Gender identity

Hunaniaeth rhywedd

Merged male and female symbol

At birth, babies are assigned male or female based on physical characteristics. Meanwhile, gender identity refers to an internal sense individuals have of who they are. This may be male, female, somewhere in between, a combination of both or neither.

Gender identity develops over time:

Around the age of 2: Children become conscious of the physical differences between boys and girls.

By 3: Most children can easily label themselves as either a boy or a girl.

By 4: Most children have a stable sense of their gender identity.

For most, their assigned gender will match their gender identity. However, for some children, the match between their assigned gender and gender identity is not so clear.

Adeg eu geni, caiff babanod eu pennu'n wryw neu'n fenyw yn seiliedig ar nodweddion corfforol. Ond, mae hunaniaeth rhywedd yn cyfeirio at ymdeimlad mewnol unigolion o bwy ydyn nhw. Gall hyn fod yn wryw, benyw, rhywle yn y canol, cyfuniad o'r ddau neu ddim un ohonyn nhw.

Mae hunaniaeth rhywedd yn datblygu dros amser:

Tua 2 oed: Daw plant yn ymwybodol o'r gwahaniaethau corfforol rhwng bechgyn a merched.

Erbyn 3 oed: Gall y rhan fwyaf o blant labelu eu hunain yn hawdd fel bachgen neu ferch.

Erbyn 4 oed: Mae gan y rhan fwyaf o blant ymdeimlad sefydlog o'u hunaniaeth rhywedd.

I'r rhan fwyaf, bydd y rhywedd a bennwyd iddyn nhw yn cyfateb i'w hunaniaeth rhywedd. Fodd bynnag, i rai plant, nid yw'r gyfatebiaeth rhwng y rhywedd a bennwyd iddyn nhw a'u hunaniaeth rhywedd mor glir.

Suggested classroom activity

Does anyone know what is meant by gender dysphoria?

Use your traffic lights on your desk:

RED – I have no idea.

AMBER – I think I may know but I’m not that sure.

GREEN – Yes, I know what this concept means, and I would be able to explain this and the impact it may have on a child’s growth and development.

Gweithgaredd awgrymedig ar gyfer yr ystafell ddosbarth

A oes unrhyw un yn gwybod beth a olygir gan 'dysfforia rhyw'?

Use your traffic lights on your desk:

COCH – Does dim syniad gen i.

OREN – Dwi'n credu fy mod i o bosibl yn gwybod ond dwi ddim yn hollol siŵr.

GWYRDD – Ydw, dwi'n gwybod beth a olygir gan y cysyniad hwn, a byddwn yn gallu ei esbonio a'r effaith y gall ei chael ar dwf a datblygiad plentyn.

Gender identification in childhood

Chloe is 7 years old and is insisting that she is a boy. Chloe refuses to wear girls’ clothes and refuses to play with any girls.

Using the thought shower, describe any possible effects that Chloe’s gender identification may have on her growth and development.

Adnabod rhywedd yn ystod plentyndod

Mae Chloe yn 7 oed ac yn mynnu mai bachgen ydyw. Mae Chloe yn gwrthod gwisgo dillad merched ac yn gwrthod chwarae ag unrhyw ferched.

Gan ddefnyddio'r gawod syniadau, disgrifiwch unrhyw effeithiau posibl y gall hunaniaeth rhywedd Chloe ei chael ar ei thwf a'i datblygiad.

Effects that Chloe’s gender identification may have on her growth and development Effeithiau posibl y gall hunaniaeth rhywedd Chloe ei chael ar ei thwf a'i datblygiad

Gender identification in childhood

Adnabod rhywedd yn ystod plentyndod

A divide between men and women

While gender dysphoria appears to be rare, the number of people being diagnosed with the condition is increasing, due to growing public awareness.

However, many people with gender dysphoria still face prejudice and misunderstanding (NHS - https://bit.ly/37JYKJU).

As a result, Chloe may face bullying at school which may prevent her from attending and, therefore, Chloe may fall behind in her studies.

Er bod achosion o ddysfforia rhyw yn brin, yn ôl pob tebyg, mae nifer y bobl sy'n cael diagnosis o'r cyflwr yn cynyddu, o ganlyniad i ymwybyddiaeth gynyddol ymhlith y cyhoedd.

Fodd bynnag, mae llawer o bobl â dysfforia rhyw yn wynebu rhagfarn ac yn cael eu camddeall o hyd (GIG - https://bit.ly/37JYKJU).

O ganlyniad, mae'n bosibl y bydd Chloe yn wynebu achosion o fwlio yn yr ysgol a fydd o bosibl yn ei hatal rhag mynd i'r ysgol ac, felly, mae'n bosibl y bydd Chloe ar ei hôl hi o ran eu hastudiaethau.

Gender identity

Hunaniaeth rhywedd

A girl with her head pressed against her knees

According to Gender Identity Wales:

At school, children with a gender identity issue are often subjected to abuse. Bullying can take many forms; isolation and exclusion, insults and name-calling, and even physical attacks. The child or teenager may have great difficulty in dealing with school life and can struggle to respond appropriately. However, education about gender identity issues in the school environment is very important and can be highly effective when dealing with these problems.

http://www.genderidentity.wales.nhs.uk/gender-dysphoria-in-children

Yn ôl Hunaniaeth Rhywedd Cymru:

Yn yr ysgol, bydd plant â phroblemau o ran hunaniaeth rhywedd yn aml yn cael eu cam-drin. Gallan nhw gael eu bwlio mewn sawl gwahanol ffordd; cael eu hynysu a'u hallgáu, eu sarhau a galw enwau arnyn nhw, a hyd yn oed ymosod yn gorfforol arnyn nhw. Gall plant neu bobl ifanc yn eu harddegau ei chael hi'n anodd iawn ymdopi â bywyd ysgol ac ymateb yn briodol. Fodd bynnag, mae addysg am faterion hunaniaeth rhywedd mewn ysgolion yn bwysig iawn a gall fod yn hynod effeithiol wrth ymdrin â'r problemau hyn.

http://www.dysfforiarhywedd.cymru.nhs.uk/dysfforia-rhyw-mewn-plant

Gender identification/development in Wales

Adnabod/datblygu rhywedd yng Nghymru

A group of young adult friends

Mermaids is passionate about supporting children, young people, and their families to achieve a happier life in the face of great adversity. They work to raise awareness about gender non-conformity in children and young people amongst professionals and the general public. They campaign for the recognition of gender dysphoria in young people and call for improvements in professional services.

https://mermaidsuk.org.uk/about-us/

Mae Mermaids yn frwd dros gefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i fyw bywyd hapusach er gwaethaf yr heriau sylweddol y maen nhw'n eu hwynebu. Mae'n gweithio i godi ymwybyddiaeth am blant a phobl ifanc nad ydyn nhw'n cydymffurfio o ran rhywedd ymhlith gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd. Mae'n ymgyrchu i gydnabod dysfforia rhyw ymhlith pobl ifanc ac yn galw am welliannau mewn gwasanaethau proffesiynol.

https://mermaidsuk.org.uk/about-us/