The common features of perpetrator behaviour and grooming

Nodweddion cyffredin ymddygiad tramgwyddwyr a meithrin perthynas amhriodol

A young teenager on her mobile phone

Children and young people may develop an inappropriate relationship with a stranger, e.g. online, or with someone they know, e.g. family member, friend or professional. Grooming occurs when someone develops an emotional attachment with a child or young person to gain their trust in order to abuse or exploit them sexually. The abuser may take an interest in them in a different way from other adults or let them do things that other adults do not allow them to do, e.g. drinking alcohol. Abusers may try to gain the trust of the entire family in order to be allowed to be left on their own with children.

The abuser may try to trick victims into believing they are in a loving relationship. The abuser may use blackmail to threaten to share secrets the child has shared. In some instances they tell the child that there will be awful consequences if they refuse to do sexual things. They may be a mentor to a young person, making them think that they are someone who can help them or teach them things, e.g. helping with homework. Sometimes they play an important role in the life of the child or young person, perhaps by having a relationship with their parent or carer. The abuser will try to gain power over the child or young person in order to trick or force them into taking part in a sexual activity.

The abuser may spend a long time gaining the trust of a child online. They may become friends with a child, usually on a website suitable for children. They often pretend to be a child in order to get to communicate and develop a friendship online. They may ask for a picture or personal data. The abuser will encourage the child to tell them about their problems and private thoughts. The abuser will be keen to establish privacy for the online relationship and will ask questions about where the computer is set up, and who else uses it. They will develop a loving feeling to encourage the child to share secrets and private details. The abuser will move on from close chats to talking about sex and encouraging a child to send pictures of a sexual nature, or sending images of a sexual nature to the child.

Further reading:

SchoolBeat.org: Grooming

https://bit.ly/2Ysqso7

NSPCC: Grooming

https://bit.ly/2b8ylbQ

Gall plant a phobl ifanc feithrin perthynas amhriodol gyda dieithryn, e.e. ar-lein, neu rywun maen nhw’n ei adnabod, e.e. aelod o’r teulu/gofalwyr, ffrind neu weithiwr proffesiynol. Mae meithrin perthynas amhriodol yn digwydd pan fydd rhywun yn datblygu cysylltiad emosiynol â phlentyn neu berson ifanc i ennyn ei ymddiriedaeth er mwyn ei gam-drin neu fanteisio’n rhywiol arno. Gall fod y camdriniwr yn cymryd diddordeb ynddyn nhw mewn ffordd wahanol i oedolion eraill neu’n gadael iddyn nhw wneud pethau nad yw oedolion eraill yn ei ganiatáu, e.e. yfed alcohol. Gall y camdrinwyr geisio ennyn ymddiriedaeth y teulu/gofalwyr cyfan i ganiatáu iddynt gael eu gadael ar eu pennau eu hunain gyda phlant.

Gall y camdriniwr geisio twyllo dioddefwyr i gredu eu bod mewn perthynas gariadus. Gall y camdriniwr ddefnyddio blacmel er mwyn bygwth rhannu cyfrinachau y mae’r plentyn wedi’u rhannu. Mewn rhai achosion byddant yn dweud wrth y plentyn y bydd canlyniadau ofnadwy am wrthod gwneud pethau rhywiol. Efallai y byddant yn fentor i'r person ifanc, gan wneud iddynt feddwl eu bod yn rhywun a all eu helpu neu addysgu pethau iddynt, e.e. helpu gyda gwaith cartref. Weithiau bydd ganddynt rôl bwysig ym mywyd y plentyn neu’r person ifanc, efallai trwy gael perthynas gyda'u rhiant/gofalwr neu ofalwr. Bydd y camdriniwr yn ceisio ennill pŵer dros y plentyn neu berson ifanc er mwyn ei dwyllo neu ei orfodi i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol.

Gall y camdriniwr dreulio amser hir yn ennyn ymddiriedaeth plentyn ar-lein. Efallai bydd yn dod yn ffrindiau â phlentyn, fel arfer ar wefan sy'n addas ar gyfer plant. Yn aml gan esgus bod yn blentyn er mwyn gallu cyfathrebu a datblygu cyfeillgarwch ar-lein. Gall ofyn am lun neu ddata personol. Bydd y camdriniwr yn annog y plentyn i ddweud wrtho am ei broblemau a'i feddyliau preifat. Bydd y camdriniwr yn awyddus i sefydlu preifatrwydd i'r berthynas ar-lein a bydd yn gofyn cwestiynau ynglŷn â lle mae'r cyfrifiadur wedi'i osod, a phwy arall sy'n ei ddefnyddio. Bydd yn datblygu ymdeimlad o gariad er mwyn annog y plentyn i rannu cyfrinachau a manylion preifat. Bydd y camdriniwr yn symud ymlaen o sgwrsio agos at siarad am ryw gan annog plentyn i anfon lluniau rhywiol, neu anfon delweddau rhywiol at y plentyn.

Darllen pellach:

SchoolBeat.org: Meithrin Perthynas Amhriodol

https://bit.ly/2OsYIQw

NSPCC: Grooming

https://bit.ly/2b8ylbQ

The common features of perpetrator behaviour and grooming

Drag the words into the correct spaces

Nodweddion cyffredin ymddygiad tramgwyddwyr a meithrin perthynas amhriodol

Llusgwch y geiriau i’r bylchau cywir

Your Answers

Children and young people may develop an inappropriate relationship with a stranger or with someone they know who is a family member, friend or professional. Grooming occurs when someone develops an emotional attachment with a child or young person to gain their trust in order to abuse or exploit them sexually. The abuser may take an interest in the child in a different way from other adults or let them do things that other adults do not allow them to do, e.g. drinking alcohol. Abusers may try to gain the trust of the entire family in order to be allowed to be left on their own with children.

Correct answers

Eich atebion

Gall plant a phobl ifanc feithrin perthynas amhriodol gyda dieithryn neu rywun maen nhw’n ei adnabod sy’n aelod o’r teulu/gofalwyr, yn ffrind neu’n weithiwr proffesiynol. Mae meithrin perthynas amhriodol yn digwydd pan fydd rhywun yn datblygu cysylltiad emosiynol â phlentyn neu berson ifanc i ennyn ei ymddiriedaeth er mwyn ei gam-drin neu fanteisio’n rhywiol arno. Gall fod y cam-driniwr yn cymryd diddordeb yn y plentyn mewn ffordd wahanol i oedolion eraill ac yn gadael iddyn nhw wneud pethau nad yw oedolion eraill yn ei ganiatáu megis yfed alcohol. Gall y camdrinwyr geisio ennyn ymddiriedaeth y teulu/gofalwyr cyfan er mwyn caniatáu iddynt gael eu gadael ar eu pennau eu hunain gyda phlant.

Atebion cywir