Why abuse may not be disclosed by adults, children, family/carers, friends, workers and volunteers?

Pam nad yw oedolion, plant, teulu/gofalwyr, ffrindiau, gweithwyr a gwirfoddolwyr yn datgelu camdriniaeth

A psychologist

It may be very difficult for children and young people to disclose abuse. They often fear the consequences of talking about what is happening to them. Some children do not talk about abuse for a long time, while others never tell anyone, even if they want to. Some children may not disclose abuse as they do not understand that it is wrong. If a child is being abused by someone they know, trust and love, then they may believe that the abuse is normal and do not understand that it is wrong.

Children may not disclose abuse because they are worried it will not be acknowledged. They may be afraid that the disclosure will be denied or ignored, or that insufficient action will be taken to protect them. Children may also be afraid about what could happen after they have made a disclosure. They may worry about getting into trouble with the person they have told or with the abuser, or that they will cause trouble for the abuser. Some children tell friends that they are being abused in order to get emotional support, or friends may notice signs of abuse. Friends may often be reluctant to disclose their concerns to an adult because they are afraid of betraying someone's trust, or they are afraid of the potential consequences for their friend.

Disabled children may be less likely to disclose abuse because of language and communication difficulties, or a difficulty in understanding the difference between good and bad touching, which means therefore they do not understand that it is inappropriate.

Adults may also find it difficult to disclose abuse. This may be due to concerns about breaking a confidence. Therefore, childcare workers must follow the policies and procedures of the setting. In some situations, the procedures are not straightforward to childcare workers. Private and personal information should not be disclosed unless withholding it is likely to threaten the safety and welfare of other people. If childcare workers know or suspect that a child or young person is involved in criminal behaviour, they should share this information in accordance with the policies and procedures of the setting. This may be a difficult decision for childcare workers to make because of the concern about betraying the trust of the child or young person.

Gall fod yn anodd iawn i blant a phobl ifanc ddatgelu camdriniaeth. Yn aml, maen nhw ofn y canlyniadau o siarad am beth sy’n digwydd iddyn nhw. Ni fydd rhai plant yn sôn am gamdriniaeth am amser hir, tra bod eraill byth yn dweud wrth unrhyw un, hyd yn oed os ydyn nhw eisiau. Efallai na fydd rhai plant yn datgelu camdriniaeth gan nad ydynt yn deall ei fod yn anghywir. Os yw'r plentyn yn cael ei gam-drin gan rywun y mae’n ei adnabod, yn ymddiried ynddo ac yn ei garu, yna efallai y bydd yn credu bod y gamdriniaeth yn normal ac nad yw'n deall ei fod yn anghywir.

Efallai na fydd plant yn datgelu camdriniaeth oherwydd eu bod yn poeni na fydd yn cael ei gydnabod. Efallai y byddant yn ofni y caiff eu datgeliad ei wadu neu ei anwybyddu, neu na fydd camau digonol yn cael eu cymryd er mwyn eu diogelu. Gall plant hefyd fod yn ofnus am beth allai ddigwydd ar ôl iddynt ddatgelu. Efallai y byddant yn poeni am fynd i drwbl gyda'r person y maent wedi dweud wrtho neu gyda'r camdriniwr, neu y byddant yn achosi trafferth i’r camdriniwr. Bydd rhai plant yn dweud wrth ffrindiau eu bod yn cael eu cam-drin er mwyn cael cefnogaeth emosiynol, neu gall ffrindiau sylwi ar arwyddion o gamdriniaeth. Yn aml, gall ffrindiau fod yn gyndyn o ddatgelu eu pryderon i oedolyn oherwydd eu bod ofn bradychu ymddiriedaeth, neu eu bod ofn y canlyniadau posibl i’w ffrind.

Gall plant anabl fod yn llai tebygol o ddatgelu camdriniaeth oherwydd anawsterau iaith a chyfathrebu, neu anhawster deall y gwahaniaeth rhwng cyffyrddiadau da a drwg, ac felly ddim yn deall eu bod yn amhriodol.

Gall oedolion hefyd ei chael yn anodd datgelu camdriniaeth. Gall hyn fod oherwydd pryderon ynghylch torri cyfrinachedd. Felly, mae'n rhaid i gweithwyr gofal plant ddilyn polisïau a gweithdrefnau'r lleoliad. Mewn rhai sefyllfaoedd, nid yw'r gweithdrefnau’n syml i gweithwyr gofal plant. Ni ddylid datgelu gwybodaeth breifat a phersonol oni bai y byddai ei atal yn debygol o fygwth diogelwch a lles pobl eraill. Os yw gweithwyr gofal plant yn gwybod neu'n amau bod plentyn neu berson ifanc yn cymryd rhan mewn ymddygiad troseddol, dylai rannu'r wybodaeth hon gan ddilyn polisïau a gweithdrefnau'r lleoliad. Gall hyn fod yn benderfyniad anodd i gweithwyr gofal plant ei wneud oherwydd y pryder ynghylch bradychu ymddiriedaeth y plentyn neu’r person ifanc.

Why abuse may not be disclosed by adults, children, family/carers, friends, workers and volunteers?

Drag the words to the correct spaces

Pam nad yw oedolion, plant, teulu/gofalwyr, ffrindiau, gweithwyr a gwirfoddolwyr yn datgelu camdriniaeth

Llusgwch y geiriau i’r bylchau cywir

Your Answers

It may be very difficult for children and young people to disclose abuse. They are often afraid of the consequences of talking about what is happening to them. Some children do not tell someone about the abuse for a long time, while others never tell anyone. Some children may not disclose abuse as they do not understand that it is wrong. If a child is being abused by someone they know, trust and love, then they may believe that the abuse is normal.

Some children do not disclose abuse because they are worried that it will not be acknowledged. Some children tell a friend they are being abused but often friends do not disclose their concerns because that are afraid of betraying the trust of their friend, or they are afraid of what will happen to their friend.

Correct answers

Eich atebion

Gall fod yn anodd iawn i blant a phobl ifanc ddatgelu camdriniaeth. Yn aml maen nhw ofn y canlyniadau o siarad am beth sy’n digwydd iddynt. Ni fydd rhai plant yn dweud wrth rywun am gamdriniaeth am amser hir, tra bod eraill byth yn dweud wrth unrhyw un. Efallai na fydd rhai plant yn datgelu camdriniaeth gan nad ydynt yn deall ei fod yn anghywir. Os yw'r plentyn yn cael ei gam-drin gan rywun y maent yn ei adnabod, yn ymddiried ynddo ac yn ei garu, yna efallai y bydd yn credu bod y gamdriniaeth yn normal.

Ni fydd rhai plant yn datgelu camdriniaeth oherwydd eu bod yn poeni na fydd yn cael ei gydnabod. Bydd rhai plant yn dweud wrth ffrind eu bod yn cael eu cam-drin ond yn aml nid yw ffrindiau yn datgelu eu pryderon oherwydd eu bod ofn bradychu ymddiriedaeth eu ffrind, neu eu bod ofn beth fydd yn digwydd i’w ffrind.

Atebion cywir