Causes and impacts of breathlessness

Achosion ac effeithiau diffyg anadl

A young child with a breathing mask

Breathlessness is a difficulty in breathing. A person with breathlessness may find it uncomfortable to breathe in and/or out or they may not be able to control the rate and rhythm at which they breathe. Breathlessness during physical exercise is ‘normal’; it is actually a positive side-effect. However, breathlessness at rest or when doing normal day to day activities is not classed as normal. Measuring an individual’s respiratory rate (rr) is a useful tool to assess breathlessness.

Each age group will have their ‘normal’ values:

  • Infants 1 year and under – 30-40 rr/min
  • Toddler 1-2 years – 25-35 rr/min
  • Pre-school 2-5 years – 25-30 rr/min
  • School 5-12 years – 20-25rr/min

https://bit.ly/2LnYE2q

Breathlessness can be caused by a number of reasons, such as:

  • lung conditions such as asthma, lung infection (pneumonia, bronchiolitis), cystic fibrosis etc.
  • heart conditions
  • stress/anxiety
  • being overweight/unfit
  • infection/ high temperature
  • allergy
  • anaemia
  • blood clot in the lung.

Breathlessness can be linked with certain illnesses. In asthma, for example, breathlessness is caused by narrowing of the airways, certain heart conditions such as atrial fibrillation (AF), cardiac failure and enlarged heart.

Cystic fibrosis is another lung condition which can cause breathlessness as well as certain types of cancers.

The heart and lungs are responsible for carrying blood and oxygen around the body as well as removing the waste product carbon dioxide (CO2). A problem with either of these organs could cause breathlessness as a symptom.

Infection, particularly in children, can cause breathlessness. This is because infection affects the blood’s acidity.

https://bit.ly/2XPsUF7

Signs and symptoms of breathlessness in children:

  • Increase in respiratory rate.
  • Increase in heart rate (due to lack of oxygen).
  • Change in colour of lips and/or fingernails (cyanosis).
  • A grunting noise – this noise occurs as the body attempts to keep the airway open.
  • Flared nostrils – a sign that the individual is working hard to get air into the body.
  • Tugging – this is where the chest looks to be ‘pulling’ at the neck area and/or under the ribs. Again, this is the body’s attempt to pull more air into the lungs.
  • Wheezing – this is a sound that can be heard coming from the lungs. It’s a whistling type sound that occurs due to the airways being narrower (tight).
  • Stridor – this is another high-pitched sound that comes from the upper part of the lungs when breathing in. This is a signal of difficulty getting any air into the lungs.
  • Use of accessory muscles – most commonly refers to the muscles at the side of the neck. These will look to be ‘pulling’ when the child is breathing in.
  • Drowsiness – lack of oxygen to the brain may cause the child to become drowsy.

Further reading:

https://bit.ly/2LnCA7W

In severe cases, breathlessness in children can be fatal. Prompt medical attention and diagnosis of the cause of breathlessness is essential. Severe breathlessness can result in oxygen not getting to vital organs such as the heart, lungs and brain. This can lead to cardiac arrest and brain damage.

Diffyg anadl yw anhawster wrth anadlu. Efallai y bydd rhywun sydd â diffyg anadl yn ei chael hi'n anghyfforddus anadlu i mewn a/neu allan neu efallai na fydd yn gallu rheoli'r gyfradd a'r rhythm y mae'n ei anadlu. Mae diffyg anadl yn ystod ymarfer corff yn 'arferol’; mae'n sgil-effaith gadarnhaol mewn gwirionedd. Fodd bynnag, nid yw diffyg anadl wrth orffwys neu wrth wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd yn cael ei ystyried yn normal. Mae mesur cyfradd resbiradol unigolyn (cr) yn ddull defnyddiol i asesu diffyg anadl.

Bydd gan bob grŵp oedran eu gwerthoedd 'arferol':

  • Babanod 1 oed ac iau – 30-40 cr/mun
  • Plant bach 1-2 oed – 25-35 cr/mun
  • Cyn-ysgol 2-5 oed – 25-30 cr/mun
  • Ysgol 5-12 oed – 20-25cr/mun

https://bit.ly/2LnYE2q

Gall diffyg anadl gael ei achosi gan nifer o resymau, megis:

  • cyflyrau'r ysgyfaint megis asthma, haint yn yr ysgyfaint (niwmonia, bronciolitis), ffibrosis cystig ac ati
  • cyflyrau'r galon
  • straen/gorbryder
  • bod dros bwysau/yn anffit
  • haint/tymheredd uchel
  • alergedd
  • anaemia
  • clot gwaed yn yr ysgyfaint.

Gellir cysylltu diffyg anadl gyda rhai mathau o salwch. Yn achos asthma, er enghraifft, achosir diffyg anadl drwy gulhau'r llwybrau anadlu, cyflyrau penodol ar y galon megis ffibriliad atrïaidd, methiant y galon a chalon chwyddedig.

Cyflwr ysgyfaint arall yw ffibrosis cystig sy'n gallu achosi diffyg anadl yn ogystal â mathau penodol o ganserau.

Mae'r galon a'r ysgyfaint yn gyfrifol am gario gwaed ac ocsigen o amgylch y corff yn ogystal â thynnu'r cynnyrch gwastraff carbon deuocsid (CO2). Gallai problem gyda'r naill organ neu'r llall achosi diffyg anadl fel symptom.

Gall haint, yn enwedig mewn plant, achosi diffyg anadl. Y rheswm am hyn yw bod haint yn effeithio ar asidedd y gwaed.

https://bit.ly/2XPsUF7

Arwyddion a symptomau o ddiffyg anadl mewn plant:

  • Cynnydd yn y gyfradd resbiradol.
  • Curiad y galon yn cyflymu (oherwydd diffyg ocsigen).
  • Newid o ran lliw gwefusau a/neu ewinedd bysedd (syanosis).
  • Sŵn rhochian – mae'r sŵn hwn yn digwydd wrth i'r corff geisio cadw'r llwybr anadlu ar agor.
  • Ffroenlydan – arwydd bod yr unigolyn yn gweithio'n galed i gael aer i mewn i'r corff.
  • Tynnu – dyma le mae'r frest yn edrych i fod yn 'tynnu' wrth ardal y gwddf a/neu o dan yr asennau. Unwaith eto, dyma ymgais y corff i dynnu mwy o aer i mewn i'r ysgyfaint.
  • Gwichian (Wheezing) – mae hwn yn sŵn y gellir ei glywed yn dod o'r ysgyfaint. Mae'n fath o sŵn chwibanu sy'n digwydd oherwydd bod y bibell anadlu'n gulach (tynn).
  • Gwichian (Stridor) – mae hwn yn sain uchel arall sy'n dod o ran uchaf yr ysgyfaint wrth anadlu i mewn. Mae hyn yn arwydd o anhawster wrth gael unrhyw aer i mewn i'r ysgyfaint.
  • Defnyddio cyhyrau ategol – gan amlaf yn cyfeirio at y cyhyrau ar ochr y gwddf. Bydd y rhain yn edrych fel eu bod yn 'tynnu' pan fydd y plentyn yn anadlu i mewn.
  • Cysgadrwydd – gall diffyg ocsigen i'r ymennydd achosi i'r plentyn fynd yn gysglyd.

Darllen pellach:

https://bit.ly/2LnCA7W

Mewn achosion difrifol, gall diffyg anadl mewn plant fod yn angheuol. Mae sylw meddygol prydlon a diagnosis o achos diffyg anadl yn hanfodol. Gall diffyg anadl difrifol olygu nad yw ocsigen yn cyrraedd organau hanfodol fel y galon, yr ysgyfaint a'r ymennydd. Gall hyn arwain at drawiad ar y galon a niwed i'r ymennydd.

Causes and impacts of asthma

Achosion ac effeithiau asthma

A baby care nurse looking after an infant

1 in 11 children in the UK have asthma. Asthma is a condition of the bronchi. When the bronchi become irritated by a trigger, they will become narrow. In response to this, the muscles on the outside of the bronchi will tighten. This process will cause the asthma symptoms. (asthma.org.uk).

Signs and Symptoms of asthma:

  • breathlessness
  • recurrent cough (usually worse at night or early in the morning)
  • wheeze
  • tight chest (this can be difficult for children to explain).

All of the above symptoms can be made worse when around certain ‘triggers’ (see below for triggers).

Monitoring: This is usually done by monitoring the child’s signs and symptoms. Monitoring a change in symptoms after inhaled treatment such as a preventer and reliever inhaler is essential.

Depending on the child’s age, their asthma may also be monitored using the Peak Flow Meter or Spirometry (lung function tests).

Further reading:

https://bit.ly/2xMI2Iv

Triggers: Each person’s asthma is individual to them. People with asthma will have different triggers. The most common triggers are dust, exercise, pet dander, change in air temperature, pollution, pollen and certain smells etc. Knowing what the triggers are will enable the individual/ family to manage the asthma more effectively.

There is no known single cause for asthma, but there are many potential causes. A person is more likely to develop asthma if they have a family history of asthma, hay fever or eczema. These are known as atopic conditions.

A child is also more at risk of developing asthma if they had a lung condition as a baby, such as bronchiolitis. Premature babies and children born to mothers who smoked whilst pregnant may be at risk, as well as babies who have been exposed to tobacco smoke in the home.

https://www.nhs.uk/conditions/asthma/causes/

Uncontrolled asthma can cause a negative impact on a child’s everyday life. For example, the child may not be able to concentrate in school if they have been up all-night coughing. The tiredness from coughing can mean they fall behind in school or miss out on activities with other children. Exercise induced asthma can cause children to feel ‘left-out’. They may not be able to run around on the yard with their peers or partake in sporting activities, possibly making it difficult to form friendships. This in turn may lead to stress and anxiety, which can be an asthma trigger.

Mae gan 1 o bob 11 plentyn yn y DU asthma. Mae asthma yn un o amodau'r bronci. Pan fydd y bronci'n mynd yn llidus oherwydd sbardun, byddant yn mynd yn gul. Mewn ymateb i hyn, bydd y cyhyrau ar du allan y bronci yn tynhau. Bydd y broses hon yn achosi symptomau asthma. (asthma.org.uk).

Arwyddion a Symptomau asthma:

  • diffyg anadl
  • peswch sy'n dod yn ôl dro ar ôl tro (fel arfer yn waeth yn y nos neu'n gynnar yn y bore)
  • gwichian
  • brest dynn (gall hyn fod yn anodd i blant ei esbonio).

Gellir y symptomau uchod i gyd waethygu o gwmpas rhai 'sbardunau' (gweler isod am sbardunau).

Monitro: Gwneir hyn fel arfer drwy fonitro arwyddion a symptomau'r plentyn. Mae'n hanfodol monitro newid yn y symptomau ar ôl triniaeth wedi'i fewnanadlu megis mewnanadlydd atal a mewnanadlydd lliniaru.

Yn dibynnu ar oedran y plentyn, gellir monitro ei asthma hefyd drwy ddefnyddio Mesurydd Anterth Llif neu Sbirometreg (profion gweithrediad yr ysgyfaint).

Darllen pellach:

https://bit.ly/2xMI2Iv

Sbardunau: Mae asthma pob person yn unigryw iddyn nhw. Bydd gan bobl sydd ag asthma sbardunau gwahanol. Dyma rai o’r sbardunau mwyaf cyffredin: llwch, ymarfer corff, anifeiliaid anwes, newid yn nhymheredd yr aer, llygredd, paill a rhai arogleuon ac ati. Bydd gwybod beth yw'r sbardunau yn galluogi'r unigolyn/teulu i reoli'r asthma yn fwy effeithiol.

Nid oes un achos hysbys am asthma ond mae llawer o achosion posibl. Mae person yn fwy tebygol o ddatblygu asthma os oes ganddo hanes teuluol o asthma, clefyd y gwair neu ecsema. Mae’r rhain yn cael eu galw yn gyflyrau atopig.

Mae plentyn hefyd mewn mwy o berygl o ddatblygu asthma os oedd ganddo gyflwr ysgyfaint fel baban, fel bronciolitis. Gall babanod a phlant a enir i famau sy’n ysmygu tra byddant yn feichiog fod mewn perygl yn ogystal â babanod sydd wedi dod i gysylltiad â mwg tybaco yn y cartref.

https://www.nhs.uk/conditions/asthma/causes/

Gall asthma na ellir ei reoli achosi effaith negyddol ar fywyd pob dydd plentyn. Er enghraifft, mae'n bosibl na fydd y plentyn yn gallu canolbwyntio yn yr ysgol os yw wedi bod i fyny drwy'r nos yn pesychu. Gall y blinder o besychu golygu eu bod yn syrthio ar ei hôl hi yn yr ysgol, neu'n colli allan ar weithgareddau gyda phlant eraill. Gall asthma a ysgogir gan ymarfer corff achosi i blant deimlo'u bod 'wedi'u gadael allan'. Efallai na fyddant wedi gallu rhedeg o gwmpas ar yr iard gyda'u cyfoedion neu gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, gan ei gwneud yn anodd o bosibl i ffurfio cyfeillgarwch. Gall hyn yn ei dro arwain at straen a gorbryder, a all fod yn sbardun i asthma.

How can asthma be managed

Sut y gellir rheoli asthma

An inhaler

Asthma is usually managed in a stepwise approach. https://bit.ly/2WC37QR

The goal to asthma treatment is for the individual to be free from asthma symptoms with minimal side effects from medication.

The main treatment options in asthma are short acting bronchodilators (SAB), also known as relievers; and inhaled corticosteroids (ICS), also known as preventers.

SAB work by opening up the airways. The most common SAB is a drug called Salbutamol and the inhaler device is usually a blue colour. The individual/family should be instructed on how and when to use this medication as part of their treatment plan. An indication that asthma is not very well controlled is if the SAB is needed.

As asthma is an inflammatory disease of the airways, individuals will almost always need an ICS. The preventer/ICS should be used daily, even when the individual feels free from symptoms. Common ICS are beclomethasone and fluticasone. They are usually taken twice a day. They will usually come in a brown or orange inhaler to be used three times a week or more.

Individuals who do not gain full control on an ICS alone may be stepped up to what is known as a combination inhaler. This is an inhaled treatment that contains an ICS and long-acting bronchodilator (ICS/LABA). This inhaler is particularly useful for those with exercise induced asthma or for those who have multiple triggers. A combination inhaler is usually only used in children over the age of 4. Again, the combination inhaler is given in a twice a day dose.

Add on treatments may also include Leukotriene Receptor Antagonists (LTRA), which are given in tablet form (chewable for younger children). However, as stated in the BTS/SIGN guidelines, LTRAs can now be added to asthma management at any time. However, if using it instead of an ICS, caution should be taken and the individual should be monitored closely. This should only be done in those individuals with mild asthma.

Further steps to asthma control can be carried out under secondary care specialist respiratory teams. For example, oral steroids or certain medicines given via injection or infusion.

Further reading:

https://bit.ly/32ttLi1

Inhaler choice is the most important part of the asthma review. It should be agreed between the individual and the practitioner as to which inhaler device is used as this will aid adherence.

Further reading:

https://bit.ly/2Y7hXCP

There are many different types of inhalers available. Generally, these are categorised into two groups: Metered Dose Inhalers (MDI) and Dry Powder Inhalers (DPI).

MDIs are most commonly used as they usually have fewer side effects and are cheaper to produce. However, they are more frequently used in young children as they require a lower inspiratory effort compared to a DPI. MDIs should always be used with a spacer device.

MDIs are an aerosol type inhaler. The medicine is propelled very quickly by the gas. It is difficult to inhale and press the device at the same time, therefore much of the medicine is lost to the atmosphere, the mouth, tongue and upper airways. Unfortunately, when used without a spacer very little of the medicine reaches the lower airway. Using a spacer device (see below) will correct this.

Use of MDI:

  • Insert the inhaler into the spacer.
  • Shake the inhaler. (allows the propellant and medicine to mix)
  • Breathe out to empty the lungs. This will depend on the child’s age and comprehension.
  • Press the device to eject 1 puff into the spacer device.
  • Slowly and gently inhale the medicine until you cannot fill the lungs further. (inhalation flow)
  • Hold breath for 5 seconds if possible.

Note: depending on the child’s age they may be unable to do the long slow inhalation and will therefore need to do what is known as ‘tidal breathing’. This is where they breathe in and out gently 4-5 times per puff.

Use of DPI:

  • Prepare the loading of the device as per patient information leaflet.
  • Exhale fully.
  • Place lips firmly around the mouthpiece.
  • Inhale firmly and quickly.
  • Hold breath for 5-10 seconds.
  • Exhale.

Oral care after the use of inhalers is very important, particularly after ICS as these can cause damage to the mouth, such as oral thrush and gum problems. Side effects of this kind are less likely if an MDI is used with a spacer device.

Further reading:

https://bit.ly/2JHPlag

Spacer devices are needed for anyone who has been prescribed an MDI. This is because MDIs propel the medicine too quickly, as mentioned above. A spacer device is a plastic tube designed to aid the administration of an inhaled medication. There are a range of spacers available. Most commonly used in children are the Volumatic (large spacer) and the Aerochamber, both of which can be used with a suitable sized mask, an infant mask or child mask. A mask should always be used in children under 6 years of age, but those over the age of 6 can also use a mask if they prefer. This should be assessed as part of the inhaler technique in their asthma review.

There are many online videos available demonstrating the correct use of the spacer. Click on the link to watch a demonstration:

https://bit.ly/2LmxUiz

Care of the spacer is also important. It should be washed once a month in warm soapy water; however, if the individual has a chest infection, it should be washed after every use. It should then be left to drip dry.

Spacers with a rubber seal should be renewed annually as the rubber seal may become loose and allow medicine to escape.

Asthma can be a long-term medical condition, but it is also possible that children will ‘grow out’ of it. It is important therefore that those with asthma attend their GP practice for regular check-ups. Those with severe asthma should be monitored in secondary care by a respiratory consultant and paediatric asthma specialist nurses.

At the review, asthma control will be assessed. The British Thoracic Society (BTS) recommend that healthcare professionals use an assessment tool to monitor control. For example:

Children’s asthma control test (https://bit.ly/1NG7HU4) or The 3 Royal College of Physicians questions (https://bit.ly/2YWnFVl)

Other matters that should be explored during a review are:

  • monitoring of lung function (age dependant usually over the age of 5)
  • exposure to cigarette smoke
  • checking if there have been any asthmas attacks/exacerbations since the last review
  • checking inhaler technique
  • checking adherence to medications
  • checking for triggers.

According to BTS/SIGN guidelines, those who do not receive adequate control using ICS/LABA and LTRAs or those who have had frequent exacerbations or asthma attack should be managed in secondary care by the respiratory consultant and specialist asthma nurses.

Caiff asthma ei reoli fel arfer mewn dull cam wrth gam. https://bit.ly/2WC37QR

Y nod i driniaeth ar gyfer asthma yw i'r unigolyn fod yn rhydd o symptomau asthma heb fawr ddim sgil-effeithiau o feddyginiaeth.

Y prif ddewisiadau o ran triniaeth ar gyfer asthma yw broncoledwyr sy'n gweithio'n gyflym, a elwir hefyd yn lliniarwyr; a chorticosteroidau wedi'u hanadlu, a elwir hefyd yn atalwyr.

Mae broncoledwyr sy'n gweithio'n gyflym yn gweithio drwy agor y llwybrau anadlu. Y broncoledwyr sy'n gweithio'n gyflym mwyaf cyffredin yw cyffur o'r enw Salbutamol ac mae'r ddyfais mewnanadlu fel arfer yn lliw glas. Dylid rhoi cyfarwyddyd i'r unigolyn/teulu ynghylch sut a phryd i ddefnyddio'r feddyginiaeth hon fel rhan o'u cynllun triniaeth. Un arwydd nad yw asthma yn cael ei reoli'n dda iawn yw os oes angen y broncoledwyr sy'n gweithio'n gyflym.

Gan fod asthma yn glefyd llidiol yn y bibell anadlu, bydd angen corticosteroidau wedi'u hanadlu ar unigolion bron bob amser. Dylid defnyddio'r ataliwr/corticosteroidau wedi'u hanadlu bob dydd, hyd yn oed pan fo'r unigolyn yn teimlo'n rhydd oddi wrth y symptomau. Mae beclomethasone a fluticasone yn gorticosteroidau wedi'u hanadlu cyffredin. Fel arfer maent yn cael eu cymryd ddwywaith y dydd. Byddant fel arfer yn dod mewn mewnanadlydd brown neu oren i'w ddefnyddio tair gwaith yr wythnos neu fwy.

Gall unigolion nad ydynt yn ennill rheolaeth lawn ar gorticosteroidau wedi'u hanadlu yn unig gael eu symud ymlaen at yr hyn a elwir yn fewnanadlydd cyfunol. Triniaeth fewnanadlu yw hon sy'n cynnwys corticosteroidau wedi'u hanadlu a broncoledydd cyfnod hir (corticosteroidau wedi'u hanadlu/gweithyddion beta cyfnod hir). Mae'r mewnanadlydd hwn yn arbennig o ddefnyddiol i'r rheini ag asthma a ysgogir gan ymarfer corff neu'r rhai sydd â sawl sbardun. Fel arfer dim ond â phlant dros 4 oed y defnyddir mewnanadlydd cyfunol. Unwaith eto, rhoddir y mewnanadlydd cyfunol mewn dos ddwywaith y dydd.

Gall y triniaethau ychwanegol hefyd gynnwys Gwrthweithyddion Derbynyddion Leukotriene (LTRA); rhoddir y rhain ar ffurf tabledi (rhai y gellir eu cnoi ar gyfer plant iau). Fodd bynnag, fel y nodwyd yng nghanllawiau BTS/SIGN, gellir bellach ychwanegu LTRAau at reoli asthma ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, os caiff ei ddefnyddio yn lle corticosteroidau wedi'u hanadlu, dylid cymryd pwyll a dylid monitro'r unigolyn yn ofalus. Dim ond gyda'r unigolion hynny sydd ag asthma ysgafn y dylid gwneud hyn.

Gellir cyflawni camau pellach i reoli asthma o dan dimau resbiradol arbenigol gofal eilaidd. Er enghraifft, steroidau trwy'r geg neu rai meddyginiaethau a roddir drwy bigiad neu drwyth.

Darllen pellach:

https://bit.ly/32ttLi1

Dewis y mewnanadlydd yw'r rhan bwysicaf o'r adolygiad o asthma. Dylai'r unigolyn a'r ymarferwr gytuno ar ba ddyfais fewnanadlu i'w defnyddio gan y bydd hyn o gymorth i adlyniad.

Darllen pellach:

https://bit.ly/2Y7hXCP

Mae llawer o fathau gwahanol o fewnanadlwyr ar gael. Yn gyffredinol, caiff y rhain eu categoreiddio'n ddau grŵp: mewnanadlwyr dos wedi'i fesur a mewnanadlwyr powdr sych.

Mae mewnanadlwyr dos wedi'i fesur yn cael eu defnyddio amlaf gan eu bod fel arfer yn cael llai o sgil-effeithiau a'u bod yn rhatach i'w cynhyrchu. Fodd bynnag, fe'u defnyddir yn amlach mewn plant ifanc gan fod angen llai o ymdrech fewnanadlol arnynt o'i gymharu â mewnanadlwyr powdr sych. Dylid defnyddio dyfais wahanu i ddefnyddio mewnanadlwyr dos wedi'i fesur bob tro.

Mewnanadlwyr math aerosol yw mewnanadlwyr dos wedi'i fesur. Caiff y feddyginiaeth ei yrru ymlaen yn gyflym iawn gan y nwy. Mae'n anodd mewnanadlu a phwyso'r ddyfais ar yr un pryd, felly collir llawer o'r feddyginiaeth i'r atmosffer, y geg, y tafod a'r llwybrau anadlu uchaf. Yn anffodus, pan gaiff ei defnyddio heb ddyfais wahanu ychydig iawn o'r feddyginiaeth sy'n cyrraedd y llwybr anadlu is. Bydd defnyddio dyfais wahanu (gweler isod) yn cywiro hyn.

Defnyddio mewnanadlwyr dos wedi'i fesur:

  • Rhowch y mewnanadlydd i mewn i'r ddyfais wahanu.
  • Ysgwydwch y mewnanadlydd. (yn caniatáu i'r hyn sy'n gyrru a'r moddion gymysgu)
  • Anadlwch allan i wagio'r ysgyfaint. Bydd hyn yn dibynnu ar oedran a dealltwriaeth y plentyn.
  • Pwyswch y ddyfais i ryddhau 1 chwythiad i'r ddyfais wahanu.
  • Anadlwch y feddyginiaeth yn araf ac yn ysgafn hyd nes na allwch lenwi'r ysgyfaint ymhellach. (mewnanadliad llif)
  • Daliwch anadl am 5 eiliad os yn bosibl.

Noder: yn dibynnu ar oedran y plentyn, efallai na fydd yn gallu gwneud yr anadl hir ac araf, felly bydd angen iddynt wneud yr hyn a elwir yn 'anadlu llanwol’. Dyma lle maent yn anadlu i mewn ac allan yn ysgafn 4-5 gwaith fesul chwythiad.

Defnyddio mewnanadlydd powdr sych:

  • Paratowch lwytho'r ddyfais yn ôl taflen wybodaeth y claf.
  • Anadlwch allan yn llawn.
  • Rhowch eich gwefusau'n gadarn o amgylch y darn ceg.
  • Mewnanadlwch yn gadarn ac yn gyflym.
  • Daliwch eich anadl am 5-10 eiliad.
  • Anadlwch allan.

Mae gofal y geg ar ôl defnyddio mewnanadlwyr yn bwysig iawn, yn enwedig ar ôl corticosteroidau wedi'u hanadlu, gan y gall hyn achosi niwed i'r geg, fel llindag y geg a phroblemau gyda'r deintgig. Mae sgil-effeithiau o'r math hwn yn llai tebygol os defnyddir mewnanadlwyr dos wedi'i fesur gyda dyfais wahanu.

Darllen pellach:

https://bit.ly/2JHPlag

Mae angen dyfeisiau gwahanu ar gyfer unrhyw un sydd wedi derbyn Mewnanadlwr Dos Wedi'i Fesur. Y rheswm am hyn yw bod mewnanadlwyr dos wedi'i fesur yn gyrru'r feddyginiaeth yn rhy gyflym fel y crybwyllwyd uchod. Tiwb plastig yw dyfais wahanu, sydd wedi'i gynllunio i helpu i roi meddyginiaeth wedi'i fewnanadlu. Mae amrywiaeth o ddyfeisiau gwahanu ar gael. Y rhai sy'n cael eu defnyddio amlaf ar gyfer plant yw'r Volumatic (dyfais wahanu fawr) a'r Aerochamber. Gellir defnyddio'r ddau gyda masg o faint addas, masg i fabanod neu fasg plentyn. Dylid defnyddio masg bob amser mewn plant o dan 6 oed, ond gall y rhai dros 6 oed hefyd ddefnyddio masg os yw'n well ganddynt. Dylid asesu hyn fel rhan o dechneg y mewnanadlydd yn eu hadolygiad asthma.

Mae llawer o fideos ar-lein ar gael sy'n dangos y defnydd cywir o'r dyfeisiau gwahanu. Cliciwch ar y linc i wylio arddangosiad:

https://bit.ly/2LmxUiz

Mae gofalu am y ddyfais wahanu hefyd yn bwysig. Dylid ei golchi unwaith y mis mewn dŵr cynnes a sebo;, fodd bynnag, os bydd gan yr unigolyn haint ar ei frest, dylid ei olchi ar ôl pob defnydd. Dylid wedyn adael iddo ddripsychu.

Dylid adnewyddu dyfeisiau gwahanu sydd â sêl rwber bob blwyddyn gan y gallai'r sêl rwber ddod yn rhydd a gadael i feddyginiaeth ddianc.

Gall asthma fod yn gyflwr meddygol hirdymor, ond mae'n bosibl hefyd y bydd plant yn 'tyfu allan' ohono. Mae'n bwysig felly bod pobl sydd ag asthma yn mynychu eu practis meddyg teulu i gael archwiliadau rheolaidd. Dylai ymgynghorydd resbiradol a nyrsys asthma pediatrig arbenigol fonitro'r rhai ag asthma difrifol mewn gofal eilaidd.

Yn yr adolygiad, bydd rheoli asthma yn cael ei asesu. Mae'r British Thoracic Society (BTS) yn argymell bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn defnyddio dull asesu i fonitro rheolaeth. Er enghraifft:

Prawf rheoli asthma plant (https://bit.ly/1NG7HU4) neu 3 cwestiwn Coleg Brenhinol y Meddygon (https://bit.ly/2YWnFVl)

Dyma'r materion eraill y dylid ymchwilio iddynt yn ystod adolygiad:

  • monitro gweithrediad yr ysgyfaint (yn dibynnu ar oedran fel arfer dros 5 oed)
  • dod i gysylltiad â mwg sigaréts
  • gwirio a fu unrhyw byliau o asthma/waethygiad ers yr adolygiad diwethaf
  • gwirio techneg mewnanadlydd
  • gwirio fod meddyginiaethau'n cael eu cymryd
  • gwirio ar gyfer sbardunau.

Yn ôl canllawiau BTS/SIGN, dylai'r rhai nad ydynt yn derbyn rheolaeth ddigonol gan ddefnyddio corticosteroidau wedi'u hanadlu/gweithyddion beta cyfnod hir a gwrthweithyddion derbynyddion leukotriene (LTRAau) neu'r rhai sydd wedi gwaethygu'n aml neu wedi cael trawiad asthma gael eu rheoli mewn gofal eilaidd gan yr ymgynghorydd anadlol a nyrsys asthma arbenigol.

Managing acute asthma episodes

Rheoli achosion o asthma acíwt

A doctor speaking to a young child

Individuals and their families/carers should be educated on what to do in an acute asthma episode and this should be clearly documented in an asthma management plan.

An acute asthma episode/attack can be very frightening for the individual and for those around them. Being able to recognise the signs and act quickly is essential.

Signs:

  • their reliever inhaler is not working
  • they are having difficulty walking or talking
  • they are coughing and/or wheezing a lot
  • they have an increased RR or change in breathing pattern, e.g. breathing harder and faster than normal
  • they complain that their tummy/chest hurts.

Action:

  • remain calm
  • sit the child upright
  • help administer 10 puffs of their reliever inhaler via spacer
  • be prepared to call 999 if they are getting worse despite their rescue treatment, an asthma attack is a medical emergency and 999 can be called immediately
  • if the ambulance takes more than 15mins to arrive administer 10 puffs of the reliever inhaler again.

Knowing what to do before the event will hopefully mean the individual and their family will be less likely to panic.

To support an individual and their family/carer in the event of an acute asthma episode, the health care professional should remain calm at all times. Provide reassurance throughout to allow them to also remain as calm as possible. The individual (age determined) should be encouraged to take slow, steady breaths and help to administer reliever inhaler. Ensure the individual has adequate follow-up in hospital or in a GP setting. The individual may be at risk of further attacks. Therefore they need to be assessed to determine if they need to have oral steroids or if any other alterations need to be made to their asthma management plan.

Dylai unigolion a'u teuluoedd/gofalwyr gael eu haddysgu ynghylch beth i'w wneud mewn achos acíwt o asthma a dylid cofnodi hyn yn glir mewn cynllun rheoli asthma.

Gall achos/pwl acíwt o asthma fod yn frawychus iawn i'r unigolyn ac i'r rhai o'u hamgylch. Mae'n hanfodol gallu adnabod yr arwyddion a gweithredu'n gyflym.

Arwyddion:

  • nid yw eu mewnanadlydd lliniaru yn gweithio
  • maent yn cael anhawster i gerdded neu siarad
  • maent yn pesychu a/neu'n gwichian yn aml
  • mae ganddynt gyfradd resbiradol fwy neu newid yn y patrwm anadlu, e.e. anadlu'n galetach ac yn gynt na'r arfer
  • maent yn cwyno bod eu bol/brest yn brifo.

Gweithred:

  • byddwch yn ddigynnwrf
  • rhowch y plentyn i eistedd ar i fyny
  • helpwch i roi 10 anadliad o'u mewnanadlydd lliniaru gyda dyfais wahanu
  • bod yn barod i alw 999 os ydynt yn gwaethygu er gwaethaf eu triniaeth achub, mae pwl o asthma yn argyfwng meddygol a gellir galw 999 ar unwaith
  • os bydd yr ambiwlans yn cymryd mwy na 15munud i gyrraedd, dylech roi 10 chwythiad o'r mewnanadlydd lliniaru eto.

Gobeithio y bydd gwybod beth i'w wneud cyn y digwyddiad yn golygu y bydd yr unigolyn a'i deulu yn llai tebygol o fynd i banig.

Er mwyn cefnogi unigolyn a'i deulu/gofalwr os ceir achos o asthma acíwt, dylai'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol fod yn ddigynnwrf bob amser. Rhowch sicrwydd drwy gydol yr amser i'w galluogi i fod mor ddigynnwrf â phosibl hefyd. Dylid annog yr unigolyn (yn dibynnu ar oedran) i gymryd anadliadau araf a sefydlog a helpu i roi mewnanadlydd lliniaru. Sicrhau bod yr unigolyn yn derbyn gofal dilynol digonol yn yr ysbyty neu mewn lleoliad meddyg teulu. Gall yr unigolyn fod mewn perygl o byliau pellach ac felly mae angen iddo gael ei asesu er mwyn penderfynu a oes angen iddo gael steroidau trwy'r geg neu a oes angen gwneud unrhyw newidiadau eraill i'w gynllun rheoli asthma.

Supporting children and their families/carers to manage breathlessness and asthma

Cefnogi plant a'u teuluoedd/gofalwyr i reoli diffyg anadl ac asthma

Child in a classroom

When talking with children about their asthma it is important to use language that they understand. For example, you may call their reliver inhaler the ‘blue pump’ and their preventer inhaler the ‘brown pump’. When talking about symptoms, the child may not know what is meant by wheeze. They then should be asked about any noises they may hear. When trying to describe a ‘tight chest’, children may say that they have a tummy ache, ask them to point to where they mean.

Having examples of their inhalers to hand (if they have not attended with their own) will make communicating what you mean easier also.

As well as getting support from their local GP and Practice Nurse for asthma care and management plans, they could also be sign posted to online support such as: https://www.asthma.org.uk/

These will have a wealth of information for families as well as written resources that can be downloaded or sent out in the post. They have many informative videos also. The asthma.org website will also have a helpline number that is available Monday to Friday between 9am and 5pm where individuals can ring and speak to a nurse.

Each setting will have their own organisational procedure for the storage and maintenance of inhalers. Inhalers are prescribed on an individual basis; therefore, nobody should ‘share’ inhalers. Each setting from a care home to a hospital or school setting will have their own policy on where the inhaler is stored and who is allowed to help the child administer the medication.

The above information should be passed on to the child’s parent/carer verbally or written in their care plan.

Record keeping will again depend on the setting. For example, within the individuals paper records, or in their computerised records, or within a record book at that organisation. Documenting what was administered, to whom and the dosage. The BTS/SIGN guidelines recommend that all individuals with asthma should have a personalised asthma action plan.

Wrth siarad â phlant am eu hasthma mae'n bwysig defnyddio iaith y maent yn ei ddeall. Er enghraifft, gallwch alw eu mewnanadlydd lleddfu yn 'pwmp glas' a'u mewnanadlydd atal yn 'pwmp brown’. Wrth sôn am symptomau, mae'n bosibl na fydd y plentyn yn gwybod beth mae gwichian yn ei olygu. Dylid felly eu holi am unrhyw synau y gallant eu clywed. Wrth geisio disgrifio 'brest dynn', gall blant ddweud bod ganddyn nhw boen bol, gofynnwch iddyn nhw bwyntio at ble maen nhw'n ei feddwl.

Bydd cael enghreifftiau o'u mewnanadlwyr wrth law (os nad ydynt wedi mynychu gyda'u rhai eu hunain) yn gwneud cyfathrebu'r hyn a olygwch yn haws hefyd.

Yn ogystal â chael cymorth gan eu meddyg teulu lleol a'u nyrs practis ar gyfer cynlluniau gofal a rheoli asthma, gallent hefyd gael eu cyfeirio at gymorth ar-lein fel: https://www.asthma.org.uk/

Bydd gan y rhain gyfoeth o wybodaeth ar gyfer teuluoedd yn ogystal ag adnoddau ysgrifenedig y gellir eu llwytho i lawr neu eu hanfon allan yn y post. Mae ganddynt lawer o fideos addysgiadol hefyd. Hefyd, bydd gan wefan asthma.org rif llinell gymorth sydd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm lle gall unigolion ffonio a siarad â nyrs.

Bydd gan bob lleoliad ei weithdrefn drefniadol ei hun ar gyfer storio a chynnal a chadw mewnanadlwyr. Rhagnodir mewnanadlwyr ar sail unigol, felly ni ddylai unrhyw un 'rannu' mewnanadlwyr. Bydd gan bob lleoliad o gartref gofal i ysbyty neu leoliad ysgol ei bolisi ei hun ar ble y caiff y mewnanadlydd ei storio a phwy sy'n cael helpu'r plentyn i roi'r feddyginiaeth.

Dylid trosglwyddo'r wybodaeth uchod i riant/gofalwr y plentyn ar lafar neu'n ysgrifenedig yn ei gynllun gofal.

Bydd cadw cofnodion yn dibynnu ar y lleoliad unwaith eto. Er enghraifft, o fewn cofnodion papur unigolion, neu yn eu cofnodion cyfrifiadurol, neu mewn llyfr cofnodi yn y sefydliad hwnnw. Dogfennu'r hyn a roddwyd, i bwy a'r dos. Mae canllawiau BTS/SIGN yn argymell y dylai pob unigolyn ag asthma gael cynllun gweithredu ar asthma wedi'i bersonoli.