Changes in children

Newid mewn plant

Unsafe

It is important to know the signs of anxiety in children. Children have to cope with many changes during their lives, including moving from one establishment to another or a change of carer. Other types of changes affecting lifestyles are grief, moving home or having a new brother or sister.

Change happens constantly as children develop. There are special periods when big changes happen, particularly during development milestones. This is completely natural and is a part of the child's development.

Being separated from their principal carer is a big step for most children. In several situations, this is a natural step and the important thing is to understand the process and to be able to deal with the child's response. When considering how children respond to change and separation, the childcare childcare worker needs to understand first of all why children miss their parents or principal carer, and to understand attachment. A child normally has a strong bond or relationship with their principal carer, their mother, their father or the person caring for them the most. It is therefore important to prepare the child by telling them what will happen so that they understand and aren't overly worried.

Unfortunately it is not always possible to plan as some changes occur unexpectedly, causing terrible concern. Some children move constantly for several reasons such as family break-up, abuse, grief or a family member becoming estranged.

Due to these changes, children sometimes lose trust in adults and struggle to develop a close relationship with the principal carer. The child may experience feelings such as shock, numbness, sadness, anger, guilt, panic, alarm, shame, longing, despair, depression, fear and anxiety.

If children have experienced such feelings, unbeknown to the childcare worker, this can cause further concern if it influences the child's development, including:

  • physical development – loss of interest in play and loss of appetite
  • emotional development – loss of trust in adults and a low sense of self-esteem
  • social development – no desire to be with friends or close relatives
  • language development – unable or unwilling to communicate, isolating themselves from others
  • intellectual development – unable to concentrate due to sadness.

Children are brought up in a wide variety of family circumstances. A child develops best if they have the freedom and opportunity to explore with loving adults who speak to them and respond to their needs. However, events such as moving home, learning a new language, losing a parent due to separation or divorce, death or adoption, may affect a child's development.

Unfortunately, some children are neglected or abused, which may have a negative impact on motivation and development. A child's appearance and behaviour will provide signs of abuse. The child may have bruises or become withdrawn, but caution is required as these are not always signs of abuse.

For more information on the indicators and impact of child abuse go to: https://bit.ly/2k8lQEj

Mae'n bwysig adnabod arwyddion pryder plant. Bydd plant yn gorfod ymdopi â llawer o newidiadau yn ystod eu bywydau gan gynnwys symud o un sefydliad i un arall neu newid gofalwr. Math arall o newidiadau sy'n effeithio ar ffordd o fyw yw galar, symud tŷ neu dderbyn brawd neu chwaer newydd.

Mae newid yn digwydd yn gyson wrth i blant ddatblygu. Ceir cyfnodau arbennig pan fydd newidiadau mawr yn digwydd yn enwedig yn ystod cerrig milltir datblygiad. Mae hyn yn hollol naturiol ac yn rhan o ddatblygiad y plentyn.

Mae cael eu gwahanu oddi wrth eu prif ofalwyr yn gam mawr i'r rhan fwyaf o blant. Mewn sawl sefyllfa mae hyn yn gam naturiol a’r hyn sy’n bwysig yw deall y broses a gallu delio gydag ymateb y plentyn. Wrth ystyried sut mae plant yn ymateb i newid a gwahanu, mae angen i'r gweithiwr gofal plant gofal plant ddeall yn gyntaf pam y mae plant yn gweld colli eu rhieni neu eu prif ofalwyr, a deall ymlyniad. Mae gan blentyn fel rheol gysylltiad neu berthynas gref â'i brif ofalwr, ei fam, ei dad neu'r person sy'n gofalu amdano fwyaf. Mae’n bwysig felly i baratoi’r plentyn gan ddweud wrthynt beth sy’n mynd i ddigwydd fel eu bod yn deall a ddim yn poeni’n ormodol.

Yn anffodus ni ellir bob amser gynllunio gan fod rhai newidiadau yn digwydd yn annisgwyl gan beri pryder dychrynllyd. Mae rhai plant yn symud yn gyson am sawl rheswm megis y teulu’n chwalu, camdriniaeth, galar neu aelod o’r teulu yn colli cysylltiad â’r plentyn.

Oherwydd y newidiadau hyn mae’r plentyn weithiau yn dod i ymddiried llai mewn oedolion ac yn ei chael yn anodd datblygu perthynas glos gyda’r prif ofalwr. Gall y plentyn brofi teimladau megis sioc, diffyg teimlad, tristwch, dicter, euogrwydd, panig, dychryn, cywilydd, hiraeth, anobaith, iselder, ofn a phryder.

Os ydy plant wedi profi teimladau o’r fath, heb fod yr gweithiwr gofal plant yn gwybod, gall beri pryder pellach os caiff ddylanwad ar ddatblygiad y plentyn gan gynnwys:

  • datblygiad corfforol - colli diddordeb mewn chwarae a dim awydd bwyta
  • datblygiad emosiynol - colli ymddiriedaeth mewn oedolion ac ymdeimlad isel o hunan-barch
  • datblygiad cymdeithasol - heb eisiau bod gyda ffrindiau na pherthynas agos
  • datblygiad iaith - methu neu dim awydd i gyfathrebu gan ynysu ei hun oddi wrth eraill
  • datblygiad deallusol - heb allu canolbwyntio oherwydd y tristwch.

Mae plant yn cael eu magu mewn amgylchiadau teuluol sy'n amrywio'n fawr. Bydd plentyn yn datblygu orau os bydd yn cael rhyddid a chyfle i archwilio gydag oedolion cariadus fydd yn siarad ag ef ac yn ymateb i'w anghenion. Ond gall ddigwyddiadau megis symud tŷ, dysgu iaith newydd, colli rhiant o ganlyniad i wahanu neu ysgaru, marwolaeth neu gael ei fabwysiadu, effeithio ar ddatblygiad plentyn.

Yn anffodus, mae rhai plant yn cael eu hesgeuluso neu’n cael eu cam-drin a gall hyn gael effaith negyddol ar gymhelliant a datblygiad. Bydd golwg ac ymddygiad plentyn yn cynnig arwyddion camdriniaeth. Efallai bydd gan y plentyn gleisiau, neu bydd yn ymddwyn yn dawel ond mae angen gofal gan nad yw’r rhain bob tro yn arwyddion o gam-drin.

Am fwy o wybodaeth am ddangosyddion ac effaith camdriniaeth plant ewch i: https://bit.ly/2k8lQEj

Changes in children

Drag the words and place them in the correct spaces within the sentences.

Newid mewn plant

Llusgwch y geiriau a’u gosod yn y bylchau cywir yn y brawddegau.

Your Answers

  1. It is important to recognise the signs of anxiety as children have to cope with many changes during their lives.
  2. The important thing is to understand the process and to be able to deal with the child's response.
  3. Unfortunately there is not always an opportunity to plan as some changes occur unexpectedly.
  4. Some children are seen to move constantly for different reasons, leading to changes in the family.
  5. A lot of change causes a child to lose trust in adults.
  6. If children have difficult experiences unbeknown to the childcare worker, this can cause further concern if it influences the child's development.
  7. Children are brought up in a wide variety of family circumstances.
  8. A child develops best if they have the freedom and opportunity to explore with loving adults who speak to them and respond to their needs.

Correct answers

Eich ateb

  1. Mae'n bwysig adnabod arwyddion pryder gan fod plant yn gorfod ymdopi â llawer o newidiadau yn ystod eu bywyd.
  2. Yr hyn sy’n bwysig yw deall y broses a gallu delio gydag ymateb y plentyn.
  3. Yn anffodus nid oes bob amser gyfle i gynllunio gan fod rhai newidiadau yn digwydd yn annisgwyl.
  4. Gwelir fod rhai plant yn symud yn gyson am wahanol resymau sy’n arwain at newidiadau yn y teulu.
  5. Gall llawer o newid arwain at blentyn yn ymddiried llai mewn oedolion.
  6. Os ydy plant yn cael profiadau anodd heb fod yr gweithiwr gofal plant yn gwybod, gall beri pryder pellach os caiff ddylanwad ar ddatblygiad y plentyn.
  7. Mae plant yn cael eu magu mewn amgylchiadau teuluol sy'n amrywio'n fawr.
  8. Bydd plentyn yn datblygu orau os bydd yn cael rhyddid a chyfle i archwilio gydag oedolion cariadus fydd yn siarad ag ef ac yn ymateb i'w anghenion.

Atebion cywir