Leisure: exercise, relaxation and enjoyment

Hamdden: ymarfer, ymlacio a mwynhad

Friends dancing together

This includes:

  • exercise
  • games
  • parties
  • tranquility
  • relaxation
  • social opportunities
  • spontaneity.

All individuals need periods of rest, both physically and mentally. Leisure time and socialising are important for maintaining good mental and emotional health and provide a time when an individual feels able to forget day-to-day stresses. Stress and a lack of relaxation are linked to many mental health problems.

A variety of leisure and recreation activities are available across the lifespan, e.g. clubs and societies, leisure centres, exercise opportunities and open air activities.

Being active can help prevent or maintain control of some chronic illnesses such as heart disease, diabetes, arthritis and even some types of cancer. Moving can assist in stretching muscles and improving flexibility. Being more active during the day can also improve one’s quality of sleep.

Most people pursue hobbies because they enjoy them, and this can help relieve stress. Many hobbies can also challenge an individual’s mental abilities and enhance their problem-solving skills.

Some hobbies can create social opportunities and improve self-esteem.

Mae hyn yn cynnwys:

  • ymarfer corff
  • gemau
  • partïon
  • llonyddwch
  • ymlacio
  • cyfleoedd cymdeithasol
  • bod yn ddigymell.

Mae angen cyfnodau o orffwys, yn gorfforol ac yn feddyliol, ar bob unigolyn. Mae amser hamdden a chymdeithasu'n bwysig ar gyfer cynnal iechyd meddwl ac emosiynol da ac mae’n rhoi cyfnod o amser pan mae unigolyn yn teimlo ei fod yn gallu anghofio straen o ddydd i ddydd. Mae straen a diffyg ymlacio'n gysylltiedig â llawer o broblemau iechyd meddwl.

Mae amrywiaeth o weithgareddau hamdden ac adloniant ar gael ar draws y rhychwant oes, e.e. clybiau a chymdeithasau, canolfannau hamdden, cyfleoedd i ymarfer corff a gweithgareddau awyr agored.

Mae bod yn egnïol yn gallu atal neu gadw rheolaeth ar rai afiechydon cronig fel clefyd y galon, diabetes, arthritis a hyd yn oed rhai mathau o ganser. Mae symud yn gallu helpu i ymestyn cyhyrau a gwella hyblygrwydd. Mae bod yn fwy egnïol yn ystod y dydd yn gallu gwella ansawdd cwsg person hefyd.

Mae'r mwyafrif o bobl yn dilyn diddordebau oherwydd eu bod yn eu mwynhau nhw, a gall hyn helpu i liniaru straen. Hefyd mae llawer o hobïau'n gallu herio gallu meddyliol unigolyn a gwella ei sgiliau datrys problemau.

Mae rhai hobïau'n gallu creu cyfleoedd cymdeithasol a gwella hunan-barch.

Leisure: exercise and relaxation

Hamdden: ymarfer corff ac ymlacio

Leisure, exercise and relaxation can take many forms across the lifespan. In later adulthood, reduced mobility may impact on leisure opportunities. Try to identify some social opportunities within this quiz

Gall hamdden, ymarfer corff ac ymlacio fod ar sawl ffurf ar draws y rhychwant oes. Gyda’r henoed, os nad yw eu symudedd nhw cystal, gall hyn effeithio ar gyfleoedd hamdden. Ceisiwch nodi rhai cyfleoedd cymdeithasol yn y cwis hwn

Reset quiz Ailgychwyn cwis