There are a wide range of agencies that aim to promote health in Wales.

Mae amrediad eang o asiantaethau yn ceisio hybu iechyd yng Nghymru.

Healthcare

These agencies will focus upon different areas of health and can be government run or voluntary organisations, such as charities. They include:

  • The National Health Service (NHS)
  • Public Health Wales (part of NHS Wales)
  • Local Authorities, including schools
  • National and local voluntary charitable and voluntary organisations, such as the Family Planning Association, British Heart Foundation, British Nutrition Foundation.

Bydd yr asiantaethau hyn yn canolbwyntio ar feysydd iechyd gwahanol a gallan nhw fod yn sefydliadau sy'n cael eu rhedeg gan y llywodraeth neu fudiadau gwirfoddol, fel elusennau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG)
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru (rhan o GIG Cymru)
  • Awdurdodau Lleol, gan gynnwys ysgolion
  • Mudiadau gwirfoddol elusennol a gwirfoddol cenedlaethol lleol, fel y Gymdeithas Cynllunio Teulu, Sefydliad Prydeinig y Galon, Sefydliad Maetheg Prydain.

NHS

GIG

Accident and Emergency

The NHS covers the whole of the U.K. and has a major role in promoting the health of the population. The NHS provides diagnostic services and treatments for various health conditions. If an individual is diagnosed with a condition appropriate advice and treatment would be offered in order to try and maintain the individual’s health and well-being.

The NHS also offers health promotion service (Public Health Wales) and advice to try and encourage individuals to make healthy choices and to prevent ill health. This can include advice and services about issues such as:

  • mental health and well-being
  • healthy eating
  • sexual health
  • alcohol and drugs
  • oral health.

Mae'r GIG yn ymdrin â'r Deyrnas Unedig i gyd ac mae'n chwarae rhan fawr i hybu iechyd y boblogaeth. Mae'r GIG yn darparu gwasanaethau diagnostig a thriniaethau ar gyfer gwahanol gyflyrau iechyd. Os bydd unigolyn yn cael diagnosis o gyflwr byddai cyngor a thriniaeth briodol yn cael eu cynnig er mwyn ceisio cynnal iechyd a llesiant yr unigolyn.

Mae'r GIG hefyd yn cynnig gwasanaeth hybu iechyd (Iechyd Cyhoeddus Cymru) a chyngor i geisio annog unigolion i wneud dewisiadau iach ac i atal afiechyd. Gall hyn gynnwys cyngor a gwasanaethau am faterion fel:

  • iechyd meddwl a llesiant
  • bwyta'n iach
  • iechyd rhywiol
  • alcohol a chyffuriau
  • iechyd y geg.

NHS

GIG

Accident and Emergency

Name some of the advice and services that The NHS health promotion offers.

Enwch rai mathau o gyngor a gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gan wasanaeth hybu iechyd y GIG

  • Health Challenge Wales
  • Welsh Backs
  • Education Programmes for Patients (EPP Cymru)
  • Help me Quit
  • The Primary Eyecare Acute Referral Scheme (PEARS)
  • Access 2009
  • 1000 Lives Plus Campaign
  • The Welsh Healthcare Associated Infection Programme.
  • Her Iechyd Cymru
  • Cefnau Cymru
  • Rhaglen Addysg i Gleifion (EPP Cymru)
  • Dim Smygu Cymru
  • Cynllun Atgyfeirio (gan Feddygon Teulu) i Gael Gofal Llygaid Sylfaenol mewn Achosion Acíwt - (PEARS)
  • Mynediad 2009
  • Ymgyrch 1000 o fywydau
  • Rhaglen Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd Cymru.

Local Authorities

Awdurdodau Lleol

County Hall

Councils have been given a leading role to reduce health inequalities and premature deaths, and improve health and well-being.

They are required to tackle the cause of ill-health, reduce health inequalities and commission services that address the needs of the local population; particularly the health needs of the disadvantaged and vulnerable groups, as well as giving consideration to equality issues.

The overall goal being to improve the health of all individuals, and to improve the health of the poorest.

Mae cynghorau wedi cael rôl flaenllaw i leihau anghydraddoldebau iechyd a marwolaethau cynamserol, a gwella iechyd a llesiant.

Mae’n ofynnol iddyn nhw fynd i’r afael ag achosion afiechyd, lleihau anghydraddoldebau iechyd a chomisiynu gwasanaethau sy'n rhoi sylw i anghenion y boblogaeth leol; yn benodol anghenion iechyd grwpiau dan anfantais a rhai sy'n agored i niwed, yn ogystal ag ystyried materion yn ymwneud â chydraddoleb.

Y nod cyffredinol yw gwella iechyd pob unigolyn, a gwella iechyd y tlotaf.

Local Authorities

Awdurdodau Lleol

Access the resources available to borrow when running healthy living campaigns at local authority level.

Only four resources can be borrowed at any one time.

http://www.healthyworkingwales.wales.nhs.uk/

Thinking of the issues in your local authority, decide which health campaign you would run and explain which resources you would borrow and how you think they will help.

Defnyddiwch yr adnoddau sydd ar gael i'w benthyg wrth redeg ymgyrchoedd byw'n iach ar lefel awdurdod lleol.

Gellir benthyg pedwar adnodd ar y tro yn unig.

http://www.healthyworkingwales.wales.nhs.uk/

Meddyliwch am y materion yn eich awdurdod lleol, penderfynwch pa ymgyrch iechyd fyddech chi'n ei rhedeg ac esboniwch pa adnoddau fyddech chi'n eu benthyg a sut rydych yn credu y byddan nhw o gymorth.

Schools

Ysgolion

Dance Class

Schools promote health by providing health education through both the formal curriculum during lesson times and through the informal curriculum, such as through assemblies. Through the formal curriculum, classroom-based topics might include: healthy eating, mental health and well-being and sexual health. Through the informal curriculum topics such as road safety may be addressed, for example having an assembly on road safety or bullying prevention.

Teachers and lecturers can encourage positive attitudes and healthy living and give advice on general well-being. They can carry out classroom activities to promote health, such as projects on diet and facilitate physical education.

Public Health Wales believe that teaching and learning can help an individual build the knowledge and skills they need to grow into healthy individuals through:

  • Knowledge – underpinning (e.g. how the human body works; the NHS and other services: wider influences on health and well-being)
  • Knowledge – topic or theme specific (the effect of smoking on the body; nutrition)
  • Skills – cross cutting (assertiveness; conflict resolution; risk assessment and management)
  • Skills – topic or theme specific (physical skills or practical food preparation).

Julie Bishop – Public Health Wales

Mae ysgolion yn hybu iechyd drwy ddarparu addysg iechyd drwy'r cwricwlwm ffurfiol yn ystod gwersi a thrwy'r cwricwlwm anffurfiol, fel yn ystod gwasanaethau. Fel rhan o'r cwricwlwm ffurfiol, gallai testunau a drafodir gynnwys: bwyta'n iach, iechyd meddwl a llesiant ac iechyd rhywiol. Fel rhan o'r cwricwlwm anffurfiol, gellid rhoi sylw i bynciau fel diogelwch ffyrdd, er enghraifft drwy gynnal gwasanaeth ar ddiogelwch ffyrdd neu atal bwlio.

Gall athrawon a darlithwyr annog agweddau cadarnhaol a byw'n iach a rhoi cyngor ar lesiant cyffredinol. Gallan nhw gynnal gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth i hybu iechyd, fel projectau ar ddeiet a hwyluso addysg gorfforol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn credu gall addysgu a dysgu helpu unigolyn i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arno i dyfu yn unigolyn iach drwy'r dulliau canlynol:

  • Gwybodaeth – cyflwyno ffeithiau sylfaenol (e.e. sut mae'r corff dynol yn gweithio; y GIG a gwasanaethau eraill: dylanwadau ehangach ar iechyd a llesiant)
  • Gwybodaeth – ar destun neu thema benodol (effaith ysmygu ar y corff; maeth)
  • Sgiliau – trawsbynciol (pendantrwydd; datrys anghydfod; asesu a rheoli risg)
  • Sgiliau – ar destun neu thema benodol (sgiliau corfforol neu sgiliau ymarferol paratoi bwyd).

Julie Bishop – Iechyd Cyhoeddus Cymru

Schools

Public Health Wales identified the following as statements attributed to healthy and confident individuals.
For each of the statements identify which apply to you.

Ysgolion

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi'r gosodiadau canlynol fel rhai sy'n cael eu priodoli i unigolion iach a hyderus.
Ar gyfer pob gosodiad nodwch pa rai sy'n gymwys i chi.

FeedbackAdborth

QuestionCwestiwn Your AnswerEich ateb

For those statements you have identified as not being attributed to you, how do you think school could help you develop those skills? Yn achos y gosodiadau hynny y gwnaethoch chi nodi nad ydyn nhw’n berthnasol i chi, sut ydych chi’n meddwl gallai’r ysgol eich helpu i ddatblygu’r sgiliau hynny?

Charitable Organisations

Mudiadau Elusennol

Volunteer and Senior Man

Charities work both on a local and national level. National charities extend their work across the whole of the U.K. Health promotion charities raise awareness about health-related conditions and provide support and advice to those that are affected. National charities that promote health include:

  • British Heart Foundation Cymru
  • Dementia UK
  • MIND Cymru
  • Diabetes U.K. Cymru
  • Marie Curie
  • Mental Health Foundation Wales.

Local charities work on a much smaller scale and generally focus their work within a town, city or county or country within the U.K. Their funds tend to be more limited compared to a national charity. Charities that work on a local level within Wales include:

  • WaMH in PC- Primary Mental Health Care and Services - Wales
  • Gofal
  • Hafal
  • Latch Welsh Children's Cancer Charity
  • Welsh Hearts.

Mae elusennau yn gweithio ar lefel leol a chenedlaethol. Mae elusennau cenedlaethol yn gweithio ar draws y Deyrnas Unedig. Mae elusennau hybu iechyd yn codi ymwybyddiaeth am gyflyrau sy'n gysylltiedig ag iechyd ac yn rhoi cymorth a chyngor i'r rhai sy'n cael eu heffeithio. Mae elusennau cenedlaethol sy'n hybu iechyd yn cynnwys:

  • Sefydliad Prydeinig y Galon
  • Dementia UK
  • MIND Cymru
  • Diabetes U.K. Cymru
  • Marie Curie
  • Sefydliad Iechyd Meddwl Cymru.

Mae elusennau lleol yn gweithio ar raddfa llawer llai ac yn gyffredinol mae eu gwaith yn canolbwyntio ar dref, dinas, sir neu wlad yn y Deyrnas Unedig. Mae ganddyn nhw lai o arian fel arfer o'u cymharu ag elusen genedlaethol. Mae elusennau sy'n gweithio ar lefel leol yng Nghymru yn cynnwys:

  • WaMH in PC - Rhwydwaith Iechyd Meddwl mewn Gofal a Gwasanaethau yng Nghymru
  • Gofal
  • Hafal
  • Latch Elusen Canser Plant Cymru
  • Calonnau Cymru.

Charitable Organisations

Decide whether these national charities support physical health or mental health.

Mudiadau Elusennol

Penderfynwch a yw'r elusennau cenedlaethol hyn yn rhoi cymorth iechyd corfforol neu iechyd meddwl.