Public Health Wales is a part of NHS Wales and exists to protect and improve the health and well-being and to reduce health inequalities for individuals in Wales.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhan o GIG Cymru ac mae'n bodoli er mwyn amddiffyn a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd ar gyfer unigolion yng Nghymru.

Public Health Wales - image of a  medical team

Public Health Wales provide advice and guidance about health-related issues to the Welsh Government.

Their work is carried out on both a local and national scale across Wales.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu cyngor ac arweiniad ar faterion sy'n gysylltiedig ag iechyd i Lywodraeth Cymru.

Mae’n gweithio yn lleol a chenedlaethol ar draws Cymru.

Current health campaigns include:

Mae ei ymgyrchoedd iechyd cyfredol yn cynnwys:

ACEs campaign

Ymgyrch Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

ACEs campaign - image of aggresive parent and frightened child

Adverse Childhood Experiences (ACEs) are traumatic experiences that occur before the age of 18 and are remembered throughout adulthood.

Public Health Wales conducted a survey that revealed around one in every seven adults aged 18-69 years in Wales had experienced four or more Adverse Childhood Experiences during their childhood and just under half had experienced at least one.

The report also estimates the burden of health-harming behaviours on the NHS that could have been avoided if Adverse Childhood Experiences were prevented across Wales.

Professor Mark Bellis, Director of Policy, Research and International Development in Public Health Wales said: "So many of the health problems we see in adults have their roots in childhood. By stopping abuse, neglect and other harmful experiences faced by children we could prevent around a third of all high-risk drinking, a quarter of smoking and as much as 60 per cent of violence in adults."

Watch the video https://bit.ly/2C3ZFHi

Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) yn brofiadau trawmatig sy'n digwydd i unigolion cyn eu bod yn 18 oed ac sy'n cael eu cofio drwy gydol eu cyfnod fel oedolion.

Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg a wnaeth ddatgelu bod tua un ym mhob saith oedolyn 18-69 oed yng Nghymru wedi cael pedwar neu ragor o Brofiadau Niweidiol yn ystod eu Plentyndod ac roedd ychydig yn llai na'u hanner wedi profi o leiaf un.

Mae'r adroddiad hefyd yn amcangyfrif baich ymddygiadau sy'n niweidiol i iechyd ar y GIG y gellid bod wedi'u hosgoi petai Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod wedi cael eu hatal ar draws Cymru.

Dywedodd yr Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil a Datblygiad Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae llawer iawn o'r problemau iechyd a welwn ymysg oedolion yn deillio o'u plentyndod. Drwy atal camdriniaeth, esgeulustod a phrofiadau niweidiol eraill y mae plant yn eu hwynebu, gallen ni atal tua thraean o'r holl yfed risg-uchel, chwarter yr achosion o ysmygu a chymaint â 60 y cant o drais ymhlith oedolion."

Gwyliwch y fideo https://bit.ly/2VQqLIu

Beat Flu

Curwch Ffliw

Beat Flu

There are various campaigns that Public Health Wales are responsible for. This includes the “Beat Flu” campaign.

The “Beat Flu” campaign is a campaign aimed at individuals of all ages across Wales. The campaign educates individuals about the symptoms of flu; how to prevent flu and providing guidance about who should have the flu vaccine.

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/96860

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am wahanol ymgyrchoedd. Un o'r rhain yw'r ymgyrch “Curwch Ffliw”.

Mae ymgyrch “Curwch Ffliw” wedi'i hanelu at unigolion o bob oedran ar draws Cymru. Mae'r ymgyrch yn addysgu unigolion am symptomau ffliw; sut i atal ffliw ac yn cynnig arweiniad ynghylch pwy ddylai gael y brechlyn ffliw.

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/97025

Cymru Well Wales

Cymru Well Wales

Cymru Well Wales

“Cymru Well Wales” is another Public Health Wales campaign that aims to secure better health for the individuals of Wales. The key principles include:

  1. Acting today to prevent poor health tomorrow.
  2. Improving well-being by harnessing activity and resources to amplify our collective impact.
  3. Thinking and working creatively to tackle health inequalities.
  4. Empowering our communities in all that we do.
  5. Learning from others to design innovative action for the future.

Watch the video for further information http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/87835

Mae “Cymru Well Wales” yn un arall o ymgyrchoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n ceisio sicrhau gwell iechyd i unigolion Cymru. Mae’r egwyddorion allweddol yn cynnwys:

  1. Gweithredu heddiw i atal iechyd gwael yfory.
  2. Gwella llesiant drwy harneisio gweithgarwch ac adnoddau i ehangu ein heffaith ar y cyd.
  3. Meddwl a gweithio yn greadigol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
  4. Grymuso ein cymunedau ym mhopeth a wnawn.
  5. Dysgu gan eraill i gynllunio camau gweithredu arloesol ar gyfer y dyfodol.

Gwyliwch y fideo i gael rhagor o wybodaeth http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/88541

Every Child Wales

Pob Plentyn Cymru

Every Child Wales

“Every Child Wales” is another campaign launched by Public Health Wales. It was launched to try to ensure all chidren in Wales have a good start in life. The “Every Child Wales” website provides 10 simple steps that parents should follow in order to keep their children healthy.

Click on the link below and watch the video for further information.

http://everychildwales.co.uk/parents/

Child Measurement Programme for Wales

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/67762

Mae “Pob Plentyn Cymru” yn ymgyrch arall a lansiwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd ei lansio er mwyn ceisio sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael dechrau da mewn bywyd. Mae gwefan “Pob Plentyn Cymru” yn nodi 10 cam syml y dylai rhieni eu dilyn er mwyn cadw eu plant yn iach.

Cliciwch ar y cyswllt isod a gwyliwch y fideo i gael rhagor o wybodaeth.

http://everychildwales.co.uk/dyma-ein-10-cam-i-bwysau-iach/?lang=cy

Rhaglen Mesur Plant Cymru

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/67936

Help Me Quit

Helpa Fi i Stopio

Help Me Quit

The Help Me Quit initiative was launched in 2017 to bring together all of the information on NHS stop smoking services in Wales.

This helps individuals choose the best NHS stop smoking services to support them in their aim to quit.

Watch some of the success stories

https://www.helpmequit.wales/success-stories/

Lansiwyd menter Helpa Fi i Stopio yn 2017 er mwyn dod â'r holl wybodaeth am wasanaethau stopio ysmygu y GIG yng Nghymru ynghyd.

Mae hyn yn helpu unigolion i ddewis gwasanaethau stopio ysmygu gorau y GIG a fydd yn eu helpu i stopio ysmygu.

Gwyliwch rai o'r straeon llwyddiant

https://www.helpafiistopio.cymru/stori-llwyddiant/

Designed to smile

Cynllun Gwên

Designed to smile

Designed to smile is a free healthcare programme offering free services and dental treatment to children in Wales to improve their oral health.

The preventative programme starts from birth with a wide range of professionals helping families start good habits early and encouraging them to make their first visit to a dental practice before a child’s first birthday.

Designed to Smile also involves the delivery of nursery and school-based tooth brushing and fluoride varnish programmes for children to help protect teeth against tooth decay.

Rhaglen gofal iechyd am ddim yw Cynllun Gwên sy'n cynnig gwasanaethau a thriniaeth ddeintyddol am ddim i blant yng Nghymru er mwyn gwella iechyd y geg.

Mae'r rhaglen ataliol yn dechrau o enedigaeth gydag amrediad eang o weithwyr iechyd proffesiynol yn helpu teuluoedd i ddechrau arferion da yn gynnar a'u hannog i ymweld â deintyddfa cyn pen-blwydd cyntaf y plentyn.

Mae Cynllun Gwên hefyd yn cynnwys cyflwyno rhaglenni brwsio dannedd a farnais fflworid i blant mewn meithrinfeydd ac ysgolion i helpu i amddiffyn dannedd rhag pydredd.