How are person-centred approaches used to support active participation and inclusion?

Sut mae dulliau gweithredu person-ganolog yn cael eu defnyddio i gefnogi cyfranogiad gweithredol a chynhwysiant?

Equality

When supporting individuals, it is vital that the individual is involved in any decision making and planning in relation to their lives and their care needs. Health and social care workers must remember that the individual is at the foundation of care planning and of all aspects of their daily lives. It is their body, their life and their care. Care planning and practice which is not individual-centred is not supportive of active participation or inclusive. Health and social care workers must value an individual’s role in this process - doing this is best practice. It is essential to empowering individuals in their own care and to ensuring they feel included and involved at every stage. Individuals are then active participants in their own lives, in their care and in decision making.

Wrth gefnogi unigolion, mae'n hollbwysig bod yr unigolyn yn cael ei gynnwys wrth wneud unrhyw benderfyniadau ac mewn unrhyw waith cynllunio mewn perthynas â'u bywydau a'u hanghenion gofal. Rhaid i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol gofio bod yr unigolyn wrth wraidd gwaith cynllunio gofal a phob agwedd ar ei fywyd beunyddiol. Ei gorff, ei fywyd a'i ofal ei hun sydd dan sylw. Nid yw gwaith cynllunio nac ymarfer ym maes gofal nad ydynt yn berson-ganolog yn cefnogi cyfranogiad gweithredol nac yn gynhwysol. Rhaid i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol roi gwerth ar rôl unigolyn yn y broses hon – gwneud hyn yw'r arfer gorau. Mae hyn yn hanfodol er mwyn grymuso unigolion yn eu gofal eu hunain a sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys ar bob cam. Wedyn, bydd unigolion yn gyfranogwyr gweithredol yn eu bywydau eu hunain, yn eu gofal ac wrth wneud penderfyniadau.

How are individual-centred approaches used to support active participation and inclusion?

Sut mae dulliau gweithredu person-ganolog yn cael eu defnyddio i gefnogi cyfranogiad gweithredol a chynhwysiant?

Explain how the assessment and planning process or documentation can be adapted to maximise an individual’s active participation, inclusion and control of it.

Esboniwch sut y gellir addasu'r broses neu'r ddogfennaeth asesu a chynllunio er mwyn cynyddu cyfranogiad gweithredol, cynhwysiant a rheolaeth unigolyn i'r eithaf.

Suggested response

  • clear terminology
  • use of symbols/pictures
  • level of involvement to be appropriate to their ability
  • use of preferred communication methods
  • access to venues
  • use of interpreters, advocates.

Ymateb awgrymedig

  • terminoleg glir
  • defnyddio symbolau/lluniau
  • cynnwys yr unigolyn i raddau sy'n briodol i'w allu
  • defnyddio dulliau cyfathrebu a ffefrir
  • mynediad i leoliadau
  • defnyddio cyfieithwyr/dehonglwyr, eiriolwyr.