Person-centred approaches

Dulliau gweithredu person-ganolog

Female support worker

Individual-centred approaches means working in partnership with the individual to plan for their care and support. The individual is at the centre of the care planning process and should be in control of all choices and decisions made about their lives. The values of compassion, dignity and respect are important when involving individuals in their own care. Decisions should not be made by health and social care workers alone - the individual needs to be seen as an equal partner in their care.

Individual-centred planning is about discovering and acting upon what is important to the individual and what matters most to them in their lives.

Mae dulliau gweithredu person-ganolog yn golygu gweithio mewn partneriaeth â'r unigolyn i gynllunio ar gyfer ei ofal a'i gymorth. Yr unigolyn sydd wrth wraidd y broses cynllunio gofal a dylai fod â rheolaeth dros yr holl ddewisiadau a phenderfyniadau a wneir ynglŷn â'i fywyd. Mae gwerthoedd tosturi, urddas a pharch yn bwysig wrth gynnwys unigolion yn eu gofal eu hunain. Ni ddylai penderfyniadau gael eu gwneud gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn unig – mae angen ystyried bod yr unigolyn yn bartner cyfartal yn ei ofal.

Mae gwaith cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn golygu darganfod yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn a'r hyn sydd bwysicaf iddo yn ei fywyd, a gweithredu ar sail hynny.

Person-centred approaches

Dulliau gweithredu person-ganolog

What is important to you? Is this different to what is important to your friends? If it is different, how would you feel if you were both treated in exactly the same way and your individual needs and preferences were not considered?

Beth sy'n bwysig i chi? A yw hyn yn wahanol i'r hyn sy'n bwysig i'ch ffrindiau? Os yw'n wahanol, sut y byddech yn teimlo pe bai'r ddau ohonoch yn cael eich trin yn yr un ffordd yn union, heb i'ch anghenion a'ch dewisiadau unigol gael eu hystyried?

Person-centred approaches

Dulliau gweithredu person-ganolog

Doctors meeting

The individual should be able to decide what care and support they need. By working with the individual to identify their strengths and abilities, they can make their own decisions. For example, an individual may want to make their own decisions about the activities they are able and want to participate in.

The individual has as much control as possible over the choices they make. For example, an individual will be supported to try to use the walking frame.

The care plan is needs-led not service or staff led. This means that support is identified to meet the specific needs of the individual to make their life better, and not around what is already available or what is easier for staff. For example, the diet planned is what is best for the individual, not what is already chosen by others.

Fe ddylai unigolyn allu penderfynu pa ofal a chymorth sydd ei angen arnynt. Trwy weithio gyda'r unigolyn i nodi ei gryfderau a'i alluoedd, gallant wneud eu penderfyniadau eu hunain. Er enghraifft, efallai y bydd unigolyn am wneud ei benderfyniadau ei hun am y gweithgareddau y gallant ac y maent yn bwriadu cymryd rhan ynddynt.

Mae gan yr unigolyn gymaint o reolaeth â phosibl dros y dewisiadau a wnânt. Er enghraifft, bydd unigolyn yn cael ei gefnogi i geisio defnyddio'r ffrâm gerdded.

Mae'r cynllun gofal yn cael ei arwain gan anghenion, nid gwasanaeth neu staff. Mae hyn yn golygu bod cefnogaeth yn cael ei nodi i ddiwallu anghenion penodol yr unigolyn i wneud eu bywyd yn well, ac nid o gwmpas yr hyn sydd ar gael eisoes neu beth sy'n haws i staff. Er enghraifft, y deiet sydd wedi'i gynllunio yw'r hyn sydd orau i'r unigolyn, nid yr hyn sydd eisoes wedi'i ddewis gan eraill.