What is active participation?

Beth yw cyfranogiad gweithredol?

Working together

Active participation recognises an individual’s right to participate in the activities and functions of everyday life as independently as possible. In doing this, the individual is an active partner in their own care and support, rather than receiving the care and support others think they need and want. Key benefits to the individual as an active partner in their own care or support include physical, psychological, social aspects and improved well-being.

Mae cyfranogiad gweithredol yn cydnabod hawl unigolyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau a thasgau bywyd bob dydd mor annibynnol â phosibl. Drwy wneud hyn, mae'r unigolyn yn bartner gweithredol yn ei ofal a'i gymorth ei hun, yn hytrach na'i fod yn cael y gofal a'r cymorth y mae pobl eraill yn credu y mae eu heisiau a'u hangen arno. Ymhlith y manteision allweddol i'r unigolyn fel partner gweithredol yn ei ofal neu ei gymorth ei hun, mae manteision corfforol a seicolegol, agweddau cymdeithasol a llesiant gwell.

How can we provide a rights-based approach?

Sut y gallwn sicrhau dull gweithredu seiliedig ar hawliau?

Couple visiting the doctor

Often carers will be supporting individuals when they are in a vulnerable position. The quality of care that can be provided will be improved if carers have knowledge of the whole individual, not just the current circumstances. For example, knowledge can help to develop a better understanding as to why individuals behave in the way they do.

Individual-centred planning involves seeing the individual being supported as the central concern. Carers need to find ways to care and support for each individual in a way which is specific to their needs.

A rights-based approach involving individual-centred planning is a way of helping individuals to think about what they want now and in the future. It is about supporting individuals to plan their lives, work towards their goals and get the right support. It is a collection of tools and approaches based upon a set of shared values that can be used to plan with an individual, not for them. Planning should build the individual’s circle of support and involve all the individuals who are important in their life.

Yn aml, bydd gofalwyr yn cefnogi unigolion pan fyddant mewn sefyllfa fregus. Bydd safon y gofal y gellir ei ddarparu yn well os bydd gan ofalwyr wybodaeth am yr unigolyn cyfan, nid dim ond yr amgylchiadau presennol. Er enghraifft, gall gwybodaeth helpu i ddeall yn well pam mae unigolion yn ymddwyn fel y maent.

Mae gwaith cynllunio sy'n berson-ganolog yn golygu ystyried mai'r unigolyn a gefnogir sydd bwysicaf. Mae angen i ofalwyr ddod o hyd i ffyrdd o roi gofal a chymorth i bob unigolyn mewn ffordd sy'n benodol i'w anghenion.

Mae dull gweithredu seiliedig ar hawliau, sy'n cynnwys gwaith cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn ffordd o helpu unigolion i feddwl am yr hyn y maent am ei gael nawr ac yn y dyfodol. Y nod yw helpu unigolion i gynllunio eu bywydau, gweithio tuag at gyflawni eu nodau a chael y cymorth cywir. Yr hyn sydd dan sylw yw casgliad o adnoddau a dulliau gweithredu sy'n seiliedig ar gyfres o werthoedd a rennir y gellir eu defnyddio i gynllunio gydag unigolyn, nid ar ei ran. Dylai'r gwaith cynllunio ddatblygu cylch cymorth yr unigolyn a chynnwys yr holl unigolion sy'n bwysig yn ei fywyd.

How can we provide a rights-based approach?

Sut y gallwn sicrhau dull gweithredu seiliedig ar hawliau?

Research care plans on the internet and compare them.

What are the differences, and which do you think offers more choices for individuals?

Which do you think supports a rights-based approach most effectively?

Ymchwiliwch i gynlluniau gofal ar y rhyngrwyd a'u cymharu.

Beth yw'r gwahaniaethau, a pha rai sy'n cynnig mwy o ddewisiadau i unigolion yn eich barn chi?

Pa rai sy'n cefnogi dull gweithredu seiliedig ar hawliau yn fwyaf effeithiol yn eich barn chi?

Suggested responses

Look for:

  • clear guidance
  • clear language
  • involvement with the individual
  • headings which meet the needs of individuals
  • space for review and amendment.

Chwiliwch am y canlynol:

  • canllawiau clir
  • iaith glir
  • cynnwys yr unigolyn
  • penawdau sy'n diwallu anghenion unigolion
  • lle i adolygu a diwygio.