Later adulthood

Oedolaeth ddiweddarach

A group of senior adults

During later adulthood, the ageing process becomes more apparent.

Hair loss becomes apparent for some, and for others, greying of the hair occurs. Hearing and sight also further decline. Skin continues to dry out and is prone to more wrinkling, particularly on the sensitive face area. Age spots and blood vessels become more apparent as the skin continues to dry and get thinner.

The muscle-to-fat ratio for both men and women also changes with an accumulation of fat in the stomach area. Fine motor skills are more difficult, and coordination and reaction times are slower.

Yn ystod oedolaeth ddiweddarach, daw'r broses heneiddio yn fwy amlwg.

Mae rhai yn amlwg yn colli eu gwallt, ac mae gwallt eraill yn britho. Mae'r clyw a'r golwg hefyd yn dirywio ymhellach. Mae'r croen yn parhau i sychu ac mae crychau yn fwy tueddol o ymddangos, yn enwedig ar ardal sensitif yr wyneb. Daw smotiau oed a phibellau gwaed yn amlycach wrth i'r croen barhau i sychu a theneuo.

Mae'r gymhareb cyhyrau-i-fraster i ddynion a menywod hefyd yn newid ac mae braster yn cronni yn ardal y stumog. Mae sgiliau echddygol manwl yn fwy anodd, ac mae'r gallu i gydgysylltu symudiadau ac amseroedd ymateb yn arafach.

Later adulthood

Oedolaeth ddiweddarach

QuestionCwestiwn Your ResponseEich Ymateb Suggested ResponseYmateb Awgrymedig

Suggested Response:

Ymateb Awgrymedig:

Later adulthood

Oedolaeth ddiweddarach

A senior woman looking through blinds

Most people after the age of 65 will have some reduction in the efficiency of their body. During late adulthood, the skin continues to lose elasticity, reaction times slow further and muscle strength diminishes.

Hearing and vision decline significantly; cataracts, or cloudy areas of the eyes that result in vision loss, are frequent. The other senses, such as taste, touch, and smell, are also less sensitive than they were in earlier years.

The immune system is weakened, and many older people are more susceptible to illness, cancer, diabetes, and other ailments. Cardiovascular and respiratory problems become more common in old age. Seniors also experience a decrease in physical mobility and a loss of balance, which can result in falls and injuries.

Bydd cyrff y rhan fwyaf o bobl ar ôl 65 oed yn llai effeithlon. Yn ystod oedolaeth ddiweddarach, mae'r croen yn parhau i golli elastigedd, mae amseroedd ymateb yn arafu ymhellach ac mae cryfder y cyhyrau yn lleihau.

Mae'r clyw a'r golwg yn dirywio'n sylweddol; mae cataractau, neu ardaloedd cymylog yn y llygaid sy'n golygu na ellir gweld cystal, yn gyffredin. Mae'r synhwyrau eraill, fel blas, cyffyrddiad ac arogl, hefyd yn llai sensitif nag yn ystod y blynyddoedd cynharach.

Mae'r system imiwnedd yn wannach, ac mae llawer o bobl hŷn yn fwy tebygol o gael salwch, canser, diabetes ac anhwylderau eraill. Daw problemau cardiofasgwlar a resbiradol yn fwy cyffredin wrth heneiddio. Mae lefelau symudedd corfforol pobl hŷn hefyd yn is ac maen nhw'n colli eu synnwyr o gydbwysedd, a all arwain at gwympiadau ac anafiadau.

Later adulthood

Fill in the blanks of how each system of the body is affected during the ageing process.

Oedolaeth ddiweddarach

Llenwch y bylchau er mwyn nodi sut y mae'r broses heneiddio yn effeithio ar holl systemau'r corff.

Your Answers

The heart, breathing and circulation become less efficient.

The muscles may become weaker and skin less elastic, leading to wrinkles.

Muscles, joints and bones become less flexible. This can lead to limited mobility and risk of fractures.

Blood capillaries in the skin are more likely to burst, meaning that bruising can happen more easily.

Correct answers

The heart, breathing and circulation become less efficient.

The muscles may become weaker and skin less elastic, leading to wrinkles.

Muscles, joints and bones become less flexible. This can lead to limited mobility and risk of fractures.

Blood capillaries in the skin are more likely to burst, meaning that bruising can happen more easily.

Eich atebion

Daw'r galon, y gallu i anadlu a chylchrediad yn llai effeithlon.

Mae'n bosibl y bydd y cyhyrau yn wannach ac na fydd cymaint o elastigedd yn y croen, gan arwain at grychau.

Daw'r cyhyrau, y cymalau a'r esgyrn yn llai ystwyth. Gall hyn arwain at symudedd cyfyngedig a risg o dorri esgyrn.

Mae'r capilarïau gwaed yn y croen yn fwy tebygol o ffrwydro, sy'n golygu hefyd y bydd yr unigolyn o bosibl yn cleisio yn haws.

Atebion cywir

Daw'r galon, y gallu i anadlu a chylchrediad yn llai effeithlon.

Mae'n bosibl y bydd y cyhyrau yn wannach ac na fydd cymaint o elastigedd yn y croen, gan arwain at grychau.

Daw'r cyhyrau, y cymalau a'r esgyrn yn llai ystwyth. Gall hyn arwain at symudedd cyfyngedig a risg o dorri esgyrn.

Mae'r capilarïau gwaed yn y croen yn fwy tebygol o frwydro, sy'n golygu hefyd y bydd yr unigolyn o bosibl yn cleisio yn haws.