Code of conduct

Cod ymddygiad

Code of practice

What is meant by a code of practice?

Those that work within health and social care are expected to make use of continuing professional development (CPD) programmes. This could include training to ensure that workers understand and know how to implement codes of practice and keep their skills up to date.

Training is extremely important in Wales due to the new legislations which have come in since 2013.

A codes of practice is a set of guidelines for best practice, sometimes based on legal regulations, which explains the way members of a profession must behave.

There are a number of codes of practice relating to key issues in health/social care, such as:

  • Health/safety
  • Data protection
  • Confidentiality
  • Professional conduct
  • End-of-life care
  • Safeguarding.

In Wales, there are a number of codes of conduct and professional practice guidelines which must be followed, such as:

  • Code of Professional Practice for Social Care.
  • Non-regulatory, e.g. NHS Wales Code of Conduct for Healthcare
  • Code of Practice for NHS Wales Employers
  • The Residential Child Care worker: practice guidelines for residential childcare workers registered with Social Care Wales.

Diffiniwch ystyr cod ymddygiad?

Disgwylir i'r rheini sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wneud defnydd o raglenni datblygiad proffesiynol parhaus (DPP). Gallai hyn gynnwys hyfforddiant er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn deall ac yn gwybod sut i roi codau ymarfer ar waith a sicrhau bod eu sgiliau yn gyfredol.

Mae hyfforddiant yn eithriadol o bwysig yng Nghymru o ganlyniad i'r deddfwriaethau newydd sydd wedi dod i rym ers 2013.

Cyfres o ganllawiau ar gyfer arfer da yw cod ymarfer. Weithiau mae'n seiliedig ar reoliadau cyfreithlon, sy'n esbonio'r ffordd y mae'n rhaid i aelodau proffesiwn ymddwyn.

Mae nifer o godau ymarfer sy'n ymwneud â materion allweddol ym maes iechyd/gofal cymdeithasol, megis:

  • Iechyd/diogelwch
  • Diogelu data
  • Cyfrinachedd
  • Ymddygiad proffesiynol
  • Gofal diwedd oes
  • Diogelu.

Yng Nghymru, mae nifer o godau ymarfer a chanllawiau ymarfer proffesiynol y mae'n rhaid eu dilyn, megis:

  • Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol.
  • Canllawiau nad ydynt yn rheoliadol, e.e. Cod Ymddygiad GIG Cymru ar gyfer Gofal Iechyd
  • Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr GIG Cymru.
  • Y gweithiwr Gofal Plant Preswyl: canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr gofal plant preswyl sydd wedi cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.

What rights have you got?

Compare your ideas in your groups.

Pa hawliau sydd gennych chi?

Cymharwch eich syniadau yn eich grwpiau.

Code of Professional Practice for Social Care

Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol

https://bit.ly/30MDFva

Using the above link, find two key reasons why the Code of Professional Practice for Social Care would support health and social care workers?

https://bit.ly/3hJClAn

Drwy ddefnyddio'r ddolen uchod, nodwch ddau reswm pam y byddai'r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol yn cefnogi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol?

Hint 2: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 2: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Code of Conduct for Healthcare Support Workers in Wales

Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru

https://bit.ly/3dQACXp

Using the link above, find one key reason why the Code of Conduct for Healthcare Support Workers would support their professional practice.

https://bit.ly/2NOSQxS

Drwy ddefnyddio'r ddolen uchod, nodwch un rheswm allweddol pam y byddai'r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yn cefnogi eu hymarfer proffesiynol.

Hint 3: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 3: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Code of Practice for NHS Wales Employers

Cod Ymarfer i Gyflogwyr GIG Cymru

https://bit.ly/3itVdVd

Using the link above, find one key reason why the Code of Practice for NHS Wales Employers will help health and social care workers.

https://bit.ly/3gnE0e9

Drwy ddefnyddio'r ddolen uchod, nodwch un rheswm allweddol pam y byddai Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr GIG Cymru yn helpu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

Hint 4: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 4: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Practice guidelines for residential childcare workers registered with Social Care Wales

Canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr gofal plant preswyl sydd wedi cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru

https://bit.ly/2ZtQPwz

Using the link above, find one key reason why the practice guidelines for residential childcare workers who are registered with Social Care Wales will support these workers working with children, young people and their families.

https://bit.ly/3gkCk56

Drwy ddefnyddio'r ddolen uchod, nodwch un rheswm allweddol pam y bydd y canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr gofal plant preswyl sydd wedi cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru yn cefnogi'r gweithwyr hyn sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Hint 5: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 5: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Why do we need codes of practice?

Pam bod angen codau ymarfer arnom?

car icons

Let’s think back to the Hilda case study.

Hilda is 77 and lives on her own. She needs extra support but does not want to go into a residential care setting (later adulthood).

Social workers, GPs, Physiotherapists, care workers and support workers would all have to follow codes of practice when working with Hilda. Codes of practice are important:

C – Consistent standard of care is being delivered.

C – Comply with codes of practice/follow them.

A – Accountable for quality of care provided.

R – Responsible for maintaining their knowledge/skills.

S – Standards of professional conduct – required.

Beth am i ni feddwl am astudiaeth achos Hilda eto.

Mae Hilda yn 77 oed ac yn byw ar ei phen ei hun. Mae angen cymorth ychwanegol arni ond nid yw am symud i leoliad gofal preswyl (oedolaeth ddiweddarach).

Byddai'n rhaid i weithwyr cymdeithasol, meddygon teulu, ffisiotherapyddion, gweithwyr gofal a gweithwyr cymorth ddilyn codau ymarfer wrth weithio gyda Hilda. Mae codau ymarfer yn bwysig:

S – Sicrhau bod gofal o safon gyson yn cael ei ddarparu.

C – Cydymffurfio â chodau ymarfer/eu dilyn.

A – Atebol am ansawdd y gofal a ddarperir.

Y – Yn gyfrifol am gynnal eu gwybodaeth/sgiliau.

S – Safonau ymarfer proffesiynol – gofynnol.

Hint 6: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 6: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Why do we need codes of practice?

Pam bod angen codau ymarfer arnom?

C – Consistent standard of care is being delivered

If different health and social care workers are working with Hilda, all of them will be delivering a consistent standard of care, so Hilda will not be confused by different methods. Also, for professionals working with Hilda, it will clearly inform them of their rights and responsibilities.

C – Comply with codes of practice/follow them

An occupational therapist would visit Hilda’s home to see if Hilda’s house is safe and recommend some adaptations. The OT would ensure that their checklist is followed as this will ensure Hilda is safe, but also the OT is carrying out the expected requirements of practice, which means safety for all individuals like Hilda.

A – Accurate quality of care provided

Professionals can achieve high quality, safe and compassionate care and support.

R - Responsible for maintaining their knowledge/skills

Training is an essential part of carrying out codes of conduct, and all health/social care workers in Wales are expected to carry out CPD (continuous professional development). Training both before and after achieving health/social care qualifications involves being familiar with key codes of practice and learning skills to enable workers to put these guidelines into practice.

For example, under the Social Services/Well-being (Wales) Act 2014, health and social care workers in Wales are encouraged to afford individuals like Hilda a stronger voice and control over decisions relating to their care. As a result, health/social care workers in Wales need to ensure they are aware of ways in which individuals like Hilda could be empowered. Empowering Hilda will potentially improve her quality of life.

S – Standards of professional conduct – required

Support workers who work with individuals like Hilda must ensure they meet key standards such as respecting the individuality and diversity of all services users.

Support workers must promote equal opportunities for individuals and their carers.

Health and social care staff should also report concerns to a senior member of staff as possible.

S – Sicrhau bod gofal o safon gyson yn cael ei ddarparu

Os bydd gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda Hilda, bydd pob un ohonynt yn darparu safon gyson o ofal, ac felly ni fydd y dulliau gwahanol yn drysu Hilda. Hefyd, ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda Hilda, bydd yn eu hysbysu'n glir o'u hawliau a'u cyfrifoldebau.

C – Cydymffurfio â chodau ymarfer/eu dilyn

Byddai therapydd galwedigaethol yn ymweld â chartref Hilda i weld a yw cartref Hilda yn ddiogel ac argymell rhai addasiadau. Byddai'r therapydd galwedigaethol yn sicrhau bod ei restr wirio yn cael ei dilyn am fod hyn yn sicrhau bod Hilda yn ddiogel, ond bydd hefyd yn sicrhau bod y therapydd galwedigaethol yn ymgymryd â'r holl ofynion ymarfer disgwyliedig, sy'n sicrhau diogelwch i unigolion fel Hilda.

A – Darparu ansawdd gofal cywir

Gall gweithwyr proffesiynol sicrhau gofal a chymorth diogel a thosturiol o ansawdd uchel.

R – Yn gyfrifol am gynnal eu gwybodaeth/sgiliau

Mae hyforddiant yn rhan allweddol o gyflawni codau ymarfer, ac mae disgwyl i bob gweithiwr iechyd/gofal cymdeithasol yng Nghymru gyflawni DPP (datblygiad proffesiynol parhaus). Mae hyfforddiant cyn ennill cymwysterau iechyd/gofal cymdeithasol ac ar ôl hynny yn cynnwys ymgyfarwyddo â chodau ymarfer allweddol a dysgu sgiliau er mwyn galluogi gweithiwyr i roi'r canllawiau hyn ar waith.

Er enghraifft, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, caiff gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru eu hannog i roi llais cryfach a mwy o reolaeth i unigolion fel Hilda dros benderfyniadau sy'n ymwneud â'u gofal. O ganlyniad, bydd angen i weithwyr iechyd/gofal cymdeithasol yng Nghymru sicrhau eu bod yn ymwybodol o ffyrdd y gellid grymuso unigolion fel Hilda. Bydd grymuso Hilda yn gwella ei hansawdd bywyd o bosibl.

S – Safonau ymarfer proffesiynol – gofynnol

Mae'n rhaid i weithwyr cymorth sy'n gweithio gydag unigolion fel Hilda sicrhau eu bod yn cyrraedd safonau allweddol megis parchu unigoliaeth ac amrywiaeth pob defnyddiwr gwasanaeth.

Mae'n rhaid i weithwyr cymorth hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ar gyfer unigolion a'u gofalwyr.

Dylai staff iechyd a gofal cymdeithasol hefyd roi gwybod i uwch aelod o staff am unrhyw bryderon cyn gynted â phosibl.

Can you remember what the letter R stands for when it comes to remembering why codes of conduct support health and social care workers?

Can you find an example from any of the codes of conduct and professional practices you have researched which covers maintaining knowledge/skills?

A allwch gofio beth yw ystyr y llythyren R o ran cofio pam bod codau ymddygiad yn cefnogi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol?

A allwch ddod o hyd i enghraifft o unrhyw rai o'r codau ymddygiad ac arferion proffesiynol rydych wedi ymchwilio iddynt sy'n cwmpasu cynnal gwybodaeth/sgiliau?

Key legislation

Deddfwriaeth allweddol

colourful-people-tree

Social Services/Well-being (Wales) Act 2014

If you purchase something that is faulty or not as described, you have rights. These rights are enshrined in a piece of legislation called The Consumer Rights Act 2015. You have a right to complain, return the goods, get a replacement, etc.

In the past, individuals who use social care services were not covered by law if they were unhappy about the quality of care they were receving. This meant that they did not have any legal redress to challenge a lack of care through the courts.

Social services have received hundreds of complaints but were not legally obliged to put things right. This piece of legislation says that people’s needs must be met and if they are not then they can be challenged through the courts.

https://bit.ly/32MMKqB

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Os ydych yn prynu rhywbeth sy'n ddiffygiol neu wahanol i'r hyn a ddisgrifiwyd, mae gennych hawliau. Mae'r hawliau hyn wedi'u corffori mewn darn o ddeddfwriaeth o'r enw Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015. Mae gennych yr hawl i gwyno, dychwelyd y nwyddau, cael nwyddau newydd, ac ati.

Yn y gorffennol, nid oedd unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u cwmpasu gan y gyfraith os nad oeddent yn fodlon ar ansawdd y gofal roeddent yn ei gael. Roedd hyn yn golygu nad oedd ganddynt unrhyw sail gyfreithiol dros herio diffyg gofal drwy achos llys.

Mae'r gwasanaethau cymdeithasol wedi cael cannoedd o gwynion ond nid oedd dyletswydd gyfreithlon arnynt i unioni pethau. Mae'r darn hon o ddeddfwriaeth yn nodi bod angen i anghenion pobl gael eu diwallu ac os nad ydynt, gellir eu herio yn y llys.

https://bit.ly/3f0YbNM

Hint 8: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 8: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Key legislation

Deddfwriaeth allweddol

working together

When considering the key principles of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014, remember the word PEWW as this will help you understand how this legislation promotes health and personal well-being outcomes.

People – putting the individual at the centre by giving them a stronger voice and control over services they receive.

Earlier intervention – more preventative services; supporting people before their needs become critical.

Working together – stronger partnership working between all parties involved, e.g. co-production.

Well-being – supporting people to achieve their own well-being goals, building on a person’s circumstances, capabilities, networks and communities.

Wrth ystyried egwyddorion allweddol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, cofiwch y gair PYCLl gan y bydd yn eich helpu i ddeall y ffordd y mae deddfwriaeth yn hyrwyddo canlyniadau iechyd a llesiant personol.

Pobl – sicrhau bod yr unigolyn wrth wraidd y broses drwy roi llais cryfach a mwy o reolaeth iddo dros y gwasanaethau a gaiff.

Ymyrryd yn gynharach – mwy o wasanaethau ataliol; cefnogi pobl cyn i'w hanghenion fynd yn ddifrifol.

Cydweithio – trefniadau cryfach i'r holl bartïon cysylltiedig weithio mewn partneriaeth, e.e. cydgynhyrchu.

Llesiant – cefnogi pobl i gyflawni eu canlyniadau llesiant eu hunain, gan weithredu'n unol ag amgylchiadau, galluoedd, rhwydweithiau a chymunedau'r unigolyn.

What do you think is meant by the term well-being?

Beth yn eich barn chi yw ystyr y term llesiant?

Key legislation

Deddfwriaeth allweddol

healthy life style

Well-being

Under the Social Services/Well-being (Wales) Act 2014, well-being is defined as:

  • being physically, mentally and emotionally happy
  • being protected from abuse, harm and neglect
  • having access to education, training, sports and play
  • having positive relationships
  • being part of the community
  • having a social life and enough money to lead a healthy life
  • having a good home
  • not having your rights violated.

Therefore, if well-being is not being met, individuals may struggle until they or someone else contacts social services for help.

The purpose of the Act is to impose duties on local authorities, health boards and Welsh ministers to work to promote the well-being of those who need care and support, or carers who need support.

Llesiant

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, caiff llesiant ei ddiffinio fel a ganlyn:

  • bod yn hapus yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol
  • cael eich amddiffyn rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
  • mynediad at gyfleoedd addysg, hyfforddiant, chwaraeon a chwarae
  • cael perthnasoedd cadarnhaol
  • bod yn rhan o'r gymuned
  • cael bywyd cymdeithasol a digon o arian i fyw bywyd iach
  • cael cartref da
  • sicrhau nad yw eich hawliau yn cael eu torri.

Felly, os na fydd gofynion llesiant yn cael eu bodloni, gall unigolion ei chael hi'n anodd, hyd nes y byddan nhw, neu rywun arall, yn cysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol am help.

Diben y Ddeddf yw gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd a gweinidogion Cymru i weithio i hybu llesiant y rheini y mae angen gofal a chymorth arnynt, neu ofalwyr y mae angen cymorth arnynt.

Hint 10: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 10: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Well-being

Llesiant

Let’s think back to the Hilda case study.

Hilda is 77 and lives on her own. She needs extra support but does not want to go into a residential care setting (later adulthood).

Consider the many aspects of well-being and discuss how the principles of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 aim to support Hilda’s health and personal well-being outcomes.

Beth am i ni feddwl am astudiaeth achos Hilda eto.

Mae Hilda yn 77 oed ac yn byw ar ei phen ei hun. Mae angen cymorth ychwanegol arni ond nid yw am symud i leoliad gofal preswyl (oedolaeth ddiweddarach).

Ystyriwch yr agweddau niferus ar lesiant a thrafodwch sut y mae egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ceisio cefnogi canlyniadau iechyd a llesiant personol Hilda.

Suggested answers:

Hilda would be supported to achieve her well-being goals as the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 imposes duties on local authorities and health boards to promote the well-being of those who need care and support.

For example, in terms of Hilda feeling part of the community, she could be referred to community connectors. By promoting her Hilda’s social well-being, she is unlikely to be socially isolated.

A key principle of the Social Services and Well-being (Wales) Act is giving people like Hilda a stronger voice and control over decisions relating to their care. As Hilda has stated, she wants to stay in her home; this is what needs to be considered as Hilda’s priority.

Early intervention is another key principle of the Social Services and Well-being (Wales) Act. Early intervention includes putting preventative measures in place. For example, Hilda might benefit from a handrail in her house, or she may be eligible for a shower room to be fitted downstairs under Care and Repair (Cymru).

Hilda may find it difficult to get in and out of bed safely or access the toilet. If this was the case, a member of the local care team could refer her to an occupational therapist who would assess for aids and adaptations such as handrails and stair lifts, toilet raisers and grab rails, shower and bath equipment, and ramps. This would be considered early intervention as it could help Hilda achieve her personal goal of staying in her own home, and as a result Hilda will receive the help she needs to lead a happy and fulfilling life.

Under the Social Services and Wellbeing (Wales) Act, there is encouragement for health and social care organisations to work in partnership. For example, all health and social care workers should be working in co-production, which will enable Hilda and all professionals to come together to find a shared solution from the start to the end of Hilda’s care.

Atebion awgrymedig:

Byddai Hilda yn cael ei chefnogi i gyflawni ei nodau llesiant wrth i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 osod dyletswyddau ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i hyrwyddo llesiant y rheini y mae angen gofal a chymorth arnynt.

Er enghraifft, o ran sicrhau bod Hilda yn teimlo'n rhan o'r gymuned, gellid ei chyfeirio at gysylltwyr cymunedol. Drwy hybu llesiant cymdeithasol Hilda, mae'n annhebygol o deimlo'n ynysig yn gymdeithasol.

Un o egwyddorion allweddol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yw rhoi llais cryfach a mwy o reolaeth i bobl fel Hilda dros benderfyniadau sy'n ymwneud â'i gofal. Fel y gwnaeth Hilda nodi, mae am aros yn ei chartref; dyma'r hyn sy'n flaenoriaeth i Hilda.

Mae ymyrryd yn gynnar yn un o egwyddorion allweddol eraill y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru). Mae ymyrryd yn gynnar yn cynnwys rhoi mesurau ataliol ar waith. Er enghraifft, efallai y bydd Hilda yn cael budd o osod canllaw yn ei chartref, neu efallai y bydd yn gymwys i gael ystafell gawod wedi'i gosod ar y llawr gwaelod o dan gynllun Gofal a Thrwsio (Cymru).

Efallai bod Hilda yn ei chael hi'n anodd codi o'r gwely a mynd i'r gwely yn ddiogel neu ddefnyddio'r toiled. Os felly, gallai aelod o'r tîm gofal lleol ei chyfeirio at therapydd galwedigaethol a fyddai'n asesu'r achos er mwyn gosod cymhorthion ac addasiadau megis canllawiau a lifft grisiau, cyfleusterau i wneud y toiled yn uwch a chanllawiau, cyfarpar cawod a bath, a rampiau. Byddai hyn yn cael ei ystyried yn ymyrryd yn gynnar gan y gallai helpu Hilda i gyflawni ei nod personol, sef aros yn ei chartref ei hun, ac o ganlyniad, byddai Hilda yn cael yr help sydd ei angen arni er mwyn byw bywyd hapus a boddhaus.

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), caiff sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol eu hannog i weithio mewn partneriaeth. Er enghraifft, dylai pob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol weithio ar cyd, a bydd hyn yn galluogi Hilda a phob gweithiwr proffesiynol i ddod at ei gilydd er mwyn dod o hyd i ateb cyffredin o ddechrau trefniadau gofal Hilda, i'r diwedd.

Key legislation

Deddfwriaeth allweddol

Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015

Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015

This Act aims to improve the social, economic, environmental and cultural well-being of Wales now and in the future.

Here are some immediate and future challenges we face in Wales:

  • Climate change
  • Poverty
  • Some individuals with poor health/jobs.

The Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 informs public bodies about their legal obligation to:

  • consider the long-term impact of their decisions
  • look to prevent problems and take a more joined up approach
  • work together with individuals, communities and each other.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Nod y Ddeddf yw gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru nawr ac yn y dyfodol.

Dyma rai heriau rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd a heriau y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol yng Nghymru:

  • Newid hinsawdd
  • Tlodi
  • Rhai unigolion ag iechyd/swyddi gwael

Mae Deddf Llesiant Cenedlaet.hau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn hysbysu cyrff cyhoeddus o'u rhwymedigaeth gyfreithiol i wneud y canlynol:

  • ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau
  • ceisio atal problemau a gweithio mewn ffordd sy'n fwy cydlynol
  • gweithio gydag unigolion, cymunedau a'i gilydd.

Hint 12: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 12: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Key legislation

Deddfwriaeth allweddol

There are a number of public bodies listed in the Act. Can you find out how many are listed and name some of them?

Mae nifer o gyrff cyhoeddus wedi'u rhestru yn y Ddeddf. Allwch chi nodi sawl un sydd wedi'u rhestru ac enwi rhai ohonynt?

Answer:

There are 44 public bodies that must work together to make things better.

Public bodies are things like local councils, the NHS and the Fire and Rescue Service. They provide us with services like doctor’s surgeries, schools and refuse collection.

  • Local Health Boards
  • Public Health Wales NHS Trust
  • Velindre NHS trust

Ateb:

Mae 44 o gyrff cyhoeddus y mae'n rhaid iddynt weithio gyda'i gilydd i wella pethau.

Mae sefydliadau megis cynghorau lleol, y GIG a'r Gwasanaeth Tân ac Achub i gyd yn gyrff cyhoeddus. Maent yn darparu gwasanaethau i ni yn yr un modd â meddygfeydd, ysgolion a gwasanaeth casglu sbwriel.

  • Byrddau Iechyd Lleol
  • Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Key legislation

Deddfwriaeth allweddol

Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015

Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015

This Act ensures that for the first time in Wales, the public bodies listed must work in a sustainable way.

This includes:

  • carrying out sustainable development principles
  • setting out and publishing well-being objectives
  • working to achieve the seven well-being goals set out in the Act.

There are seven well-being goals set out in this Act:

  1. A globally responsive Wales
  2. A prosperous Wales
  3. A resilient Wales
  4. A healthier Wales
  5. A more equal Wales
  6. A Wales of cohesive communities
  7. A Wales of vibrant culture and thriving Welsh language.

https://bit.ly/3eW9d73

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae'r Ddeddf yn sicrhau am y tro cyntaf yng Nghymru, bod yn rhaid i'r cyrff cyhoeddus a restrir weithio mewn ffordd gynaliadwy.

Mae hyn yn cynnwys:

  • bodloni egwyddorion datblygu cynaliadwy
  • pennu a chyhoeddi amcanion llesiant
  • gweithio i gyflawni'r saith nod llesiant a nodir yn y Ddeddf.

Mae saith nod llesiant wedi'u pennu yn y Ddeddf:

  1. Cymru sy'n ymatebol ar lefel fyd-eang
  2. Cymru lewyrchus
  3. Cymru gydnerth
  4. Cymru iachach
  5. Cymru sy'n fwy cyfartal
  6. Cymru â chymunedau cydlynus
  7. Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

https://bit.ly/3jFro4C

Hint 14: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 14: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Key legislation

Deddfwriaeth allweddol

Welsh language

Welsh Strategic Framework for the Welsh Language in Health/Social Care (2013)

More than Just Words is the Welsh Government’s strategic framework for the Welsh language in health and social care. It has been active since April 2013.

The aim of More than Just Words is to ensure that the language needs of Welsh speakers are met, to provide Welsh language services for those who need them and to demonstrate that language is an integral aspect of the quality of care, not an “add-on”. It aims to ensure a more proactive approach to language choice and needs in Wales, placing the responsibility for ensuring appropriate services on the service provider and not on the individual.

https://bit.ly/39mWKrV

Fframwaith Strategol Cymru ar gyfer y Gymraeg ym maes Iechyd/Gofal Cymdeithasol (2013)

Mwy na Geiriau yw fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae wedi bod yn weithredol ers mis Ebrill 2013.

Nod Mwy na Geiriau yw sicrhau bod anghenion iaith siaradwyr Cymraeg yn cael eu diwallu, darparu gwasanaethau Cymraeg i'r rhai y mae eu hangen arnynt a dangos bod iaith yn agwedd annatod ar ansawdd gofal, ac nid yn rhywbeth ychwanegol. Ei nod yw sicrhau dull mwy rhagweithiol o fynd i'r afael â dewisiadau ac anghenion iaith yng Nghymru, gan roi cyfrifoldeb ar ddarparwr y gwasanaeth i sicrhau bod gwasanaethau priodol ar gael, ac nid ar yr unigolyn.

https://bit.ly/30IjXRd

Hint 15: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 15: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Key legislation

Deddfwriaeth allweddol

Discuss how the principles of the Welsh Strategic Framework for the Welsh Language in Health and Social Care (2013) aim to support Menna’s health and personal well-being outcomes.

Trafodwch sut y mae egwyddorion Fframwaith Strategol Cymru ar gyfer y Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2013) yn bwriadu cefnogi canlyniadau iechyd a llesiant personol Menna.

Suggested response:

Menna’s health and personal well-being is likely to be supported as she is at less risk of being socially isolated as services must be provided in Welsh.

By ensuring that appropriate services are provided in Menna’s chosen language, she is likely to be assessed correctly. If she is not assessed through the medium of Welsh, the assessment would is likely to be flawed, which could result in her receiving the wrong support. As a result, Menna may have unsuitable, ineffective or harmful provision on the basis of an incorrect assessment.

Ymateb awgrymedig:

Mae iechyd a llesiant personol Menna yn debygol o gael eu cefnogi am ei bod yn wynebu llai o risg o gael ei hynysu'n gymdeithasol am fod yn rhaid i wasanaethau gael eu darparu yn Gymraeg.

Drwy sicrhau bod gwasanaethau priodol yn cael eu darparu yn newis iaith Menna, mae'n debygol o gael ei hasesu'n gywir. Os na chaiff ei hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg, byddai'r asesiad yn debygol o fod yn ddiffygiol a allai arwain ati'n cael y cymorth anghywir. O ganlyniad, gall Menna gael darpariaeth anaddas, aneffeithiol neu niweidiol ar sail asesiad anghywir.

Safeguarding

Diogelu

Baby holding moms hand

What is meant by safeguarding?

Safeguarding is the action that is taken to promote the welfare of children and protect them from harm.

Safeguarding means:

  • Protecting children from abuse and maltreatment
  • Preventing harm to children’s health or development
  • Ensuring children grow up with the provision of safe and effective care
  • Taking action to enable all children and young people to have the best outcomes.

Child protection is part of the safeguarding process. It focuses on protecting individual children identified as suffering or likely to suffer significant harm. This includes child protection procedures which detail how to respond to concerns about a child.

https://bit.ly/2ORvQz1

The key purpose of All Wales Safeguarding Procedures (2019) is to safeguard children, protect them from abuse and mistreatment, and put the child at the centre of all decisions.

Beth yw ystyr diogelu?

Diogelu yw'r camau a gymerir i hybu lles plant a'u hamddiffyn rhag niwed.

Ystyr diogelu yw:

  • Amddiffyn plant rhag cam-drin a chamdriniaeth
  • Atal niwed i iechyd neu ddatblygiad plant
  • Sicrhau bod plant, wrth dyfu i fyny, yn cael gofal diogel ac effeithiol
  • Gweithredu er mwyn galluogi pob plentyn a pherson ifanc i gael y canlyniadau gorau.

Mae amddiffyn plant yn rhan o'r broses ddiogelu. Mae'n canolbwyntio ar ddiogelu plant unigol y nodwyd eu bod yn dioddef niwed sylweddol neu'n debygol o ddioddef niwed sylweddol. Mae hyn yn cynnwys gweithdrefnau amddiffyn plant sy'n nodi sut i ymateb i bryderon am blentyn.

https://bit.ly/2ORvQz1

Diben allweddol Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan (2019) yw diogelu plant, eu hamddiffyn rhag cam-drin a chamdriniaeth, a rhoi'r plentyn wrth wraidd pob penderfyniad.

Hint 17: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 17: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.