What is active participation?

Beth yw cyfranogiad gweithredol?

care

Active participation involves enabling individuals to be included in planning their own care and support and in having a greater say in how they live their lives, in ways that matter to them.

Active participation recognises an individual’s right to participate in the activities and functions of everyday life as independently as possible. In doing this, the individual is an active partner in their own care and support, rather than receiving the care and support others think they need and want. Key benefits to the individual as an active partner in their own care or support include physical, psychological and social benefits, and improved well-being.

Mae cyfranogiad gweithredol yn golygu galluogi unigolion i gael eu cynnwys yn y gwaith o gynllunio eu gofal a'u cymorth eu hunain ac i gael mwy o lais yn y ffordd maent yn byw eu bywyd, mewn ffyrdd sydd o bwys iddynt.

Mae cyfranogiad gweithredol yn cydnabod hawl unigolyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau a thasgau bywyd bob dydd mor annibynnol â phosibl. Drwy wneud hyn, mae’r unigolyn yn bartner gweithredol yn ei ofal a’i gymorth ei hun, yn hytrach na’i fod yn cael y gofal a’r cymorth y mae pobl eraill yn credu sydd eu heisiau a’u hangen arno. Ymhlith y manteision allweddol i’r unigolyn fel partner gweithredol yn ei ofal neu ei gymorth ei hun mae manteision corfforol, seicolegol a chymdeithasol, a llesiant gwell.

How can we provide a rights-based approach?

Sut y gallwn sicrhau dull gweithredu seiliedig ar hawliau?

Female careworker

Carers will often be supporting individuals when they are in a vulnerable position. The quality of care that can be provided will be improved if carers have knowledge of the whole individual, not just the current circumstances. For example, knowledge can help to develop a better understanding as to why individuals behave in the way they do.

Person-centred planning involves seeing the individual being supported as the central concern. Carers need to find ways to care for and support each individual in a way which is specific to their needs.

A rights-based approach involving person-centred planning is a way of helping individuals to think about what they want now and in the future. It is about supporting individuals to plan their lives, work towards their goals and get the right support. It is a collection of tools and approaches based upon a set of shared values that can be used to plan with an individual, not for them. Planning should build the individual’s circle of support and involve all the individuals who are important in their life.

Yn aml, bydd gofalwyr yn cefnogi unigolion pan fyddant mewn sefyllfa fregus. Bydd safon y gofal y gellir ei ddarparu yn well os bydd gan ofalwyr wybodaeth am yr unigolyn cyfan, nid dim ond yr amgylchiadau presennol. Er enghraifft, gall gwybodaeth helpu i ddeall yn well pam mae unigolion yn ymddwyn fel y maent.

Mae gwaith cynllunio sy’n berson-ganolog yn golygu ystyried mai’r unigolyn a gefnogir sydd bwysicaf. Mae angen i ofalwyr ddod o hyd i ffyrdd o roi gofal a chymorth i bob unigolyn mewn ffordd sy’n benodol i’w anghenion.

Mae dull gweithredu seiliedig ar hawliau, sy’n cynnwys gwaith cynllunio sy’n berson-ganolog, yn ffordd o helpu unigolion i feddwl am yr hyn y maent am ei gael nawr ac yn y dyfodol. Y nod yw helpu unigolion i gynllunio eu bywydau, gweithio tuag at gyflawni eu nodau a chael y cymorth cywir. Yr hyn sydd dan sylw yw casgliad o adnoddau a dulliau gweithredu sy'n seiliedig ar gyfres o werthoedd a rennir y gellir eu defnyddio i gynllunio gydag unigolyn, nid ar ei ran. Dylai'r gwaith cynllunio ddatblygu cylch cymorth yr unigolyn a chynnwys yr holl unigolion sy'n bwysig yn ei fywyd.

How can we provide a rights-based approach?

Sut y gallwn sicrhau dull gweithredu seiliedig ar hawliau?

Research care plans on the internet and compare them.

What are the differences?

Which do you think offers more choices for individuals?

Which do you think supports a rights-based approach most effectively?

Ymchwiliwch i gynlluniau gofal ar y rhyngrwyd a'u cymharu.

Beth yw'r gwahaniaethau?

Pa rai sy'n cynnig mwy o ddewisiadau i unigolion yn eich barn chi?

Pa rai sy'n cefnogi dull gweithredu seiliedig ar hawliau yn fwyaf effeithiol yn eich barn chi?

Suggested response

Look for:

  • clear guidance
  • clear language
  • involvement with the individual
  • headings which meet the needs of individuals
  • space for review and amendment.

Ymateb awgrymedig

Chwiliwch am y canlynol:

  • canllawiau clir
  • iaith glir
  • cynnwys yr unigolyn
  • penawdau sy'n diwallu anghenion unigolion
  • lle i adolygu a diwygio.

Meaningful and enjoyable activities and experiences

Profiadau a gweithgareddau ystyrlon a phleserus

Active participation

Person-centred approaches ensure that everyone has the desire to fulfil their personal potential. It is important to provide a safe, non-judgemental and compassionate place, where the individual can be supported to think about what is important to them and make the best decisions.

An individual’s well-being includes their sense of hope, confidence and self-esteem, and their ability to communicate wants and needs, to socialise and to experience and show pleasure or enjoyment. This can involve the activities and experiences an individual chooses to take part in. To promote an individual’s well-being, they need to be happy with as many aspects of their life as possible. If the individual thinks that something would help them to feel better, health and social care workers need to be positive, understanding, empathic and non-judgemental. They should listen to what the individual considers to be important in their lives and help them to make the changes they want, such as being able to join in particular activities or groups, for example.

Mae dulliau gweithredu sy’n berson-ganolog yn sicrhau bod pawb yn awyddus i wireddu ei botensial personol. Mae'n bwysig darparu rhywle diogel, tosturiol a lle nad oes barnu, lle y gellir helpu'r unigolyn i feddwl am yr hyn sy'n bwysig iddo a gwneud y penderfyniadau gorau.

Mae llesiant unigolyn yn cynnwys ei ymdeimlad o obaith, hyder a hunan-barch, a'i allu i gyfleu'r hyn sydd ei eisiau a'i angen arno, i gymdeithasu ac i gael a dangos pleser neu fwynhad. Gall hyn gynnwys y gweithgareddau a'r profiadau y bydd unigolyn yn dewis cymryd rhan ynddynt. Er mwyn hybu llesiant unigolyn, bydd angen iddo fod yn hapus â chynifer o agweddau ar ei fywyd â phosibl. Os bydd yr unigolyn o'r farn y byddai rhywbeth yn ei helpu i deimlo'n well, mae angen i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol fod yn gadarnhaol, yn amyneddgar ac yn empathig, a pheidio â barnu. Dylent wrando ar yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn yn ei fywyd, a'i helpu i wneud y newidiadau y mae am eu gwneud, fel gallu ymuno mewn gweithgareddau neu grwpiau penodol, er enghraifft.

Meaningful and enjoyable activities and experiences

Profiadau a gweithgareddau ystyrlon a phleserus

Why is it important to know what an individual’s history, preferences, wishes and needs are in order to support them in a person-centred way?

Pam mae'n bwysig gwybod beth yw hanes, dewisiadau, dymuniadau ac anghenion unigolyn er mwyn helpu mewn ffordd sy’n berson-ganolog?

Suggested response

  • to meet needs, wishes and preferences
  • to acknowledge the individual’s history
  • to identify activities which may interest them
  • to encourage communication and interaction.

Ymateb awgrymedig

  • er mwyn diwallu anghenion a bodloni dymuniadau a dewisiadau
  • er mwyn cydnabod hanes yr unigolyn
  • er mwyn nodi gweithgareddau a all fod o ddiddordeb iddo
  • er mwyn annog cyfathrebu a rhyngweithio.

How are person-centred approaches used to support active participation and inclusion?

Sut mae dulliau gweithredu person-ganolog yn cael eu defnyddio i gefnogi cyfranogiad gweithredol a chynhwysiant?

A health visitor and patient

Person-centred thinking and care and support planning tools enable health and social care workers to take a creative approach to problem-solving, ensuring the best possible support and care is given on a consistent and appropriate level.

When supporting individuals, it is vital that the individual is involved in any decision making and planning in relation to their lives and their care needs. Health and social care workers must remember that the individual is at the foundation of care and support planning and of all aspects of their daily lives. It is their body, their life and their care. Care and support planning and practice which is not person-centred is not inclusive or supportive of active participation. Health and social care workers must value an individual’s role in this process - doing this is best practice. It is essential to empowering individuals in their own care and to ensuring they feel included and involved at every stage. Individuals are then active participants in their own lives, in their care and in decision making.

Mae ffyrdd o feddwl ac adnoddau cynllunio gofal a chymorth sy'n berson-ganolog yn galluogi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i ddatrys problemau mewn ffordd greadigol, gan sicrhau bod y gofal a'r cymorth gorau posibl, ar lefel gyson a phriodol, yn cael eu darparu.

Wrth gefnogi unigolion, mae'n hollbwysig bod yr unigolyn yn cael ei gynnwys wrth wneud unrhyw benderfyniadau ac mewn unrhyw waith cynllunio mewn perthynas â'u bywydau a'u hanghenion gofal. Rhaid i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol gofio bod yr unigolyn wrth wraidd gwaith cynllunio gofal a chymorth a phob agwedd ar ei fywyd beunyddiol. Ei gorff, ei fywyd a'i ofal ei hun sydd dan sylw. Nid yw gwaith cynllunio nac ymarfer ym maes gofal nad ydynt yn berson-ganolog yn cefnogi cyfranogiad gweithredol nac yn gynhwysol. Rhaid i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol roi gwerth ar rôl unigolyn yn y broses hon – gwneud hyn yw'r arfer gorau. Mae hyn yn hanfodol er mwyn grymuso unigolion yn eu gofal eu hunain a sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys ar bob cam. Wedyn, bydd unigolion yn gyfranogwyr gweithredol yn eu bywydau eu hunain, yn eu gofal ac wrth wneud penderfyniadau.

How are person-centred approaches used to support active participation and inclusion?

Sut mae dulliau gweithredu person-ganolog yn cael eu defnyddio i gefnogi cyfranogiad gweithredol a chynhwysiant?

Explain how the care and support assessment and planning process or documentation can be adapted to maximise an individual’s active participation, inclusion and their control of it.

Esboniwch sut y gellir addasu'r broses neu'r ddogfennaeth asesu a chynllunio gofal a chymorth er mwyn cynyddu cyfranogiad gweithredol, cynhwysiant a rheolaeth unigolyn i'r eithaf.

Suggested response

  • clear terminology
  • use of symbols/pictures
  • level of involvement to be appropriate to their ability
  • use of preferred communication methods
  • access to venues
  • use of interpreters, advocates.

Ymateb awgrymedig

  • terminoleg glir
  • defnyddio symbolau/lluniau
  • cynnwys yr unigolyn i raddau sy'n briodol i'w allu
  • defnyddio dulliau cyfathrebu a ffefrir
  • mynediad i leoliadau
  • defnyddio cyfieithwyr/dehonglwyr, eiriolwyr.