The role of Welsh government

Rôl Llywodraeth Cymru

Welsh Fflag

Know and explain the role of the Welsh Parliament, or Senedd, and Welsh Government in setting legislation and policy for health and social care in Wales (devolved authority). Devolved authority means that the Senedd has power to pass laws in relation to social welfare which includes social services.

https://bit.ly/3fWe3m9

Click on the above link and find out how the Senedd and Welsh Government work. Make sure you find out the four key roles of the Senedd.

Deall ac esbonio rôl Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru wrth osod deddfwriaeth a pholisïau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru (awdurdod datganoledig). Mae awdurdod datganoledig yn golygu bod gan y Senedd bwerau i basio cyfreithiau mewn perthynas â lles cymdeithasol sy'n cynnwys gwasanaethau cymdeithasol.

https://bit.ly/30HiRW2

Cliciwch ar y ddolen uchod i ddarganfod sut mae'r Senedd a Llywodraeth Cymru yn gweithio. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darganfod pedair rôl allweddol y Senedd.

The Senedd has four key roles:

  • representing Wales and its people
  • making laws for Wales
  • agreeing Welsh taxes
  • holding the Welsh Government to account.

Mae gan y Senedd bedair rôl allweddol:

  • cynrychioli Cymru a'i phobl
  • deddfu ar gyfer Cymru
  • cytuno ar drethi Cymru
  • dal Llywodraeth Cymru i gyfrif.

The role of the Welsh Government

Rôl Llywodraeth Cymru

Advice and guidance

The Welsh Government has the role of regulator through the production of laws by which those involved in the care of sick and vulnerable individuals must abide.

They also have an advisory role through the production of policies that offer advice and guidance to the sector. Policies are not statutory documents; however, it is good practice to follow the guidelines provided.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â rôl rheoleiddiwr drwy lunio cyfreithiau y mae'n rhaid i'r rheini sy'n ymwneud â gofal unigolion sâl neu unigolion sy'n agored i niwed eu dilyn.

Mae hefyd yn ymgymryd â rôl ymgynghorol drwy'r broses o lunio polisïau sy'n cynnig cymorth ac arweiniad i'r sector. Nid yw polisïau yn ddogfennau statudol; fodd bynnag, mae'n arfer dda i ddilyn y canllawiau a ddarperir.

Hint 2: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 2: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

The role of the Welsh Government

Rôl Llywodraeth Cymru

Y Senedd

Take a look at the following Acts. What do they all have in common?

  • Social Services and Well-being (Wales) Act 2014
  • Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015
  • Public Health (Wales) Act 2017
  • The Mental Health (Wales) Measure 2010.

Edrychwch ar y Deddfau canlynol. Beth sydd gan bob un ohonynt yn gyffredin?

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017
  • Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

They all have Wales in their title, which means that each of these laws were written in Wales for Wales.

With devolution the Welsh Government was given the power to make Wales’ own laws in certain areas.

Three of these areas were:

  • health and social welfare
  • education
  • Welsh language.

Some law-making powers remain with Westminster, but these are related to areas such as national security, immigration and citizenship, and foreign policy.

However, we still abide by laws written for both England and Wales such as:

  • The Equality Act 2010
  • The Mental Capacity Act 2005
  • The Human Rights Act 1998.

Mae pob un yn cynnwys Cymru yn y teitl, sy'n golygu y cafodd pob un o'r cyfreithiau hyn eu hysgrifennu yng Nghymru, i Gymru.

Ar ôl datganoli, cafodd Llywodraeth Cymru bwerau i lunio cyfreithiau Cymru ei hun mewn meysydd penodol.

Tri o'r meysydd hyn oedd:

  • iechyd a lles cymdeithasol
  • addysg
  • yr iaith Gymraeg.

Mae gan San Steffan rai pwerau deddfu o hyd, ond mae'r rhain yn ymwneud â meysydd megis diogelwch cenedlaethol, mewnfudo a dinasyddiaeth a pholisi tramor.

Fodd bynnag, rydym yn dal i gadw at y cyfreithiau sydd wedi'u hysgrifennu ar gyfer Cymru a Lloegr megis:

  • Deddf Cydraddoldeb 2010
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005
  • Deddf Hawliau Dynol 1998.

Key terms

Termau allweddol

dictionary definition of legislation

Regulatory and advisory legislation

Regulation is the way in which legislation is enforced by regulators, and they support the requirements of the legislation. For example, within health and social care there a number of regulatory bodies.

Subordinate legislation/secondary legislation

Secondary legislation is law created by ministers (or other bodies) under powers given to them by an Act of Parliament.

It is used to fill in the details of Acts (primary legislation). These details provide practical measures that enable the law to be enforced and operate in daily life.

Bills and acts

A bill is a proposal for law; an act may be referred to as legislation.

Deddfwriaeth rheoleiddio a chynghori

Ystyr rheoleiddio yw'r ffordd y caiff deddfwriaeth ei gorfodi gan reoleiddwyr, ac maent yn cefnogi gofynion y ddeddwriaeth. Er enghraifft, ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae nifer o gyrff rheoleiddio.




Is-ddeddfwriaeth/deddfwriaeth eilaidd

Ystyr is-ddeddfwriaeth yw cyfraith sydd wedi'i chreu gan weinidogion (neu gyrff eraill) o dan bwerau a roddwyd iddynt gan Ddeddf Seneddol.

Caiff ei defnyddio i gwblhau manylion Deddfau (deddfwriaeth sylfaenol). Mae'r manylion hyn yn darparu mesurau ymarferol sy'n galluogi'r gyfraith honno i gael ei gorfodi a'i rhoi ar waith yn ein bywyd pob dydd.

Biliau a deddfau

Ystyr bil yw cynnig ar gyfer cyfraith; gellir cyfeirio at ddeddf fel deddfwriaeth.

Hint 4: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 4: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

The role of the Welsh Government

Rôl Llywodraeth Cymru

Discuss with a partner why legislation is important before revealing the suggestions:

Trafodwch gyda phartner pam fod deddfwriaeth yn bwysig cyn datgelu'r awgrymiadau:

Hint 5: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 5: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

The role of the Welsh Government

Rôl Llywodraeth Cymru

Lawyer at work

The Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act was written in response to the Flynn Report and ensures that lessons are learnt from exposure to failures in the social care system.

The Act provides a regulatory regime, which is consistent with the changes that Social Care Wales needs to deliver under the Social Services and Well-being Act 2014.

In order to ensure that social services are fit for purpose, the Welsh Government involves both the public and service professionals in assessing how services affect individuals’ well-being.

All service providers must register with CSSIW to provide care and support services in Wales.

Cafodd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) ei hysgrifennu mewn ymateb i Adroddiad Flynn ac mae'n sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o achosion o ddatgelu methiannau yn y system gofal cymdeithasol.

Mae'r Ddeddf yn darparu trefn reoleiddiol sy'n gyson â'r newidiadau y mae angen i Gofal Cymdeithasol Cymru eu gwneud o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.

Er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn addas at y diben, mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau wrth asesu sut mae gwasanaethau yn effeithio ar lesiant unigolion.

Mae'n rhaid i bob darparwr gwasanaeth gofrestru gydag AGGCC i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru.

Hint 6: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 6: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

How a bill becomes law in Wales

Sut y daw bil yn gyfraith yng Nghymru

How does a bill become law in Wales?

https://bbc.in/3fYXOo7

Watch the video and record your answers.

Sut mae bil yn troi'n gyfraith yng Nghymru?

https://bbc.in/3fYXOo7

Gwyliwch y fideo a chofnodwch eich atebion.

Hint 7: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 7: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Regulatory bodies in Wales

Cyrff rheoleiddio yng Nghymru

For care workers/professionals:

  • Social Care Wales (SCW)
  • Health and Care Professionals Council (HCPC)
  • General Medical Council (GMC)
  • Nursing and midwifery Council (NMC)
  • General Dental Council (GDC)
  • General Pharmaceutical Council (GPC).

For services provided:

  • Healthcare Inspectorate Wales (HIW)
  • Care Inspectorate Wales (CIW).

Ar gyfer gweithwyr gofal/gweithwyr gofal proffeisynol:

  • Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC)
  • Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
  • Y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC)
  • Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)
  • Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC)
  • Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPC).

Ar gyfer gwasanaethau a ddarperir:

  • Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)
  • Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Find out the role of these regulatory bodies and how they support health and well-being outcomes.

Dysgwch beth yw rôl y cyrff rheoleiddio hyn a sut maent yn cefnogi canlyniadau iechyd a llesiant.

The role of the Welsh Government

Rôl Llywodraeth Cymru



      Hint 9: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

      Awgrymiadau 9: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

      Role of organisations

      Rôl sefydliadau

      Q1. Explain one role of the CIW (Care Inspectorate Wales).

      C1. Esboniwch un o rolau AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru).

      Q2. Explain one role of the HIW (Healthcare Inspectorate Wales).

      C2. Esboniwch un o rolau AGIC (Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru).

      Hint 10: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

      Awgrymiadau 10: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

      Healthcare Inspectorate Wales

      Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

      Health Inspectorate Wales

      The role of the Healthcare Inspectorate Wales (HIW)

      The Healthcare Inspectorate Wales inspects NHS and independent healthcare organisations in Wales and are responsible for:

      • inspecting against a range of standards, policies, guidance and regulations to highlight areas requiring improvement
      • focusing on how well those who may be in vulnerable situations are safeguarded
      • identifying which services are effective
      • investigating systematic failures in delivering healthcare
      • taking immediate action if the safety and quality of healthcare do not meet the required standards
      • Informing individual service users and the public about the standards of healthcare in Wales.

      https://bit.ly/2BquIPy

      Rôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)

      Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn arolygu sefydliadau gofal iechyd y GIG a sefydliadau gofal iechyd annibynnol yng Nghymru ac mae'n gyfrifol am y canlynol:

      • arolygu yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau er mwyn tynnu sylw at feysydd y mae angen eu gwella
      • canolbwyntio ar ba mor dda y caiff y rheini sydd o bosibl mewn sefyllfaoedd bregus eu diogelu
      • nodi pa wasanaethau sy'n effeithiol
      • ymchwilio i fethiannau systematig wrth ddarparu gofal iechyd
      • cymryd camau ar unwaith os nad yw diogelwch ac ansawdd gofal iechyd yn cyrraedd y safonau gofynnol
      • rhoi gwybod i ddefnyddwyr gwasanaethau unigol a'r cyhoedd am safonau gofal iechyd yng Nghymru.

      https://bit.ly/3jBukiE

      Hint 11: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

      Awgrymiadau 11: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

      Care Inspectorate Wales

      Arolygiaeth Gofal Cymru

      Care Inspectorate Wales

      The role of the Care Inspectorate Wales (CIW)

      Care Inspectorate Wales is the independent regulator of social care and childcare in Wales.

      They are responsible for registering, inspecting and taking action to improve the quality and safety of services for the well-being of the people of Wales.

      In addition to this, they:

      • provide independent advice about the quality and availability of social care in Wales
      • safeguard adults and children, making sure that their rights are protected
      • improve care by encouraging and promoting improvements in the safety, quality and availability of social care
      • provide advice to the people developing policy in the public and social care sectors.

      https://bit.ly/3eWCEpx

      Rôl Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

      Arolygiaeth Gofal Cymru yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru.

      Mae'n gyfrifol am gofrestru, arolygu a chymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er mwyn sicrhau llesiant pobl Cymru.

      Yn ogystal â hyn mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn gwneud y canlynol:

      • darparu cyngor annibynnol ar ansawdd ac argaeledd gofal cymdeithasol yng Nghymru
      • diogelu oedolion a phlant, gan sicrhau bod eu hawliau yn cael eu hamddiffyn
      • gwella gofal drwy annog a hyrwyddo gwelliannau ym maes diogelwch, ansawdd ac argaeledd gofal cymdeithasol
      • darparu cyngor i'r bobl sy'n datblygu polisi yn y sector cyhoeddus a'r sector gofal cymdeithasol.

      https://bit.ly/2Ejir0F

      Hint 12: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

      Awgrymiadau 12: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

      Registration of profession

      Cofrestru proffesiwn

      https://bit.ly/2CzCyqR

      Using the above link, identify why registration of professions to SCW is important to professionals in Wales.

      https://bit.ly/2ZTLDDI

      Drwy ddefnyddio'r ddolen uchod, nodwch pam bod y broses o gofrestru proffesiynau i GCC yn bwysig i weithwyr proffesiynol yng Nghymru.

      M - Making sure individuals are safe.

      O - Other benefits

      B - Building trust and confidence

      Building trust and confidence – people can rely on registered social care workers; people have confidence knowing you follow the Code.

      Valuing social care workers – you can show you have the skills and knowledge to be a social care worker. You can show you're trained and take responsibility for developing knowledge and skills.

      Employers can provide the support and development you need; knowing more about you will help us plan ways to support you.

      Making sure people are safe – protecting people’s rights and making sure they are listened to and supporting people to be independent and protect themselves. If a worker is not fit to practise, they can be removed from the Register and will be unable to practise in Wales.

      Other benefits – being able to legally use the title of your profession; getting support and information from our practice guidance documents and other publications; invitations to events and conferences invitations to consultations.

      S – Sicrhau bod unigolion yn ddiogel

      B – Buddiannau eraill

      M – Meithrin ymddiriedaeth a hyder

      Meithrin ymddiriedaeth a hyder – gall pobl ddibynnu ar weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig; bydd pobl yn gwybod eich bod yn dilyn y Cod.

      Gwerthfawrogi gweithwyr gofal cymdeithasol – gallwch ddangos bod gennych y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i fod yn weithwyr gofal cymdeithasol. Gallwch ddangos eich bod wedi cael hyfforddiant a'ch bod yn cymryd cyfrifoldeb am ddatblygu gwybodaeth a sgiliau.

      Gall cyflogwyr ddarparu'r cymorth a'r datblygiad sydd eu hangen arnoch; bydd gwybod mwy amdanoch yn ein helpu i gynllunio ffyrdd i'ch cefnogi.

      Sicrhau bod pobl yn ddiogel – amddiffyn hawliau pobl a sicrhau y gwrandewir arnynt a helpu pobl i fod yn annibynnol ac amddiffyn eu hunain. Os nad yw gweithwyr yn gymwys i ymarfer, gallant gael eu tynnu oddi ar y Gofrestr ac ni fyddant yn gallu ymarfer yng Nghymru.

      Manteision eraill – y gallu i ddefnyddio teitl eich proffesiwn yn gyfreithlon; cael cymorth a gwybodaeth o'n dogfennau canllawiau ymarfer a chyhoeddiadau eraill; gwahoddiadau i ddigwyddiadau a chynadleddau gwahoddiadau i ymgyngoriadau.