Infectious diseases can spread from one individual to another. As with all illnesses, prevention is better than cure. In order to receive safe and effective care, the process of infection prevention and control must be part of the daily routine and everybody should follow the routine.
Employers and workers have a responsibility to ensure that all possible steps are taken to prevent the spread of infections. Good hygiene practices should be adopted at the setting. The best protection for infection prevention is hand washing and workers should set a good example for the children by ensuring that they take pride in their appearance and their personal hygiene. Employers need to ensure that workers make use of personal protective equipment to prevent the spread of infection. Workers must be aware of the instructions to follow in order to dispose of waste safely.
Public Health Wales' Health Protection Team are working closely with healthcare professionals to monitor infections and diseases in order to discover information about public health. Health partners such as health visitors, nurses, doctors and dentists have a responsibility for the health of children and this may be promoted by raising parents/carers' awareness of the importance of vaccinating their children at specific times.
Despite best efforts, infections and diseases will sometimes start in a setting and procedures must be in place to record and notify the authorities of infections and diseases amongst children and staff. This will all ensure that the workplace has effective policies and procedures for infection prevention and control.
Every setting should have a health and safety policy in place stating how it will dispose of hazardous waste. In order to prevent the spread of infection, body waste such as blood, faeces, urine or saliva must be treated with care.
When disposing of waste, the following must be ensured:
According to the 'Personal Protective Equipment (PPE) at Work Regulations 1992', employers are responsible for ensuring that appropriate equipment is available. Personal protective equipment will protect workers from the risks associated with health and safety. Equipment within a childcare setting may include disposable gloves and disposable aprons. Equipment must be checked regularly in order to ensure it is in good working order and ready to be used in an emergency. PPE should be used when coming into any contact with blood and/or other bodily fluids. Equipment should not be shared between different children. It should also be stored in a clean and dry place with easy access for staff but out of reach of children. It should be disposed of correctly in accordance with the setting's policy, and hands should be washed before wearing PPE and afterwards.
You should not:
Immunisation is a method of protecting babies, children and young people against potentially very dangerous infectious diseases. Every child's immunisation status should be checked before starting school and during the periods when children are vaccinated.
Health partners such as health visitors, nurses or doctors must ensure that parents/carers are aware of the importance of immunisation and they should be encouraged to take their children for the appropriate vaccinations. Although parents/carers have the right to choose whether or not to consent to immunisation for their children, health partners have a duty to ensure that each child in the United Kingdom is invited to have their vaccinations. It is important that the setting keeps correct records of children's vaccinations.
According to the 'Reporting of Injuries, Diseases and Dangerous Occurrences Regulations 2013', workers in early years or childcare settings have a duty to report accidents, occupational diseases and dangerous occurrences in the workplace. The record book will need to be completed and the Health and Safety Executive (HSE) or the Care Inspectorate will need to be informed if appropriate.
Workers should be aware that children, as well as workers, are susceptible to infectious diseases and that they have a responsibility to keep each child at the setting safe. The setting's policy on how to record infectious illnesses and diseases must be followed. If a child or member of staff at the setting falls ill, it should be recorded immediately. The following is an example of an illness recording form. There is a full list of notifiable diseases with guidelines with regard to how long a child should be kept off school following an infection or illness. The time will vary according to the disease.
Name of Child / Staff Member | Date of Birth | Start Date of Symptoms | End Date of Symptoms | Symptoms | Action Taken | Date of Notification for EHOs / HPT |
---|---|---|---|---|---|---|
Health Protection Team (HPT) Environmental Health Officers (EHO) (National Health Service, 2017)
Gall clefydau heintus ymledu o un unigolyn i’r llall. Fel gyda phob salwch, gwell rhwystro’r clwyf na’i wella. Er mwyn derbyn gofal diogel ac effeithiol, mae’n rhaid i’r broses o reoli ac atal heintiau fod yn rhan o ymarfer bob dydd a dylid sicrhau bod pawb yn dilyn y drefn.
Mae cyfrifoldeb gan gyflogwyr a gweithwyr i sicrhau bod pob cam posib yn cael ei gymryd i atal haint rhag lledaenu. Mae angen mabwysiadu arferion hylendid da o fewn y lleoliad. Yr amddiffyniad orau rhag atal heintiau yw golchi dwylo ac mae angen bod gweithwyr yn gosod esiampl dda i’r plant drwy sicrhau eu bod yn cymryd parch yn eu hymddangosiad a’u hylendid personol. Mae angen i gyflogwyr sicrhau bod gweithwyr yn gwneud defnydd o gyfarpar diogelu personol er mwyn atal haint rhag lledaenu. Rhaid i weithwyr fod yn ymwybodol o’r cyfarwyddiadau i’w dilyn yn sgil cael gwared â gwastraff yn ddiogel.
Mae Tîm Diogelu Iechyd (TDI) Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol gofal iechyd gan fonitro heintiau ac afiechydon er mwyn darganfod gwybodaeth am iechyd y cyhoedd. Mae gan bartneriaid iechyd megis ymwelydd iechyd, y nyrs, y meddyg a’r deintydd gyfrifoldeb dros iechyd plant a gellir hyrwyddo hyn trwy godi ymwybyddiaeth rhieni/gofalwyr o bwysigrwydd rhoi brechiadau i’w plant ar yr amseroedd penodol.
Er pob ymdrech weithiau bydd heintiau ac afiechydon yn cychwyn o fewn lleoliad ac mae angen sicrhau bod gweithdrefnau ar gael i gofnodi a rhoi gwybod am heintiau ac afiechydon plant a staff. Bydd hyn oll yn sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r gweithle ar gyfer atal a rheoli heintiau yn effeithiol.
Dylai pob lleoliad gael polisi iechyd a diogelwch mewn lle sy’n nodi sut mae cael gwared â gwastraff peryglus. Er mwyn atal haint rhag lledaenu rhaid cymryd gofal wrth ymdrin â gwastraff y corff megis gwaed, carthion, troeth neu boer.
Wrth ymdrin â gwaredu gwastraff rhaid sicrhau bod:
Yn ôl ‘Rheoliadau Cyfarpar Diogelu Personol yn y Gwaith 1992’ y cyflogwr sydd â’r cyfrifoldeb i sicrhau fod y cyfarpar priodol ar gael. Mae CDP yn gyfarpar a fydd yn diogelu gweithwyr rhag risgiau iechyd a diogelwch. Gall cyfarpar o fewn lleoliad gofal plant gynnwys menig tafladwy a ffedogau tafladwy. Mae’n rhaid bod y cyfarpar yn cael ei wirio’n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod mewn cyflwr da ac yn barod i’w defnyddio mewn argyfwng. Dylid defnyddio CDP pan fydd unrhyw gysylltiad gyda gwaed neu/a hylifau eraill o’r corff. Ni ddylid rhannu cyfarpar rhwng un plentyn â’r llall. Mae hefyd angen eu storio mewn lle glân a sych sydd yn rhwydd i staff cael gafael arnynt ond allan o afael plant. Dylid gwaredu yn gywir yn ôl polisi’r lleoliad gan olchi dwylo cyn gwisgo CDP ac ar ôl eu tynnu i ffwrdd.
Ni ddylid:
Mae imiwneiddio yn ddull o ddiogelu babanod, plant a phobl ifanc yn erbyn clefydau heintus a all fod yn beryglus iawn. Dylai statws imiwneiddio pob plentyn gael ei wirio cyn dechrau’r ysgol ac yn ystod cyfnodau pan mae plant yn cael eu brechiadau.
Rhaid i bartneriaid iechyd megis yr ymwelydd iechyd, nyrs neu’r meddyg sicrhau bod rhieni/ gofalwr yn ymwybodol o bwysigrwydd imiwneiddio a dylid eu hannog i fynd a’u plant i gael y brechiadau priodol. Er mai rhieni/gofalwyr sydd â’r dewis ynglŷn â rhoi cydsyniad i’w plant gael eu himiwneiddio mae dyletswydd ar bartneriaid iechyd i drefnu bod pob plentyn yn y Deyrnas Unedig yn cael gwahoddiad i dderbyn eu brechiadau. Mae’n bwysig bod y lleoliad yn cadw cofnodion cywir o’r brechiadau mae’r plant wedi cael.
Yn ôl ‘Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 2013’ mae gan y gweithiwr mewn lleoliad blynyddoedd cynnar neu ofal plant ddyletswydd i roi gwybod am ddamweiniau, clefydau galwedigaethol a digwyddiadau peryglus o fewn y gweithle. Bydd angen llenwi’r llyfr cofnodion a rhoi gwybod i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch AGID (Health and Safety Executive - HSE) neu’r Arolygaeth Gofal (Care Inspectorate) os yw hynny’n briodol.
Dylai’r gweithiwr fod yn ymwybodol bod plant, ynghyd â gweithwyr yn codi afiechydon heintus, a bod cyfrifioldeb i gadw pob plentyn yn y lleoliad yn ddiogel. Rhaid dilyn polisi’r lleoliad ar sut i gofnodi salwch ac afiechydon heintus. Os bydd plentyn neu aelod o staff o fewn y lleoliad yn datblygu salwch rhaid ei gofnodi yn syth. Dyma enghraifft o ffurflen gofnodi salwch. Mae yna restr lawn o glefydau y dylid rhoi gwybod amdanynt gyda chanllawiau am faint o amser y dylid cadw plentyn o’r ysgol yn sgil codi haint neu salwch. Mae’r amser yn amrywio yn ôl yr afiechyd.
Enw’r Plentyn / Staff | Dyddiad Geni | Dyddiad Dechrau’r Symptomau | Dyddiad Gorffen y Symptomau | Symptomau | Camau a Gymerwyd | Dyddiad Hysbyswyd SIA/ TDI |
---|---|---|---|---|---|---|
Tîm Diogelu Iechyd (TDI) Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd (SIA) (Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol, 2017)
Complete the activity below.
Cwblhewch y gweithgaredd isod.
Drag the actions to the correct column.
Llusgwch y gweithredoedd i’r golofn gywir.
The environment should be kept clean for the children to prevent the spread of infection. Children will play and socialise with many other children and are susceptible to a much higher number of germs than at home. Infections may spread between children and adults as well as from one child to another. Although contact with germs cannot be fully eliminated, the setting can ensure it is hygienic in order to minimise the risk that children will contract infectious diseases. Every early years and childcare setting should have a written policy in place explaining how this will be achieved.
Mae angen sicrhau bod yr amgylchedd yn lân ar gyfer y plant er mwyn atal haint rhag lledaenu. Bydd plant yn chwarae a chymdeithasu gyda llawer o blant eraill a byddant yn agored i lawer mwy o germau nag yn y cartref. Gall heintiau ledaenu rhwng plant ag oedolion yn ogystal â rhwng plant a’i gilydd. Er na ellir osgoi cyswllt gyda germau yn llwyr gellir sicrhau fod y lleoliad yn un hylan er mwyn lleihau’r risg bod y plentyn yn codi afiechydon heintus. Dylai pob lleoliad blynyddoedd cynnar a gofal plant gael polisi ysgrifenedig yn ei le sy’n esbonio sut bydd hyn yn cael ei gyflawni.
Drag the picture to the correct statement.
Llusgwch y llun at y datganiad cywir.
Warning! This resource is not optimised for use on mobile devices.
Rhybudd! Ni ellir defnyddio’r adnodd yma ar ffonau symudol neu dabled.
Well done. You have matched them all correctly.
Da iawn. Rydych wedi paru pob un yn gywir.
Images Delweddau |
Statements Datganiad |
Correct answers Atebion cywir |
---|
Personal hygiene is one of the most important things with regard to ensuring that young children stay healthy. Personal hygiene includes hand washing, having a bath or shower, washing hair and brushing teeth. Young children will need help from an adult to learn to keep themselves clean. It is important to adopt high standards of hygiene in order to develop life skills and to help prevent the spread of infection. It is important that adults teach children about the importance of good hygiene.
https://www.designedtosmile.org/info/toothbrushing/
This will all allow the children to develop independently and to understand the importance of good hygiene practice.
Hylendid personol yw un o'r pethau pwysicaf er mwyn sicrhau bod plant bach yn cadw'n iach. Mae hylendid personol yn cynnwys golchi dwylo, cael bath neu gawod, golchi gwallt a glanhau dannedd. Bydd angen cymorth yr oedolyn ar blant bach i’w dysgu i gadw eu hunain yn lân. Bydd mabwysiadu safonau uchel o hylendid personol yn bwysig ar gyfer datblygu sgiliau bywyd ac yn gymorth i atal haint rhag lledaenu. Mae’n bwysig bod oedolion yn dysgu’r plant am bwysigrwydd hylendid da.
Bydd hyn oll yn caniatáu plant i ddatblygu’n annibynnol ac i ddeall pwysigrwydd ymarfer hylendid da.
Use the thought shower to note as many ways of ensuring good personal hygiene as you can think of.
Defnyddiwch y gawod syniadau i nodi cynifer ag y gallwch o ffyrdd o sicrhau hylendid personol da.
Infections are mainly transmitted by the hands as hands come into contact with so many things that may contain germs. If hands are not washed after such contact, the germs will spread.
The importance of hand washing should be discussed with the children and they should be shown when to do so and how to do so correctly. It is important that they are regularly supervised. Placing posters in hand washing areas is useful to remind the children of the technique and the steps to follow.
Gyda dwylo mae heintiau yn lledaenu gan fwyaf wrth i ddwylo gyffwrdd â chymaint o bethau sy’n gallu cynnwys germau. Os na chaiff y dwylo eu golchi ar ôl cyffwrdd â’r rhain bydd germau yn lledaenu.
Mae angen trafod gyda phlant y pwysigrwydd o olchi dwylo ac mae angen dangos iddynt pryd i wneud a sut i’w wneud yn gywir. Mae’n bwysig eu bod yn cael eu goruchwylio yn rheolaidd. Mae gosod posteri i fyny mewn mannau golchi yn fuddiol er mwyn atgoffa’r plant o’r dechneg a’r camau sydd angen eu dilyn.
Drag the actions and place them in the order you think is correct.
Llusgwch y camau a’u gosod yn y drefn rydych chi’n credu sy’n gywir.
Write down what you see in the picture.
Ysgrifennwch yr hyn rydych yn gweld yn y llun.