Intellectual development of adolescents

Datblygiad deallusol mewn pobl ifanc yn ystod llencyndod

A smiling teenage boy

During adolescence young people begin secondary education and start to make decisions about their future studies and careers. Learning during this period is usually centred on schooling and examinations. It is important during this time that individuals are well supported and encouraged in their studies to ensure success and better life chances in relation to employment. There are a lot of talented learners in Welsh secondary schools whose potential may not be being developed fully enough. Schools under the Welsh Government “More Able and Talented” initiative are encouraged to consider whether they are offering children the full range of experiences and opportunities that will enable them to reach their potential and prosper.

Further information at http://matwales.org/

However, in the early stages of this, they may not make good decisions as they have no life experience.

Yn ystod llencyndod, mae pobl ifanc yn dechrau addysg uwchradd ac yn dechrau gwneud penderfyniadau am eu hastudiaethau a'u gyrfaoedd yn y dyfodol. Fel arfer, mae dysgu yn ystod y cyfnod hwn yn canolbwyntio ar ddysgu yn yr ysgol ac arholiadau. Mae'n bwysig sicrhau bod unigolion yn cael digon o gymorth yn ystod y cyfnod hwn a'u bod yn cael eu hannog wrth astudio er mwyn sicrhau llwyddiant a gwell cyfleoedd bywyd mewn perthynas â chyflogaeth. Mae llawer o ddysgwyr talentog mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru nad yw eu potensial o bosibl yn cael ei ddatblygu'n ddigonol. O dan fenter "Mwy Abl a Thalentog" Llywodraeth Cymru, anogir ysgolion i ystyried a ydyn nhw'n cynnig yr amrywiaeth lawn o brofiadau a chyfleoedd i blant a fydd yn eu galluogi i gyflawni eu potensial a ffynnu.

Ceir rhagor o wybodaeth yn http://matwales.org/

Fodd bynnag, yn ystod y camau cynnar hyn, mae'n bosibl na fyddan nhw'n gwneud penderfyniadau da gan nad oes ganddyn nhw unrhyw brofiad bywyd.

Piaget’s cognitive development stages

Camau datblygiad gwybyddol Piaget

Human brain made from wooden blocks

Formal operational

Children 11 years old and older fall into Piaget’s formal operational stage. A milestone of this period is using symbols to understand abstract concepts. Not only that, but older children and adults can also think about multiple variables and come up with hypotheses based on previous knowledge.

Piaget believed that people of all stages developed intellectually. He also believed that once a person reaches the formal operational stage, it’s more about building upon knowledge, not changing how it is acquired or understood.

Gweithredu ffurfiol

Mae stad weithredu ffurfiol Piaget yn berthnasol i blant 11 oed a throsodd. Un o gerrig milltir y cyfnod hwn yw defnyddio symbolau i ddeall cysyniadau haniaethol. Nid yn unig hynny, ond gall plant hŷn ac oedolion hefyd feddwl am newidynnau lluosog a chyflwyno rhagdybiaethau yn seiliedig ar wybodaeth flaenorol.

Roedd Piaget o'r farn bod pobl ar bob cam yn datblygu'n ddeallusol. Roedd hefyd o'r farn, unwaith yr oedd person yn cyrraedd y cam gweithredu ffurfiol, ei fod a wnelo mwy ag adeiladu ar wybodaeth, yn hytrach na newid y ffordd y caiff y wybodaeth honno ei chaffael neu ei deall.

Intellectual development in early adulthood

Datblygiad deallusol mewn oedolaeth gynnar

Young adults hugging during graduation ceremony

Intellectual development continues throughout adulthood. Individuals may be completing education in university or starting jobs. Some will also decide to return to education to improve their qualifications or complete training for the workforce. Most jobs will require the development of new skills and ongoing professional development through training. For example, those who move into work in health and social care will have to complete training in order to carry out their roles effectively.

As well as this, during adulthood, individuals may move out of the family home and will need to develop skills in housekeeping, such as cooking, raising children and/or budgeting.

Mae datblygiad deallusol yn parhau drwy gydol oedolaeth. Mae'n bosibl y bydd unigolion yn cwblhau addysg mewn prifysgol neu'n dechrau swyddi. Bydd rhai hefyd yn penderfynu dychwelyd i fyd addysg er mwyn gwella eu cymwysterau neu gwblhau hyfforddiant ar gyfer y gweithlu. Bydd angen meithrin sgiliau newydd ac ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus drwy hyfforddiant ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi. Er enghraifft, bydd yn rhaid i'r rheini sy'n symud i mewn i waith yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol gwblhau hyfforddiant er mwyn ymgymryd â'u rolau'n effeithiol.

Yn ogystal â hyn, yn ystod oedolaeth, mae'n bosibl y bydd unigolion yn symud allan o gartref y teulu ac y bydd angen iddyn nhw feithrin sgiliau cadw tŷ, fel coginio, magu plant a/neu gyllidebu.

Intellectual development in early adulthood

Datblygiad deallusol mewn oedolaeth gynnar

Susie is 21 years of age and has recently completed a degree in health & social care in university. She is now starting her first job, which is an assistant manager’s post in a residential home for elderly people with Dementia. Susie will have an induction period where she has to have training which includes health and safety, and safeguarding. She has recently moved out from her parents’ home into her own flat which she is renting.

Identify 4 ways that Susie will be developing new skills

Mae Susie yn 21 oed ac wedi cwblhau gradd mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn y brifysgol yn ddiweddar. Mae bellach yn dechrau yn ei swydd gyntaf, sef swydd rheolwr cynorthwyol mewn cartref preswyl i henoed â Dementia. Bydd Susie yn ymgymryd â chyfnod sefydlu lle y mae'n rhaid iddi gael hyfforddiant sy'n cynnwys iechyd a diogelwch, a diogelu. Mae wedi symud allan o gartref ei rhieni yn ddiweddar ac wedi symud i'w fflat ei hun y mae'n ei rhentu.

Nodwch 4 ffordd y bydd Susie yn meithrin sgiliau newydd.

Suggested response

  1. health and safety training
  2. safeguarding training
  3. budgeting for her new flat
  4. cooking and housekeeping skills.

Ymateb awgrymedig

  1. hyfforddiant iechyd a diogelwch
  2. hyfforddiant diogelu
  3. cyllidebu ar gyfer ei fflat newydd
  4. sgiliau coginio a chadw tŷ.

Welsh language

Y Gymraeg

The Welsh language strategy, Cymraeg 2050, is the government’s strategy for the promotion and facilitation of the use of the Welsh language.

The Cymraeg 2050 strategy sets out the Welsh Government’s long-term approach to achieving the target of a million Welsh speakers by 2050.

Read more at: https://bit.ly/2ZazN6j

The challenge of achieving a million Welsh speakers by 2050 calls for far-reaching changes. Boundaries need to be pushed and ambitious action taken to enable more people to learn and use Welsh.

The strategy identifies three strategic themes to achieve this.

  • Theme 1 - Increasing the number of Welsh speakers.
  • Theme 2 - Increasing the use of Welsh.
  • Theme 3 - Creating favourable conditions.

List the benefits of using and supporting the Welsh language in the health and social care sector.

Cymraeg 2050, strategaeth y Gymraeg, yw strategaeth y Llywodraeth ar gyfer hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn nodi dull gweithredu hirdymor Llywodraeth Cymru o ran cyflawni'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Darllenwch fwy yn: https://bit.ly/2A2N3S5

Er mwyn ymateb i'r her o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae angen newidiadau pellgyrhaeddol. Mae angen gwthio ffiniau a chymryd camau uchelgeisiol er mwyn galluogi mwy o bobl i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg.

Mae'r strategaeth yn nodi tair thema strategol er mwyn cyflawni hyn.

  • Thema 1 - Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.
  • Thema 2 - Cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.
  • Thema 3 - Creu amodau ffafriol.

Rhestrwch fuddiannau defnyddio a chefnogi'r Gymraeg yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Intellectual changes in adulthood

Newidiadau deallusol mewn oedolaeth

Friends sat on a sofa

In adulthood, you are likely to have achieved greater employment opportunities and a greater mental capacity. You are able to make decisions and learn how to live independently, hold down a job, manage finances and be responsible for yourself and other people. This is the same for both males and females.

Mewn oedolaeth, mae'n debygol y byddwch chi wedi cael mwy o gyfleoedd cyflogaeth ac y bydd gennych chi well galluedd meddyliol. Gallwch wneud penderfyniadau a dysgu sut i fyw'n annibynnol, cadw swydd, rheoli arian a bod yn gyfrifol amdanoch chi eich hun a phobl eraill. Mae hyn yn wir ar gyfer dynion a menywod.

Intellectual changes in adulthood

Newidiadau deallusol mewn oedolaeth

Mo is 41 years old and works full time as a bricklayer. He has just started a part time course studying health and social care in the evenings at his local college. He is also learning Welsh.

Explain the effects of attending college or learning the Welsh language.

Mae Mo yn 41 oed ac yn gweithio'n llawn amser fel briciwr. Mae newydd ddechrau cwrs rhan amser yn astudio iechyd a gofal cymdeithasol gyda'r nos yn ei goleg lleol. Mae hefyd yn dysgu Cymraeg.

Esboniwch effeithiau mynd i'r coleg neu ddysgu Cymraeg.

Suggested response

Mo will have to develop problem solving skills as he will need to know how to write assignments and will need to participate in group discussions. This will require mental capacity and memory development. This may result in Mo achieving a qualification, which could result in full time employment in health and social care.

Ymateb awgrymedig

Bydd yn rhaid i Mo feithrin sgiliau datrys problemau gan y bydd angen iddo wybod sut i ysgrifennu aseiniadau ac y bydd angen iddo gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp. Bydd angen galluedd meddyliol a bydd angen datblygu'r cof. Gall arwain at gymhwyster i Mo, a allai arwain at gyflogaeth lawn amser yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.