What is adolescence?

Beth yw llencyndod?

A teenage girl

Adolescence normally takes place between the ages of 13-19 years old, but this can vary. Some people argue that adolescence starts as soon as puberty occurs.

The main physical changes in adolescents are due to puberty.

Puberty begins following the production of hormones from the brain. These hormones travel through the blood to the testicles in boys and the ovaries in girls. This results in the ovaries releasing the hormones oestrogen and progesterone. A boy’s testicles will start releasing testosterone, which is the male hormone.

Following this action, girls will start their periods, along with noticing many other changes. Boys will also see many changes taking place in their body. The average age for girls is 11 years old and boys 13 years old, although it is completely normal for puberty to begin at any point from the ages of 8 to 14. The process can take up to 4 years to complete.

Read the following website in relation to changes in girls and boys before completing the next activity: https://bit.ly/3fMrCEg

Key terms of physical development during adolescence:

  • Puberty – Young people experience puberty. This is where the brain releases chemicals called hormones.
  • Hormones – The brain sends a signal to the pituitary gland which releases hormones that stimulate the ovaries in females and testes in males. These produce sex hormones. The main male hormone is testosterone. The main female hormones are oestrogen and progesterone.
  • Menstruation – A period is part of the menstrual cycle when a woman bleeds from her vagina for a few days (NHS, 2019).

Fel arfer, bydd llencyndod yn digwydd rhwng 13 ac 19 oed, ond gall hyn amrywio. Mae rhai yn dadlau bod llencyndod yn dechrau cyn gynted ag y bydd y glasoed yn digwydd.

Mae'r prif newidiadau corfforol mewn pobl ifanc yn ystod llencyndod yn digwydd oherwydd y glasoed.

Mae'r glasoed yn dechrau pan fydd yr ymennydd yn dechrau cynhyrchu hormonau. Mae'r hormonau hyn yn teithio drwy'r gwaed i'r ceilliau mewn bechgyn ac i'r ofarïau mewn merched. O ganlyniad, mae'r ofarïau yn rhyddhau hormonau oestrogen a phrogesteron. Bydd ceilliau bechgyn yn dechrau rhyddhau testosteron, sef yr hormon gwrywaidd.

Ar ôl i hyn ddigwydd, bydd merched yn dechrau eu misglwyf, ac yn sylwi ar lawer o newidiadau eraill. Bydd bechgyn hefyd yn gweld llawer o newidiadau yn eu cyrff. Yr oedran cyfartalog i ferched yw 11 oed a'r oedran cyfartalog i fechgyn yw 13 oed, er ei bod yn gwbl normal i'r glasoed ddechrau ar unrhyw adeg rhwng 8 ac 14 oed. Gall y broses gymryd hyd at 4 blynedd i'w chwblhau.

Darllenwch y wefan ganlynol mewn perthynas â newidiadau mewn merched a bechgyn cyn cwblhau'r gweithgaredd nesaf: https://bit.ly/3fMrCEg

Termau allweddol sy'n gysylltiedig â datblygiad corfforol yn ystod llencyndod:

  • Y glasoed – Mae'r glasoed yn effeithio ar bobl ifanc. Dyma pan fydd yr ymennydd yn rhyddhau cemegau o'r enw hormonau.
  • Hormonau – Mae'r ymennydd yn anfon arwydd at y chwarren bitwidol sy'n rhyddhau hormonau sy'n ysgogi'r ofarïau mewn merched a'r ceilliau mewn bechgyn. Mae'r rhain yn cynhyrchu hormonau rhyw. Testosteron yw'r prif hormon gwrywaidd. Oestrogen a phrogesteron yw'r prif hormonau benywaidd.
  • Mislif – Mae misglwyf yn rhan o'r cylch mislifol lle bydd menyw yn gwaedu o'i gwain am ychydig ddiwrnodau (GIG, 2019).

Physical changes in adolescents

Sort the following physical changes into the correct column.

Newidiadau corfforol mewn pobl ifanc yn ystod llencyndod

Rhowch y newidiadau corfforol canlynol yn y golofn gywir.




          Physical changes in adolescents

          Newidiadau corfforol mewn pobl ifanc yn ystod llencyndod

          Question 1

          Cwestiwn 1

          What age, on average, does menstruation start in girls?

          Ar gyfartaledd, ar ba oedran y bydd merched yn dechrau cael misglwyf?

          Periods usually begin around the age of 12, although some girls will start earlier or later.

          Fel arfer, bydd y misglwyf yn dechrau oddeutu 12 oed, er y bydd rhai merched yn dechrau'n gynharach neu'n ddiweddarach.

          Question 2

          Cwestiwn 2

          What are the physical signs of menstruation?

          Beth yw arwyddion corfforol y mislif?

          A woman bleeds from her vagina for a few days.

          Bydd menyw yn gwaedu o'i gwain am ychydig ddiwrnodau.

          Question 3

          Cwestiwn 3

          How do girls control the physical signs of menstruation?

          Sut mae merched yn rheoli arwyddion corfforol y mislif?

          Sanitary pads, tampons, menstrual cups.

          Padiau mislif, tamponau, cwpanau mislif.

          Follow on activity

          As health and social care learners, you have been asked by your GP surgery to provide some information for girls aged 11+ who could be about to start their menstrual cycle. This could be an information leaflet.

          You need to include the following information:

          • What is a menstrual cycle?
          • Why does it happen?
          • When does it happen?
          • What will happen?
          • Should I be worried?
          • What should I do?
          • Support groups.

          Remember your fact sheet is aimed at ages 11+, so use correct terminology.

          Gweithgaredd pellach

          Fel dysgwyr iechyd a gofal cymdeithasol, mae eich meddygfa wedi gofyn i chi ddarparu gwybodaeth i ferched 11+ oed a allai fod ar fin dechrau eu cylch mislifol. Gallai hyn fod ar ffurf taflen wybodaeth.

          Mae angen i chi gynnwys y wybodaeth ganlynol:

          • Beth yw cylch mislifol?
          • Pam mae'n digwydd?
          • Pryd mae'n digwydd?
          • Beth fydd yn digwydd ?
          • A ddylwn boeni?
          • Beth y dylwn ei wneud?
          • Grwpiau cymorth.

          Cofiwch fod eich taflen ffeithiau wedi'i hanelu at ferched 11+ oed, felly defnyddiwch y derminoleg gywir.

          Physical development

          Tanya and Tom are 14-year-old twins.

          Datblygiad corfforol

          Mae Tanya a Tom yn efeilliaid 14 oed.

          QuestionCwestiwn Your ResponseEich Ymateb Suggested ResponseYmateb Awgrymedig

          Suggested Response:

          Ymateb Awgrymedig: