Hydration and breastfeeding

Hydradu a bwydo ar y fron

A woman breastfeeding her baby

Hydration

The body uses water in all its cells, organs and tissues. Water is lost through breathing, sweating and digestion.

Rehydration replaces the water lost and has the following important benefits:

  • helps stop the mouth from being dry which can cause bad breath
  • promotes good cardiovascular health
  • helps regulate body temperature
  • lubricates joints and helps muscles work more efficiently
  • helps the kidneys clear waste from the blood.

Breastfeeding

Studies have found that breastfeeding for the first 6 months of life gives a baby the best start in life.

The health and developmental benefits for babies include:

  • reduces the risk of infection as the milk contains antibodies
  • reduces the risk of diarrhoea and vomiting
  • the baby is less likely to be constipated
  • the baby is less likely to develop nappy rash or eczema
  • reduces the risk of SIDS (sudden infant death syndrome)
  • reduces the risk of childhood leukaemia
  • reduces the risk of obesity
  • reduces the risk of cardiovascular disease in adulthood.

Breastfeeding also has a number of benefits for the mother:

  • reduces the risk of breast cancer
  • reduces the risk of ovarian cancer
  • reduces the risk of osteoporosis (weak bones)
  • reduces the risk of cardiovascular disease
  • reduces the risk of obesity
  • helps the uterus shrink back to size more quickly
  • helps develop the bond between mother and baby.

It is recommended that babies who are only given breastmilk in the first 6 months of life should also be given a daily supplement of vitamin D.

Bottle feeding

Babies may be bottle fed with expressed breast milk or infant formula.

Formula milk, also known as baby formula or infant formula, is usually made from cows’ milk that has been treated to make it more suitable for babies.

There's a wide range of different formula brands and types in the shops. They are labeled carefully to make sure suitable milk is purchased for the baby.

Formula comes in two different forms; a dry powder that can be made up with water and ready-to-feed liquid formula. While ready-to-feed liquid formula can be convenient, it tends to be more expensive and, once opened, needs to be used more quickly.

Formula milk provides babies with the nutrients they need to grow and develop. However, it doesn't have the same health benefits as breast milk for the mother and baby, for example, it can't protect the baby from infections.

Weaning

In the first 6 months of life, babies will only need breast milk or formula. After this, foods should be introduced gradually to prevent the risk of allergies.

Foods that need to be introduced one at a time include:

  • cow’s milk
  • eggs
  • foods that contain gluten, such as wheat, barley, rye
  • foods containing nuts and seeds
  • fish and shellfish.

Hydradu

Mae’r corff yn defnyddio dŵr yn ei holl gelloedd, ei organau a’i feinweoedd. Mae dŵr yn cael ei golli drwy anadlu, chwysu a threulio bwyd.

Mae ailhydradu yn cymryd lle’r dŵr sy’n cael ei golli ac mae’r buddiannau pwysig canlynol yn perthyn iddo:

  • yn helpu i atal y geg rhag mynd yn sych, a all achosi anadl drwg
  • yn hybu iechyd cardiofasgwlar da
  • yn helpu i reoli tymheredd y corff
  • yn iro’r cyhyrau ac yn helpu’r cyhyrau i weithio’n fwy effeithlon
  • yn helpu’r arennau i glirio gwastraff o’r gwaed.

Bwydo ar y fron

Mae astudiaethau wedi dangos mai bwydo ar y fron am y 6 mis cyntaf sy’n rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i faban.

Mae'r manteision o ran iechyd a datblygiad i fabanod yn cynnwys:

  • llai o risg o haint gan fod y llaeth yn cynnwys gwrthgyrff
  • llai o risg o ddolur rhydd a chwydu
  • mae’r baban yn llai tebygol o fod yn rhwym
  • mae’r baban yn llai tebygol o ddatblygu brech cewyn neu ecsema
  • llai o risg o SIDS (syndrom marwolaeth sydyn babanod)
  • llai o risg o lewcemia yn ystod plentyndod
  • llai o risg o ordewdra
  • llai o risg o glefyd cardiofasgwlar yn ystod oedolaeth.

Mae bwydo ar y fron yn cynnig nifer o fanteision i’r fam hefyd:

  • llai o risg o ganser y fron
  • llai o risg o ganser ofaraidd
  • llai o risg o osteoporosis (esgyrn gwan)
  • llai o risg o glefyd cardiofasgwlar
  • llai o risg o ordewdra
  • mae’n helpu’r groth i ddychwelyd i'w faint gwreiddiol yn gynt
  • mae’n helpu i ddatblygu’r bond rhwng y fam a’r baban.

Argymhellir y dylai babanod sydd ond yn cael llaeth o’r fron yn ystod eu 6 mis cyntaf hefyd gael atchwanegiad fitamin D bob dydd.

Bwydo â photel

Gall babanod gael eu bwydo â photel sy’n cynnwys llaeth wedi’i dynnu o’r fron neu fformiwla babanod.

Mae llaeth fformiwla, neu fformiwla babanod, fel arfer wedi’i wneud o laeth buwch, sydd wedi’i drin i’w wneud yn fwy addas i fabanod.

Ceir amrywiaeth eang o frandiau a mathau gwahanol o fformiwla yn y siopau. Maen nhw wedi'u labelu'n ofalus er mwyn sicrhau y caiff llaeth addas ei brynu i'r baban.

Mae dau fath gwahanol o fformiwla; powdr sych a all gael ei baratoi â dŵr a fformiwla hylif parod i fwydo. Er bod fformiwla hylif parod i fwydo yn gallu bod yn gyfleus, mae’n dueddol o fod yn ddrutach ac unwaith mae wedi’i agor, mae angen ei ddefnyddio’n gyflymach.

Mae llaeth fformiwla yn darparu’r maetholion sydd eu hangen ar fabanod i dyfu a datblygu. Fodd bynnag, nid oes ganddo’r un manteision iechyd â llaeth y fron i’r fam nac i’r baban, er enghraifft, ni all ddiogelu’r baban rhag heintiau.

Diddyfnu

Yn ystod y 6 mis cyntaf, dim ond llaeth y fron neu laeth fformiwla y bydd ei angen ar fabanod. Ar ôl hyn, dylai bwydydd gael eu cyflwyno’n raddol er mwyn atal y risg o alergeddau.

Mae’r bwydydd mae angen eu cyflwyno un ar y tro yn cynnwys:

  • llaeth buwch
  • wyau
  • bwydydd sy'n cynnwys glwten, fel gwenith, haidd, rhyg
  • bwydydd sy’n cynnwys cnau a hadau
  • pysgod a physgod cregyn.

Breastfeeding

Drag the advantages and disadvantages to the correct columns.

Bwydo ar y fron

Llusgwch y manteision a'r anfanteision i'r colofnau cywir.



      The importance of hydration

      Pwysigrwydd hydradu

      QuestionCwestiwn Your ResponseEich Ymateb Suggested responseYmateb awgrymedig

      Suggested response:

      Ymateb awgrymedig: