arbennig i gyd-fynd ag ymarfer lleoliadau unigol.

Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

Mae’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn cefnogi gweithwyr newydd yn ystod cyfnod sefydlu eu cyflogaeth. Mae’r fframwaith yn:

  • cynnwys yr egwyddorion a’r gwerthoedd, y wybodaeth a’r sgiliau y mae gweithwyr eu hangen i wneud eu swydd
  • rhoi strwythur cadarn i leoliadau ar gyfer y broses sefydlu
  • sicrhau bod gweithwyr newydd yn glir ynghylch y wybodaeth a’r sgiliau sydd angen iddyn nhw ddangos tystiolaeth ohonynt yn ystod eu chwe mis cyntaf o gyflogaeth
  • creu sylfaen gadarn ar gyfer gweithwyr newydd fel eu bod yn gallu datblygu eu hymarfer a’u gyrfaoedd yn y dyfodol, ac ar draws sector y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

https://bit.ly/2xT8MHu

Côd Ymddygiad GIG Cymru ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru

Mae’r côd ymddygiad hwn yn disgrifio’r safonau ymddygiad ac ymagwedd a ddisgwylir gan yr holl weithwyr cynnal gofal iechyd a gyflogir yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru. Mae dyletswydd ar weithwyr cynnal gofal iechyd i sicrhau nad yw eu hymddygiad yn syrthio’n is na safonau’r Côd. Rhaid iddyn nhw sicrhau na fydd yr un weithred nac anwaith (sef methiant i weithredu neu esgeulustod) yn niweidio diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau a’r cyhoedd, tra’u bod dan eu gofal.

Mae’n rhaid i weithwyr cynnal gofal iechyd:

  • fod yn atebol trwy wneud yn siŵr eu bod yn gallu ateb dros eu gweithredoedd neu eu hanweithiau bob amser
  • hybu a chynnal preifatrwydd, urddas, hawliau a lles defnyddwyr gwasanaethau a’u cynhalwyr bob amser
  • gweithio mewn cydweithrediad â’u cydweithwyr fel rhan o dîm i sicrhau bod gofal diogel a safonol yn cael ei ddarparu ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd/gofalwyr
  • cyfathrebu mewn modd agored, tryloyw ac effeithiol er mwyn hybu lles defnyddwyr gwasanaethau a’u cynhalwyr.
  • parchu hawl pob person i gyfrinachedd gan amddiffyn a chynnal ei breifatrwydd
  • gwella ansawdd gofal defnyddwyr gwasanaethau trwy ddiweddaru eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad trwy ddatblygiad personol a phroffesiynol.
  • hybu cydraddoldeb yr holl ddefnyddwyr gwasanaethau, cydweithwyr ac aelodau o’r
  • cyhoedd, sy’n haeddu cael eu trin yn deg ac yn ddiduedd.

https://bit.ly/2WQBE1T

Côd Ymarfer ar gyfer cyflogwyr GIG Cymru

Mae’r Côd Ymarfer ar gyfer cyflogwyr GIG Cymru’n fecanwaith pwysig sy’n cynnig sicrwydd wrth gyflogi gweithwyr cynnal gofal iechyd yng Nghymru. Ategir y Côd Ymarfer ar gyfer cyflogwyr gan Gôd Ymddygiad ar gyfer gweithwyr cynnal gofal iechyd sy’n disgrifio’r safonau y mae’n rhaid i unigolion gydymffurfio â hwy. Dylai cyflogwyr fod yn gyfarwydd â’r Côd Ymddygiad a sicrhau bod aelodau staff yn cael eu cynorthwyo i gyrraedd y safonau a gynhwysir ynddo. Mae’r ddau Gôd yn cefnogi’r egwyddorion sylfaenol o sicrhau diogelwch defnyddwyr gwasanaethau ac amddiffyn y cyhoedd, a dylent fod yn sail barhaus i arferion gweithio o ddydd i ddydd GIG Cymru. Bydd angen i gyflogwyr sefydlu a gweithredu systemau a phrosesau i gynorthwyo gweithwyr cynnal gofal iechyd gyrraedd y safonau a osodir yn y Côd Ymddygiad. Er mwyn cyflawni’u cyfrifoldebau o ran cynorthwyo gweithwyr cynnal gofal iechyd i gydymffurfio â’u Côd Ymddygiad, mae’n rhaid i gyflogwyr:

  • sicrhau bod pobl yn addas i gael eu cyflogi yn y gweithlu gofal iechyd, a’u bod yn deall eu rolau, eu hatebolrwydd a’u cyfrifoldebau.
  • bod â gweithdrefnau yn eu lle i alluogi gweithwyr cynnal gofal iechyd i fodloni gofynion y Côd Ymddygiad.
  • darparu cyfleoedd amserol, priodol a hygyrch ar gyfer addysg, hyfforddiant a datblygiad, i alluogi gweithwyr cynnal gofal iechyd ddatblygu a chryfhau eu sgiliau a’u gwybodaeth.
  • hyrwyddo’r Côd Ymarfer hwn a’r Côd Ymddygiad ar gyfer gweithwyr cynnal gofal iechyd ymhlith aelodau staff, defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill gan sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio’n ymarfer beunyddiol eu sefydliadau.

https://bit.ly/2XZMQoJ

Rheoliadau a Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer darparu gofal i blant hyd at 12 oed

Dogfen sy’n gosod safonau gofynnol cenedlaethol sy'n berthnasol i warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd i blant hyd at 12 oed. Mae’n rhaid i ddarparwyr gofal plant gyfarfod y safonau ac maent yn cael eu harchwilio gan Arolygaeth Gofal Cymru.

https://bit.ly/2VYD4qD

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS)

Mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant, ac maent yn nodi sut y dylai gwahanol rannau o waith person gael eu gwneud ac yn helpu i gyflawni gwasanaethau o ansawdd uchel. Mae’r NOS:

  • yn diffinio swyddogaethau allweddol galwedigaeth
  • yn disgrifio'r sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth y mae eu hangen i gyflawni tasgau'n effeithiol, e.e. gweithiwr gofal plant mewn meithrinfa
  • wedi'u datblygu trwy ymgynghoriad â chyflogwyr a rhanddeiliaid ac yn meddu ar statws swyddogol yn y DU
  • yn cael eu hadolygu'n rheolaidd sy'n golygu eu bod yn esblygu dros amser.
  • wedi'u cymeradwyo gan asiantaethau sy'n gweithio i adrannau Llywodraeth y DU.

Relevant legislative frameworks, standards, codes of conduct and professional practice

Drag the description to the correct heading.

Fframweithiau deddfwriaethol perthnasol, safonau, codau ymddygiad ac arfer proffesiynol

Llusgwch y disgrifiad at y pennawd cywir.