Multi-agency working is about different services from health and/or social care/childcare working together to provide a seamless response to individuals with multiple and complex needs.

Gweithio amlasiantaethol yw pan fydd gwasanaethau gwahanol o iechyd a/neu ofal cymdeithasol/gofal plant yn cydweithio i ddarparu ymateb di-dor i unigolion ag anghenion lluosog a chymhleth.

Work is carried out across different organisations to meet the needs of service users. Working in collaboration is essential if service users with complex needs are to be given the care that they need in a timely manner.

An example of a multi-agency team in action could include an adolescent with learning difficulties and a physical disability requiring care. Health professionals may also be involved to prescribe medication. Social services would be involved to organise social care and to implement and review the plan of care. Other agencies involved, could also include educational services.

The number of agencies involved would all be dependent on the service user’s level of need.

Caiff gwaith ei wneud mewn sefydliadau gwahanol er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau. Mae gweithio ar y cyd yn hanfodol er mwyn i ddefnyddwyr gwasanaethau ag anghenion cymhleth gael y gofal sydd ei angen arnynt mewn modd amserol.

Gallai enghraifft o dîm amlasiantaethol gweithredol gynnwys unigolyn ifanc yn y glasoed ag anawsterau dysgu ac anabledd corfforol sydd angen gofal. Gall gweithwyr iechyd proffesiynol hefyd fod yn rhan o'r broses o ragnodi meddyginiaeth. Byddai'r gwasanaethau cymdeithasol yn rhan o'r broses o drefnu gofal cymdeithasol a rhoi'r cynllun gofal ar waith a'i adolygu. Byddai asiantaethau eraill yn rhan o'r broses, a gallai hyn hefyd gynnwys gwasanaethau addysgol.

Byddai nifer yr asiantaethau sy'n rhan o'r broses yn dibynnu ar lefel angen y defnyddiwr gwasanaeth.

Sort the services into the correct categories.

Didolwch y gwasanaethau a'u rhoi yn y categorïau cywir.




Jeffrey is 59 years old. He has recently had a stroke and is unable to walk, due to muscle weakness down the left-hand side of his body due to the stroke. He is also having difficulties with his speech.

Mae Jeffrey yn 59 oed. Mae wedi cael strôc yn ddiweddar ac ni all gerdded, oherwydd gwendid yn ei gyhyrau i lawr ochr chwith ei gorff oherwydd y strôc. Mae hefyd yn cael anawsterau gyda'i leferydd.

Identify the agencies/multi-disciplinary team that could be involved in his care.

Nodwch yr asiantaethau/tîm amlddisgyblaethol a allai fod yn rhan o'i ofal.

Agencies that could be involved in his care could include:

  • a social worker from social services would assess his needs and plan and monitor his care
  • doctors from the hospital would carry out check-ups with regards to his condition and carry out further investigations, if required
  • physiotherapists at the hospital would provide exercises to help with his mobility
  • a GP at his surgery would prescribe medication, monitor his progress and provide preventative care
  • domiciliary care workers would provide care at home to support his physical needs.

Gallai'r asiantaethau a allai fod yn rhan o'i ofal gynnwys:

  • byddai gweithiwr cymdeithasol o'r gwasanaethau cymdeithasol yn asesu ei anghenion ac yn cynllunio ac yn monitro ei ofal
  • byddai meddygon o'r ysbyty yn cynnal archwiliadau mewn perthynas â'i gyflwr ac yn cynnal rhagor o archwiliadau os byddai angen
  • byddai ffisiotherapyddion yn yr ysbyty yn cynnal ymarferion er mwyn helpu â'i symudedd
  • byddai meddyg teulu yn ei feddygfa yn rhagnodi meddyginiaeth, yn monitro ei gynnydd ac yn darparu gofal ataliol
  • byddai gweithwyr gofal cartref yn darparu gofal gartref er mwyn cefnogi ei anghenion corfforol.

Care plans

Cynlluniau gofal

All individuals who need the services of either health or social care will have a personalised care plan. This will describe the services and support being provided, and will be written with the involvement of the service user.

The service user will be given the opportunity to talk about their situation, how it affects their day to day life, what they want to do and what they need support in doing. The service user needs to be given all of the information they need in order to make a decision and they need to have the opinions listened to and their questions answered.

Care plans should ensure that the individual feels that they are in control of their lives despite a serious physical or mental health problem. Once the care plan is agreed the service user should receive a copy of it.

This plan then needs to be followed by all care workers involved in the care of the individual.

Bydd pob unigolyn y mae angen gwasanaethau gofal iechyd neu ofal cymdeithasol arno yn cael cynllun gofal personol. Bydd hyn yn disgrifio'r gwasanaethau a'r cymorth a ddarperir, a chaiff ei ysgrifennu gan gynnwys y defnyddiwr gwasanaeth.

Bydd y defnyddiwr gwasanaeth yn cael y cyfle i siarad am ei sefyllfa, sut mae'n effeithio ar ei fywyd o ddydd i ddydd, beth mae am ei wneud a beth mae angen cymorth arno i'w wneud. Mae angen i'r defnyddiwr gwasanaeth gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arno er mwyn gwneud penderfyniad ac mae angen sicrhau y gwrandewir ar ei safbwyntiau ac yr atebir ei gwestiynau.

Dylai'r cynlluniau gofal sicrhau bod yr unigolyn yn teimlo ei fod mewn rheolaeth o'i fywyd er gwaethaf y ffaith bod ganddo broblem iechyd corfforol neu feddyliol ddifrifol. Unwaith y cytunir ar y cynllun gofal, dylai'r defnyddiwr gwasanaeth gael copi ohono.

Yna, bydd angen i bob gweithiwr gofal sy'n rhan o'r broses o ofalu am yr unigolyn ddilyn y cynllun hwn.