Creative development

Datblygiad creadigol

Two children playing

childcare workers who work with children should be able to provide an environment within the setting and outdoors which broadens and supports children's creative development and learning. Children can develop to become creative by investigating, exploring and making decisions which help them solve problems.

The best way of helping children develop creatively is through play which allows them to satisfy their curiosity by exploring. By giving children various experiences they will learn to concentrate and express and control their feelings, thinking differently when solving problems.

Creative development includes:

  • developing imagination and imaginative play
  • responding to experiences and expressing ideas
  • exploring media and materials
  • traditional creative arts
  • music, dance and movement
  • messy play.

Creative development promotes children’s health, well-being, learning and development.

Health

If a child is in a safe environment and they have enough time and opportunities, they will find themselves ready to take risks physically. Outdoor experiences benefit children's health. They are given the opportunity to use their energy which isn't always possible indoors. By being outdoors children see things from a different perspective which helps them adapt to reality. By being creative their brain function increases which contributes towards the health of children and young people.

Well-being

By developing creatively, solving problems and making good decisions children will gain satisfaction and build confidence. Children should be encouraged to think for themselves in order to make decisions and choices there and then. Here the process is more important than the outcome.

Creative development contributes towards children's mood as they lose themselves in their thoughts and ideas. There is a strong link between children's creativity and well-being and childcare workers should respond positively to their efforts in order to maintain the children's self-esteem.

Learning

By being creative children will do things constantly in order to learn new things. They use their knowledge to solve problems and explore their environment in order to broaden their learning. They will learn to share and play together and in doing so take the time to listen to the ideas of others. They will learn about the benefits of working in a group with other children and how this has a positive impact when solving problems.

Development

They develop physically when undertaking activities which also influences their confidence and independence. They will develop, practise and improve their gross and fine motor skills, as well as their coordination skills. By experiencing new things and having time to make decisions children will develop personal and emotional skills. They will use their senses when stimulated by new experiences. They will come across situations where they will have to express emotions and feelings and the understanding that there is a difference between them as children.

Dylai ymarferwr sy’n gweithio gyda phlant fod yn gallu darparu amgylchedd o fewn y lleoliad a thu allan yn yr awyr agored sy’n ehangu ac yn cefnogi datblygiad a dysgu plant yn greadigol. Gall plant ddatblygu i fod yn greadigol drwy ymchwilio, archwilio a gwneud penderfyniadau a fydd yn gymorth iddynt ddatrys problemau.

Y ffordd orau i blant ddatblygu yn greadigol yw trwy chwarae ble gallant fodloni eu chwilfrydedd trwy archwilio. Wrth gael profiadau amrywiol bydd plant yn dysgu i ganolbwyntio ac i fynegi a rheoli eu teimladau gan feddwl yn wahanol wrth ddatrys problemau.

Mae datblygiad creadigol yn cynnwys:

  • meithrin dychymyg a chwarae dychmygol
  • ymateb i brofiadau a mynegi syniadau
  • archwilio cyfryngau a defnyddiau
  • celfyddydau creadigol traddodiadol
  • cerddoriaeth, dawns a symud
  • chwarae anniben.

Mae datblygiad creadigol yn hyrwyddo iechyd, llesiant, dysgu a datblygiad plant.

Iechyd

Os yw plant mewn amgylchedd diogel a bod digon o amser a chyfleoedd ganddynt, byddant yn barod yn gorfforol i gymryd risgiau. Mae cael profiadau yn yr awyr agored yn fuddiol i iechyd plant. Cânt gyfle i ddefnyddio eu hegni sydd ddim bob amser yn bosib dan do. Wrth fod allan yn yr awyr agored mae plant yn gweld pethau drwy bersbectif gwahanol sydd yn gymorth i ddygymod â realiti. Trwy fod yn greadigol mae’r defnydd o’r ymennydd yn cynyddu sydd yn cyfrannu tuag at iechyd plant a phobl ifanc.

Llesiant

Wrth ddatblygu’n greadigol, datrys problemau a gwneud penderfyniadau da bydd plant yn cael boddhad ac yn ennill hyder. Dylid annog plant i feddwl dros eu hunain er mwyn gwneud dewisiadau a phenderfyniadau yn yr unfan. Yma, mae’r broses yma’n bwysicach na’r canlyniad.

Mae datblygiad creadigol yn cyfrannu at hwyliau plant wrth iddynt ymgolli yn eu meddyliau a’u syniadau. Mae cyswllt cryf rhwng creadigedd a llesiant plant a dylai ymarferwr ymateb yn bositif i’w hymdrechion er mwyn cynnal hunan-barch y plant.

Dysgu

Wrth fod yn greadigol bydd plant yn gwneud pethau drosodd a throsodd er mwyn dysgu pethau newydd. Maent yn defnyddio’r wybodaeth sydd ganddynt i ddatrys problemau ac yn archwilio eu hamgylchedd er mwyn ehangu’r dysgu. Byddant yn dysgu i rannu a chyd chwarae a thrwy hyn yn cymryd amser i wrando ar syniadau eraill. Byddant yn dysgu am fanteision gweithio mewn grŵp gyda phlant eraill a sut mae hyn yn cael effaith bositif wrth ddatrys problemau.

Datblygiad

Maent yn datblygu’n gorfforol wrth ymdrin â gweithgareddau sydd hefyd yn cael dylanwad ar eu hyder a’u sgiliau annibyniaeth. Byddant yn datblygu, ymarfer a gwella eu sgiliau motor mân a mawr, a sgiliau cydsymud. Drwy brofi pethau newydd a chael amser i wneud penderfyniadau bydd plant yn datblygu sgiliau personol ac emosiynol. Byddant yn defnyddio eu synhwyrau wrth gael eu symbylu gan brofiadau newydd. Byddant yn dod ar draws sefyllfaoedd ble byddant yn gorfod mynegi emosiynau a theimladau a’r ddealltwriaeth fod yna wahaniaeth rhyngddynt fel plant.

Suggested response

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Ymateb awgrymedig

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Creative development

Use the thought shower to note as many ideas as you can think of

Datblygiad creadigol

Defnyddiwch y gawod syniadau i nodi cynifer ag y gallwch o syniadau

The importance of creative development
for children's health, well-being,
learning and development.
Pwysigrwydd datblygiad creadigol
i iechyd, llesiant, dysgu
a datblygiad plant.

Suggested responses

  • opportunities to investigate, explore and make decisions
  • it's a way of thinking about how to solve problems
  • satisfy their curiosity
  • explore materials
  • by having various experiences
  • learn to express and control feelings
  • give the child freedom
  • encourage focus
  • prepared to take risks physically
  • beneficial to children's health
  • they are given the opportunity to use their energy
  • see things from a different perspective
  • brain function increases and is renewed
  • learn that it is the process, not the finished product, which is important
  • builds confidence
  • make decisions and choices there and then
  • contributes towards children's mood
  • lose themselves and think about their ideas
  • influences their self-esteem
  • learn to share and play together
  • listen to others' ideas
  • work in a group
  • influences their confidence and independence
  • develop, practise and improve their gross and fine motor skills, as well as their coordination skills
  • develop personal and emotional skills
  • use their senses
  • express emotions and feelings.

Ymatebion awgrymedig

  • cyfleoedd i ymchwilio, archwilio a gwneud penderfyniadau
  • mae’n ffordd o feddwl am sut i ddatrys problemau
  • bodloni eu chwilfrydedd
  • archwilio gyda deunyddiau
  • trwy gael profiadau amrywiol
  • dysgu mynegi a rheoli teimladau
  • rhoi rhyddid i blentyn
  • annog i ganolbwyntio
  • barod yn gorfforol i gymryd risgiau
  • buddiol i iechyd plant
  • cant gyfle i ddefnyddio eu hegni
  • gweld pethau drwy bersbectif gwahanol
  • swyddogaeth yr ymennydd yn cynyddu ac yn cael ei hadnewyddu
  • dysgu mai’r broses sydd yn bwysig nid y cynnyrch terfynol
  • cynyddu hyder
  • gwneud dewisiadau a phenderfyniadau yn yr unfan
  • cyfrannu tuag at hwyliau plant
  • ymgolli yn eu hunain a meddylu am eu syniadau
  • cael dylanwad ar eu hunan-barch
  • dysgu i rannu a chyd chwarae
  • gwrando ar syniadau eraill
  • gweithio mewn grŵp
  • dylanwadu ar eu hyder a’u sgiliau annibyniaeth
  • datblygu, ymarfer a gwella eu sgiliau motor bras a mân, a sgiliau cydsymud
  • datblygu sgiliau personol ac emosiynol
  • defnyddio eu synhwyrau
  • mynegi emosiynau a theimladau.