Actions to be taken where there are ongoing concerns about harm, abuse or neglect

Y camau i'w cymryd pan fydd pryderon parhaus am niwed, cam-drin neu esgeulustod

1/3

Meeting

Childcare workers, parents/carers and professionals have a responsibility to ensure the safety of and prevent the abuse of children and young people. It is crucial that they support children and encourage them to learn how to protect themselves. This will allow them to protect themselves now and in future. They need to learn how to take responsibility for themselves and understand the consequences of their actions. Children and young people can do this by:

  • understanding they have the right to be safe
  • improving their personal safety
  • getting to know their bodies and understanding the functions of the body
  • knowing that their bodies belong to them and no-one has the right to touch them in an inappropriate way
  • knowing how to deal with a hostile situation
  • developing self-confidence
  • not keeping quiet about touching, kissing or hugging that makes them feel uncomfortable
  • knowing when and how to ask for support and assistance.

However, it is seen that children are being abused or neglected continuously and if childcare workers have concerns, they need to take them seriously.

There are six stages in the child protection process based on the All Wales Child Protection Procedures 2008:

  1. Referral: Following the referral, the social worker will record the full details on the appropriate form. They will also ask further questions to the individual making the referral. The police must be notified as soon as possible if it is suspected that a criminal offence has been committed against a child.
  2. Initial Assessment: Social services undertake an assessment of the child and identify if the child requires protection. The employee making the assessment must see the child and communicate with the child, to ensure that they feel safe. This assessment must be conducted within seven days.
  3. Strategy Discussion: This takes place following the completion of the assessment. The social workers and police discuss all the information and with other professionals where necessary. The next course of action can take place immediately or within 24 hours if there is serious concern for the child.
  4. Strategy Meeting: This meeting needs to include the social workers and police, other professionals and the person who made the referral. Everyone contributes to the enquiries to protect the child. This meeting should be held as soon as possible and no more than 8 days following the referral.
  5. Child Protection Section 47 Enquiries by Social Services and/or the Police: A decision must be made on who will undertake the enquiries; as a single body or jointly. This will depend on the seriousness of the abuse. The information from the core assessment should be recorded.
  6. Child Protection Conference: Immediately following section 47 child protection enquiries, a conference is held to prepare and implement a child protection plan. The core assessment is used as the basis for the plan.

These six stages are recorded on the relevant form.

An employee who referred a child may be worried that concerns about harm, abuse or neglect have not been addressed. If this is the case, they need to contact the line manager and the child protection professional. In addition, they need to contact the social worker named to deal with the process. If this is not possible they must contact the social services senior manager involved in child protection. If the agency or setting decides to work independently, the team manager and relevant workers must be informed. The Chair of the Local Child Safeguarding Board is also informed to ensure that a consultation process is in place. Furthermore, a child protection review conference is arranged if necessary.

Further information:

http://bit.ly/312EPkH

Mae cyfrifoldeb gan gweithwyr gofal plant, rieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i sicrhau diogelwch ac atal cam-drin plant a phobl ifanc. Mae’n dyngedfennol eu bod yn cefnogi’r plant a’u hannog i ddysgu sut mae amddiffyn eu hunain. Bydd hyn yn caniatáu iddynt gael eu hamddiffyn nawr ac yn y dyfodol. Mae angen iddynt ddysgu sut mae cymryd cyfrifoldeb dros eu hunain a deall canlyniadau eu gweithredoedd. Gall plant a phobl ifanc wneud hyn drwy:

  • ddeall bod ganddynt yr hawl i fod yn ddiogel
  • gwella eu diogelwch personol
  • dod i adnabod eu cyrff a deall swyddogaethau’r corff
  • gwybod mai eu heiddo nhw yw eu cyrff ac nid oes hawl gan neb eu cyffwrdd mewn ffordd amhriodol
  • gwybod sut i ddelio gyda sefyllfa ymosodol
  • datblygu hunanhyder
  • peidio â chadw’n dawel am gyffyrddiadau, cusanau neu gofleidiau sy’n eu gwneud i deimlo’n anghysurus
  • gwybod pryd a sut mae holi am gymorth a chefnogaeth.

Fodd bynnag, gwelir bod plant yn cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso yn barhaus ac os oes gan gweithwyr gofal plant ofidion, mae angen eu cymryd o ddifri.

Mae yna chwe cham yn y broses amddiffyn plant sy’n seiliedig ar Ganllawiau Amddiffyn Plant 2008 Cymru Gyfan:

  1. Atgyfeirio: Yn dilyn yr atgyfeiriad, bydd y gweithiwr cymdeithasol yn defnyddio ffurflen benodol i gofnodi’r manylion llawn. Bydd hefyd yn holi mwy o gwestiynau i’r person a wnaeth yr atgyfeiriad. Bydd rhaid hysbysu’r heddlu yn syth os amheuir unrhyw drosedd yn erbyn y plentyn.
  2. Asesiad Cychwynnol: Bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn asesu’r plentyn ac yn nodi a oes angen ei amddiffyn. Bydd rhaid i’r gweithiwr sy’n gwneud yr asesiad weld y plentyn a chyfathrebu gyda’r plentyn gan wneud yn siŵr ei fod yn teimlo’n ddiogel. Mae’n rhaid gwneud yr asesiad hwn o fewn saith diwrnod.
  3. Trafodaeth Strategaeth: Bydd hyn yn digwydd ar ôl cwblhau’r asesiad. Bydd angen i’r gweithwyr cymdeithasol a’r heddlu drafod yr holl wybodaeth yn ogystal â thrafod gyda gweithwyr proffesiynol eraill os oes angen. Gall y camau nesaf gael eu cymryd ar unwaith neu mewn 24 awr os oes yna bryderon dwys am y plentyn.
  4. Cyfarfod Strategaeth: Mae angen i’r gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu, gweithwyr proffesiynol eraill a’r person a wnaeth yr atgyfeiriad fod yn bresennol yn y cyfarfod hwn. Bydd pawb yn cyfrannu at yr ymholiadau er mwyn amddiffyn y plentyn. Dylid cynnal y cyfarfod hwn cyn gynted â phosib a dim mwy na 8 diwrnod wedi’r atgyfeiriad.
  5. Ymholiadau Amddiffyn Plant dan Adran 47 gan y Gwasanaethau cymdeithasol a/neu’r heddlu: Rhaid penderfynu pwy fydd yn gwneud yr ymholiadau; corff unigol neu bawb ar y cyd. Bydd hyn yn dibynnu ar ddifrifoldeb y cam-drin. Dylid cofnodi’r wybodaeth o’r asesiad craidd.
  6. Cynhadledd Amddiffyn Plant: Yn syth ar ôl ymholiadau amddiffyn plant dan adran 47, cynhelir cynhadledd er mwyn paratoi a gweithredu cynllun amddiffyn plant. Defnyddir yr asesiad craidd fel sylfaen i’r cynllun.

Bydd y chwe cham hyn yn cael eu cofnodi ar ffurflen berthnasol.

Efallai y bydd gweithiwr a wnaeth atgyfeirio plentyn yn gofidio na aed i’r afael â phryderon am niwed, camdrin neu esgeulustod. Yn sgil hyn, bydd angen cysylltu â’r rheolwr llinell a’r gweithiwr proffesiynol amddiffyn plant. Yn ogystal, bydd angen cysylltu â’r gweithiwr cymdeithasol sydd wedi cael ei enwi i ymdrin â’r broses. Os nad yw hyn yn bosib bydd yn rhaid cysylltu â’r uwch reolwr yn y gwasanaethau cymdeithasol sy’n gysylltiedig ag amddiffyn plant. Os yw’r asiantaeth neu’r lleoliad yn penderfynu gweithio ar ei phen ei hun, rhaid rhoi gwybod i’r rheolwr tîm a’r gweithwyr perthnasol. Bydd Cadeirydd y Bwrdd Lleol Diogelu Plant hefyd yn cael gwybod am hyn er mwyn sicrhau bod yna broses ymgynghori mewn lle. Yn ogystal, bydd cynhadledd adolygu amddiffyn plant yn cael ei threfnu os bydd angen.

Gwybodaeth bellach:

http://bit.ly/2YxdiX0

Actions to be taken where there are ongoing concerns about harm, abuse or neglect

Drag the six stages of the child protection process and place them in the order you think is correct.

Y camau i'w cymryd pan fydd pryderon parhaus am niwed, cam-drin neu esgeulustod

Llusgwch y chwe cham o’r broses amddiffyn plant er mwyn eu gosod yn y drefn rydych chi'n credu sy'n gywir.

1/3

Actions to be taken where there are ongoing concerns about harm, abuse or neglect.

Drag the names of specific stages to the correct description.

Y camau i'w cymryd pan fydd pryderon parhaus am niwed, cam-drin neu esgeulustod.

Llusgwch enwau’r camau penodol at y disgrifiad cywir.

1/3

Child Protection Process Stages

Camau Proses Amddiffyn Plant

Description

Disgrifiad

Correct answers

Atebion cywir