Physical care practices are an important part of the day for babies and young children. Because of this, supporting children's personal care in a way that shows dignity and respect is an important part of good quality care.
Some children will need support or guidance to take more responsibility for their personal care, and others will need more direct support. This will often depend on the children's age and their individual needs.
Supporting children's physical care practices includes the following support.
Toileting should be treated with respect. Children should be encouraged to be independent whilst using the toilet, but it is possible that young children will need help with dressing and undressing. childcare workers need to support children as they learn the skills they will need to use the toilet independently. This could mean explaining to girls that they need to wipe from the front to the back after using the toilet. Children need to learn that toileting is a private activity due to safeguarding reasons. In order to help children to learn this, adults should stand back slightly when children are using the toilet, for example, by closing the toilet door, standing behind it and talking to the child. Children need to know that childcare workers will not be angry with them if they have an accident. If the children are worried and feel guilty when toileting perhaps they won't relax enough to use the toilet.
It is essential that childcare workers use policies and procedures when supporting children to use the toilet, or when changing nappies, to protect themselves from being accused of inappropriate behaviour or abuse. childcare workers should not be alone in a room with a child with the door closed, especially during the personal care routine.
Children pick up infections very easily. As they develop, their immune system improves and they are better able to withstand infections. It is important that childcare workers ensure the environment is as clean as possible. Infections are caused by bacteria and viruses. They are able to get into the body in three ways – through inhaling (breathing in), swallowing (eating) or through implanting (a cut on the skin). Infections can be transferred from one person to the next; this process is called cross-infection and most infections are transmitted on our hands. The most effective way of preventing or reducing cross-infection is through following effective hand washing routines.
These routines should be followed:
If a child has a medical condition such as eczema, it’s important that the childcare workers are aware of the wishes of parents/carers as some sorts of soap can be unsuitable.
Good hygiene standards are important as they give the child self-esteem and help them to be accepted socially.
It is important to care for the skin as this helps our health in general. Sweat must be washed regularly or it will combine with dead skin cells and cause the skin to become sore. A little amount of cream may also need to be applied to dry skin.
Babies and children of all ages usually enjoy bath time. Children should not be left alone in the bath, nor in the bathroom, on any account. Adults should ensure that the bath water temperature is suitable before placing the child or the baby in it, and it shouldn't be higher than 38°C, with the room temperature set at 20°C. Bath time should be fun and should be an activity that can help with all aspects of development.
Head lice can be a problem in early years settings. A special comb should be used that removes the live lice from the head destroying the eggs. It is important to inform parents/carers if there is a case of head lice in a setting so that the arrangements recommended in the home as well as the setting can be followed.
Children's hygiene routines include washing children's hair several times during the week. This can depend on the types of activities the child has been following. Once or twice a week could be enough for older children, unless they are very active and that their hair needs to be washed more often.
Children with long or curly hair tend to get "tangles", and in such cases, a wide toothed comb should be used. Hair is damaged if it is brushed when it is wet, therefore the hair should be dry before it is brushed. African and Caribbean children's hair can be dry, and there may be a need to rub oil into the hair. Some children have braiding, these braids should not be brushed, they can be washed as they are.
Children do not need to have developed teeth before starting mouth hygiene routines. Good practice for mouth hygiene, as well as a healthy diet, keep the teeth healthy. Regular visits to the dentist can also help the child to get used to having someone looking at their teeth and touching them. Children should be encouraged to brush their teeth using toothpaste containing fluoride. Teeth should be brushed in a circular motion using a soft tooth brush, with a small head, after every meal if possible. Drinks containing sugar should be avoided and snacks should not be eaten between meals.
Newborn babies spend most of their time sleeping, but as they grow, they don't need as much sleep. Sleep is essential for the body to repair cells, rest muscles and grow. Lack of sleep may affect our mood, our memory and our concentration. It is important that childcare workers realise if a child is tired and in need of sleep.
Several factors affect children's sleep requirements. Some children sleep for short periods throughout the day, whilst others will need one or two periods of uninterrupted sleep at different times during the day. childcare workers need information from parents/carers about children's sleep patterns. A part of the information, they will need to know when would be the best time for children to sleep during the day. Some parents/carers prefer for their children to sleep early in the setting as the sleeping times during the day affect the children's bedtime. childcare workers will also need to know for how long a child should be left to sleep during the day, whether a child has a comfort object and whether a child is used to having a light in the room or to leave the door open.
Older children may not need sleep, but it is important that they have periods of rest during the day. childcare workers will need to arrange quiet activities such as reading a story or doing a jigsaw during these rest periods. Some babies die unexpectedly in their sleep. This is known as Sudden Infant Death Syndrome – SIDS) or cot death. Parents/carers and childcare workers are advised to follow specific advice to try and prevent the syndrome.
Further reading: http://bit.ly/2LmW50g
Being out in the sun can cause skin cancer (melanoma), so the skin needs to be protected from the sun. During the summer months with the permission of the parent/carer, children's skin should be covered with a high factor sun screen.
Some children don't like to have suntan lotion on their skin so childcare workers need to be sensitive to that. It is important to keep babies under 6 months old out of the sun, and to keep children out of the sun between 11am and 3pm.
Snow and cold weather can cause frostbite, so children need to wear several layers of clothes and ensure their head, neck and hands are covered. childcare workers need to be vigilant as some clothing can cause risks, for example, scarves can cause a risk to young children. Children should be watched carefully when they play out in cold weather or snow to ensure that they don't get too cold. Children can be eager to play outside, even if they are wet or cold.
Caring for the nappy area is important as it can help to prevent an infection, so nappies should be changed regularly. childcare workers should change nappies when they are wet or dirty. It is important to wash a baby's bottom, and around the genital area, daily at least, and parts of the body where there are skin folds should be dried carefully to prevent them from getting painful.
Whilst providing personal care for children, childcare workers need to be aware of the children's individual needs and choices. This can help children to enjoy the care routines and benefit from warm, responsive and respectful care. When appropriate developmentally, permission should be asked from young children before providing personal care to them, for example, "your nappy looks wet, do you want me to give you a clean nappy?"
Children need a balanced diet of different foods to stay healthy and get the energy required to grow.
It is important that childcare workers are aware of each child's dietary requirements and it is important to work with parents/carers when providing food and drink. Parents/carers know if there are any foods the child shouldn't eat. Parents/carers may have specific opinions about food, and childcare workers must respect that opinion. Some children may have a specific diet due to a medical condition such as diabetes or an allergy. Others may need a vegetarian or a strict vegetarian diet. Food should also be provided that is connected to the child's own culture and foods from other cultures as the child will come to enjoy different tastes and respect different practices and beliefs.
Children eat well if they are in a homely environment and if they are happy. Food should be introduced to them in varied, fun and attractive ways. Food time is an ideal chance to learn and it is important to a child's development. During food time the child will develop motor skills and hand to eye coordination skills by using a knife and fork and other eating utensils. Food time can be an opportunity for children to develop social skills and show courtesy by taking turns. There will also be several opportunities to develop language as the child uses and practices their vocabulary and food time is also an opportunity for children to learn and develop concepts by considering shape, quality, weight and size. There is also an opportunity for children to learn about healthy eating.
They must drink enough water to keep their bodies healthy. If a child doesn't drink enough their body will dehydrate (lose liquid) and they will be unable to control their body heat. The drinks considered as good drinks for children are milk and water, as water is pure and thirst quenching and milk contains nutrients. Drinks containing sugar cause tooth decay and ruins appetites.
Further reading: http://bit.ly/2xPydtt
Mae arferion gofal corfforol yn rhan bwysig o'r dydd i fabanod a phlant ifanc. Oherwydd hyn mae cefnogi gofal personol plant mewn ffordd sy’n dangos urddas a pharch yn rhan bwysig o ofal o ansawdd da.
Bydd rhai plant angen cymorth neu arweiniad i ddysgu i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu gofal personol, tra bydd eraill angen cymorth mwy uniongyrchol. Bydd hyn yn aml yn dibynnu ar oed y plant a’u hanghenion unigol.
Mae cefnogi arferion gofal corfforol plant yn cynnwys y cymorth canlynol.
Dylid ymdrin â mynd i'r tŷ bach gyda pharch. Dylid annog plant i fod yn annibynnol wrth ddefnyddio’r toiled, ond efallai y bydd angen help ar blant ifanc wrth wisgo a dadwisgo. Mae angen i gweithwyr gofal plant gefnogi plant wrth iddynt ddysgu’r sgiliau y bydd eu hangen arnynt i ddefnyddio'r toiled yn annibynnol. Gallai hyn olygu esbonio i ferched y mae angen iddynt sychu eu hunain o’r blaen i’r cefn ar ôl defnyddio’r toiled. Mae angen i blant ddysgu bod mynd i’r toiled yn weithgaredd preifat oherwydd rhesymau diogelu. Er mwyn helpu plant i ddysgu hyn, dylai oedolion dynnu'n ôl yn raddol pan fydd plant yn defnyddio'r toiled, er enghraifft drwy gau drws y toiled, sefyll y tu allan a siarad â'r plentyn. Mae angen i blant wybod na fydd gweithwyr gofal plant yn flin gyda nhw os ydynt yn cael damwain. Os yw’r plant yn poeni ac yn teimlo’n euog wrth fynd i’r toiled efallai na fyddant yn ymlacio digon i allu defnyddio'r toiled.
Mae’n hanfodol fod gweithwyr gofal plant yn dilyn polisïau a gweithdrefnau wrth gefnogi plant i ddefnyddio’r toiled, neu wrth newid cewynnau/clytiau, er mwyn amddiffyn eu hunain rhag cyhuddiadau o ymddygiad amhriodol neu gamdriniaeth. Ni ddylai gweithwyr gofal plant fod ar eu pen eu hunain mewn ystafell gyda’r drws ar gau gyda phlentyn, yn enwedig yn ystod y drefn gofal personol.
Mae plant yn codi heintiau'n hawdd iawn. Wrth iddynt ddatblygu mae eu system heintryddid yn gwella ac maent yn gallu gwrthsefyll heintiau'n well. Mae'n bwysig bod gweithwyr gofal plant yn sicrhau bod yr amgylchedd mor lân ag sy'n bosib. Mae heintiau'n cael eu hachosi gan facteria a firysau. Gallant fynd i mewn i'r corff mewn tair ffordd - drwy fewnanadliad (cael eu hanadlu i mewn), drwy gael eu llyncu (eu bwyta) neu drwy blaniad (drwy doriad yn y croen). Gall haint gael ei drosglwyddo o'r naill berson i'r llall; gelwir y broses hon yn groes-heintio ac mae'r rhan fwyaf o heintiau'n cael eu trosglwyddo ar ein dwylo. Y ffordd fwyaf effeithiol o atal neu leihau'r risg o groes-heintio yw drwy ddilyn arferion golchi dwylo effeithiol.
Dylid dilyn yr arferion hyn:
Os oes gan blentyn anhwylderau meddygol megis ecsema yna mae’n bwysig bod yr gweithwyr gofal plant yn gwybod beth yw dymuniadau'r rhieni/gofalwyr gan efallai bod rhai mathau o sebon yn anaddas.
Mae safonau hylendid da'n bwysig gan eu bod yn rhoi hunan-barch i'r plentyn ac yn ei helpu i gael ei dderbyn yn gymdeithasol.
Mae'n bwysig gofalu am y croen gan fod cadw'r croen yn lân o gymorth i'n hiechyd yn gyffredinol. Rhaid golchi chwys yn rheolaidd neu bydd yn cyfuno gyda chelloedd y croen sydd wedi marw ac yn achosi’r croen i fod yn ddolurus. Efallai hefyd y bydd angen rhoi ychydig o hufen lleithio ar groen sych.
Mae babanod a phlant o bob oed yn mwynhau amser baddon fel arfer. Ni ddylid gadael plentyn ar ei ben ei hun yn y baddon, nac yn yr ystafell ymolchi, ar unrhyw gyfrif. Dylai oedolyn wneud yn siŵr bod tymheredd y dŵr y baddon yn iawn cyn rhoi'r plentyn neu'r babi ynddo ac ni ddylai fod yn uwch na 38°C, gyda thymheredd yr ystafell yn 20°C. Dylai amser baddon fod yn hwyl ac yn weithgaredd a all helpu gyda phob agwedd ar ddatblygiad.
Gall llau pen fod yn broblem mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar. Dylid defnyddio crib arbennig sy'n tynnu'r llau byw oddi ar y pen ac yn dinistrio'r wyau. Mae'n bwysig rhoi gwybod i rieni/gofalwyr os oes achos o lau pen mewn lleoliad fel bod modd dilyn y trefniadau sy'n cael eu hargymell yn y cartref yn ogystal ag yn y lleoliad.
Bydd arferion hylendid plentyn yn cynnwys golchi gwallt y plentyn nifer o weithiau yn ystod yr wythnos. Gall hyn ddibynnu ar y math o weithgareddau mae’r plentyn wedi bod yn eu dilyn. Efallai y bydd unwaith neu ddwywaith yr wythnos yn ddigon i blant hŷn, oni bai eu bod yn fywiog iawn a bod angen golchi eu gwallt yn amlach.
Mae plant sydd â gwallt hir neu gyrliog yn tueddu i gael "clymau", ac mewn achosion o'r fath dylid defnyddio crib â dannedd llydan. Mae gwallt yn cael ei ddifrodi os yw'n cael ei frwsio pan fo'n wlyb, felly dylid aros i'r gwallt sychu cyn ei frwsio. Mae gwallt plant Affricanaidd a Charibïaidd yn tueddu i fod yn sych, ac efallai y bydd angen rhwbio olew i’r gwallt. Mae gan rai plant blethi neu wallt Rasta. Ni ddylid brwsio'r plethi hyn, gellir eu golchi fel y maent.
Nid oes angen aros i blentyn gael dannedd cyn dechrau arferion hylendid y geg. Bydd arferion da ar gyfer hylendid y geg, ynghyd â diet iach, yn cadw'r dannedd yn iach. Gall ymweliadau rheolaidd â'r deintydd hefyd helpu'r plentyn i ddod i arfer â chael rhywun yn edrych ar ei ddannedd ac yn eu cyffwrdd. Dylid annog plant i frwsio’u dannedd gan ddefnyddio past dannedd sy'n cynnwys fflworid. Dylid brwsio'r dannedd mewn symudiad cylchol gan ddefnyddio brws dannedd meddal, â phen bach, a hynny ar ôl pob pryd bwyd os yn bosib. Dylid osgoi diodydd sy'n cynnwys siwgr ac ni ddylid bwyta byrbrydau rhwng prydau.
Mae babanod newydd-anedig yn treulio’r rhan fwyaf o'u hamser yn cysgu, ond wrth i'r plentyn dyfu nid oes angen cymaint o gwsg. Mae cwsg yn hanfodol er mwyn i'r corff allu atgyweirio celloedd, gorffwys cyhyrau a thyfu. Gall diffyg cwsg effeithio ar ein hwyliau, ein cof a'n gallu i ganolbwyntio. Mae'n bwysig bod gweithwyr gofal plant yn sylweddoli os yw plentyn wedi blino ac angen cwsg.
Bydd nifer o ffactorau'n effeithio ar ofynion cwsg plentyn. Bydd rhai plant yn cysgu am gyfnodau byr drwy gydol y diwrnod, tra bydd eraill angen un neu ddau gyfnod o gwsg di-dor ar adegau penodol yn ystod y diwrnod. Mae angen i gweithwyr gofal plant gael gwybodaeth gan rieni/gofalwyr am batrwm cysgu plant. Fel rhan o'r wybodaeth bydd angen gwybod pa bryd fyddai'r adeg orau i blant gysgu yn ystod y dydd. Bydd yn well gan rai rhieni/gofalwyr i blant gysgu'n gynnar yn y lleoliad gan y bydd amseroedd cysgu yn ystod y dydd yn effeithio ar amser gwely'r plentyn. Bydd angen i gweithwyr gofal plant hefyd wybod am faint o amser y dylid gadael i'r plentyn gysgu yn ystod y dydd, a oes gan blant wrthrych cysur ac os yw plentyn wedi arfer cael golau yn yr ystafell neu ddrws ar agor.
Efallai na fydd plant hŷn angen cwsg, ond mae'n bwysig eu bod yn cael cyfnodau o orffwys yn ystod y dydd. Bydd angen i gweithwyr gofal plant drefnu gweithgareddau tawel fel darllen stori neu wneud jig-so yn ystod y cyfnodau gorffwys hyn. Mae rhai babanod yn marw'n annisgwyl yn eu cwsg. Gelwir hyn yn Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (Sudden infant death syndrome - SIDS) neu farwolaeth yn y crud. Cynghorir rhieni/gofalwyr ac gweithwyr gofal plant i ddilyn cyngor arbennig er mwyn ceisio osgoi'rsyndrom.
Darllen pellach: http://bit.ly/2LmW50g
Mae bod allan yn yr haul yn gallu achosi cancr y croen (melanoma), felly mae angen diogelu'r croen rhag yr haul. Yn ystod misoedd yr haf gyda chaniatâd y rhiant/gofalwr mae angen gorchuddio croen y plant gydag eli haul ffactor uchel. Nid yw rhai plant yn hoffi cael eli haul ar eu croen ac felly mae angen i gweithwyr gofal plant fod yn sensitif i hynny. Mae’n bwysig i gadw babanod o dan 6 mis oed allan o’r haul, a chadw plant allan o’r haul rhwng 11 y.b a 3 y.p.
Gall eira a thywydd oer achosi ewinrhew (frostbite), felly mae angen i blant wisgo sawl haen o ddillad a sicrhau bod eu pen, gwddf a’u dwylo wedi’u gorchuddio. Mae angen i gweithwyr gofal plant fod yn wyliadwrus gan fod peryglon gyda rhai dillad, er enghraifft gall sgarffiau fod yn beryg i blant ifanc. Dylid gwylio plant yn ofalus wrth iddynt chwarae allan mewn tywydd oer neu yn yr eira er mwyn sicrhau nad ydynt yn oeri’n ormodol. Gall blant fod yn awyddus i barhau i chwarae tu allan, hyd yn oed os ydynt yn wlyb neu'n oer.
Mae gofalu am ardal y cewyn yn bwysig gan ei fod yn helpu i atal dolur a haint, felly dylai cewynnau gael eu newid yn gyson. Dylai gweithwyr gofal plant eu newid pan mae’r cewyn yn wlyb neu’n fudr. Mae'n bwysig golchi pen ôl y plentyn, ac o gwmpas yr organau cenhedlu, yn ddyddiol o leiaf, a dylid sychu rhannau o'r corff lle mae plygiadau croen yn drylwyr rhag iddynt fynd yn boenus.
Wrth ddarparu gofal personol i blant, mae angen i gweithwyr gofal plant fod yn ymwybodol o anghenion a dewisiadau unigol y plant. Gall hyn helpu plant i fwynhau’r arferion gofal ac elwa o ofal cynnes, ymatebol a pharchus. Pan fo'n briodol yn ddatblygiadol, dylid gofyn am ganiatâd gan blant ifanc cyn rhoi gofal personol agos iddynt, fel enghraifft "mae dy gewyn yn edrych yn wlyb, wyt ti eisiau i fi roi cewyn glân i ti?"
Mae plant angen diet cytbwys o wahanol fwydydd er mwyn cadw'n iach a derbyn yr egni sydd ei angen i dyfu.
Mae'n bwysig bod gweithwyr gofal plant yn ymwybodol o anghenion diet pob plentyn ac yn bwysig gweithio gyda rhieni/gofalwyr wrth ddarparu bwyd a diod. Bydd rhieni/gofalwyr yn gwybod os oes unrhyw fwydydd na ddylai'r plentyn eu bwyta. Efallai y bydd gan y rhieni/gofalwyr farn benodol ynglŷn â bwyd, a rhaid i gweithwyr gofal plant barchu'r farn honno. Efallai y bydd gan rai plant ddiet arbennig oherwydd anhwylder meddygol fel diabetes neu alergedd. Efallai y bydd eraill angen diet ar gyfer llysfwytawyr, neu lysfwytawyr caeth. Mae angen hefyd darparu bwyd sy'n perthyn i ddiwylliant y plentyn ei hun a bwydydd o ddiwylliannau eraill gan y bydd y plentyn yn dod i fwynhau gwahanol flasau ac yn parchu gwahanol arferion a chredoau.
Mae plant yn bwyta'n dda os ydynt mewn awyrgylch cartrefol ac os ydynt yn hapus. Dylid cyflwyno bwyd iddynt mewn dulliau amrywiol, hwyliog a deniadol. Mae amser bwyd yn gyfle delfrydol i ddysgu ac mae'n bwysig i ddatblygiad y plentyn. Yn ystod amser bwyd bydd plentyn yn datblygu sgiliau echddygol a sgiliau cydsymud llaw a llygad drwy ddefnyddio cyllell a fforc ac offer bwyta eraill. Gall amser bwyd fod yn gyfle i blentyn ddatblygu sgiliau cymdeithasol a dangos cwrteisi drwy gymryd tro. Daw llawer o gyfleoedd hefyd i ddatblygu iaith wrth i’r plentyn ddefnyddio ac ymarfer ei eirfa ac mae amser bwyd hefyd yn gyfle da i blentyn ddysgu a datblygu cysyniadau drwy ystyried siâp, ansawdd, pwysau a maint. Mae cyfle hefyd i blant ddysgu ynglŷn â bwyta'n iach.
Rhaid yfed digon o ddiod er mwyn cadw'r corff yn iach. Os nad yw plentyn yn yfed digon bydd ei gorff yn dadhydradu (colli hylif) ac ni fydd y plentyn yn gallu rheoli gwres ei gorff. Y diodydd sy'n cael eu hystyried fel rhai da i blant yw llaeth a dŵr, gan fod dŵr yn bur ac yn torri syched tra bo llaeth yn cynnwys maeth. Bydd diodydd sydd â siwgr ynddynt yn achosi pydredd dannedd ac yn difetha chwant bwyd.
Darllen pellach: http://bit.ly/2TWcLjS
Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.
Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.
Warning! This resource is not optimised for use on mobile devices.
Rhybudd! Ni ellir defnyddio’r adnodd yma ar ffonau symudol neu dabled.
Note what kind of personal care is shown in the photos before checking your answer.
Nodwch pa fath o ofal personol sy’n cael ei gynnal yn y lluniau cyn gwirio eich ateb.
Drag the correct words to the correct spaces.
Llusgwch y geiriau i’r bylchau cywir.
Babies cry if their nappies are dirty
Some babies' skin is sensitive to lotion
If lotion gets on the tabs on a disposable nappy, it won't stick
It is important to dry parts of the body where there are skin folds carefully
Your supervisor or the parents/carers need to be told if you see any signs of sores on the baby's skin
It is important to wash your hands after changing a nappy
Babies cry if their nappies are dirty
Some babies' skin is sensitive to lotion
If lotion gets on the tabs on a disposable nappy, it won't stick
It is important to dry parts of the body where there are skin folds carefully
Your supervisor or the parents/carers need to be told if you see any signs of sores on the baby's skin
It is important to wash your hands after changing a nappy
You scored … out of . Move some of the terms around to try to improve your score.
Well done. You scored … out of .
You scored … out of . Click reset to try the activity again.
You scored … out of . Move some of the terms around to try to improve your score.
Well done. You scored … out of .
You scored … out of . Click reset to try the activity again.
Mae babi yn llefain/crio os yw ei gewyn wedi baeddu
Mae croen rhai babanod yn sensitif i eli
Os aiff eli ar y tabiau sydd ar gewyn tafladwy yna ni fydd yn glynu
Mae'n bwysig sychu rhannau o'r corff lle mae plygiadau croen yn drylwyr
Mae angen dweud wrth eich goruchwyliwr neu’r rhieni/gofalwyr os welwch unrhyw arwydd o ddolur ar groen y babi
Mae’n bwysig i olchi dwylo ar ôl newid cewyn
Mae babi yn llefain/crio os yw ei gewyn wedi baeddu
Mae croen rhai babanod yn sensitif i eli
Os aiff eli ar y tabiau sydd ar gewyn tafladwy yna ni fydd yn glynu
Mae'n bwysig sychu rhannau o'r corff lle mae plygiadau croen yn drylwyr
Mae angen dweud wrth eich goruchwyliwr neu’r rhieni/gofalwyr os welwch unrhyw arwydd o ddolur ar groen y babi
Mae’n bwysig i olchi dwylo ar ôl newid cewyn
Eich sgôr yw … allan o . Symudwch rhai o'r termau o gwmpas i geisio gwella eich sgôr.
Da iawn. Eich sgôr yw … allan o .
Eich sgôr yw … allan o . Cliciwch ‘ailosod’ er mwyn rhoi cynnig arall ar y gweithgaredd.
Eich sgôr yw … allan o . Symudwch rhai o'r termau o gwmpas i geisio gwella eich sgôr
Da iawn. Eich sgôr yw … allan o .
Eich sgôr yw … allan o . Cliciwch ‘ailosod’ er mwyn rhoi cynnig arall ar y gweithgaredd.
Hint 3: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.
Awgrymiadau 3: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.
Warning! This resource is not optimised for use on mobile devices.
Rhybudd! Ni ellir defnyddio’r adnodd yma ar ffonau symudol neu dabled.
Drag the pictures to put them in order to show the stages of hand washing.
Llusgwch y lluniau i’r drefn gywir i ddangos y camau golchi dwylo.
Well done. You have matched them all correctly.
Da iawn. Rydych wedi paru pob un yn gywir.
Images
Delweddau
|
Definitions
Diffiniadau
|
Correct answers
Atebion cywir
|
---|
Hint 4: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.
Awgrymiadau 4: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.
childcare workers have a responsibility to provide a safe and healthy environment by supporting children's physical care that appreciates and respects each child. In order to be able to support each child's physical care practices, information and understanding needs to be developed of their choices and needs.
Working in partnership with parents/carers and certain agencies is a large part of this. Choices regarding children's needs can be established by working closely with parents/carers, the health sector and other agencies in order to obtain additional information, advice and support on children's physical care. The parents/carers know the children best and if a good relationship is developed between childcare workers and parents/carers, the children will receive the best quality care.
Parents/carers may have specific choices regarding how they want the setting to provide physical care for their child. Some might want their baby to have a certain sort of nappy or lotion. Some might not want their young child to sleep in the afternoon in order for them to go to bed earlier after going home. Some might want a special blanket or dummy to be used when comforting their child to sleep. The family/carers could be vegetarian so they might not want their child to eat meat. Settings need to ensure they understand the wishes of the parents/carers, and this information should be collected as the child starts in the setting.
Each setting should have policies and procedures that promotes children and young people's health and supports physical care practices. These policies and procedures ensure that all team members follow the same procedures.
In some instances, childcare workers need additional information, advice or support in order to support children's care practices. This can be due to the specific needs of some children. For example, a child could have a condition such as eczema, which will affect the way childcare workers care for the skin or the nappy area. Some children who are vegetarian or vegan may need special diets.
Specialists are usually available to support settings to provide the best quality care including a Health Visitor, School Nurse, Dentist and Dietitian.
There is a lot of information available in these sources to support children's physical care practices:
Mae gan gweithwyr gofal plant gyfrifoldeb i ddarparu amgylchedd diogel ac iachus drwy gefnogi arferion gofal corfforol blant sy’n gwerthfawrogi a pharchu pob plentyn. Er mwyn gallu cefnogi arferion gofal corfforol pob plentyn mae angen datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’u dewisiadau ag anghenion.
Mae gweithio mewn partneriaeth gyda rhieni/gofalwyr ac asiantaethau penodol yn rhan fawr o hyn. Gellir dysgu am ddewisiadau ag anghenion plant drwy weithio yn agos gyda rhieni/gofalwyr, y sector iechyd ac asiantaethau eraill er mwyn cael gwybodaeth, cyngor a chymorth ychwanegol o ran arferion gofal corfforol plant. Y rhieni/gofalwyr yw’r rhai sy'n adnabod eu plentyn orau ac os bydd perthynas dda'n cael ei feithrin rhwng gweithwyr gofal plant a'r rhieni/gofalwyr, bydd y plant yn cael gofal o'r ansawdd gorau.
Efallai bod gan rieni/gofalwyr ddewisiadau penodol am sut y maent eisiau’r lleoliad darparu gofal corfforol i'w plentyn. Efallai y bydd rhai eisiau i’w babi gael math o gewyn/clwt neu eli penodol. Efallai na fydd rhai eisiau i’w plentyn ifanc gysgu yn y prynhawn er mwyn iddynt fynd i’r gwely yn gynt ar ôl mynd adref. Efallai bydd rhai eisiau blanced arbennig neu ddymi i gysuro eu plentyn wrth gysgu. Gall fod y teulu’n llysieuwyr, felly heb fod eisiau i’w plentyn fwyta cig. Mae angen i leoliadau sicrhau eu bod yn deall dymuniadau’r rhieni/gofalwyr, a dylid casglu’r wybodaeth yma wrth i’r plentyn gychwyn yn y lleoliad.
Mae’n rhaid i bob lleoliad fod â pholisïau a gweithdrefnau ar waith sy’n hyrwyddo iechyd plant a phobl ifanc a chefnogi arferion gofal corfforol. Mae’r polisïau a gweithdrefnau hyn yn sicrhau bod holl aelodau'r tîm yn dilyn yr un gweithdrefnau.
Mewn rhai achosion mae angen gwybodaeth, cyngor neu gymorth ychwanegol ar gweithwyr gofal plant er mwyn cefnogi arferion gofal plant. Gall hyn fod oherwydd anghenion penodol rhai plant. Gall blentyn er enghraifft fod â chyflwr fel ecsema, fydd yn effeithioar y ffordd mae gweithwyr gofal plant yn gofalu am y croen neu ardal y cewyn. Gall fod angen sicrhau diet arbennig ar gyfer plant sy’n llysieuwyr neu’n fegan.
Mae arbenigwyr ar gael fel arfer i gefnogi lleoliadau i ddarparu gofal o’r ansawdd orau gan gynnwys Ymwelydd Iechyd, Nyrs Ysgol, Deintydd a Dietegydd.
Mae llawer o wybodaeth hefyd ar gael yn y ffynonellau yma er mwyn cefnogi arferion gofal corfforol plant:
Hint 5: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.
Awgrymiadau 5: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.
Complete the diagram, identifying where to access additional information, advice and support for the physical care routines of children.
Cwblhewch y diagram gan nodi o ble i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth ychwanegol o ran arferion gofal corfforol plant.
Possible answers:
Atebion awgrymedig: