Types of health promotion materials

Mathau o ddeunyddiau hybu iechyd

Social networking

Many types of health promotion materials are used in everyday life. Health promotion materials include:

  • posters
  • leaflets
  • websites
  • television adverts
  • social media.

They are designed to inform, motivate and support individuals to maintain and improve their health and well-being.

Different types of materials are aimed at different target groups.

A target group is who you aim your health promotion campaign at.

The target group of health-promotion materials can be almost anyone: children, adolescents, employees, men, women, the old, the young and so on. Campaigns are much more effective if they are targeted at a specific group and tailored to meet that group’s needs.

Older individuals are less likely to use social media, so campaigns targeted at older individuals would have no use on social media; whereas adolescents use social media frequently, therefore this method would be more suited to this target group.

Further reading:

https://bit.ly/2rPWigV

Mae sawl math o ddeunyddiau hybu iechyd yn cael eu defnyddio mewn bywyd bob dydd. Mae deunyddiau hybu iechyd yn cynnwys:

  • posteri
  • taflenni
  • gwefannau
  • hysbysebion teledu
  • cyfryngau cymdeithasol.

Maen nhw wedi'u cynllunio i hysbysu, symbylu a chefnogi unigolion i gynnal a gwella eu hiechyd a llesiant.

Mae mathau gwahanol o ddeunyddiau wedi'u hanelu at grwpiau targed gwahanol.

Y grŵp targed yw'r unigolion rydych chi'n anelu eich ymgyrch hyrwyddo iechyd atyn nhw.

Gall grŵp targed deunyddiau hybu iechyd gynnwys unrhyw un bron iawn: plant, unigolion ifanc, gweithwyr, dynion, menywod, yr ifanc ac ati. Mae ymgyrchoedd yn llawer mwy effeithiol os byddan nhw'n cael eu targedu at grŵp penodol a'u teilwra i fodloni anghenion y grŵp hwnnw.

Mae unigolion hŷn yn llai tebygol o ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, felly ni fyddai ymgyrchoedd wedi'u targedu at unigolion hŷn o unrhyw ddefnydd ar y cyfryngau cymdeithasol; ar y llaw arall, mae unigolion ifanc yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn aml, felly byddai'r dull hwn yn fwy addas ar gyfer y grŵp targed hwn.

Darllen pellach:

https://bit.ly/2rPWigV

Posters

Posteri

Health promotion posters are used to inform individuals about health promotion topics, such as vaccinations, road safety, health screening etc. They may use shock tactics to get individuals' attention. They can be placed in places such as schools, GP’s surgeries and hospitals. Posters may provide limited information about the issues and where to go to get help.

Mae posteri hybu iechyd yn cael eu defnyddio i hysbysu unigolion am destunau hybu iechyd, fel brechiadau, diogelwch ffyrdd, sgrinio iechyd, ac ati. Gallan nhw ddefnyddio tactegau siocio i gael sylw unigolion. Gallan nhw gael eu rhoi mewn lleoedd fel ysgolion, meddygfeydd teulu ac ysbytai. Gall posteri gynnig gwybodaeth gyfyngedig am y materion a lle dylid mynd i gael help.

Leaflets

Taflenni

Healthcare leaflets aim to provide accurate, relevant, up-to-date health information and advice in a simple, accessible way.

The leaflets encourage individuals to take greater responsibility for their own health and well-being by helping them to make informed choices.

This in turn contributes to the reduction of health inequalities and ensures that health care services are not over burdened with patients asking for advice.

Mae taflenni gofal iechyd yn ceisio darparu gwybodaeth a chyngor cywir, perthnasol a chyfredol mewn ffordd syml, hawdd ei deall.

Mae'r taflenni yn annog unigolion i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu hiechyd a'u llesiant eu hunain drwy eu helpu i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth.

Mae hyn yn ei dro yn cyfrannu at leihau anghydraddoldebau iechyd ac yn sicrhau nad yw gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu gorlwytho gan gleifion sy'n gofyn am gyngor.

Websites

Gwefannau

Why should I quit NHS information

As we live in an increasingly digital age, the need for information on demand allowing individuals instant access to the advice they need to make active, informed choices about their own health and well-being.

Individuals will search for healthcare advice from reputable sites that they trust to give them accurate information such as NHS Wales campaigns:

Pam ddylwn i roi’r gorau iddi GIG gwybodaeth

Gan ein bod ni'n byw mewn oes sy'n fwy a mwy digidol, mae angen am wybodaeth ar alw sy'n galluogi unigolion i gael mynediad ar unwaith at y cyngor sydd ei angen arnyn nhw i wneud dewisiadau gweithredol, ar sail gwybodaeth am eu hiechyd a'u llesiant eu hunain.

Bydd unigolion yn chwilio am gyngor gofal iechyd o wefannau dibynadwy maen nhw'n ymddiried ynddyn nhw i roi gwybodaeth gywir fel ymgyrchoedd GIG Cymru:

Television adverts

Hysbysebion teledu

Mass media campaigns are used to expose a large number of individuals to messages through routine uses of existing media, such as television, radio, and newspapers.

These campaigns are usually aimed at changing the behaviour of individuals and helping them to adopt a healthy lifestyle or recognise their own unhealthy choices.

They also help to provide a link between rural communities and access to vital health information.

Mae ymgyrchoedd yn y cyfryngau torfol yn cael eu defnyddio i gyflwyno negeseuon i lawer o unigolion drwy wneud defnydd rheolaidd o'r cyfryngau sydd ar gael yn barod, fel teledu, radio a phapurau newydd.

Nod yr ymgyrchoedd hyn fel arfer yw newid ymddygiad unigolion a'u helpu i fabwysiadu ffordd o fyw iach neu gydnabod eu dewisiadau afiach eu hunain.

Maen nhw hefyd yn helpu i ddarparu cyswllt rhwng cymunedau gwledig a rhoi mynediad at wybodaeth iechyd hanfodol.

Social media

Cyfryngau cymdeithasol

Social media

Increasingly, public bodies are using social media channels such as Facebook, Twitter, Youtube and Instagram to share information and engage with their target audiences.

Individuals are increasingly using peer-to-peer support via social media when diagnosed with a chronic condition, or to seek advice if they are worried about their health or the health of others.

They are also more likely to adopt healthy lifestyle changes and follow medical advice if they are receiving online support and encouragement from their peers.

Mae cyrff cyhoeddus yn gwneud mwy a mwy o ddefnydd o sianelau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Twitter, YouTube ac Instagram i rannu gwybodaeth a chysylltu â'u cynulleidfaoedd targed.

Mae unigolion yn gwneud mwy a mwy o ddefnydd o gymorth cyfoedion drwy'r cyfryngau cymdeithasol pan fyddan nhw'n cael diagnosis o gyflwr cronig, neu maen nhw'n gofyn am gyngor os ydyn nhw'n poeni am eu hiechyd neu iechyd eraill.

Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o wneud newidiadau iach i'w ffyrdd o fyw a dilyn cyngor meddygol os ydyn nhw'n derbyn cymorth ac anogaeth ar-lein gan eu cyfoedion.

Inform, motivate, support

Click on the links to access the material. Was it designed to inform, motivate or support? Select the buttons you think are most appropriate. You can choose more than one. There are no correct answers but you need to add a comment after each answer to explain your reasoning.

Hysbysu, symbylu, cefnogi

Cliciwch ar y cysylltiadau i weld y deunydd. A gafodd ei gynllunio i hysbysu, symbylu neu gefnogi? Dewiswch y botymau sy'n fwyaf priodol yn eich barn chi. Gallwch ddewis mwy nag un. Does dim atebion cywir ond mae angen i chi ychwanegu sylw ar ôl pob ateb i esbonio eich ymresymu.