Safeguarding, e-safety and the main categories of abuse and neglect

Diogelu, e-ddiogelwch a’r prif gategorïau o gam-drin ac esgeulustod

A parent/carer yelling aggressively at a cowering child

What is meant by the term ‘safeguarding’

  • the safeguarding of children and young people from abuse and neglect
  • the promotion of child welfare and establishing guidelines to prevent abuse and improve child safety on a daily basis.

Children and young people should feel safe and secure. They should be protected from abuse and kept healthy in order for them to continue to develop well. Everyone who comes into contact with children and young people in their work has a duty to safeguard and promote their welfare. Early years and child care settings will have a designated person trained to safeguard welfare and protect children. Everyone should be aware of the setting's safeguarding arrangements and implement them as necessary.

What is meant by the term ‘e-safety'

  • the safeguarding of children and workers from any harm arising from the misuse of digital technology and the web
  • ensuring safe practices by children and staff when using Information Technology (ICT) equipment, and maintaining a safe online environment

The setting should have filtering systems in place to prevent children and young people accessing unsuitable material. The setting should also provide suitable opportunities within the curriculum for teaching internet safety. The setting may have a website showing the work of the setting, providing information for parents/carers and developing links with the wider community. The setting should protect the identity of the children and young people appearing on the website.

Abuse and neglect

Various types of abuse and neglect can take place in the child's home or in a childcare setting. Family/carers, relatives, friends, carers and strangers can abuse children. The early years childcare worker needs to be able to identify the children who may be suffering abuse, and be aware of their role in protecting these children.

There are four categories of abuse:

  • physical
  • emotional
  • sexual
  • neglect.

Physical or non-accidental abuse:

This occurs when a child is hurt intentionally.

This can include:

  • a bruise after being slapped; hitting them with fists; shaking them; or crushing them
  • bruises on unexpected parts of the body showing the shape of fingers or the palm of the hand
  • cuts and scratches e.g. signs of biting
  • broken bones e.g. from being thrown against a hard object
  • burns and scalds e.g. from cigarettes, an iron, bath or kettle
  • poisoning
  • using extreme force when feeding resulting in damage to the mouth
  • internal injuries.

Emotional abuse:

This occurs when a child does not receive love or affection from the adult.

The child may be:

  • threatened
  • challenged
  • mocked
  • verbally abused including shouting and swearing
  • made to feel guilty
  • put under pressure
  • bullied and criticised regularly
  • falsely accused
  • ignored.

Parents/carers who abuse their children emotionally are often unsure of themselves. This type of abuse is very difficult to detect because the signs are not always visible.

Sexual abuse:

People are much more aware of sexual abuse these days. This type of abuse occurs when an adult uses a child to satisfy his or her own sexual needs, and that could include:

  • physical contact e.g. fondling
  • sexual intercourse
  • penetrative intercourse
  • anal intercourse
  • viewing pornographic material with a child
  • forcing a child to take part in a sexual activity
  • exploiting a child sexually - prostitution
  • encouraging a child to behave in a sexually inappropriate way.

Most sexual abuse is committed by someone the child knows and trusts. The child is often told that what is happening is normal, and that they should keep it a secret. Because of this it is often difficult at times for a child to say anything about the experience.

Neglect:

This occurs when an adult fails to give the child what they need to develop fully. This can include:

  • the child going without food, not kept clean or not properly dressed
  • the child being left on their own for long periods of time
  • the baby being left in the cot without an adult at home
  • an adult failing to cope with the responsibility of bringing up a child
  • an adult failing to look after themselves properly
  • an adult failing to understand the needs of the child
  • an adult failing to realise the importance of speaking and playing with the baby or child
  • a failure to keep the child safe from harm
  • ignoring the child.

Ystyr y term ‘diogelu’

  • diogelu plant a phobl ifanc rhag camdriniaeth ac esgeulustod
  • hybu lles plant a rhoi canllawiau yn eu lle i atal camdriniaeth ac i wella diogelwch plant yn ddyddiol.

Dylai phlant a phobl ifanc deimlo’n ddiogel a saff. Dylent gael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth a'u cadw’n iach er mwyn iddynt barhau i ddatblygu’n dda. Mae gan bawb sy’n dod i gysylltiad â phlant a phobl ifanc yn eu gwaith ddyletswydd i ddiogelu a hyrwyddo eu lles. Bydd gan leoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant berson dynodedig sydd wedi’i hyfforddi i ddiogelu lles ac amddiffyn plant. Dylai pawb fod yn ymwybodol o drefniadau diogelu’r lleoliad a’u gweithredu yn ôl yr angen.

Ystyr y term 'e-ddiogelwch'

  • diogelu plant a gweithwyr rhag unrhyw niwed sy’n deillio o gamddefnydd technoleg digidol a’r we
  • sicrhau arferion diogel gan blant a staff wrth ddefnyddio’r offer Technoleg Gwybodaeth (TGCh), ac i gynnal amgylchedd ar-lein diogel

Dylai fod gan y lleoliad systemau ffiltro yn eu lle i atal plant a phobl ifanc rhag cael mynediad at ddeunyddiau anaddas. Dylai’r lleoliad hefyd ddarparu cyfleoedd addas o fewn y cwricwlwm i addysg am ddiogelwch y rhyngrwyd. Efallai bod gan y lleoliad wefan sy’n dangos gwaith y lleoliad, yn darparu gwybodaeth i rieni/gofalwyr ac yn datblygu cysylltiadau gyda’r gymuned yn ehangach. Dylai’r lleoliad amddiffyn hunaniaeth y plant a’r bobl ifanc sy’n ymddangos ar y wefan.

Cam-drin ac esgeulustod

Mae gwahanol fathau o gam-drin ac esgeuluso yn gallu digwydd yng nghartref y plentyn neu mewn lleoliad gofal plant. Gall teulu/gofalwyr, perthnasau, ffrindiau, gofalwyr a dieithriaid gam-drin plant. Mae angen i'r gweithiwr gofal plant blynyddoedd cynnar allu adnabod y plant a allai fod yn cael eu cam-drin, a bod yn ymwybodol o'u rôl yn amddiffyn y plant hyn.

Ceir pedwar categori o gam-drin:

  • corfforol
  • emosiynol
  • rhywiol
  • esgeulustod.

Cam-drin corfforol neu annamweiniol:

Mae hyn yn digwydd pan fydd plentyn yn cael ei niweidio'n fwriadol.

Gall hyn gynnwys:

  • clais ar ôl cael eu slapio; eu dyrnu; eu hysgwyd; neu eu gwasgu
  • cleisiau ar fannau annisgwyl o’r corff sy’n dangos siâp bysedd neu gledr llaw
  • briwiau a chrafiadau e.e. olion brathu
  • torri esgyrn e.e. ar ôl cael eu taflu yn erbyn rhywbeth caled
  • llosgiadau a sgaldiadau e.e. o sigarennau, haearn smwddio, baddon neu degell
  • gwenwyno
  • defnyddio grym eithafol wrth fwydo a fydd yn gwneud niwed i’r geg
  • anafiadau mewnol.

Cam-drin emosiynol:

Mae hyn yn digwydd pan nad yw plentyn yn cael cariad ac anwyldeb gan yr oedolyn.

Gall y plentyn gael:

  • ei fygwth
  • ei herio
  • ei fychanu
  • ei gam-drin ar lafar gan gynnwys gweiddi a rhegi
  • ei wneud i deimlo'n euog
  • ei roi dan bwysau
  • ei fwlio a’i feirniadu’n gyson
  • ei gyhuddo ar gam
  • ei anwybyddu.

Mae rhieni/gofalwyr sy'n cam-drin eu plant yn emosiynol yn aml yn ansicr eu hunain. Mae'r math yma o gamdriniaeth yn anodd iawn ei ganfod am nad yw’r arwyddion bob tro yn weladwy.

Cam-drin rhywiol:

Mae pobl yn llawer mwy ymwybodol o gamdriniaeth rywiol y dyddiau hyn. Mae'r math yma o gam-drin yn digwydd pan fydd oedolyn yn defnyddio plentyn i foddhau ei anghenion rhywiol ef neu hi ei hun, a gallai hynny gynnwys:

  • cyswllt corfforol e.e. mwytho
  • cyfathrach rywiol
  • cyfathrach dreiddiol
  • cyfathrach rhefrol
  • gwylio deunydd pornograffig gyda phlentyn
  • gorfodi plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol
  • plentyn yn cael ei ecsbloetio’n rhywiol - puteindra
  • annog plentyn i ymddwyn mewn ffordd rywiol anaddas.

Rhywun y mae'r plentyn yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo sy'n cyflawni'r rhan fwyaf o gam-drin rhywiol. Dywedir yn aml wrth y plentyn bod yr hyn sy'n digwydd yn normal, ac y dylid ei gadw'n gyfrinach. Oherwydd hyn bydd yn anodd ar adegau i blentyn ddweud unrhyw beth am y profiad.

Esgeulustod:

Mae hyn yn digwydd pan nad yw oedolyn yn rhoi i'r plentyn yr hyn sydd ei angen er mwyn datblygu'n llawn. Gall hyn gynnwys:

  • y plentyn yn mynd heb fwyd a heb ei gadw’n lan a’i ddilladu'n briodol
  • y plentyn yn cael ei adael ar ei ben ei hun am gyfnodau maith
  • y babi yn cael ei adael yn y cot heb oedolyn yn y tŷ
  • oedolyn yn methu ymdopi â'r cyfrifoldeb o fagu plentyn
  • oedolyn yn methu edrych ar ôl ei hun yn iawn
  • oedolyn yn methu deall anghenion y plentyn
  • oedolyn heb fod yn sylweddoli pa mor bwysig yw siarad a chwarae â'r babi neu’r plentyn
  • methu diogelu'r plentyn rhag niwed
  • anwybyddu’r plentyn.

Safeguarding, e-safety and the main categories of abuse and neglect

Drag the examples of abuse to the correct column

Diogelu, e-ddiogelwch a’r prif gategorïau o gam-drin ac esgeulustod

Llusgwch yr enghreifftiau o gam-drin i’r golofn gywir