Introduction

Cyflwyniad

Silhouette of people jumping for joy

Several key principles underpin health and social care services in Wales. These are:

  • The child/young person is at the centre of everything we do.
  • Services should be designed around the child/young person’s needs.
  • Professionals should work together with the child/young person to meet their needs.
  • The well-being and protection of the child/young person is paramount.
  • Services must always promote diversity, independence, choice, empowerment, identity and safety.

Mae nifer o egwyddorion allweddol yn ategu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Y rhain yw:

  • Mae'r plentyn/person ifanc wrth wraidd popeth a wnawn.
  • Dylai gwasanaethau gael eu dylunio yn seiliedig ar ei anghenion unigol.
  • Dylai gweithwyr proffesiynol gydweithio â'r plentyn/person ifanc er mwyn diwallu ei anghenion.
  • Mae llesiant a diogelwch y plentyn/person ifanc yn hollbwysig.
  • Mae'n rhaid i wasanaethau hybu amrywiaeth, annibyniaeth, dewis, hunaniaeth a diogelwch a grymuso'r unigolyn bob amser.

How legislation and national policies underpin health and social care and support for children and young people

Sut mae deddfwriaeth a pholisïau cenedlaethol yn sail i iechyd a gofal cymdeithasol a chymorth ar gyfer plant a phobl ifanc

Gavel and law books
  • Legislation and Codes of Practice have been developed to ensure these principles underpin the way services are designed and delivered.
  • This legislation and the Codes tell workers how they should support the child/young person and how services should be planned, and they should underpin everything we do.
  • There are several pieces of relevant legislation and Codes to be looked at. The key piece of legislation is the Social Services and Well-being Act 2014.
  • Mae deddfwriaeth a Chodau Ymarfer wedi cael eu datblygu er mwyn sicrhau bod yr egwyddorion hyn yn ategu'r ffordd y caiff gwasanaethau eu dylunio a'u darparu.
  • Mae'r ddeddfwriaeth hon a'r Codau yn dweud wrth weithwyr sut y dylent gefnogi y plentyn/person ifanc a sut y dylid cynllunio gwasanaethau a dylent ategu popeth a wnawn.
  • Mae sawl darn o ddeddfwriaeth a Chodau perthnasol y byddwn yn eu hastudio. Y ddeddfwriaeth allweddol yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.

Principles and values of Social Services and Well-being (Wales) Act 2014

Egwyddorion a gwerthoedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Gavel and welsh flag

The Social Services and Well–Being (Wales) Act 2014 changed the way local authority social services and other care services work together in partnership to help and support individuals.

The Act helps ensure that individuals enjoy well-being in every area of their lives, as much as they choose and are able to. The Act brings together and modernises different pieces of existing social care law.

This new legal framework consists of three elements:

  • the Act
  • the regulations, which provide greater detail about the requirements of the Act
  • the codes of practice, which give practical guidance about how it should be implemented in social care settings.

The Act applies to:

  • adults - individuals aged 18 or over
  • children - individuals under the age of 18
  • carers - adults or children who provide care and support.

The Act is made up of 11 parts, consists of five principles and clearly identifies the individuals the Act affects.

The principles or values of the Act are important as they impact on the way services are provided and how we work with and support individuals.

https://bit.ly/2PoDpOj

Newidiodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 y ffordd mae gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau gofal eraill awdurdodau lleol yn cydweithio mewn partneriaeth i helpu a chefnogi unigolion.

Mae'r Ddeddf yn helpu i sicrhau bod unigolion yn mwynhau llesiant ym mhob rhan o'u bywydau, cymaint ag ydynt yn dewis ac yn gallu neud. Mae'r Ddeddf yn dwyn ynghyd ac yn moderneiddio gwahanol ddarnau o gyfraith gofal cymdeithasol presennol.

Mae'r fframwaith cyfreithiol newydd hwn yn cynnwys tair elfen:

  • y Ddeddf
  • y rheoliadau, sy'n rhoi mwy o fanylion am ofynion y Ddeddf
  • y codau ymarfer, sy'n rhoi arweiniad ymarferol ynghylch sut y dylai gael ei rhoi ar waith mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.

Mae'r Ddeddf yn gymwys i:

  • oedolion – unigolion 18 oed neu drosodd
  • plant – unigolion o dan 18 oed
  • gofalwyr – oedolion neu blant sy'n darparu gofal a chymorth.

Mae'r Ddeddf mewn 11 rhan, gan gynnwys pum egwyddor, ac mae'n nodi'n glir yr unigolion mae'r Ddeddf yn effeithio arnynt.

Mae egwyddorion neu werthoedd y Ddeddf yn bwysig am eu bod yn effeithio ar y ffordd y darperir gwasanaethau, a sut rydym yn gweithio gydag unigolion ac yn eu cefnogi.

http://bit.ly/2X7Udvr

Principles and values of The Social Services and Well-being (Wales) Act 2014

Click to watch a video about the Act.

Egwyddorion a gwerthoedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Cliciwch i wylio fideo am y Ddeddf.

What the does the Act mean for children/young people we support?

Beth mae’r Ddeddf yn ei olygu i blant/pobl ifanc yr ydym yn eu cefnogi?

Principles and values of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014

Egwyddorion a gwerthoedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Care

The Act is built on the following core principles:

  • Voice and control, which means putting the individual and their needs at the very centre of their care and support so that they have voice and control over the outcomes that will help meet their needs.
  • Prevention and early intervention involves encouraging individuals to ask for help or support when they need it, not when it may be too late.
  • Well-being identifies how to support individuals to achieve well-being in every aspect of their lives. This involves all of the relevant services working together to support an individual’s health and well-being, for example.
  • Co-production is working with individuals, their family, carers and friends to identify and meet their support needs.

Mae'r Ddeddf yn seiliedig ar yr egwyddorion craidd canlynol:

  • Llais a rheolaeth, sy'n golygu rhoi'r unigolyn a'i anghenion wrth wraidd ei ofal a'i gymorth, fel bod ganddynt lais a rheolaeth dros y canlyniadau a wnaiff helpu i ddiwallu ei anghenion.
  • Ataliad ac ymyrryd yn gynnar sy'n golygu annog unigolion i ofyn am help neu gefnogaeth pan fo angen hynny arnynt, nid pan ei bod yn rhy hwyr efallai.
  • Mae llesiant yn nodi sut i helpu unigolion i sicrhau llesiant ym mhob agwedd ar eu bywydau. Mae hyn yn cynnwys yr holl wasanaethau perthnasol yn cydweithio i gefnogi iechyd a llesiant unigolyn, er enghraifft.
  • Mae a wnelo cydgynhyrchu â gweithio gydag unigolion, eu teuluoedd, eu gofalwyr a'u ffrindiau i nodi a diwallu eu hanghenion cymorth.

The Social Services and Well-being Act and Advocacy

Y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ac Eiriolaeth

A group of smiling teenagers
  • Children/young people have a right to be supported to express their needs, views and wishes and be able to fully participate in the assessment and planning process and in decisions which affect them.
  • Children/young people also have a right to an independent professional advocate provided free of charge if they have difficulties in expressing their views, needs, wishes and preferences.
  • Social care, education and health professionals working with children and young people all have a key role to play in supporting young people to have a voice, to speak up for children and young people and make sure their rights are respected and their views, wishes and feelings taken into consideration.
  • Advocacy can be provided at different levels, such as by somebody the child chooses, family, relative, friend, teacher or carer. However, there may be occasions where this support is not available or appropriate or there are conflicts of interests in them acting as an advocate and the child needs an independent professional advocate to enable them to engage in and participate in the process.
  • Mae gan blant/pobl ifanc yr hawl i gael eu cefnogi i fynegi eu hanghenion, eu safbwyntiau a'u dymuniadau a gallu cymryd rhan lawn yn y broses asesu a chynllunio ac yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
  • Hefyd, mae gan blant/pobl ifanc yr hawl i gael eiriolwr proffesiynol annibynnol am ddim os ydynt yn cael anhawster i fynegi eu barn, eu hanghenion, eu dymuniadau a'u hoff ddewisiadau.
  • Mae gan weithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol, addysg ac iechyd sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ran allweddol i'w chwarae wrth gefnogi pobl ifanc i gael llais. Maent hefyd yn gyfrifol am achub cam plant a phobl ifanc a sicrhau bod eu hawliau'n cael eu parchu, a bod eu barn, eu dymuniadau a'u teimladau'n cael eu hystyried.
  • Gellir darparu eiriolaeth ar lefelau gwahanol, megis gan rywun y mae'r plentyn yn ei ddewis, ei deulu, ei berthynas, ei gyfaill, ei athro neu ei ofalwr. Fodd bynnag, fe all fod adegau pan na fydd y gefnogaeth hon ar gael neu'n briodol neu os bydd gwrthdaro buddiannau wrth iddynt weithredu fel eiriolwr a bod angen eiriolwr proffesiynol annibynnol ar y plentyn i'w alluogi i gymryd rhan yn y broses.

Principles and values of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014

Egwyddorion a gwerthoedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

A child in a therapy session

Visits to looked after children under the Act

There is a duty upon social services to appoint an independent visitor to meet the needs of the child. They must ensure:

  • their well-being continues to be safeguarded and promoted
  • they feel supported
  • they receive advice or information if needed
  • engagement with the child about their hopes and aspirations
  • personal goals and outcomes are checked
  • additional support or services are identified if needed.

Ymweliadau â phlant sy'n derbyn gofal o dan y Ddeddf

Mae dyletswydd ar y gwasanaethau cymdeithasol i benodi ymwelydd annibynnol i ddiwallu anghenion y plentyn. Rhaid iddyn nhw sicrhau:

  • bod eu llesiant yn parhau i gael ei ddiogelu a'i hybu
  • eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi
  • eu bod yn derbyn cyngor neu wybodaeth os oes angen
  • eu bod yn ymgysylltu â'r plentyn am ei obeithion a'i ddyheadau
  • y caiff nodau a chanlyniadau personol eu gwirio
  • bod cefnogaeth neu wasanaethau ychwanegol yn cael eu nodi os oes angen.

Principles and values of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014

Egwyddorion a gwerthoedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Putting it into practice - The Act and your role

You have just started working in the health and social care sector. Explain the key points of the Social Services and Well–Being (Wales) Act 2014 as if you were telling a child/young person that you are supporting.

Ei roi ar waith - Y Ddeddf a'ch rôl chi

Rydych newydd ddechrau gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Eglurwch brif bwyntiau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel petaech yn dweud wrth y plentyn/person ifanc rydych yn ei gynorthwyo.

The principles and values of the Children Act (1989 and 2004)

Egwyddorion a gwerthoedd Y Ddeddf Plant (1989 a 2004)

A childcare worker painting eggs with young children

The Children Act 1989 (1989 and 2004) provides a framework for the care and protection of children, centring on the welfare of children up to their 18th birthday. It defines parental or carer responsibility and encourages partnership working with parents/carers. It focuses on putting children and young people at the heart of planning and decision making through co-production and person-centred practice.

The main principles of the Act:

  • the welfare of the child is always the main focus
  • wherever possible, children should be brought up and cared for within their own families
  • parents/carers with children in need should be supported to bring up their children themselves. This support should:
    • be provided in partnership
    • meet each child's identified needs
    • be appropriate to the child's race, culture, religion and language
    • be open to effective independent representations and complaints procedures
    • utilise existing partnerships between the local authority and other agencies, including voluntary agencies.

Use the link below to access further information about the Children Act (1989 and 2004).

https://bit.ly/2I3Ebhv

Mae Deddf Plant (1989 a 2004) yn cynnig fframwaith ar gyfer gofalu am blant a’u hamddiffyn, gan ganolbwyntio ar les plant hyd at pan fyddant yn 18 oed. Mae'n crynhoi cyfrifoldeb rhiant neu ofalwr ac yn annog gweithio mewn partneriaeth gyda rhieni/gofalwyr. Mae'n canolbwyntio ar roi plant a phobl ifanc wrth wraidd cynllunio a gwneud penderfyniadau drwy gyd-gynhyrchu arferion gweithredu mewn ffordd plentyn-ganolog.

Dyma brif egwyddorion y Ddeddf:

  • lles y plentyn yw’r brif ffocws
  • lle bynnag y bo modd, dylai plant gael eu magu a'u gofalu amdanynt gan eu teuluoedd eu hunain
  • dylid cefnogi rhieni / gofalwyr sydd â phlant mewn angen i fagu eu plant eu hunain. Dylai'r cymorth hwn:
    • gael ei ddarparu mewn partneriaeth
    • diwallu anghenion penodol pob plentyn
    • bod yn briodol i hil, diwylliant, crefydd ac iaith y plentyn
    • bod yn agored i gynrychiolaethau a gweithdrefnau cwyno annibynnol effeithiol
    • defnyddio partneriaethau presennol rhwng yr awdurdod lleol ac asiantaethau eraill, gan gynnwys asiantaethau gwirfoddol.

Ewch i’r linc isod i ddarganfod mwy o wybodaeth am Y Ddeddf Plant (1989 a 2004)

https://bit.ly/2I3Ebhv

Key legislation

Deddfwriaeth allweddol

The Human Rights Act 1998

The Human Rights Act 1998 sets out the fundamental rights and freedoms that everyone in the UK is entitled to. The Act incorporates the rights set out in the European Convention on Human Rights (ECHR) into domestic British law.

UN Convention on the Rights of Persons with Disabilities is an international legal agreement, which exists to protect and promote the human rights of disabled individuals.

UN Convention on the Rights of a Child 1990 is an international human rights treaty that grants all children and young people (aged 17 and under) a comprehensive set of rights, regardless of their race, religion or abilities.

The United Nations Convention on the Rights of the Child is an international agreement that protects the human rights of children under the age of 18. The Welsh Assembly Government's seven core aims for children and young people summarise the UN Convention on the Rights of the Child (UNCRC) and form the basis for decisions on priorities and objectives nationally. They should also form the basis for decisions on strategy and service provision locally.

Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn nodi'r hawliau a'r rhyddid sylfaenol y dylai pawb yn y DU fod yn eu cael. Mae'r Ddeddf yn ymgorffori'r hawliau a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yng nghyfraith ddomestig Prydain.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn gytundeb cyfreithiol rhyngwladol, sy'n bodoli i ddiogelu a hyrwyddo hawliau dynol unigolion anabl.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 1990 yn gytundeb hawliau dynol sy’n rhoi set gynhwysfawr o hawliau i blant a phobl ifanc (17 oed ac iau), beth bynnag eu hil, crefydd neu allu.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn gytundeb rhyngwladol sy’n amddiffyn hawliau dynol plant o dan 18 oed. Mae saith nod craidd Llywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc yn crynhoi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac yn ffurfio sail ar gyfer penderfyniadau am flaenoriaethau ac amcanion cenedlaethol. Dylent hefyd ffurfio sail ar gyfer penderfyniadau ar strategaeth a darpariaeth gwasanaethau lleol.

Key legislation

Deddfwriaeth allweddol

A gavel and open law books

Welsh Language Act 1993, Welsh Language measure (2011) and Mwy na Geiriau gives the Welsh Language official status in Wales, introduces standards to explain how organisations are expected to use the Welsh Language, increases the use of the Welsh language and makes it easier for individuals to use it in their everyday lives.

The Welsh Government Strategic Framework for the Welsh Language in Health and Social Care (2013) is the Welsh Government’s commitment to strengthen Welsh language services to individuals accessing health and social care, and their families.

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, Mesur y Gymraeg (2011) a Mwy na Geiriau yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru, gan gyflwyno safonau i egluro sut y disgwylir i sefydliadau ddefnyddio'r Gymraeg, cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg a'i gwneud yn haws i unigolion ei defnyddio yn eu bywydau beunyddiol.

Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2013) yw ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau Cymraeg i unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a'u teuluoedd.

Equality Act 2010

Deddf Cydraddoldeb 2010

Legislation, national policies and Codes of Conduct and Practice have been developed over time to support the rights of all individuals.

Watch the video:

Mae deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol a Chodau Ymddygiad ac Ymarfer wedi'u datblygu dros amser i gefnogi hawliau pawb.

Gwyliwch y fideo:

  • identify the rights the Act supports and promote
  • write a short summary of how the Act does this.
  • nodwch yr hawliau mae'r Ddeddf yn eu cefnogi ac yn eu hyrwyddo
  • ysgrifennwch grynodeb byr o'r ffordd mae'r Ddeddf yn gwneud hyn.

Suggested response:

  • legally protects individuals from discrimination in the workplace
  • legally protects in wider society
  • replaces previous anti-discrimination laws with one single Act
  • makes the law easier to understand
  • strengthens protection in some situations
  • protects individuals from discrimination, harassment and victimisation.

Ymateb awgrymedig:

  • diogelu unigolion rhag gwahaniaethu yn y gweithle, a hynny o dan y gyfraith
  • darparu diogelwch cyfreithiol mewn cymdeithas ehangach
  • cyflwyno un Ddeddf yn lle cyfreithiau gwrthgwahaniaethu blaenorol
  • gwneud y gyfraith yn haws ei deall
  • cryfhau diogelwch mewn rhai sefyllfaoedd
  • diogelu unigolion rhag gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth.

Codes of Conduct and Professional Practice

Codau Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Checklist

Codes of Conduct and Professional Practice sets standard and guidance, for all care professionals.

In Wales the Code of Practice for Social Care Employers (Employers' Code) sets the standards for employers. Practice guidance gives registered workers guidance related to their role. Other codes include the NHS Wales Code of Conduct for Healthcare Support Workers in Wales, and the Code of Practice for NHS Wales Employers and practice guidance such as the Practice Guidance for Residential Child Care for Workers Registered with Social Care Wales.

The Code of Professional Practice for Social Care consists of a list of statements describing the standards of professional conduct and practice necessary for employees in the social care profession in Wales. The Code plays a key part in raising awareness of these standards. The Code is intended to be a guide for workers, individuals accessing services and managers of services.

In relation to individuals receiving care, the Code will make the individuals aware of how a social care worker should behave towards them, also the role of employers in supporting social care workers to do their jobs well.

Employers of social care workers are expected to promote the use of the Code and take account of it in making any decisions about the conduct and practice of staff.

Visit the link below and make a note of 4 requirements for workers explained in the Code for care workers.

Code of Professional Practice for Social Care

https://bit.ly/2v4cP2m

Mae Codau Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol yn nodi safonau a chanllawiau ar gyfer pob gweithiwr gofal proffesiynol.

Yng Nghymru, y Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr Gofal Cymdeithasol (Cod Cyflogwyr) sy'n pennu safonau cyflogwyr. Mae canllawiau ymarfer yn rhoi canllawiau i weithwyr cofrestredig sy'n gysylltiedig â'u rôl. Ymhlith y codau eraill mae Cod Ymddygiad GIG Cymru i Weithwyr Cynnal Gofal Iechyd yng Nghymru, a'r Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr GIG Cymru a chanllawiau ymarfer fel Canllawiau Ymarfer Gofal Preswyl i Blant ar gyfer Gweithwyr sydd wedi Cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol yn cynnwys rhestr o ddatganiadau sy'n disgrifio'r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol sydd eu hangen ar weithwyr yn y proffesiwn gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r Cod yn chwarae rhan allweddol wrth godi ymwybyddiaeth o'r safonau hyn. Bwriedir iddo roi canllaw i weithwyr, unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau a rheolwyr gwasanaethau.

O ran unigolion sy'n derbyn gofal, bydd y Cod yn gwneud yr unigolion yn ymwybodol o sut y dylai gweithiwr gofal cymdeithasol ymddwyn tuag atynt, ynghyd â rôl cyflogwyr wrth helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i wneud eu gwaith yn dda.

Disgwylir i gyflogwyr gweithwyr gofal cymdeithasol hyrwyddo'r defnydd o'r Cod a'i ystyried wrth wneud unrhyw benderfyniadau am ymddygiad ac ymarfer staff.

Ewch i'r ddolen isod a gwnewch nodyn o 4 gofyniad ar gyfer gweithwyr a eglurir yn y Cod.

Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol

https://bit.ly/2L1bpjL

Suggested response:

  • sets the standard of conduct expected of healthcare support workers and adult social care workers
  • outlines the behaviour and attitudes expected from workers
  • helps workers to provide safe, guaranteed care and support
  • made up of six sections, or seven sections if a worker manages staff, each section relates to key aspects of healthcare support workers and adult social care workers roles.

Ymateb awgrymedig:

  • pennu'r safon ymddygiad a ddisgwylir gan weithwyr cymorth gofal iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol oedolion
  • amlinellu'r ymddygiad a'r agweddau a ddisgwylir gan weithwyr
  • helpu gweithwyr i ddarparu gofal a chymorth diogel a sicr
  • yn cynnwys chwe adran, neu saith adran os yw gweithiwr yn rheoli staff, mae pob adran yn ymwneud ag agweddau allweddol ar rolau gweithwyr cymorth gofal iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol oedolion.

Principles of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 and the Children Act (1989 and 2004) and Supporting Practice

Egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Deddf Plant (1989 a 2004) a Chefnogi Arferion

Children and young people must be consulted deciding the support they need and in relation to making decisions about their care and support they are viewed as an equal partner. Children and young people can use an independent professional advocate to help them participate fully in the assessment, care and support planning, review and safeguarding processes. They also have a right to an independent professional advocate provided free of charge if they have difficulties in expressing their views, needs, wishes and preferences.

As a carer working together with a child or a young person, this impacts on the role in terms of care and must now be personalised to the individual through collaboration with them. This may involve support for them from an advocate.

An advocate offers independent support to individuals who might not be heard, to ensure they are taken seriously and that their rights are respected. Advocates also help individuals to access and understand appropriate information and services.

It is important that timely advice and assistance is provided to children and young people to prevent their situation from getting worse. Stepping in early to help individuals is crucial as it can reduce or delay the need for longer term care and support.

Arlo is 15 years old, he lives with his parents but has not attended school for 6 weeks. Arlo’s parents are both drug and alcohol dependant so struggle to get him to school which results in lateness or long absences. Social services have just become involved.

Caiff plant a phobl ifanc reolaeth lawn wrth benderfynu ar y cymorth sydd ei angen arnynt, ac wrth wneud penderfyniadau am eu gofal a'u cymorth fe'u hystyrir yn bartner cyfartal. Gall plant a phobl ifanc ddefnyddio eiriolwr proffesiynol annibynnol i'w helpu i chwarae rhan lawn yn y prosesau asesu, cynllunio gofal a chymorth, adolygu a diogelu. Hefyd, cant ddefnyddio eiriolwr proffesiynol annibynnol am ddim os ydynt yn ei chael hi'n anodd mynegi barn, anghenion a dymuniadau.

Felly, fel gofalwr sy’n cydweithio gyda plentyn neu berson ifanc, fe wnaiff hyn amharu ar y rôl am fod angen i ofal gael ei deilwra i'r unigolyn bellach, drwy gydweithio â nhw, a all olygu cael cymorth eiriolwr.

Mae eiriolwr yn cynnig cymorth annibynnol i unigolion na chânt eu clywed efallai, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cymryd o ddifri a bod eu hawliau yn cael eu parchu. Mae eiriolwyr hefyd yn helpu unigolion i gael gwybodaeth a gwasanaethau priodol, a'u deall.

Mae'n bwysig sicrhau bod cyngor a chymorth amserol ar gael i blant a phobl ifanc er mwyn atal pethau rhag mynd o ddrwg i waeth. Mae cynnig help ar gam cynnar yn hanfodol oherwydd gall leihau neu oedi'r angen am ofal a chymorth tymor hwy.

Mae Arlo yn 15 oed ac yn byw gyda’i deulu, tydi o heb fynychu’r ysgol dros y 6 wythnos ddiwethaf. Mae rhieni Arlo yn ddibynnol ar alcohol a chyffuriau ac felly’n cael trafferth ei gael i’r ysgol. Mae hyn yn golygu bod Arlo yn hwyr i’r ysgol neu yn achosi cyfnodau hir o absenoldeb. Mae’r gwasanaethau cymdeithasol wedi cael eu galw erbyn hyn.

QuestionCwestiwn Your ResponseEich Ymateb Suggested ResponseYmatebion awgrymedig

Suggested Response:

Ymatebion awgrymedig:

The Code of Practice for NHS Wales Employers and The Code of Professional Practice for Social Care

Cod Ymarfer i Gyflogwyr GIG Cymru a’r Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol

The Code of Practice for NHS Wales Employers is supported by a Code of Conduct for Health Care Support Workers, which describes the standards workers must follow and comply with. Employers should be understanding and implement the Code of Conduct and ensure staff are supported to achieve the standards.

Both Codes support the basic principles of safety and public protection and must underpin the day to day working practices of NHS Wales in all aspects of service delivery. Employers will need to implement systems and processes to support Healthcare Support Workers to achieve the standards in the Code of Conduct. Employers also need to use the workplace as an opportunity to develop Health Care Support Workers by providing more fulfilling working conditions that help staff carry out their roles safely and effectively, whilst preparing them to progress to new and more challenging roles in the future.

The Code of Professional Practice for Social Care is made up of seven sections.

As a social care worker, you must:

Ategir y Cod Ymarfer i Gyflogwyr GIG Cymru gan God Ymddygiad i Weithwyr Cynnal Gofal Iechyd, sy'n disgrifio'r safonau mae'n rhaid i weithwyr eu dilyn a'u cyrraedd. Dylai cyflogwyr fod yn gydymdeimladol a gweithredu'r Cod Ymddygiad a sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi i gyrraedd y safonau.

Mae'r ddau God yn cefnogi egwyddorion sylfaenol diogelwch ac amddiffyn y cyhoedd, a rhaid iddynt ategu arferion gwaith dyddiol GIG Cymru ym mhob agwedd ar ddarparu gwasanaethau. Bydd angen i gyflogwyr weithredu systemau a phrosesau i gefnogi Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd i gyrraedd y safonau yn y Cod Ymddygiad. Mae angen i gyflogwyr hefyd ddefnyddio'r gweithle i ddatblygu Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd drwy gynnig amodau gwaith mwy boddhaus sy'n helpu staff i gyflawni eu rolau'n ddiogel ac yn effeithiol, wrth eu paratoi i gamu ymlaen i rolau newydd a mwy heriol yn y dyfodol.

Mae Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol yn cynnwys saith adran.

Fel gweithiwr gofal cymdeithasol, mae’n hanfodol eich bod yn:

https://bit.ly/2GsrAm9

https://bit.ly/2DzteR8

The NHS Wales Code of Conduct for Healthcare Support Workers in Wales

Cod Ymddygiad GIG Cymru i Weithwyr Cynnal Gofal Iechyd yng Nghymru

A doctor standing in front of the welsh flag

The NHS Wales Code of Conduct for Healthcare Support Workers in Wales describes what is expected from Healthcare Support Workers employed by NHS Wales in relation to the standards of conduct, behaviour and attitude expected when they are at work. The Code applies to all Healthcare Support Workers employed in clinical and non-clinical environments within the NHS and will be used to reference job descriptions.

The Code provides confidence and reassurance through a framework for public protection incorporating the provision of guidance and support to Healthcare Support Workers about their practice to ensure they understand what standards of conduct employers, colleagues, service users and the public expect them to follow.

The Code sets out standards, so Healthcare Support Workers can be sure what standards they are expected to meet. Healthcare Support Workers should use the Code to assure themselves they are working to the standard and if not then change the way they are working.

Healthcare Support Workers can use the Code to review their practice and identify possible areas for personal development. The Code supports Healthcare Support Workers to fulfil the requirements of their role, behave in the correct way and follow a duty of care and good practice at all times. This is essential to protect service users, public and others from harm and abuse.

Mae Cod Ymddygiad GIG Cymru i Weithwyr Cynnal Gofal Iechyd yng Nghymru yn disgrifio'r hyn a ddisgwylir gan Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd a gyflogir gan GIG Cymru o ran safonau ymddygiad ac agweddau disgwyliedig yn y gwaith. Mae'r Cod yn gymwys i bob Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd a gyflogir mewn amgylcheddau clinigol ac anghlinigol yn y GIG, ac fe'i defnyddir mewn cyfeiriadau disgrifiadau swydd.

Mae'r Cod yn rhoi hyder a thawelwch meddwl drwy fframwaith amddiffyn y cyhoedd sy'n cynnwys darparu cymorth ac arweiniad i Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd o ran eu hymarfer er mwyn sicrhau eu bod yn deall pa safonau ymddygiad mae cyflogwyr, cydweithwyr, defnyddwyr gwasanaeth a'r cyhoedd yn disgwyl ganddynt.

Mae'r Cod yn nodi safonau, fel y gall Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd fod yn siŵr pa safonau mae disgwyl iddynt eu cyrraedd. Dylai Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd ddefnyddio'r Cod i roi sicrwydd iddynt eu hunain eu bod yn cyrraedd y safon ac, os nad ydynt, newid eu ffordd o weithio.

Gall Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd ddefnyddio'r Cod i adolygu eu hymarfer a nodi meysydd datblygu personol posibl. Mae'r Cod yn helpu Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd i fodloni gofynion eu rôl, ymddwyn yn briodol a dilyn dyletswydd gofal ac arfer da drwy'r amser. Mae hyn yn hanfodol er mwyn amddiffyn defnyddwyr gwasanaeth, y cyhoedd ac eraill rhag niwed a cham-drin.

The Code of Conduct for Healthcare Support Workers in Wales

Cod Ymddygiad GIG Cymru i Weithwyr Cynnal Gofal Iechyd yng Nghymru

Building blocks of good health

According to the Code of Conduct for Healthcare Support Workers in Wales they must:

  • Be accountable by making sure you can always answer for your actions or omissions.
  • Promote and uphold the privacy, dignity, rights and well-being of service users and their carers always.
  • Work in collaboration with your colleagues as part of a team to ensure the delivery of high quality safe care to service users and their families.
  • Communicate in an open, transparent and effective way to promote the well-being of service users and carers.
  • Respect a person’s right to confidentiality, protecting and upholding their privacy.
  • Improve the quality of care to service users by updating your knowledge, skills and experience through personal and professional development.
  • To promote equality all service users, colleagues and members of the public are entitled to be treated fairly and without bias.

https://bit.ly/2Fgd3ZG

Mae Cod Ymddygiad i Weithwyr Cynnal Gofal Iechyd yng Nghymru yn nodi y dylai gweithwyr:

  • Fod yn atebol trwy sicrhau bob amser y gallent ateb dros eu gweithredoedd neu’u hanweithiau.
  • Hybu a chynnal preifatrwydd, urddas, hawliau a llesiant defnyddwyr gwasanaethau a’u cynhalwyr bob amser.
  • Gweithio mewn cydweithrediad â’u cydweithwyr fel rhan o dîm i sicrhau bod gofal diogel a safonol yn cael ei ddarparu ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd.
  • Cyfathrebu mewn modd agored, tryloyw ac effeithiol er mwyn hybu llesiant defnyddwyr gwasanaethau a’u cynhalwyr.
  • Parchu hawl pob person i gyfrinachedd gan amddiffyn a chynnal ei breifatrwydd.
  • Gwella ansawdd gofal defnyddwyr gwasanaethau trwy ddiweddaru eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad trwy ddatblygiad personol a phroffesiynol.
  • Gyda golwg ar hybu cydraddoldeb mae’r holl ddefnyddwyr gwasanaethau, cydweithwyr ac aelodau o’r cyhoedd yn haeddu cael eu trin yn deg ac yn ddi-duedd.

https://bit.ly/2veS5Zo

The Practice Guidance for Residential Child Care for Workers Registered with Social Care Wales

Canllawiau Ymarfer Gofal Preswyl i Blant ar gyfer Gweithwyr sydd wedi Cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru

children playing dressed as pirates

The Practice Guidance for Residential Child Care for Workers Registered with Social Care Wales describes what is expected of workers to support a high-quality service in relation to residential child care.

The guidance can also be used by employers to assess whether they have arrangements in place to ensure a professional and safe service is delivered at all times. The guidance covers child-centred care and support, good residential child care practice, safeguarding individuals, health and safety, professional development, learning culture and contributing to the development of others and contributing to the service, including raising concerns. The guidance builds on the ‘Code of Professional Practice for Health and Social Care’, and failure to follow the guidance could put a worker’s registration at risk.

https://bit.ly/2kgmD7s

Mae'r Canllawiau Ymarfer Gofal Preswyl i Blant ar gyfer Gweithwyr sydd wedi Cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru yn disgrifio'r hyn a ddisgwylir gan weithwyr er mwyn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel mewn perthynas â gofal preswyl i blant.

Gall y canllawiau hefyd gael eu defnyddio gan gyflogwyr i asesu p'un a oes trefniadau ar waith ganddynt i sicrhau bod gwasanaeth proffesiynol a diogel yn cael ei ddarparu drwy'r amser.

Mae'r canllawiau yn cwmpasu gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar y plentyn, arfer da gofal preswyl i blant, diogelu unigolion, iechyd a diogelwch, datblygiad proffesiynol, diwylliant dysgu a chyfrannu at ddatblygiad pobl eraill a chyfrannu at y gwasanaeth, gan gynnwys codi pryderon. Mae'r canllawiau yn adeiladu ar 'Cod Ymarfer Proffesiynol Iechyd a Gofal Cymdeithasol', a gallai methu â dilyn y canllawiau beryglu cofrestriad gweithwyr.

https://bit.ly/2nvVPl2

Code of Conduct and Professional Practice for Health and Social Care

Codau Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

A child speaking with a social worker

Social care workers are responsible for making sure that they work to the standards in the Codes of Conduct and Professional Practice. Workers must ensure that their conduct and practice meet the standards, and that no action or omission on their part harms the safety or well-being of children and young people.

The Codes of Conduct and Professional Practice provide a criteria to guide the workers’ practice and gives clarity about the standards of conduct that they are expected to meet. Workers are encouraged to use this guidance to examine and reflect on their own conduct and practice and to identify areas in which they can improve.

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn gweithio yn ôl safonau'r Codau Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Rhaid i weithwyr sicrhau bod eu hymddygiad a'u hymarfer yn cyrraedd y safonau, ac nad oes unrhyw weithred na diffyg gweithredu ar eu rhan yn peryglu diogelwch na llesiant plant a phobl ifanc.

Darperir y Codau Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol feini prawf i lywio ymarfer gweithwyr, a chynnig eglurder ynghylch y safonau ymddygiad mae disgwyl iddynt eu cyrraedd. Anogir gweithwyr i ddefnyddio'r canllawiau hyn i archwilio a myfyrio ar eu hymddygiad a'u hymarfer eu hunain, a nodi meysydd lle gallant wella.

Applying Codes of Conduct and Professional Practice

Social care workers should be supported and encouraged to follow Codes of Conduct and Professional Practice. Which of the statements below can help social care workers to follow Codes of Conduct and Professional Practice?

Cymhwyso Codau Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Dylai gweithwyr gofal cymdeithasol gael eu cefnogi a'u hannog i ddilyn Codau Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Pa rai o'r datganiadau isod all helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i ddilyn Codau Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol?

Drag the statements into the correct columns.
Llusgwch y datganiadau i mewn i’r colofnau cywir.