Signs and symptoms associated with abuse, harm and neglect.

Arwyddion a symptomau sy'n gysylltiedig â cham-drin, niwed ac esgeulustod.

Unsafe

In order to keep children and young people safe from abuse it is essential that the childcare worker is able to recognise the signs of abuse. You may see clear physical signs or you may observe a change in the child's behaviour. It is important that you are vigilant as many children and young people will be reluctant to say, or be aware, that they are being abused. It is difficult to be completely certain that a child is being abused but being aware of the signs is very important.

The Signs of Physical Abuse

  • the child is aggressive towards other children
  • the child is reluctant, or finds it hard, to explain how a bruise or injury occurred
  • the child displays aggression when role playing
  • the child is reluctant to change for swimming or outdoor games
  • regular notes to excuse the child from PE lessons
  • quiet and withdrawn
  • does not want to be with the carer
  • rigid and sore and does not want to sit
  • a black eye and regular facial bruising.

The Signs of Emotional Abuse

  • the child remains in their shell and does not join in with the rest of the class
  • demands attention or is extremely clingy
  • lacks self-esteem and confidence
  • the child tells lies or steals
  • the child speaks with a stammer
  • throws tantrums beyond the expected age e.g. 5 years old
  • behaves in a babyish way e.g. sucks their thumb, rocks back and forward, fiddles with their hair
  • the child is tearful.

The Signs of Sexual Abuse

  • the child has unexplained bruises or scratches, as in a non-accidental injury
  • the child complains of itching or pain in the genital area
  • tends to wet or soil themselves
  • the child has a discharge from the vagina or penis
  • the child complains of pain when passing water
  • the child has lost their appetite
  • the child has a poor sleeping and eating pattern
  • regularly has a urinary tract and genital infection
  • displays sexual behaviour at play, e.g. attempts to mate dolls
  • wide knowledge of adult sexual behaviour
  • inappropriate behaviour such as undressing or stripping naked
  • the child's pictures or play may reflect more knowledge than is usual for their age
  • the child may display signs of regression e.g. wants to be fed or wear a nappy
  • the child may remain withdrawn and isolated
  • the child may lack self-esteem and confidence.

The Signs of Neglect

  • the child is often ravenously hungry
  • the child is underweight
  • the child is overweight
  • the child wears dirty or ill-fitting clothes
  • the child is tired or lacking in energy because of a lack of sleep or poor diet
  • the child has poor personal hygiene - they smell, their hair and skin is dirty, their breath smells
  • the child may have nappy rash on a regular basis, because they are not being washed and changed often enough
  • the child may be ill on a regular basis, and tends to have accidents due to poor supervision
  • periods of absence from the setting with no explanation
  • the child may have low self-esteem and poor social development. This may lead to developmental delay in all aspects because of a lack of stimulation.

Er mwyn gallu diogelu plant a phobl ifanc rhag camdriniaeth mae’n hanfodol bod yr ymarferwr yn gallu adnabod arwyddion camdriniaeth. Efallai byddwch yn gweld arwyddion corfforol pendant neu efallai yn sylwi ar newid mewn ymddygiad plentyn. Mae’n bwysig eich bod yn wyliadwrus gan na fydd llawer o blant a phobl ifanc yn barod i ddweud, nac yn gwybod eu bod yn cael eu cam-drin. Mae’n anodd bod yn hollol siŵr fod plentyn yn cael ei gam-drin ond mae bod yn ymwybodol o’r arwyddion yn bwysig iawn.

Arwyddion Cam-drin Corfforol

  • y plentyn yn ymosodol tuag at blant eraill
  • y plentyn yn gyndyn, neu'n ei chael hi'n anodd, i esbonio sut digwyddodd y clais neu'r anaf
  • y plentyn yn arddangos yn ymosodol wrth chwarae rôl
  • y plentyn yn gyndyn i newid ar gyfer nofio neu gemau awyr agored
  • nodiadau cyson i gael ei esgusodi rhag y wers ymarfer corff
  • yn dawel ac yn encilgar
  • heb fod eisiau bod gyda’r gofalwr
  • yn anystwyth a chlwyfus a ddim eisiau eistedd
  • llygad du a chleisiau cyson ar y wyneb.

Arwyddion Cam-drin Emosiynol

  • mae'r plentyn yn aros yn ei gragen, ac yn peidio ag ymuno â gweddill y dosbarth
  • yn mynnu sylw neu'n glynu'n eithafol wrth bobl
  • yn brin o hunan-barch a hyder
  • mae'r plentyn yn dweud celwyddau neu'n dwyn
  • mae'r plentyn yn siarad ag atal
  • yn strancio y tu hwnt i'r oedran disgwyliedig e.e. 5 oed
  • yn ymddwyn yn fabïaidd e.e. sugno bawd, siglo, ffidlan â’r gwallt
  • mae'r plentyn yn ddagreuol

Arwyddion Cam-drin Rhywiol

  • mae gan y plentyn gleisiau neu grafiadau nad oes esboniad iddynt, fel mewn anaf annamweiniol
  • mae'n cwyno bod ganddo/i gosi neu boen yng nghyffiniau eu horganau rhywiol
  • yn dueddol o wlychu neu faeddu ei hun
  • mae gan y plentyn redlif o'r fagina neu'r pidyn
  • mae'n cwyno bod pasio dŵr yn brifo
  • mae'r plentyn wedi colli ei archwaeth
  • mae gan y plentyn batrwm cysgu a bwyta gwael
  • yn cael haint wrin a chenhedlol yn gyson
  • dangos ymddygiad rhywiol wrth chwarae, e.e. ceisio paru doliau
  • gwybodaeth eang o ymddygiad rhywiol oedolion
  • ymddygiad anaddas fel dadwisgo neu ddinoethi ei hun
  • gall lluniau a chwarae'r plentyn adlewyrchu mwy o wybodaeth nag sy'n arferol i'w hoedran
  • gall y plentyn ddangos arwyddion o atchweliad e.e. eisiau cael ei fwydo neu wisgo clwt
  • gall aros yn ei gragen ac ymddwyn yn ynysig
  • gall fod yn brin o hunan-barch a hyder.

Arwyddion Esgeulustod

  • mae'r plentyn yn aml yn llwglyd
  • mae'r plentyn dan bwysau
  • mae'r plentyn dros bwysau
  • mae'n gwisgo dillad budr neu rai nad ydynt yn ffitio
  • mae wedi blino neu'n brin o egni oherwydd diffyg cwsg neu oherwydd diet gwael
  • mae hylendid personol y plentyn yn wael - mae'n drewi, mae ei wallt a'i groen yn fudr, mae ei anadl yn drewi
  • gall y plentyn fod â brech clwt yn gyson, am nad yw'n cael ei olchi a'i newid yn ddigon aml
  • gall y plentyn fod yn sâl yn aml, ac yn dueddol o gael damweiniau oherwydd goruchwyliaeth wael
  • cyfnodau o absenoldeb o'r lleoliad heb esboniad
  • gall y plentyn fod â hunan-barch isel a datblygiad cymdeithasol gwael. Gall hyn arwain at oedi ym mhob maes datblygu oherwydd diffyg ysgogiad.

Signs and symptoms associated with abuse, harm and neglect.

What type of abuse occurs in the scenarios below?

Arwyddion a symptomau sy'n gysylltiedig â cham-drin, niwed ac esgeulustod.

Pa fath o gamdriniaeth sy’n digwydd yn y senarios isod?

QuestionCwestiwn Your ResponseEich Ymateb Possible AnswerAteb Posib

Possible Answer:

Ateb Posib: