Recording concerns or incidences

Cofnodi pryderon neu ddigwyddiadau

Doctor signing forms

Following a series of observations child abuse may be suspected. If that is the case, certain steps must be followed in a professional manner. Before being able to record any concerns or incidences it is necessary to be aware of the norms and stages of child development as well as the symptoms and signs of abuse.

It is important that everyone in a child care organisation:

  • observes and assesses children within the setting regularly
  • records information correctly and clearly and writes clear descriptions or draws a picture if this is helpful
  • recognises the signs and symptoms of abuse
  • understands and complies with the setting's policies and procedures and knows the actions to be taken if child abuse is suspected
  • shares concerns with the manager or senior members of staff
  • remembers that promoting and safeguarding child welfare is of the utmost importance
  • demonstrates to children that you are ready to provide support and you have time to listen to them
  • seek an explanation if you do not understand what the child has said and ask the child to explain
  • record everything said as soon as possible and as correctly as possible.

If you have concerns they need to be recorded and certain people – the line manager, the relevant member of staff and the local social worker – need to be informed as soon as possible.

Actions

  1. Listen to the child and demonstrate that you are taking what they say seriously.
  2. Do not ask the child questions but try to encourage them to speak. If they mention incidences do not interrupt. Do not force the child to repeat what they have said.
  3. You will have to explain to the child what you have to do. Remember to take into account the age of the child when speaking with them and ensure that they understand you.
  4. You can never promise the child that you will keep the story a secret. You have a responsibility to safeguard the welfare of the child and disclose information to those people who need to know.
  5. You will need to write up a record of what the child has told you. This needs to be done as quickly as possible and definitely within 24 hours. If you can, use the exact words said by the child.
  6. You will need to report your concerns to your line manager or a member of staff at your setting who is responsible for child protection.
  7. Do not delay before telling the social worker. You will need to inform them of your concerns immediately.
  8. Do not take things into your own hands and question the person suspected of abuse.
  9. If you have made a mistake do not worry. The social services will be on your side and will take what you say seriously as they have experience in this area.
  10. Remember that you will need to record the date, time and place and the names of the people present during the discussion.

Further reading:

https://bit.ly/2YdWV1k

Wedi cyfres o arsylwadau efallai bod amheuaeth bod plentyn yn cael ei gam-drin. Os felly, mae’n rhaid dilyn nifer o gamau pendant mewn modd proffesiynol. Cyn medru cofnodi unrhyw bryderon neu ddigwyddiadau mae angen bod yn ymwybodol o normau a chamau datblygiad plentyn yn ogystal â symptomau ac arwyddion camdriniaeth.

Mae’n bwysig bod pawb sydd mewn sefydliad gofal plant yn:

  • arsylwi ac asesu plant o fewn y lleoliad yn gyson
  • cofnodi gwybodaeth yn gywir ac yn glir gan ysgrifennu disgrifiadau clir neu dynnu llun os bydd hyn yn gymorth
  • adnabod arwyddion a symptomau camdriniaeth
  • deall a chydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau’r lleoliad a gwybod y camau i’w cymryd yn sgil amheuaeth o gamdriniaeth
  • rhannu’r pryderon gyda’r rheolwr neu aelod hŷn o’r staff
  • cofio mai hyrwyddo a diogelu lles plant sydd bwysicaf
  • dangos i blant eich bod yn barod i gynnig cefnogaeth a bod amser gennych i wrando arnynt
  • ceisio esboniad os nad ydych yn deall yr hyn mae’r plentyn yn ei ddweud gan ofyn i’r plentyn am eglurhad
  • cofnodi popeth sy’n cael ei ddweud cyn gynted â phosib ac mor gywir â phosib.

Os oes gennych bryderon mae angen iddynt gael eu cofnodi a dylid rhoi gwybod amdanynt i’r personau penodol – sef y rheolwr llinell, aelod perthnasol o staff a’r gweithiwr cymdeithasol lleol – cyn gynted â phosib.

Camau gweithredu

  1. Gwrandewch ar y plentyn a dangoswch eich bod yn cymryd yr hyn mae’n ei ddweud o ddifri.
  2. Peidiwch â holi cwestiynau i’r plentyn ond ceisiwch ei annog i siarad. Os fydd yn sôn am ddigwyddiadau peidiwch â thorri ar ei draws. Peidiwch â gorfodi’r plentyn i ailadrodd yr hyn mae wedi ei ddweud.
  3. Bydd rhaid i chi esbonio i’r plentyn beth fydd rhaid i chi wneud. Cofiwch ystyried oedran y plentyn wrth siarad gan sicrhau ei fod yn eich deall.
  4. Gallwch byth addo i’r plentyn y byddwch yn cadw’r stori yn gyfrinachol. Mae gennych gyfrifoldeb i ddiogelu lles y plentyn a datgelu’r wybodaeth i’r bobl hynny sydd angen gwybod.
  5. Bydd angen i chi ysgrifennu cofnodion am yr hyn mae’r plentyn wedi dweud wrthoch. Bydd angen gwneud hyn cyn gynted â phosib ac yn bendant o fewn 24 awr. Os gallwch, defnyddiwch yr union eiriau mae’r plentyn wedi ei ddweud.
  6. Bydd angen adrodd eich pryderon wrth eich rheolwr llinell neu aelod o staff yn eich lleoliad sydd yn gyfrifol am amddiffyn plant.
  7. Peidiwch ag oedi rhag dweud wrth y gweithiwr cymdeithasol. Bydd angen rhoi gwybod am eich pryderon yn syth.
  8. Peidiwch â chymryd pethau i ddwylo eich hunan a chwestiynu’r person sy’n cael ei amau o gam-drin.
  9. Os byddwch yn gwneud camgymeriad peidiwch â phoeni. Bydd y gwasanaeth cymdeithasol ar eich ochr ac yn cymryd yr hyn rydych yn ei ddweud o ddifri gan fod ganddynt brofiad yn y maes hwn.
  10. Cofiwch fod angen cofnodi’r dyddiad, yr amser, y lle ac enwau’r bobl oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

Darllen pellach:

https://bit.ly/32Jh4jm

Recording concerns or incidences

Place the statements in the correct order as you think appropriate.

Cofnodi pryderon neu ddigwyddiadau

Gosodwch y datganiadau yn y drefn gywir fel yr ydych chi’n tybio fyddai’n addas.