Childcare

Gofal Plant

The main benefits of collaborative multi-agency working, evident in everyday practice within a range of childcare settings are:

  • improved outcomes for children and young individuals, through a range of joined-up services, advice and support being readily available and easily accessible
  • helps to build agreement between agencies and strengthens partnership
  • avoids duplication of provision through united multi-agency practitioners taking responsibility for addressing needs jointly
  • promotes mutual support and the exchange of ideas between practitioners helping the sharing of expertise, knowledge and resources for training and good practice
  • increased ability to offer services that meet the needs of children and their families
  • improved co-ordination of services resulting in better relationships
  • improved understanding and raises awareness of issues quickly.

Prif fuddiannau gweithio amlasiantaethol ar y cyd, sy'n amlwg mewn arfer bob dydd o fewn amrywiaeth o leoliadau gofal plant yw:

  • canlyniadau gwell i blant ac unigolion ifanc, drwy sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau, cyngor a chymorth cydgysylltiedig ar gael yn hawdd ac yn hygyrch
  • helpu asiantaethau i ddod i gytundeb ac atgyfnerthu partneriaeth
  • osgoi dyblygu darpariaeth drwy sicrhau bod ymarferwyr amlasiantaethol unedig yn cymryd cyfrifoldeb dros fynd i'r afael ag anghenion ar y cyd
  • hyrwyddo cymorth ar y cyd a chyfnewid syniadau rhwng ymarferwyr gan helpu i rannu arbenigedd, gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer hyfforddiant ac arfer da
  • gwella'r gallu i gynnig gwasanaethau sy'n diwallu anghenion plant a'u teuluoedd
  • gwella'r broses o gydgysylltu gwasanaethau sy'n arwain at gydberthnasau gwell
  • gwella dealltwriaeth a chodi ymwybyddiaeth o faterion yn gyflym.

Health and social care services

Gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

The main benefits of collaborative multi-agency working, evident in everyday practice within a range of health and social care settings are:

  • improved outcomes for individuals, through a range of joined-up services, advice and support being readily available and easily accessible
  • delivery of care closer to a service user’s home
  • prompt provision of access to the most appropriate team member and a more comprehensive range of services
  • helps to build agreement between agencies and strengthens partnership
  • avoids duplication of assessment and provision through united multi-agency practitioners taking responsibility for addressing needs jointly
  • an increased choice for service users
  • better understanding of team roles and contribution to care
  • the development of a multi-skilled workforce
  • a better use of the skills of front-line professionals
  • a shared evaluation framework and performance indicators for health and social care
  • a reduction in emergency admissions and length of stay
  • a reduction in multiple admissions for patients with chronic conditions
  • facilitation of early and safe discharge from hospital
  • the ability to monitor difficult to reach patients
  • promotes mutual support and the exchange of ideas between practitioners helping the sharing of expertise, knowledge and resources for training and good practice.

Prif fuddiannau gweithio amlasiantaethol ar y cyd, sy'n amlwg mewn arfer bob dydd o fewn amrywiaeth o leoliadau gofal plant yw:

  • canlyniadau gwell i unigolion, drwy sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau, cyngor a chymorth cydgysylltiedig ar gael yn hawdd ac yn hygyrch
  • darparu gofal yn agosach at gartref defnyddiwr gwasanaeth
  • darparu mynediad prydlon i'r aelod mwyaf priodol o'r tîm ac amrywiaeth mwy cynhwysfawr o wasanaethau
  • helpu asiantaethau i ddod i gytundeb ac atgyfnerthu partneriaeth
  • osgoi dyblygu asesiadau a darpariaeth drwy sicrhau bod ymarferwyr amlasiantaethol unedig yn cymryd cyfrifoldeb dros fynd i'r afael ag anghenion ar y cyd
  • mwy o ddewis i ddefnyddwyr gwasanaethau
  • gwell dealltwriaeth o rolau tîm a chyfraniad at ofal
  • datblygu gweithlu amryddawn
  • defnydd gwell o sgiliau gweithwyr proffesiynol rheng flaen
  • fframwaith gwerthuso a dangosyddion perfformiad a rennir ar gyfer gofal iechyd a gofal cymdeithasol
  • lleihau nifer yr achosion o dderbyn cleifion i'r ysbyty mewn argyfwng a hyd eu harhosiad
  • lleihau nifer yr achosion lluosog ar gyfer cleifion â chyflyrau cronig
  • hwyluso'r gallu i ryddhau cleifion o'r ysbyty yn gynnar ac yn ddiogel
  • y gallu i fonitro cleifion sy'n anodd eu cyrraedd
  • hyrwyddo cymorth ar y cyd a chyfnewid syniadau rhwng ymarferwyr gan helpu i rannu arbenigedd, gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer hyfforddiant ac arfer da.

Read the case study and then consider how multi-agency working can help protect Gwen and how they can ensure positive outcomes.

Darllenwch yr astudiaeth achos ac yna ystyriwch sut y gall gweithio amlasiantaethol helpu i ddiogelu Gwen a sut y gall sicrhau canlyniadau cadarnhaol.

Gwen is thirty-eight years old and is mentally disabled. She is unable to communicate so cannot tell her carers if she is experiencing any problems.

Gwen lives in her own flat and has twenty-four hour care from live in care workers who work on shift rotas.

She is frequently admitted to hospital as she suffers from severe epilepsy.

She enjoys her weekly outings to her craft club, organised by the local authority, where she takes part in an afternoon of creative activities. She particularly loves painting.

Once a month she goes to stay with her mother and brother for the weekend. Her carers have noticed that she has not seemed happy when leaving for her weekend visit for the last few months. They have also noted that when she returns her fits are always worse.

After her last visit one of her carers noticed bruising on her arms and back. Her mother was asked about the marks and she became defensive and said that her daughter had sustained the injuries whilst having a fit.

Gwen’s care worker has noted the incident on Gwen’s file and has raised her concerns with the rest of the team and her manager.

Mae Gwen yn 38 oed ac mae ganddi anabledd meddwl. Ni all gyfathrebu felly ni all ddweud wrth ei gofalwyr os bydd yn cael unrhyw broblemau.

Mae Gwen yn byw yn ei fflat ei hun ac mae'n cael gofal 24 awr gan weithwyr gofal sy'n byw gyda'r cleient sy'n gweithio ar rotâu sifft.

Caiff ei derbyn i'r ysbyty yn aml am fod ganddi epilepsi difrifol.

Mae'n mwynhau ei hymweliadau wythnosol â'i chlwb crefftau, a drefnir gan yr awdurdod lleol, lle mae'n cymryd rhan mewn prynhawn o weithgareddau creadigol. Mae'n hoffi paentio yn arbennig.

Unwaith y mis, mae'n mynd i aros gyda'i mam a'i brawd am y penwythnos. Mae ei gofalwyr wedi sylwi nad yw wedi ymddangos yn hapus wrth adael ar gyfer ei hymweliad penwythnos dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Maent hefyd wedi nodi bod ei ffitiau bob amser yn waeth pan fydd yn dychwelyd.

Ar ôl ei hymweliad diwethaf, sylwodd un o'i gofalwyr ar gleisiau ar ei breichiau a'i chefn. Holodd ei mam hi am y marciau ac aeth yn amddiffynnol gan ddweud bod ei merch wedi cael yr anafiadau pan oedd yn cael ffit.

Mae gweithiwr gofal Gwen wedi nodi'r digwyddiad ar ffeil Gwen ac mae wedi codi ei phryderon gyda gweddill y tîm a'i rheolwr.

The benefits of a multi-agency/multi-disciplinary team approach are:

  • Gwen’s notes can be shared, so if she is being abused, more individuals will be aware
  • there will be clear guidelines outlining who is responsible for specific areas of Gwen’s care
  • responsibility is shared so decision making is not dependent on one individual, so the appropriate care can be given
  • more rapid referral and assessment so abuse can be identified more quickly
  • varied skills and disciplines available and therefore maximizing skills expertise and therefore more likely to spot different signs of abuse
  • as a range of professionals are dealing with Gwen any other potential issues are more likely to be recognised quickly
  • better outcomes if Gwen is suffering from abuse.

Buddiannau dull amlasiantaethol/tîm amlddisgyblaethol yw:

  • gellir rhannu nodiadau Gwen, felly, os yw'n cael ei cham-drin, bydd mwy o unigolion yn ymwybodol o hynny
  • bydd canllawiau clir sy'n amlinellu pwy sy'n gyfrifol am feysydd penodol o ofal Gwen
  • caiff y cyfrifoldeb ei rannu fel nad yw'r broses o wneud penderfyniadau yn dibynnu ar un unigolyn, felly gellir rhoi'r gofal priodol
  • atgyfeiriadau ac asesiadau cyflymach fel y gellir nodi achosion o gam-drin yn gyflymach
  • sgiliau a disgyblaethau amrywiol ar gael ac felly gwneud y gorau o arbenigedd sgiliau ac felly'n fwy tebygol o nodi arwyddion camdriniaeth wahanol
  • gan fod amrywiaeth o weithwyr proffesiynol yn delio â Gwen, mae unrhyw faterion posibl yn debygol o gael eu nodi'n gyflym
  • canlyniadau gwell os yw Gwen yn cael ei cham-drin.