Protection: care, adaptability and independence

Diogelwch: gofal, addasrwydd ac annibyniaeth

British housing

This may include:

  • care
  • health support and systems
  • social security
  • work
  • social environment
  • co-operation
  • help.

Maslow’s hierarchy refers to protection from elements, security, order, law, stability and freedom from fear. This includes factors in the personal environment that help an individual feel safe, e.g. a safe and secure home, a trusted adult caring for a child or a sick or elderly individual. It also includes services within society that support good physical and mental health, e.g. healthcare/hospitals, social security, insurance and employment. Services provided may support individuals to maintain their independence, thus supporting positive mental health and self-esteem.

Gallai hyn gynnwys:

  • gofal
  • cymorth a systemau iechyd
  • nawdd cymdeithasol
  • gwaith
  • amgylchedd cymdeithasol
  • cydweithrediad
  • cymorth.

Mae hierarchaeth Maslow yn cyfeirio at ddiogelu rhag yr elfennau, diogelwch, trefn, cyfraith, sefydlogrwydd a rhyddid rhag ofn. Mae hyn yn cynnwys ffactorau yn yr amgylchedd personol sy'n helpu unigolyn i deimlo'n ddiogel, e.e. cartref saff a diogel, oedolyn y gellir ymddiried ynddo yn gofalu am blentyn neu unigolyn sâl neu oedrannus. Hefyd mae'n cynnwys gwasanaethau yn y gymdeithas sy'n cefnogi iechyd corfforol ac iechyd meddwl da, e.e. gofal iechyd/ysbytai, nawdd cymdeithasol, yswiriant a chyflogaeth. Bydd y gwasanaethau a ddarperir yn gallu cefnogi unigolion i gynnal eu hannibyniaeth, ac felly byddan nhw'n cefnogi iechyd meddwl a hunan-barch cadarnhaol.

Maslow’s hierarchy of needs

Hierarchaeth anghenion Maslow

Explain how health and social workers can use Maslow’s hierarchy of needs to promote health and well-being.

Tip: Find out what the basic human needs are and then choose a health/social care setting, e.g. residential care home for adults or children.

Esboniwch sut mae gweithwyr iechyd a chymdeithasol yn gallu defnyddio hierarchaeth anghenion Maslow i hyrwyddo iechyd a llesiant.

Awgrym: Chwiliwch i weld beth yw'r anghenion dynol sylfaenol ac yna dewiswch leoliad iechyd/gofal cymdeithasol, e.e. cartref gofal preswyl i oedolion neu i blant.

Suggested answers

A care worker could meet basic needs by offering a healthy diet, regular drinks and sufficient heating to individuals who are living in that care home.

Safety needs can be met by using security codes, alarms and having DBS checks for all staff.

Love and belonging needs can be met by ensuring individuals are respected, involved in all activities, are visited by friends and family and provided support for medical visits.

Self-esteem needs can be met by encouraging individuals to voice their opinions and respecting these opinions, encouraging individuals to remain independent and acknowledging their strengths.

Atebion awgrymedig

Byddai gweithiwr gofal yn gallu bodloni anghenion sylfaenol drwy gynnig deiet iach, diodydd rheolaidd a digon o wres i unigolion sy'n byw yn y cartref gofal hwnnw.

Mae'n bosibl bodloni anghenion diogelwch drwy ddefnyddio codau diogelwch, larymau a bod â gwiriadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i bob aelod o staff.

Mae'n bosibl bodloni anghenion caru a pherthyn drwy sicrhau bod unigolion yn cael eu parchu, yn cael eu cynnwys ym mhob gweithgaredd, yn cael ymweliadau gan ffrindiau a theulu a'u bod yn cael cefnogaeth ar gyfer ymweliadau meddygol.

Mae'n bosibl bodloni anghenion hunan-barch drwy annog unigolion i leisio eu barn a pharchu'r farn honno, gan annog unigolion i barhau i fod yn annibynnol a chydnabod eu cryfderau.

Fundamental human needs

Anghenion dynol sylfaenol

What factors can contribute to the achievement of the fundamental human need of protection (including care, adaptability and independence)? Pa ffactorau sy'n gallu cyfrannu i gyflawni angen dynol sylfaenol diogelwch (gan gynnwys gofal, addasrwydd ac annibyniaeth)?

Fundamental human needs Anghenion dynol sylfaenol